DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
Gwrthryfel lles yn dilyn adolygiad gwariant
Nododd adolygiad gwariant Llywodraeth y DU sut y bydd llywodraeth Lafur yn San Steffan yn dyrannu refeniw a chyllid cyfalaf ychwanegol ar draws adrannau.
Fodd bynnag, cysgodwyd adolygiad mis Mehefin yn fuan gan wrthryfel meinciau cefn dros ddeddfwriaeth lles sy’n gadael twll cyllidol y bydd yn rhaid ei lenwi yng Nghyllideb yr Hydref. Cafodd toriadau dadleuol i’t tâl annibyniaeth bersonol, a fyddai wedi effeithio’n anghymesur ar bobl yng Nghymru, eu tynnu yn ôl.
O dan Fformiwla Barnett, bydd cynnydd mewn termau real yng nghyllid refeniw Cymru ond bydd y gyllideb gyfalaf yn llai mewn termau real.
Dywedodd yr ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford y byddai’n cyhoeddi cyllideb blwydd ym mis Hydref yn cynyddu cyllidebau adrannol yn ôl chwyddiant a chreu cronfa o gyllid heb ei ddyrannu ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.
LLOEGR
Hwb i dai cymdeithasol i gychwyn ‘degawd o adnewyddu’
Bydd yr adolygiad gwariant yn rhoi £39 biliwn dros 10 mlynedd i’r Rhaglen Cartrefi Cymdeithasol a Fforddiadwy (SAHP) yn Lloegr yn y chwistrelliad mwyaf o arian ers cenhedlaeth o leiaf, yn ôl gweinidogion
Mae’r cyllid yn ymestyn y tu hwnt i bedair blynedd yr adolygiad gwariant ac yn cymharu â £11.5 biliwn dros bum mlynedd o dan y Rhaglen Tai Fforddiadwy gyfredol. Mae hefyd yn symud y pwyslais o renti fforddiadwy a pherchentyaeth i rent cymdeithasol.
Mewn cynllun ‘degawd o adnewyddu’ bydd y SAHP yn darparu 300,000 o dai fforddiadwy dros y 10 mlynedd nesaf, gydag o leiaf 180,000 ar rent cymdeithasol.
Cyhoeddodd llywodraeth San Steffan hefyd setliad 10 mlynedd a fyddai’n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol godi rhenti o CPI ac 1 y cant ac ailddechrau cydgyfeirio eu rhenti rhataf ynghyd â chyfyngiadau pellach ar yr hawl i brynu (er na chaiff ei ddiddymu).
YR ALBAN
Gostyngiad sylweddol mewn adeiladu tai cymdeithasol
Gostyngodd nifer y tai cymdeithasol a godwyd yn yr Alban i’w lefel isaf ers 2016/17 a’r nifer y cychwynwyd arnynt i’r isaf ers 2012/13.
Dengys ystadegau’r llywodraeth fod y Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy wedi cymeradwyo 4,775 o dai, cychwyn ar 5,424, a chwblhau 7,444 o dai yn 2024/25, gostyngiad o 20 y cant o leiaf ar 2023/24.
Defnyddir y ffigurau i lywio hynt targed Llywodraeth yr Alban o 110,000 o dai fforddiadwy erbyn 2032, gydag o leiaf 70 y cant ar gyfer rhent cymdeithasol.
Erbyn 2024-25, cawsai 28,537 o dai fforddiadwy eu cwblhau tuag at y targed. Mae hyn yn cynnwys 21,937 (77 y cant) o gartrefi rhent cymdeithasol, 4,087 (14 y cant) ar rent fforddiadwy, a 2,513 (9 y cant) ar gyfer perchnogaeth tai fforddiadwy.
GOGLEDD IWERDDON
Arolwg yn datgelu barn y cyhoedd ar ddigartrefedd
Dywed un o bob 14 o bobl yng Ngogledd Iwerddon iddynt fod yn ddigartref, yn ôl arolwg gan Simon Community.
Mae bron un o bob tri yn nodi cysylltiad uniongyrchol â digartrefedd – drwy eu profiad eu hunain, aelod o’r teulu, neu rywun maen nhw’n ei adnabod, gyda phobl ddosbarth gweithiol ddwywaith yn fwy tebygol o deimlo’r effaith.
Cred tua 95 y cant o bobl ei bod hi’n bwysig lleihau digartrefedd yng Ngogledd Iwerddon, ond mae 93 y cant yn dal i dangyfrif ei wir raddfa a’i gymhlethdod gyda llawer yn dal i’w gysylltu’n bennaf â chysgu allan yng nghanol dinasoedd.
Dengys ffigurau’r Adran Cymunedau a gyhoeddwyd fis Mehefin fod 4,730 o blant a phobl ifanc o dan 18 oed yn byw mewn llety dros-dro ar hyn o bryd – a thros eu hanner yn naw oed neu’n iau.
LLYWODRAETH CYMRU
Bydd y Bil yn ‘drobwynt’ i fynd i’r afael â digartrefedd
Mae deddfwriaeth newydd a gyflwynwyd yn y Senedd fis Mai yn anelu at newid ein system digartrefedd yn sylfaenol, meddai Llywodraeth Cymru, fel ei bod yn canolbwyntio ar ataliaeth a mwy o help i gefnogi pobl i mewn i gartrefi tymor-hwy.
Canolbwyntia Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddwyn gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrwiol digartrefedd.
Mae elfennau allweddol y Bil yn cynnwys:
- Trawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach
- Targedu’r rhai sydd mewn fwyaf o berygl, er enghraifft, trwy roi cyfle i ddod â digartrefedd i ben ymhlith pobl ifanc sy’n gadael gofal
- Canolbwyntio ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddwyn gwasanaethau cyhoeddus Cymru ynghyd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.
Mae’r Bil yn dileu profion ar angen blaenoriaethol a bwriadoldeb a welir fel rhwystrau i ddarparu gwasanaethau, ac mae’n cyflwyno prawf cysylltiad lleol newydd a dyletswydd newydd i helpu rhywun i gadw llety addas.
Bydd gan wasanaethau cyhoeddus ddyletswydd ‘gofyn a gweithredu’ a bydd angen cydlynu achosion lleol ar gyfer grwpiau sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddigartref.
Ceir dyletswydd newydd i sicrhau bod llety addas ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae gan y grŵp hwn hefyd ‘ddewis rhesymol’ ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol.
Bydd gan awdurdodau lleol bŵer newydd i ofyn i landlordiaid cymdeithasol ddarparu llety i rywun â hawl i ddyletswydd digartrefedd. Rhaid i landlordiaid ufuddhaul, oni bai bod rheswm da.
Meddai’r ysgrifennydd tai Jayne Bryant: ‘Mae’r Bil hwn yn drobwynt yn y ffordd y mae Cymru’n ymdrin â digartrefedd. Rwy’n falch o gyflwyno deddfwriaeth sydd nid yn unig yn newid systemau ond yn trawsnewid bywydau.
‘Mae pob person yn haeddu lle diogel i’w alw’n gartref, a daw’r diwygiadau hyn â ni’n nes at wireddu hynny ledled Cymru.’
Gweinidog yn derbyn holl argymhellion y tasglu
Dywedodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant y byddai’n derbyn argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy yn llawn a bydd yn cadeirio grŵp gweithredu yn cynnwys uwch swyddogion a chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector tai.
Sefydlwyd a chadeiriwyd y tasglu gan yr AoS Llafur Lee Waters. Gofynnwyd iddo ganolbwyntio ar heriau tymor-byr i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi rhentu cymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd hwn a newidiadau i’r system i’w chyflymu.
Dywedodd Lee Waters: ‘Ni welsom dystiolaeth bod unrhyw atebion cyflym ond mae amryw o newidiadau ymarferol y gellir eu gwneud i ddarparu tai fforddiadwy yn gyflymach trwy’r farchnad a thu allan iddi.’
Gosod Bil gerbron i wella diogelwch tai
Dygwyd deddfwriaeth bwysig ar ddiogelwch adeiladau gerbron y Senedd ddechrau mis Gorffennaf fel rhan o raglen ddiwygiadol Llywodraeth Cymru i wella diogelwch adeiladau preswyl mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell.
Dywedodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant mai ‘diogelwch, atebolrwydd, a lleisiau trigolion’ oedd tair egwyddor allweddol Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).
Bydd y Bil yn mynnu bod risgiau i ddiogelwch adeiladau yn cael eu hasesu a’u rheoli tra bod preswylwyr ynddynt, er budd y preswylwyr ac eraill, gyda chyfundrefn orfodi gadarn i gefnogi hynny.
Mae’r Bil yn cwmpasu pob adeilad sy’n cynnwys o leiaf ddwy uned breswyl, gan gynnwys rhai Tai mewn Amlfeddiannaeth. Bydd tri chategori o adeiladau:
Categori 1 – o leiaf 18 metr o uchder neu o leiaf saith llawr ac yn cynnwys o leiaf ddwy uned breswyl.
Categori 2 – llai na 18 metr a llai na saith llawr ac o leiaf 11 metr o uchder neu o leiaf bum llawr ac yn cynnwys o leiaf ddwy uned breswyl.
Categori 3 – llai nag 11 metr o uchder a llai na phum llawr ac yn cynnwys o leiaf ddwy uned breswyl.
Dechreuir gweithredu gyda Chategori 1 o fis Ebrill 2027.
Bydd y ddeddfwriaeth yn creu llinellau atebolrwydd clir ar gyfer deiliaid dyletswyddau, a fydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am asesu a rheoli diogelwch adeiladau, gan ddiweddu’r dryswch parthed pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch preswylwyr ac eraill.
Yn ogystal, bydd y Bil yn deddfu bod preswylwyr ym mhob adeilad rheoleiddiedig yn cael mwy o sicrwydd ynghylch diogelwch eu cartrefi a llwybrau clir i hawlio iawndal a chodi cwynion am ddiogelwch adeiladau, a bod cyfrifoldeb ar breswylwyr hefyd i gyfrannu at gadw’u hadeilad yn ddiogel.
Mae’r rhaglen ddiwygio’n cynnwys:
- Rhaglen waith i ymdrin â phroblemau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl aml-feddiannaeth o 11m ac uwch
- Diwygiadau sylweddol i’r system rheoli adeiladau
- Rheoliadau newydd ar gyfer adeiladau risg-uchel
- Nodi cyfrifoldebau deiliaid dyletswyddau
- Cofrestru a rheoleiddio gorfodol ar gyfer gweithwyr rheoli adeiladu.
Dywedodd Jayne Bryant: ‘Bydd y Bil nodedig hwn yn trawsnewid diogelwch mewn adeiladau preswyl aml-feddiannaeth ledled Cymru. Ei egwyddorion allweddol yw diogelwch, atebolrwydd a lleisiau trigolion, ac mae’n mynd ymhellach na’r ddeddfwriaeth bresennol mewn rhannau eraill o’r DU.
‘Rhaid i waddol Tŵr Grenfell fod yn newid ystyrlon. Mae arnom ddyletswydd i’r rhai a gollodd eu bywydau, eu teuluoedd, a’r goroeswyr i sicrhau na all trychineb o’r fath byth ddigwydd eto.’
Pwyllgor yn rhybuddio am losgi allan
Dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy pendant a gwella sut mae’n defnyddio tystiolaeth a data yn ei hymdrech i sicrhau y caiff pobl sy’n wynebu digartrefedd eu hailgartrefu’n gyflym, yn ôl Pwyllgor Seneddol.
Dywedodd adroddiad gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd ei fod wedi’i ‘synnu’ nad oes gan Lywodraeth Cymru ddata cenedlaethol ar yr angen am gymorth tai.
Dywed y pwyllgor hefyd ei fod yn ‘bryderus’ na ddefnyddir y data hyn gan Lywodraeth Cymru wrth asesu gofynion ariannu tymor-hir y Grant Cymorth Tai. Mae’r ffordd dymor-byr yma o fynd ati yn golygu ymdrech fawr gan y sector wrth ymgyrchu bob blwyddyn am gynnydd yn y gyllideb i osgoi argyfwng.
Mae rhai awdurdodau lleol yn comisiynu llety â chymorth ar raddfa fawr sy’n cartrefu 70 neu fwy o bobl yn barhaol mewn un adeilad.
Codwyd pryderon gyda’r pwyllgor am y dull hwn o fynd ati, ond gyda diffyg tystiolaeth a data parthed addasrwydd y llety hwn, mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwerthusiad annibynnol o effeithiolrwydd llety â chymorth ar raddfa fawr, gan ystyried safbwyntiau tenantiaid.
Dywed yr adroddiad hefyd bod staff sy’n cefnogi pobl ddiymgeledd i osgoi digartrefedd yn wynebu lefelau uchel o straen a llosgi allan oherwydd y nifer llethol o sefyllfaoedd argyfwng y maent yn delio â nhw, yn aml heb gefnogaeth gwasanaethau fel yr heddlu a chymorth iechyd meddwl. Mae llawer o staff sy’n cefnogi pobl i osgoi digartrefedd mewn perygl o fynd yn ddigartref eu hunain, meddai.
Mae’r pwyllgor yn galw’r sefyllfa hon yn ‘annerbyniol’ ac yn dweud na ddylid trin y gweithlu cymorth tai, sy’n galluogi pobl ddiymgeledd i fyw’n annibynnol, yn llai ffafriol na’r rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd John Griffiths AoS, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Mae staff sy’n gweithio yn y sector yma’n gwneud gwaith anhygoel mewn amgylchiadau hynod heriol. Dyw cefnogi pobl a all fod â phroblemau cymhleth lluosog gyda’u hiechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ddim yn dasg hawdd, ond clywsom fod llawer o staff ar fin torri.’
Croesawodd y pwyllgor ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fwy o gyllid a fydd, yn ôl y pwyllgor, yn caniatáu talu’r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr cymorth tai. Fodd bynnag, dywedodd llawer o sefydliadau yn y sector wrth y pwyllgor na fyddai’r arian ychwanegol yn ddigon i dalu cost Cyflog Byw Go Iawn i’w staff ac y byddai effaith y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ergyd sylweddol i’w cyllidebau, i’r pwynt lle efallai y bydd rhaid iddynt roi’r gorau i ddarparu gwasanaethau.
Cymeradwyo Arolwg Tai Cymru
Dywedodd yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant y cymeradwyodd yr achos busnes o blaid Arolwg Tai Cymru yn 2027/28. Dywedodd y gwnaed yr arolwg diwethaf – arolwg cyflwr tai cenedlaethol – yn 2017-18 ac ychwanegodd ‘Gwn fod llawer o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau’r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol, wedi bod yn galw am arolwg pellach i ddiweddaru’r bas tystiolaeth.’
Gwneir y gwaith maes yn 2027/28 gyda’r bras ganlyniadau ar gael o 2028/29 a chanfyddiadau mwy manwl o 2029/30.
Ymgynghoriadau
Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:
Safon rhenti a thaliadau gwasanaeth newydd i Gymru – ymatebion erbyn 12 Awst
Codau ymarfer ar gyfer rheoli llety myfyrwyr – ymatebion erbyn 27 Awst
Cryfhau amddiffyniadau i lesddeiliaid dros daliadau a gwasanaethau – ymatebion erbyn 26 Medi
CYMRU
Hwb frenhinol i brosiect digartrefedd Casnewydd
Ymunodd Cyfiawnder Tai, Barnardo’s a Grŵp Pobl mewn prosiect i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o bobl sy’n cael eu gwthio i mewn i ddigartrefedd ac sy’n cysgu allan yng Nghasnewydd.
Cyllidir Partneriaeth HomeLife yn The Hive yng Nghasnewydd gan Homewards, rhaglen a sefydlwyd gan y Sefydliad Brenhinol a’r Tywysog William i brofi ei bod hi’n bosib diweddu digartrefedd.
Bydd HomeLife yn rhedeg gwasanaethau cymorth yng Nghasnewydd am 12 mis i ateb angen cynyddol yn yr ardal a’i nod yw canfod pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref a chynnig ymyriad cynnar pwrpasol trwy wasanaethau cymunedol i leihau’r nifer mewn argyfwng a fyddai ag angen mynediad i wasanaethau mwy dwys.
Mae Partneriaid HomeLife oll yn aelodau o Glymblaid Homewards Casnewydd, grŵp o sefydliadau ymroddedig yn yr ardal sy’n gweithio gyda’r Sefydliad Brenhinol a Homewards i wneud digartrefedd yn beth prin, byrhoedlog, nas ailadroddir.
Daw cymorth mewn tair ffordd wahanol: rhaglen atal digartrefedd, integreiddio cymunedol a chynnal tenantiaethau ‘Citadel’ dan arweiniad gwirfoddolwyr, a lansiwyd gan Cyfiawnder Tai; gweithdai i deuluoedd a redir gan Barnardo’s; a Pobl sy’n darparu Hyb cymunedol diogel a chroesawgar.
Partneriaid yn dewis enw newydd
Dewiswyd Grŵp Codi yn enw ar y gymdeithas dai newydd a ffurfiwyd trwy uno Grŵp Pobl a Linc Cymru fis Ebrill 2024.
Mae dewis yr enw Cymraeg ‘Codi’ yn cydnabod hunaniaeth Gymreig ddyfnwreiddiedig y Grŵp newydd a’i awydd i ateb disgwyliadau cwsmeriaid a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
Bydd Grŵp Codi yn mabwysiadu’i hunaniaeth newydd yn ffurfiol ar 1 Ionawr 2026. Mae gan y Grŵp, sy’n rheoli bron 25,000 o gartrefi a darparu gwasanaethau gofal a chymorth i bron i 17,000 o bobl, gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu mwy na 4,500 o gartrefi newydd yn y pum mlynedd nesaf.
Gan ddwyn mwy na 3,000 o gydweithwyr ynghyd, dywed y sefydliad ei fod yn un o’r prif gyfranwyr i economi Cymru, wedi’i adeiladu ar sylfaen gref o bartneriaeth, cyd-werthoedd ac ymrwymiad dwfn i greu effaith leol hirdymor.
Trivallis yn ceisio newid agweddau at ASB
Galwodd Trivallis ar ddarparwyr tai a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i newid eu ffordd o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB), gan symud oddi wrth reoli digwyddiadau tuag at newid systemig ar sail lle, dan arweiniad y gymuned.
Mewn gweithdy rhanddeiliaid a gynhaliodd y gymdeithas tai, datblygodd gweithwyr a thrigolion naratif newydd ar y cyd ynghylch ASB, i roi diogelwch cymunedol, ymddiriedaeth a chydlyniant wrth wraidd y strategaeth. Tanlinellai’r digwyddiad yr angen am gydweithio traws-sector, gwaith ataliaeth dwysach, ac ymyriadau â ffocws ar yr amgylchedd, sy’n canolbwyntio ar wraidd achosion, nid dim ond ymddygiad gweladwy.
‘Does gyda ni ddim diddordeb mewn dim ond ymladd tanau,’ medd Keiron Montague, cyfarwyddydd gweithredol cymunedau Trivallis. ‘Rŷn ni am weithio mewn partneriaeth i greu cymdogaethau sy’n teimlo’n ddiogel ac yn gefnogol – mae ar hynny angen cyfranogiad tai, awdurdodau lleol, yr heddlu, iechyd a’r gymuned ei hun o’r cychwyn cyntaf.’
Y tri phrif flaenoriaeth a ddeilliodd o’r sesiwn oedd:
- Gweithio partneriaeth systemig: gwreiddio ymatebion cydgysylltiedig mewn gwasanaethau, lleihau dyblygu a meithrin cyd-atebolrwydd gyda’r gymuned yn y canol.
- Ymyriad Cynnar i fynd at wraidd problemau: cydnabod rôl trawma, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau mewn ASB — a dylunio systemau cymorth tosturiol a rhagweithiol.
- Buddsoddi: cymhwyso dealltwriaeth am ymddygiad a dylunio amgylcheddol i wrthbwyso’r effaith ‘ffenestri toredig’ ac adfer balchder mewn mannau a esgeuluswyd.
Mae Trivallis bellach cynllunio gweithdai ychwanegol ar draws ei gymunedau, gan weithio gyda phartneriaid lleol a phreswylwyr i gyd-ddylunio strategaethau ac ymatebion sy’n adlewyrchu’r realiti bywyd ar lawr gwlad.
Dim ond un rhan o’r system yw tai medd Trivallis, ac mae’n gwahodd eraill i ymuno â cham nesaf y gwaith a helpu i greu’r cymdogaethau mwy diogel, croesawgar ac unedig mae pobl yn eu haeddu. I ymuno, e-bostiwch huw.cook@trivallis.co.uk
Gallai cronfa fenthyca gefnogi 4,000 o gartrefi
Gall datblygwyr cynlluniau eiddo preswyl a chymysg yng Nghymru fenthyca hyd at £10 miliwn mewn cyllid gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer datblygiadau hapfasnachol a rhai i ateb galw pendant ill dau.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd Cronfa Eiddo Preswyl Cymru yn cynnig mynediad clir a hawdd i ddatblygwyr SME at fenthyciadau hyblyg yn amrywio o £150,000 i £10 miliwn gyda thelerau ad-dalu o hyd at bedair blynedd, am hyd at 100 y cant o gost adeiladu. Mae’r gronfa £117 miliwn yn gwbl ailgylchadwy felly disgwylir iddi gael effaith buddsoddi o £770 miliwn erbyn 2039, gan ddarparu sicrwydd cyllid i’r farchnad, a chefnogi adeiladu 4,450 o gartrefi newydd. Mae’n uno’r cronfeydd a geid yn flaenorol o dan Gronfa Datblygu Eiddo Cymru a Chronfa Safleoedd Segur Cymru.
Mae ail gam y Cymhelliant Datblygu Gwyrdd ar gael hefyd, yn cynnig cyfraddau gostyngol ar gyfer prosiectau tai sy’n darparu cartrefi carbon-is a mwy thermol effeithlon. Bydd y Cymhelliant yn darparu £60 miliwn o fenthyciadau cost-is dros y ddwy flynedd nesaf.
Cyhoeddodd y Banc Datblygu gynnydd o 27 y cant mewn cyllid i brosiectau datblygu eiddo yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2025, gyda £48 miliwn o’i gymharu â £38 miliwn yn 2023/24. Dan arweiniad y rheolydd cronfeydd eiddo, Nicola Crocker, darparodd y tîm pwrpasol gyllid i 23 o fusnesau eiddo yn gweithio ar 24 o ddatblygiadau newydd gyda 390 o gartrefi newydd wedi’u cwblhau, a 125 ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â gofod masnachol.
CYHOEDDIADAU 10 SY’N DAL Y SYLW
1) Tasglu Tai Fforddiadwy: adroddiad ac argymhellion
Llywodraeth Cymru, Mai 2025
https://www.llyw.cymru/tasglu-tai-fforddiadwy-adroddiad-ac-argymhellion-html
2) Tlodi yng Nghymru 2025
Sefydliad Joseph Rowntree, Mehefin 2025
www.jrf.org.uk/poverty-in-wales-2025
3) Y monitor digartrefedd: Cymru 2025
Crisis, Prifysgol Heriot-Watt, Ebrill 2025
www.crisis.org.uk/media/50jfjipn/the-homelessness-monitor-wales-2025.pdf
4) Pontio teg a chyfiawn? Profiadau tenantiaid o ddatgarboneiddio tai cymdeithasol
Y Brifysgol Agored, Tai Pawb, Mai 2025
https://university.open.ac.uk/wales/cy/node/1511
5) Cymorth Tai i bobl sy’n agored i niwed
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, Mai 2025
https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=44995
Greening homes, creating growth: Unlocking demand for green home finance
UK Finance, Mehefin 2025
Transforming social housing through decarbonisation: The challenges and opportunities in decarbonising at scale
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mai 2025
New stable: Expanding and reforming the role of the Local Government Pension Scheme in driving affordable housing
Localis, Mai 2025
localis.org.uk/research/new-stable/
The impact of caring on housing
CarersUK, Mai 2025
www.carersuk.org/reports/the-impact-of-caring-on-housing/
How affordable private rents can help tackle health inequalities and homelessness
Health Equals, Crisis, Mai 2025