Beth ellir ei wneud ynglŷn â chyflwr gwael tai? Michelle Morris yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion allweddol adroddiad thematig diweddar yr ombwdsmon ar gyflwr gwael tai a lleithder a llwydni.
Cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adroddiad thematig yn ddiweddar am ddiffyg atgyweirio tai a chwynion am leithder a llwydni. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar gwynion a dderbyniwyd am leithder, llwydni, ac amodau tai gwael mewn tai cymdeithasol. Yn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2024, cwynion tai cyffredinol oedd 17 y cant o’r holl gwynion yr ymdriniodd ein swyddfa â nhw – yr ail fwyaf ar ôl cwynion ynglŷn â gofal iechyd (36 y cant).
Roedd bron 800 yn gwynion am ddiffyg atgyweirio tai. Roeddem yn arfer cofnodi pob problem ‘atgyweirio’ o dan derm ymbarél. Er mwyn nodi cwynion am leithder a llwydni yn well, rydym, ers 1 Ebrill 2024, wedi eu cofnodi ar wahân i broblemau atgyweirio tai eraill. Gwnaed hynny oherwydd effaith gydnabyddedig byw mewn amodau llaith ar iechyd tenantiaid tai cymdeithasol. Daeth y cysylltiad i amlygrwydd cyhoeddus pellach gyda marwolaeth drasig bachgen ifanc yn Rochdale o gyflwr anadlol yn 2020. Canfu’r crwner, ym mis Tachwedd 2022, fod ei farwolaeth i’w phriodoli i lwydni yn fflat tai cymdeithasol y teulu.
ENGHREIFFTIAU O GWYNION YNGLŶN Â THAI
Roedd ein hadroddiad yn cynnwys llawer o enghreifftiau o achosion yr ymchwiliwyd iddynt lle’r oedd gofyn i gymdeithasau tai, landlordiaid cymdeithasol a chynghorau unioni pethau i denantiaid, yn enwedig pan oedd achos i bryderu y câi problemau iechyd eu hachosi neu eu gwaethygu gan leithder a/neu lwydni.
Er enghraifft, dywedai cwyn ar ran Mr E ei fod yn oedrannus ac mewn iechyd gwael ac nad oedd ei ddrws ffrynt yn ffitio a bod angen ei drwsio/adnewyddu. Byddai’n rhoi blancedi dros y drws ac yn y bylchau i geisio atal y drafftiau a’r dŵr oedd yn dod i mewn. Dywedodd Cartrefi Cymunedol Tai Calon y cymerai ryw chwe mis i ddod o hyd i ateb parhaol a gosod drws newydd.
Credem fod hyn yn oedi annerbyniol, o ystyried pa mor fregus oedd Mr E, a’r camau roedd yn gorfod eu cymryd i gadw’n gynnes ac yn sych. Hefyd, roedd polisi atgyweiriadau Tai Calon ei hun yn cynnwys ymrwymiad i deilwra ei wasanaeth atgyweirio i’r meddianwyr hynny a oedd yn fregus ac arnynt angen cymorth. Teimlem nad oedd y gymdeithas tai wedi bodloni’r safonau hyn yn achos Mr E, wrth awgrymu y byddai oedi o chwe mis cyn y gellid gosod drws newydd, a heb gynnig unrhyw sail resymegol am hynny.
Cafodd yr achos ei ddatrys yn fuan, gyda Tai Calon yn cytuno i wneud gwaith dros-dro i atal y dŵr rhag dod i mewn o fewn pum diwrnod gwaith ac, o fewn wyth wythnos, i adnewyddu ei ddrws ffrynt yn llwyr. At hynny, gofynnwyd i Tai Calon ymddiheuro i Mr E a thalu £250 iddo i adlewyrchu ei gostau gwresogi uwch, o ganlyniad i geisio cadw’n gynnes gyda’r drws diffygiol yn ei le.
Achos arall lle’r oedd afiechyd yn bryder oedd eiddo Mr G, a gwynodd am leithder a llwydni yn ei gartref a oedd, yn ei farn ef, yn effeithio ar ei iechyd. Dywedodd ei fod yn dioddef â’i iechyd meddwl ac o anhwylder anadlol cronig yr ysgyfaint (COPD). Roedd ei weithiwr cymdeithasol a’i gynghorydd wedi hysbysu Cymdeithas Tai Hafod o’r problemau gyda lleithder, yn ogystal â’i bryder arall, sef bod arno angen grisiau i roi mynediad i’w ardd serth.
Cadarnhaodd Cymdeithas Tai Hafod y bu oedi cyn mynd i’r afael â’r pryder ynghylch lleithder, a’i fod bellach wedi dechrau cymryd camau i’w ddatrys, a fyddai hefyd yn cynnwys gosod rheiddiadur newydd maes o law. Dywedodd Hafod nad oedd yn ymarferol, o ystyried y dirwedd, i greu grisiau, ond y byddai’n gosod ffens o gwmpas rhan o’r ardd uchaf a mynd gyfrifol am gynnal a chadw rheolaidd a oedd, yn ein barn ni, yn rhesymol yn yr amgylchiadau. Cytunodd i ymddiheuro i Mr G am yr oedi, talu £100 iddo am ei drafferth a chwblhau’r gwaith a gosod y rheiddiadur o fewn 30 diwrnod.
