English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Cyfrif y gost

Bu cysylltiad annatod rhwng iechyd a thai ers genedigaeth tai cyngor ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif ac mae’r cysylltiadau rhyngddynt mor agos ag erioed.

Mae’r rhifyn arbennig hwn o WHQ yn crwydro ymhell ac yn eang ar draws y cysylltiadau rhwng iechyd, tai a digartrefedd. Mae Dr Laura Neilson yn agor gyda golwg ar effaith byw mewn llety dros-dro ar fywydau, a marwolaethau, plant. Mae Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn myfyrio ar effaith lleithder a llwydni ar denantiaid, a Joe Rees yn edrych ar ffordd Iechyd Cyhoeddus Cymru o eiriol dros gartrefi iachach. Mae Carole-Anne Davies yn edrych ar sut y gallai gwella ansawdd, fforddiadwyedd a hygyrchedd tai, effeithio ar ganlyniadau iechyd.

Yng ngweddill ein hadran iechyd a thai, edrychwn ar bopeth, o gadw’n heini i gelcio (hoarding), anghydraddoldeb iechyd i Tai yn Gyntaf, a gofal am berchnogion tai hŷn i ymddygiad heriol mewn cynlluniau byw’n annibynnol.

Fis Ionawr lansiwyd Tai ar y Cyd, cydweithrediad rhwng landlordiaid cymdeithasol sy’n ceisio darparu cartrefi fforddiadwy a weithgynhyrchir oddi ar safle i’r safonau uchaf. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chan weithio’n glòs gyda phenseiri a gweithgynhyrchwyr, cynhyrchwyd llyfr patrymau safonol a chanllaw dylunio.

Yn y cyfamser mae sector tai Cymru yn dal i ystyried goblygiadau dyfarniad yr Uchel Lys mewn achos prawf a ddygwyd gan bedair cymdeithas tai dros ddarparu adroddiadau cyflwr trydanol. Eglura’r Athro David Cowan y cadarnhaodd y dyfarniad nad oedd rhent yn daladwy lle na chafodd tenantiaid adroddiadau, ond mae cwestiynau allweddol eraill yn dal heb eu hateb.

Mae Lauren Caley yn adrodd ar gost dibyniaeth Cymru ar lety dros-dro tra bod Wendy Dearden yn rhannu canfyddiadau ymchwil newydd i’r rhesymau dros ddatblygu cartrefi cymdeithasol newydd. Mae John Griffiths AoS, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yn dadlau y gall Cymru ddysgu gan y gorffennol, a sefydlu corfforaeth ddatblygu genedlaethol.

Mae’r ymateb i’r Gyllideb ddrafft yng Nghaerdydd a Chyllideb yr Hydref yn San Steffan yn parhau i atseinio. Mae Katie Dalton yn croesawu cyllid newydd ar gyfer cymorth tai ond yn rhybuddio y caiff gwaith ei danseilio heb gymorth pellach gyda chyfraniadau YG uwch i gyflogwyr. Dywed Cerys Clark fod targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn dal yn y fantol, er gwaethaf buddsoddi mwy.

Mae gennym hefyd ddwy erthygl ar dai i ffoaduriaid, gyda Gareth Lynn Montes yn croesawu estyniad i’r cyfnod symud ymlaen a Nicola Evans a Joy Kent yn galw ar dai i chwarae eu rhan mewn creu Cenedl Noddfa.

Mae hyn oll, ynghyd â chyfranogiad preswylwyr mewn cyfuno, rhentu preifat a Tai yn Gyntaf, a’n diweddariadau rheolaidd, yn creu rhifyn Ionawr llawn dop. Dymuniadau gorau ar gyfer 2025

JULES BIRCH, golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »