Gyda blwyddyn ar ôl i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn ystod y Senedd hon, mae rhifyn y Gwanwyn o WHQ yn dwys fyfyrio ar argyfwng cyflenwad tai Cymru a’r hyn y gellir ei wneud i’w ddatrys.
Bydd angen gweithredu mewn sawl maes gwahanol – cynllunio, rheoleiddio, buddsoddi, creu lleoedd a sgiliau i enwi ond rhai – gan lu o wahanol chwaraewyr. Rhaid i gynghorau lleol, cwmnïau codi tai a gweithwyr adeiladu proffesiynol chwarae eu rhan ynghyd â chymdeithasau tai, gweithwyr tai proffesiynol, landlordiaid preifat a thirfeddianwyr.
Ond rhaid dechrau drwy gydnabod maint y problemau cyflenwad yng Nghymru, gydag adeiladu tai i lawr o 45 y cant ers y 1990au, yn disgyn i ddim ond 4,771 o gartrefi newydd yn 2023/24. Dim ond unwaith yn y 50 mlynedd diwethaf y bu’n is, sef 2020/21, blwyddyn y pandemig, ac mae’r cyfanswm 12-mis i’w gymharu â tharged Cymru’r Dyfodol o 7,400 y flwyddyn.
Mae’n anodd canfod llawer yn y maes tai cymdeithasol sy’n credu y cyrhaeddir y nod o 20,000, er bod yr ysgrifennydd tai Jayne Bryant yn dweud y bu cynnydd gwirioneddol er gwaethaf cefndir o gostau uwch a phroblemau cadwyni cyflenwi.
Ond mae mwy i darged na dim ond ei daro neu ei fethu. Nhw sy’n gosod y cywair, ac mae’n llawn mor bwysig canolbwyntio ar beth arall y gellir ei wneud a beth ddylai ddod nesaf ag ydyw i holi a ellir ei gyflawni. Gofynsom i amrywiaeth o gyfranwyr WHQ am eu hatebion gwahanol dros ben i’r cwestiynau hyn.
O ran cyflenwad yn gyffredinol, clywn gan Nick Bennett ac Alex Madden am gasgliadau bord gron ddiweddar i adeiladwyr tai, cynllunwyr, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, a chan Jane Carpenter, Mark Harris a Simon Coop ar yr hyn sy’n rhaid ei newid gyda chynllunio.
O ran tai cymdeithasol, dywed John Keegan y dylem fod yn ddewr, datblygu gweledigaeth gydlynol ar gyfer y dyfodol a bod yn barod i’w gwireddu er mwyn rhoi terfyn ar ‘yr esgus mawr’ fel y mae’n ei alw. A chlywn rai rhesymau dros optimistiaeth gan Robin Staines a Shan Lloyd Williams ar dai cyngor newydd, gan Steve Cranston ac Anthony Friis ar gywaith Tai ar y Cyd, a Bex Kentfield a Wendy Dearden ar droi addoldai segur yn gartrefi.
Mae angen cartrefi newydd drwy’r trwch ond nunlle yn fwy nag ar gyfer pobl sydd heb do sefydlog uwch eu pen. Mae Debbie Thomas yn cyflwyno canlyniadau Monitor Digartrefedd diweddaraf Cymru, Lauren Caley yn adrodd ar ymchwil newydd i restrau aros tai cymdeithasol, ac Alex Thomas yn trafod cyflenwad yng nghyd-destun Tai yn Gyntaf.
Ychwaneger ein nodweddion rheolaidd – gan gynnwys llythyr o rywle arall gan Victoria Slade yn Guernsey – a gobeithio y bydd rhywbeth at ddant pawb yn y rhifyn hwn o WHQ.
Jules Birch, golygydd, WHQ