Mae’r themâu a’r pwyntiau dysgu a nodwyd gennym yn ein hadroddiad o ganlyniad i’r achosion a gyflwynwyd yn cynnwys yr angen i gyrff cyhoeddus benderfynu beth sy’n ysgogi cwyn neu beidio, i atgoffa ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da ac yn ffit i fyw ynddo pan gaiff ei osod, a bod y gost ddynol i unrhyw un sy’n byw mewn amodau gwael yn fwy os yw’r deiliad yn oedrannus neu’n anabl. Rydym yn obeithiol y bydd y pwyntiau dysgu hyn yn helpu rhai yn y sector tai i gynnig safon uwch o wasanaeth i’w tenantiaid.
ARGYMHELLION YR ADRODDIAD
Mae sawl argymhelliad yn ein hadroddiad i wella arfer presennol yn y sector tai, megis:
- Dylai pob landlord sector cyhoeddus/cymdeithasol fynd ati’n rhagweithiol i gynnal arolwg stoc, fel yr argymhellir gan Lywodraeth Cymru, i ganfod yn gliriach eiddo o fewn eu daliadau sy’n dioddef o leithder a llwydni, neu a allai wneud.
- Dylai pob landlord sector cyhoeddus/cymdeithasol gynnal archwiliad llawn a phriodol cyn gosod eiddo cyn i denant symud i mewn, a chwblhau’r holl waith angenrheidiol (mwy nag addurnol) cyn i’r denantiaeth gychwyn.
- Dylai landlordiaid sector cyhoeddus/cymdeithasol ystyried yr adroddiad hwn, ynghyd â’n hadroddiad thematig blaenorol ar ymdrin â chwynion, ac ymgysylltu â’n tîm awdurdod safonau cwynion i baratoi ar gyfer mabwysiadu ein model o bolisi a hyfforddiant ar ymdrin â chwynion.
Dylai’r argymhellion hyn wella’r ffordd y mae landlordiaid tai cymdeithasol yn ymateb i bryderon ynghylch diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni a sicrhau bod pryderon o’r fath yn cael eu datrys yn ddigonol ac ar fyrder. Dylai’r argymhellion hefyd gyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yn ei dro os gall landlordiaid sector cyhoeddus/cymdeithasol fynd ati’n rhagweithiol i atal problemau cyn iddynt godi. Disgwylir hefyd y gwelir gostyngiad yn nifer y cwynion a welwn yn ymwneud â materion tai.
ARFER DA
Gwelsom hefyd rywfaint o dystiolaeth o arfer da o ran cyrff sy’n ceisio barn broffesiynol annibynnol yn ystod eu hymchwiliadau i gwyn, gan arddangos ymchwilio cadarn ac awydd gan y landlord i ganfod gwraidd y broblem.
Er enghraifft, dywedai Miss K fod ei chartref yn llaith a bod asthma arni. Dywedodd Cyngor Abertawe mai anwedd ydoedd. Yn ei ymateb i’n hymchwiliad, dywedodd y cyngor ei fod eisoes wedi cyfarwyddo syrfëwr annibynnol fel rhan o’i ymchwiliad i’r gwyn a’i fod yn disgwyl am yr adroddiad. Heb dystiolaeth o gamweinyddu neu fethiant yn y gwasanaeth, penderfynwyd na allem gyflawni dim pellach ac y byddai’r adroddiad annibynnol yn pennu’r canlyniad.
Yn achos Mrs L, hi oedd perchen ei chartref a chwynodd y cafodd lleithder yn ei heiddo ei achosi gan waith gan Gyngor Abertawe yng nghartref ei chymydog, a oedd yn eiddo i’r cyngor. Roedd y cyngor eisoes wedi comisiynu dau arolwg annibynnol ar wahân – mewn ymateb i gwyn gyntaf Mrs L ac eto pan uwchgyfeiriodd ei chwyn. Canfu’r ddau nad oedd y lleithder wedi’i achosi gan y gwaith roedd y cyngor wedi’i wneud, ond gan waith roedd Mrs L wedi’i gomisiynu ei hun. Fodd bynnag, roedd yr arolwg wedi canfod rhywfaint o waith adfer yr oedd angen i’r cyngor ei wneud ac roedd wedi oedi cyn gwneud hynny. Cytunodd Cyngor Abertawe â’n hargymhelliad y dylai ymddiheuro am yr oedi a chwblhau’r gwaith hwnnw o fewn 30 diwrnod.
CASGLIADAU
Ni allwn anwybyddu’r gost gynyddol i’r gwasanaeth iechyd o fethu mynd i’r afael â chyflwr tai ac ni all y sefyllfa hon barhau. Mae’n amlwg, ar sail nifer y cwynion a dderbyniwyd, nad yw cyflwr tai yng Nghymru heb ei heriau sylweddol o ran sicrhau bod pobl yn byw mewn tai o ansawdd da sy’n gymorth i iechyd da a llesiant. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid inni ymdrechu i’w gyflawni, er mwyn ein gwasanaeth iechyd, ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol a byddwn yn parhau i ymateb i gwynion a gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod y gwaith hwn yn llywio gwelliant i wasanaethau tai cymdeithasol ledled Cymru.
Michelle Morris yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru