Mae datrys yr argyfwng cyflenwad tai yn gofyn am weledigaeth gydlynol ar gyfer y dyfodol a pharodrwydd i weithredu ar draws cynllunio, rheoleiddio, hyfforddi ac adeiladu, medd John Keegan.
Cefais lawer o amser yn ddiweddar i fyfyrio ar bethau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd a chyfeiriad y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn benodol ac yn y DU yn gyffredinol.
Deuthum i’r casgliad pendant bod y demtasiwn i orfeddwl y mater hwn yn fawr tra bod y dewrder sydd ei angen i ddatrys rhai o’n prif broblemau yn brin. Mae’n amlwg iawn y treuliwn lwyth o amser ac ymdrech yn siarad am yr atebion a llawer llai o amser ac egni ar ddatrys y problemau. Mae’r rheswm am hyn yn gymhleth, yn ymwneud â gwleidyddiaeth, y natur ddynol, mynediad at gyllid, rheoleiddio, ac ati. Ond mae’n deillio’n bennaf o ddiffyg gweledigaeth gydlynol ar gyfer y dyfodol a’r parodrwydd i wireddu unrhyw weledigaeth.
At ddibenion yr erthygl hon byddaf yn canolbwyntio ar un o esgyrn mawr y gynnen, sef datblygu eiddo newydd. Pwrpas pob sefydliad o fewn y sector yw darparu cartrefi o safon uchel i bobl sydd ag angen tai. Ond y gwir amdani yw mai’r hyn a wneir yw dogni adnodd prin, a darparu’r adnodd hwnnw i rai dethol iawn.
Rydym yn byw mewn gwlad lle bydd cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn parhau am y dyfodol rhagweladwy i fod â swyddi sydd heb dalu digon i’w galluogi i fynd yn berchen cartref, neu yn byw mewn ardaloedd lle nad oes digon o dai cymdeithasol. O gofio hynny, a deall manteision bod â chartref diogel yn ffisiolegol ac yn seicolegol, beth ddylem ni ei wneud?
Dwi’n bwriadu mynd i’r afael â’r broblem gyda mewnwelediad cyflym i’m prif gasbethau. O ran difyrrwch, gadewch i ni ddechrau gyda chynllunio. Mae dau brif ddimensiwn i hyn, sef y ffordd o fynd ati a’r cyfyngiadau y mae awdurdodau lleol yn gweithio oddi tanynt ar weledigaeth Llywodraeth Cymru a’r Senedd ar gyfer y wlad . Mae mynediad i dir yn dibynnu ar fynediad i gyfalaf a hefyd ar argaeledd tir a amlygir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae’r broses o gytuno ar y CDLl yn llawer rhy gymhleth, yn cymryd llawer o amser, yn wleidyddol ymrannol ac yn ddrud. Credaf y dylid rhannu’r broses yn ddwy ran:
- Ychydig o wrthwynebiad sydd i 90 y cant o unrhyw gynllun arfaethedig – hyd yn oed os yw’r gwrthwynebiad hwnnw yn groch. Gellir canfod hyn yn gynnar iawn yn y broses. Dylid rhoi’r 90 y cant hwn ar waith ar garlam, mewn llai na blwyddyn.
- Dylid cytuno ar y 10 y cant, sy’n achosi oedi dirifedi yn amser y cyngor a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, fesul darn fel safleoedd eithriedig dros y pedair blynedd nesaf, gan gyflymu proses sy’n cymryd tair i bum mlynedd go iawn, a sicrhau bod safleoedd allweddol yn cael eu darparu’n llawer cyflymach
Mae’r cyfyngiadau amgylcheddol ar safleoedd bellach yn rhy gyfyng. Er enghraifft, cynnal arolygon ystlumod a’r oedi y maent yn ei olygu (gan mai dim ond ar adegau penodol y gellir eu cynnal). Credaf y dylai unrhyw ddatblygiad o fwy na 10 o dai fod â thy ystlumod fel rhan o’u datblygiad. Mae llawer o’r rhywogaethau gwarchodedig rydym wedi’u canfod dros amser trwy ein harolygon yn ymddangos yn llawer mwy gwasgaredig a lluosog nag a dybiwyd yn wreiddiol. Felly, rwy’n awgrymu bod lefel yr amddiffyniad sydd ei angen yn llai angenrheidiol nag a dybiem.
Y prif bwynt yw bod maint y ddeddfu/rheoleiddio yn rhwystro cynnydd rhesymol: un enghraifft wych yw’r twnnel ystlumod ar HS2, lle gallodd sefydliadau heb ddim cysylltiad â’r datblygiad ac eithrio’u cyfrifoldebau goruchwylio or-fanylu’n aruthrol ar y gofynion i ddatrys y broblem. Cyfnodau dirifedi o oedi yn y cynllunio, £100 miliwn ar dwnnel!!
Rhaid sicrhau bod lefelau staffio adrannau cynllunio Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn ddigonol i hwyluso trafodaethau llawer cyflymach. Dim ond pan roddir yr ystyriaeth briodol i faint o weithgaredd economaidd a gynhyrchir gan ddatblygiadau newydd a’r manteision cymdeithasol sy’n deillio o’r datblygiadau hynny y gellir gwneud hyn. Ond unwaith eto, mae’n rhaid gwneud hyn, gan fod cymdeithas yn ei chrynswth yn derbyn bod angen mwy o ddatblygu.
CYNLLUN CYNHWYSFAWR
Rhaid cwestiynu hefyd a yw’r prifysgolion a’r colegau yn cynhyrchu digon o raddedigion i staffio adrannau tai awdurdodau lleol ledled y wlad. Dyma pam mae angen cynllun cynhwysfawr, sy’n cwmpasu pob agwedd ar yr argyfwng tai, i fod ag unrhyw obaith o’i ddatrys. Bydd hyn yn amrywio o gynhyrchu’r nifer cywir o raddedigion/prentisiaid i alluehangu’r ddarpariaeth o dai y mae Llywodraethau Cymru a San Steffan wedi ymrwymo iddynt.
Mae adfywio canol trefi fel y mae yn anymarferol mewn llawer achos. Mae’r ffaith bod awdurdodau lleol yn dal i fynnu ar unedau manwerthu mewn datblygiadau newydd yn adlais o oes a fu na ddaw yn ôl. Pam mynnu ar unedau manwerthu ar ddatblygiadau newydd pan fo llu o unedau manwerthu canol trefi yn wag? Nid yw’r dyfodol yn gyfan gwbl ar-lein ond dydyn ddim wedi cyrraedd y cydbwysedd hapus (neu anhapus) hwnnw eto.
Mae gweithwyr proffesiynol o fewn y sector yn cwyno’n gyson bod yn well gan bobl ifanc fod yn chwarae ar eu playstation, gliniadur neu ddyfais arall na gweithio yn y diwydiant adeiladu. Dylid herio hyn yn frwd bob amser gan y byddai unrhyw sefydliad sy’n recriwtio prentisiaid yn tystio bod llawer mwy o ymgeiswyr na llefydd ar eu cyfer. Bydd y colegau’n dweud wrthym y bydd mwyafrif helaeth y myfyrwyr yn aros yn y coleg hyd at ddiwedd NVQ lefel 2 ac yna’n gorfod rhoi’r gorau iddi gan nad ydynt yn gallu sicrhau lleoliad gwaith. Mae’r datganiad gan weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant yn celu amharodrwydd i hyfforddi pobl i staffio’r diwydiant ar gyfer y dyfodol. Pam mae’r sylwadau hyn yn dal i hofran o’n cwmpas?
Gan fod hyn bellach wedi mynd yn safbwynt mor sefydlog o fewn y diwydiant, dim ond dau ateb sydd, hyd y gwelaf. Yn y lle cyntaf, rhaid iddi fod yn fwy deniadol yn ariannol i gwmnïau adeiladu gyflogi mwy o brentisiaid. Ni fydd sancsiynau’n gweithio, felly, mae un neu ddau o atebion.
Dwi wedi crybwyll cymhellion ariannol eisoes ond rhaid i golegau chwarae rhan fwy sylweddol. Maen nhw’n caniatáu i gannoedd lawer o fyfyrwyr gymhwyso i NVQ lefel 2 bob blwyddyn na allant wedyn gael lleoliadau i’w cwblhau i NVQ Lefel 3. Mae hyd yn oed cwblhau i lefel 2 ond yn caniatáu ar gyfer 18 awr o addysg amser-llawn yr wythnos, a dim ond chwe awr o hyn sy’n wersi ymarferol. Dylai amser llawn olygu 24 awr yr wythnos gydag o leiaf 12 awr o wersi ymarferol. Rhaid i golegau sy’n ceisio darparu ar gyfer hyn dderbyn llai o ddisgyblion ond buddsoddi mwy ynddynt i’w gwneud yn fwy parod ar gyfer gwaith (bydd grant y pen uwch ar gyfer rhai cyrsiau yn gymhelliant). Gan na allant symud ymlaen i lefel 3 heb leoliad, gall blwyddyn ddilyniant bellach ar lefel 2 (sy’n digwydd eisoes) barhau ond gyda hyd yn oed mwy o ddosbarthiadau ymarferol, am 15 awr yr wythnos dyweder. Bydd myfyrwyr yn gadael y coleg wedyn yn llawer mwy gwybodus a defnyddiol ar y safle,a fydd yn fwy o gymhelliant i gyflogwyr gyflogi myfyrwyr sydd ag angen blwyddyn yn unig i gwblhau NVQ lefel 3 a bod yn gwbl gymwys.
CYFLEUSTODAU
Y gwir amdani yw nad yw’r wlad wedi buddsoddi digon yn ein cyfleustodau. Gyda’u strwythurau llywodraethu a’u mecanweithiau cyllido, does dim osgoi’r ffaith y bydd yn rhaid i ni, drwy ein biliau, dalu am seilwaith sylweddol yn y degawdau nesaf. Bydd rhywfaint o hyn er mwyn gwella ansawdd dŵr, a llawer o’r gweddill i wella’r Grid Cenedlaethol i ymdopi ag ynni adnewyddadwy. Hyd oni all AI helpu ymhellach, mae’r cyflenwad ysbeidiol yn niwsans gwirioneddol, i helpu i ‘gydbwyso’r grid’.
Mae’n glir na fydd y ras am ynni adnewyddadwy, sef y ras iawn i fod ynddi, yn dwyn ffrwyth ar ein biliau tan y 2040au o leiaf. Yna, dylem ailystyried y ras i osod pympiau gwres ffynhonnell aer yn absenoldeb paneli solar, oherwydd fel arall mae’r costau ynni yn rhy uchel. Rydym yn dal i fod rai blynyddoedd i ffwrdd o fod â phaneli 30 y cant effeithlon. Felly awgrymaf y dylem ddim ond gosod pympiau mewn adeiladau newydd, a lle mae cyfeiriadedd y to yn fwyaf addas ar gyfer paneli solar mewn eiddo presennol (tua 30 y cant – a fyddai’n dal i ganiatáu i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod ar y cyfan).
DULLIAU ADEILADU MODERN (MMC)
Mae angen i’r diwydiant cyfan gydnabod nad yw’r dull hwn o adeiladu yn barod i’w ddefnyddio ar raddfa eang eto, a does dim diffiniad gwirioneddol o’r hyn ydyw, go iawn. Oni bai bod llyfrau archebion yn llawn ni all unrhyw ffatri oroesi ar raddfa fawr. Mae llanw a thrai’r diwydiant yn negyddu ymdrechion hyd yn oed y cyfoethocaf. Yr unig ffordd y gwireddir yr arbedion honedig yw ei ddefnyddio ar raddfa fawr iawn. Gallaf weld ei ddefnydd wrth adeiladu gwestai, er enghraifft, lle gellir ailadrodd manyleb stafell ar draws cadwyn gyfan, neu fwytai McDonalds, ond nid gyda thai, sydd o wahanol feintiau, arddulliau a deunyddiau.
Felly i gloi, fe dybiaf, hyd yn oed â gwthiad enfawr, ein bod o leiaf 10 mlynedd oddi wrth unrhyw fath o gonsensws cenedlaethol i ddatrys yr argyfwng tai. Hyd yn oed yng Nghymru, lle mae’r polisi ar dai cymdeithasol yn fwy cefnogol a gwaraidd o’i gymharu â Lloegr, mae’r amgylchedd rheoleiddio adeiladu a chynllunio yn ei gwneud yn broses araf iawn. Mae llawer o safleoedd yn cymryd 10 mlynedd o’u canfod i’w cwblhau (hyd yn oed pan fyddant yn y CDLl).
Os ydym am fod yn wlad lle caiff y dyhead am gartrefi o ansawdd uchel, naill ai trwy berchnogaeth neu ar rent cymdeithasol ei wireddu, mae angen bwrw ati, yr eiliad hon, yn ddioed, a heb aros am ddim byd! Dim mwy o Esgusodion Mawr.
John Keegan yw prif weithredydd Cymdeithas Tai Sir Fynwy. Mae’n sgrifennu i fynegi barn bersonol, nad yw yn un a goleddir gan ei gyflogwyr o anghenraid.