Mae gan Gymru hanes rhagorol o gyflwyno deddfwriaeth sy’n torri tir newydd ar dai a digartrefedd ac mae mwy ar y ffordd yn fuan.
Mae’r rhifyn arbennig hwn o WHQ yn edrych tuag at y ddeddfwriaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd a ddisgwylir ddechrau 2025. Mae erthyglau gan Debbie Thomas, Robin White a Katie Dalton yn nodi’r hyn mae’n rhaid ei wneud i godi’r bar a gwneud digartrefedd yn beth prin, byr, na chaiff ei ailadrodd, tra bod Clare Budden yn ystyried y cydbwysedd rhwng y gyfraith ac arweinyddiaeth. Cawn ragflas ar ddod â Safonau’r Gymraeg i rym mewn cymdeithasau tai cyn hir gan Osian Llywelyn a Rhys Evans.
Y flwyddyn nesaf fydd dengmlwyddiant un o’r darnau mwyaf blaengar o ddeddfwriaeth, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Derek Walker sy’n gofyn beth arall y gall y sector tai ei wneud i gyflawni ei nodau uchelgeisiol.
Os caiff ymgyrchwyr eu ffordd, gallem hefyd weld hawl i dai digonol yn rhan o gyfraith Cymru. Mae Dave Rowlands yn cyflwyno map ffordd i’r papur gwyn a ddisgwylir yn fuan ac i gyflwyno Bil, tra bod Jeff Smith yn adrodd ar rali Nid yw Cymru ar Werth ddiweddaraf Cymdeithas yr Iaith.
Gydag awdurdodau lleol a landlordiaid yn tanlinellu pwysau gorfodi deddfwriaeth yn y gorffennol, rhaid cydbwyso uchelgais â gweithredu. Disgrifiad Cerys Clark sut mae gweithwyr tai Cymru yn teimlo’r straen: medd un wrth arolwg newydd: ‘ Mae rheoli’r holl ddiwygio deddfwriaethol yn syrthio ar yr awdurdod lleol heb nemor ddim cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Cyllid hefyd sydd wrth graidd y rhybudd gan Archwilio Cymru na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei nod o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd heb fuddsoddi ychwanegol. Mark Jeffs sy’n edrych ar y dewisiadau.
Landlordiaid cymdeithasol sy’n wynebu cwestiynau anodd yn sgil adroddiad terfynol ymchwiliad Tŵr Grenfell, medd Duncan Forbes. A ŵyr byrddau, cabinetau a phrif weithredwyr yr atebion?
Dros yr haf adroddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar yr hyn y gellir ei wneud i gadw’r iaith i ffynnu. Mae Simon Brooks a Shan Lloyd Williams yn edrych ar rai o’r argymhellion allweddol a’r hyn y maent yn ei olygu i dai.
Yn ddiweddar, Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU i arosod cyfarwyddyd Erthygl 4 i wneud caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer troi cartrefi’n ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr. Gofynnwn i’r aelod cabinet Craig ab Iago sut mae’n mynd hyd yn hyn a sut mae’r cyngor yn gwneud ar ddigartrefedd.
Gyda mwy o erthyglau ar swyddogaeth tai yn yr economi sylfaenol, y cynnydd mewn math newydd o fuddsoddi mewn creu lleoedd, a byw mewn llety dros-dro, mae’r rhifyn Hydref hwn o WHQ yn crwydro’n eang ledled yr hyn sy’n digwydd gyda thai ac adfywio yng Nghymru.
JULES BIRCH, Golygydd, WHQ