Y DU
Awgrym bod Reeves yn ailfeddwl ar fesurau dyled a allai fod o fudd i dai
Awgrymodd y Canghellor ei bod am newid rheolau dyled gyhoeddus yn sylweddol, a allai olygu hwb i fuddsoddi cyfalaf mewn meysydd fel tai.
Mewn arwydd o’r newid yn ei haraith i gynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd: ‘Mae’n bryd i’r Trysorlys symud ymlaen o ddim ond cyfrif costau buddsoddi yn ein heconomi i gydnabod y manteision hefyd.’
Cadarnheir y manylion yng Nghyllideb Hydref 30 ond ymddengys mai’r bwriad yw creu lle ar gyfer mwy o fuddsoddi cyfalaf o fewn cyfyngiadau cyllidol hunanbenodedig y llywodraeth. Mae’r rheol gyllidol bresennol y dylai Dyled Net y Sector Cyhoeddus (PSND) fod yn gostwng fel cyfran o’r CMC erbyn diwedd cyfnod pum-mlynedd y rhagolwg yn gyfyngiad mawr ar fuddsoddi cyhoeddus am ei fod yn cyfrif costau yn unig heb gynnwys gwerth asedau a grëir.
Un dewis fyddai newid y rheolau cyllidol i fesur gwahanol o ddyled, naill ai Rhwymedigaethau Cyllidol Net y Sector Cyhoeddus (PSNFL) neu Werth Net y Sector Cyhoeddus (PSNW) sy’n cyfrif asedau hefyd.
Lluniwyd rhagolwg eisoes gan yr OBR yn yr adroddiadau darogan economaidd a chyllidol a gyhoeddir ganddi ochr yn ochr â Chyllidebau: dangosai’r un diweddaraf (gwanwyn 2024) lawer mwy o le i droi o dan y ddau fesur amgen nag o dan PSND.
Gallai’r newid ymddangosiadol dechnegol hwn greu lle i fuddsoddi mwy mewn tai tra’n gwneud i gynlluniau all-fantolen fel Cymorth i Brynu edrych yn llai deniadol.
CYMRU A LLOEGR
Safonau ynni tynnach ar gyfer cartrefi rhent
Bydd ysgrifennydd sero net y DU, Ed Miliband, yn ymgynghori ar gynllun i wella effeithlonrwydd ynni pob cartref rhent i lefel C y Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o 2030.
Roedd y cyhoeddiad yng nghynhadledd y blaid Lafur yn gwrthdroi penderfyniad y llywodraeth flaenorol i beidio â thynhau safonau effeithlonrwydd ynni yn y sector rhentu preifat yng Nghymru a Lloegr. Ar hyn o bryd, dim ond EPC E sy’n ofynnol i gartrefi rhentu preifat.
Dywedodd Miliband y byddai’r safonau hefyd mewn grym gyda thai cymdeithasol yn Lloegr, sydd heb safon leiafswm ar hyn o bryd.
Cyhoeddodd y llywodraeth gynllun grant newydd ar gyfer perchnogion tai a thenantiaid preifat ar incwm isel, a pharhad dau gynllun i helpu landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid.
LLOEGR
Adroddiad Grenfell yn ceryddu cwmnïau ‘anonest’ a methiant y llywodraeth
Roedd adroddiad cam 2 ymchwiliad Tŵr Grenfell yn beirniadu pawb bron a fu’n ymwneud ag adnewyddu a rheolaeth yr adeilad a’r digwyddiadau a arweiniodd at y tân a laddodd 72 o bobl ym mis Mehefin 2017.
Dywedai’r adroddiad fod ‘anonestrwydd systematig’ gan wneuthurwyr deunyddiau yn rheswm pwysig iawn pam y cafodd y tŵr ei orchuddio â deunyddiau mor beryglus, gan gyhuddo cyrff ardystio a phrofi deunyddiau o flerwch ac o gael ei hysgogi gan fuddiannau masnachol.
Methodd y llywodraeth ganolog weithredu er ei bod yn ‘llwyr ymwybodol’ o risg y deunyddiau hylosg. Cafwyd ‘methiannau cronig a systematig’ yn y Sefydliad Rheoli Tenantiaid tra bod Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea yn ‘wan’ ei goruchwyliaeth ac ‘yn dwyn cryn gyfrifoldeb’ am gyflwr yr adeilad ar ôl y gwaith adnewyddu.
Mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried ei hymateb i argymhellion yr ymchwiliad ond ychydig cyn cyhoeddi’r adroddiad dywedodd ei bod yn derbyn argymhelliad cam 1 ar gynlluniau dianc personol a wrthodwyd gan y weinyddiaeth flaenorol.
YR ALBAN
Y nifer uchaf erioed mewn llety dros-dro
Cododd nifer y bobl ddigartref sy’n byw mewn llety dros-dro yn yr Alban i’r lefel uchaf erioed yn yr ystadegau swyddogol diweddaraf.
Fis Mawrth 2024, roedd 16,300 o aelwydydd yn y system, yr uchaf ers i gofnodion llywodraeth yr Alban ddechrau yn 2002.
Roedd y nifer uchaf erioed o blant mewn llety digartref hefyd, gyda mwy na 10,000 o bobl ifanc yn aros am gartref parhaol.
Roedd y ffigyrau’n ‘destun pryder mawr’ meddai’r gweinidog tai Paul McLennan.
Dywedodd: ‘Gwn fod diffyg cartref sefydlog yn effeithio’n ddifrifol ar iechyd a chyfleoedd bywyd pobl. Dengys hyn faint o her sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael â’r argyfwng tai a dwi’n benderfynol o weithio gyda phartneriaid i wrthdroi hyn.’
Dangosodd ystadegau ar wahân fod nifer cartrefi cymdeithasol yr Alban wedi gostwng o chwarter yn y 12 mis hyd at Fehefin, i 5,053.
GOGLEDD IWERDDON
Y Weithrediaeth yn addo gweithredu ar dai
Tai yw un o naw blaenoriaeth Rhaglen Lywodraethu ddrafft Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer 2024 i 2027. Mae’r ddogfen yn addo ‘darparu mwy o dai cymdeithasol, fforddiadwy a chynaliadwy’.
Fodd bynnag, mae’n cyfaddef: ‘Ni allodd y Weithrediaeth gyflawni ei huchelgais o 2,500 o gartrefi cymdeithasol newydd y flwyddyn, ac rydym felly am ymrwymo i’r cymhorthdal hirdymor sydd ei angen i ddarparu mwy o gartrefi cymdeithasol, tra’n arloesi ar yr un pryd i ddatblygu modelau cyllido newydd ar gyfer darparu mwy o gartrefi fforddiadwy i wireddu hyn.’
Mae’r Weithrediaeth yn ‘ceisio cytundeb y Trysorlys i ymdrin yn briodol â benthyca’ fel y gall NIHE, Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon, fuddsoddi mwy. Cwblhaodd NIHE ei chartrefi newydd cyntaf ers 25 mlynedd fis Medi.
LLYWODRAETH CYMRU
Angen buddsoddi mwy i gyrraedd y nod o 20,000 o gartrefi cymdeithasol
Ni chyrhaeddir nod Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol carbon-isel newydd erbyn 2026 heb fuddsoddi cyfalaf ychwanegol sylweddol, medd adroddiad gan Archwilio Cymru.
Mae’r corff gwarchod yn amcangyfrif y cwblheir 15,860 i 16,670 o gartrefi sy’n cyfrif tuag at y targed o 20,000 erbyn Mawrth 2026 ac y bydd angen buddsoddi £580-£740 miliwn o gyfalaf ychwanegol i’r rhagdybiaethau cyllidebol presennol er mwyn cyrraedd y nod.
Daw’r adroddiad i’r casgliad y bu’r broses ddarparu’n araf ac yn ddrutach na’r disgwyl, yn rhannol oherwydd pwysau y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru.
Bid a fo am gyllid, mae nifer y cynlluniau yn yr arfaeth yn brin o gyflawni nod mis Mawrth 2026, ac ystyrir rhai ohonynt yn risg.
Medd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton: ‘Bu chwyddiant prisiau’n ergyd drom i’r rhaglen tai fforddiadwy. Mae dewisiadau anodd o ran blaenoriaethau cyllido a ffordd o fynd ati yn wynebu Llywodraeth Cymru os yw’n dal yn ymrwymedig i’w nod o 20,000 neu i gyrraedd yn agos at hynny erbyn Mawrth 2026.’
Dywedodd Matt Dicks, cyfarwyddydd cenedlaethol CIH Cymru: ‘Mae angen dull system-gyfan i gyrraedd y nod ac mae nawr yn bryd i fod yn uchelgeisiol a radical, a gwneud tai yn genhadaeth sylfaenol i’r Llywodraeth, drwy ddeddfu i ymgorffori’r hawl i dai digonol yn y gyfraith.’
Dywedodd Hayley MacNamara, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Mae darparu sicrwydd a goresgyn cyfyngiadau cyflawni yn hanfodol i ddatgloi’r rhwystrau presennol – felly rydym yn cefnogi argymhellion yr adroddiad i ddatblygu dull hirdymor o gyllido a darparu tai cymdeithasol.’
Cynlluniau i gryfhau cymunedau Cymraeg
Lansiodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gynigion cynhwysfawr i gryfhau’r iaith yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.
Mae dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ yn ganolog i’r cynigion i warchod a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol ffyniannus.
Byddai’r rhain yn cydnabod cymunedau lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac yn sicrhau mwy o ystyriaeth i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi, y gallu i amrywio polisi, ac i gefnogi defnydd effeithiol o’r Gymraeg ar lefel gymunedol.
Mae argymhellion i fynd i’r afael â’r argyfwng tai o fewn cymunedau Cymraeg yn cynnwys hyrwyddo datblygiadau tai yn seiliedig ar anghenion lleol a mentrau tai dan arweiniad y gymuned. Gelwir hefyd am sefydlu cronfa fenthyca llog-isel neu gynllun ecwiti i gynorthwyo grwpiau cymunedol i brynu tir neu eiddo.
Bryant yn parhau fel ysgrifennydd tai
Cafodd Jayne Bryant ei hailbenodi’n ysgrifennydd tai yn y tîm gweinidogol a gyhoeddwyd gan y prif weinidog Eluned Morgan fis Awst.
Yr un oedd mwyafrif y cabinet â‘r rhai a benodwyd dros-dro gan y cyn-brif weinidog Vaughan Gething, wrth sefyll i lawr ym mis Gorffennaf. Nid ailbenodwyd y pedwar gweinidog, yn cynnwys y cyn-ysgrifennydd tai Julie James, a ymddiswyddodd, gan ddod â’i brif weinidogaeth i ben.
Eluned Morgan oedd ysgrifennydd y cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol cyn hynny. Cytunodd y cyn-brif weinidog Mark Drakeford i gyflawni’r swydd dros dro.
Roedd penodiadau eraill yn cynnwys Jack Sargeant fel gweinidog partneriaeth gymdeithasol.
Dywedodd Jayne Bryant wrth un o bwyllgorau’r Senedd ym mis Medi ei bod yn bwriadu adfywio gwaith y tasglu tai fforddiadwy, a ddaeth i stop pan gafodd ei phenodi’n weinidog.
Gweinidog yn addo ‘amser i fyfyrio’ ar argymhellion Grenfell
Cred Llywodraeth Cymru bod argymhellion adroddiad cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn debyg iawn i’r diwygiadau arfaethedig yng Nghymru.
Mae swyddogion yn ystyried yr argymhellion yn fanwl wrth iddynt weithio ar Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru), y bwriedir ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Meddai’r ysgrifennydd tai Jayne Bryant, er bod datblygiad y Bil yn mynd rhagddo, ‘byddwn yn cymryd amser i fyfyrio ar yr argymhellion i nodi lle y gellid adolygu ein polisi.
Ychwanegodd: ‘Ynghyd â diwygiadau i sicrhau diogelwch adeiladau’r dyfodol, rydym yn gweithio ar garlam i wneud ein hadeiladau presennol mor ddiogel rhag tân ag y gallant fod. Mae gan bob adeilad preswyl dros 11 metr yng Nghymru bellach ffordd i godi unrhyw broblemau diogelwch tân yn ymwneud ag adeiladwaith, nid dim ond cladin anniogel. Mae’n Rhaglen Diogelwch Adeiladau yn ystyried problemau diogelwch tân mewnol ac allanol o safbwynt adeilad-cyfan sy’n rhoi diogelwch pobl yn gyntaf.’
Newidiadau i dreth gyngor Tai Amlfeddiannaeth
Lansiodd y gweinidog cyllid Rebecca Evans ymgynghoriad ar newidiadau i’r ffordd y caiff Tai Amlfeddiannaeth eu prisio a’u bandio i ddibenion treth gyngor.
Meddai: ‘Bydd y newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu prisio fel un eiddo ar gyfer band treth gyngor lle bo’n briodol, gan greu cysondeb ar draws y sector, a chynnig sicrwydd i gynghorau, landlordiaid ac aelwydydd. Bydd hyn yn lleddfu beichiau gweinyddol ar gynghorau ac yn sicrhau bod atebolrwydd am y dreth gyngor yn aros gyda’r perchennog yn y ffordd arferol, yn hytrach na bod cynghorau’n bilio tenantiaid unigol a all fod yn byw yn yr eiddo am gyfnod byr yn unig.’
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 26 Tachwedd.
Cymorth i Brynu Cymru yn ‘gwneud elw o £40m’
Sicrhaodd cynllun Cymorth i Brynu Cymru elw o £40 miliwn i Lywodraeth Cymru er ei sefydlu ddeng mlynedd yn ôl, yn ôl ymchwil gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF).
Dywed y dadansoddiad i’r cynllun benthyciadau ecwiti helpu 14,000 o aelwydydd i brynu cartref, tri-chwarter ohonyn nhw’n brynwyr tro-cyntaf.
Ad-dalwyd ychydig o dan hanner (46 y cant) y benthyciadau yn llawn, cyfanswm gwerth £282 miliwn o’i gymharu â gwerth gwreiddiol o £239.8 miliwn, sy’n cynrychioli elw o 18 y cant ar y buddsoddiad.
Cafodd cynllun cyfatebol yn Lloegr ei ddileu yn 2023.
YMGYNGHORIADAU
Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr yn cynnwys:
Prisio tai amlfeddiannaeth at ddiben Y Dreth Gyngor – ymatebion erbyn 26 Tachwedd
Gwefru cerbydau trydan mewn adeiladau preswyl a dibreswyl – ymatebion erbyn 29 Tachwedd
CYMRU
Ymchwil yn datgelu effaith digartrefedd
Mae adroddiad gan Sefydliad Bevan a Shelter Cymru yn taflu goleuni ar effaith ddynol digartrefedd yng Nghymru, gydag un o bob 215 o aelwydydd bellach mewn llety dros-dro.
Mae’r adroddiad yn tanlinellu pryderon neilltuol am yr effaith ar bron 3,000 o blant sy’n byw mewn llety dros-dro yng Nghymru gyda’u teulu. Mae hyn bron yn chwech o bob 1,000 o blant (3,143), gyda thraean o’r rhain wedi bod yn sownd mewn llety dros-dro ers blwyddyn a mwy. Yn aml, nid yw’r amodau’n addas i anghenion plant.
Gyda bron 1,000 yn fwy o aelwydydd mewn llety dros-dro ar ddiwedd 2023/24 nag ar ei ddechrau (966) a gyda dim ond 30 y cant o aelwydydd wedi eu symud yn llwyddiannus i dai parhaol addas yn ystod y flwyddyn, mae’r elusennau’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu a rhoi gobaith i bobl o gartref drwy gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol.
Caerdydd yn prynu mwy o eiddo
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu prynu tri eiddo arall yn y ddinas i ddarparu 280 o unedau llety pellach i bobl sy’n wynebu digartrefedd.
Cafodd y cynlluniau i gaffael hen floc llety myfyrwyr o 103 o fflatiau, gwesty gweithredol yn darparu mwy na 150 o unedau, a thŷ amlfeddiannaeth 20-gwely, eu trafod gan y Cabinet yn ei gyfarfod ddiwedd mis Medi.
Mae gwaith ar y gweill eisoes ar 250 o gartrefi newydd a gymeradwywyd gan y Cabinet fis Mai, a disgwylir i 33 o’r 99 o unedau llety teuluol ansawdd-uchel mewn dau adeilad ym Mae Caerdydd fod yn barod fis Mawrth nesaf, y gweddill i ddilyn nes ymlaen yn 2025. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar garlam i leoli 120 o gartrefi modiwlaidd parod, tra ynni-effeithlon ar lecyn gwag 1.87 erw o faint ar Stryd Pierhead.
Yn ôl yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng Lynda Thorne: ‘Mae cynlluniau a gyhoeddwyd gennym eleni i ehangu amrywiaeth a digonolrwydd llety yn y ddinas yn mynd rhagddynt yn dda, ond fydd y rhain ddim yn ddigon i leddfu’r pwysau sydd arnom yn awr, a’r hyn sydd o’n blaenau yn y flwyddyn i ddod.
‘Mae heriau newydd yn codi drwy’r amser, felly mae’n hollbwysig ein bod yn chwilio’n barhaus am opsiynau newydd i hybu argaeledd tai fforddiadwy.’
Clywodd y Cabinet fod llety dros-dro yn y ddinas yn llawn, gyda 563 o deuluoedd yn byw ar hyn o bryd mewn llety dros-dro safonol a 183 mewn gwestai.
Pennaeth newydd y Wallich
Ymunodd Karen Robson â’r Wallich fel prif weithredydd fis Medi, wedi ymadawiad Lindsay Cordery-Bruce yn gynharach eleni. Bydd y prif weithredydd dros-dro, Sian Aldridge, yn dychwelyd i’w hen swydd fel cyfarwyddydd gweithredu.
Gweithiodd y Wallich, a sefydlwyd ym 1978, gydag 8,306 o bobl oedd yn ddigartrefedd, mewn perygl o fod yn ddigartref neu mewn caledi ariannol ledled Cymru yn 2023/24. Rhedir 132 o wasanaethau digartrefedd ac ataliaeth ganddo ar draws 21 o’n 22 o awdurdodau lleol.
Yn ôl Oliver Townsend, cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr: ‘Gwelsom fod Karen yn gwir ddeall yr angen i adeiladu ar yr hyn a wna’r sefydliad yn dda – gweithio gyda rhai sy’n wynebu peth o’r anghydraddoldeb a’r anghyfiawnder mwyaf dyfnwreiddiedig y gellir ei ddychmygu. Dyna lle mae cymaint o angen y Wallich, i weithio gyda phobl y mae cymdeithas – yn rhy aml – wedi anobeithio yn eu cylch.’
Taliadau gwasanaeth a rhenti’n poeni tenantiaid
Galwodd TPAS Cymru ar landlordiaid cymdeithasol Cymru i wella’u cyfathrebu â thenantiaid ac adolygu eu polisïau gosod rhenti i sicrhau fforddiadwyedd a thryloywder.
Daw’r alwad ar ôl i’w arolwg tenantiaid diweddaraf ddatgelu pryderon parhaus am renti a thaliadau gwasanaeth.
Dengys yr arolwg y cred mwyafrif sylweddol (62 y cant) o denantiaid nad yw eu rhent bellach yn fforddiadwy – gostyngiad o 78 y cant yn 2023. Mae nifer sylweddol yn rhwystredig ynghylch eu taliadau gwasanaeth hefyd, gyda 39 y cant yn teimlo bod cynnydd diweddar yn afresymol o’i gymharu â’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
Er bod 89 y cant o denantiaid wedi derbyn gwybodaeth am godi rhenti, ni wyddai 46 y cant am y cymorth ariannol sydd ar gael gan eu landlordiaid.
Dywedodd David Wilton, prif weithredydd TPAS Cymru: ‘Mae tenantiaid yn amlwg yn teimlo straen cynnydd parhaus mewn rhenti heb gyfiawnhad digonol na gwell gwasanaethau. Dengys ein harolwg bod angen gwneud mwy i wella cyfathrebu, sicrhau tryloywder, ac ystyried pa mor fforddiadwy y mae polisïau gosod rhenti.’
V2C yn dod â choetiroedd bach i Ben-y-bont ar Ogwr
Lansiodd Cymoedd i’r Arfordir fenter i ddod â mwy o lecynnau gwyrdd i Ben-y-bont.
O dan y prosiect caiff dau Goetir Bach eu plannu yn yr ardal—un ger Yr Ynys ar Stad Marlas ac un arall yn Heol y Frenhines, Cefn Glas.
Wedi’i gyllido gan gynllun Coetiroedd Bach Cymru, caiff y prosiect ei redeg gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Coedwigoedd bach wedi’u plannu’n drwchus yw Coetiroedd Bach, tua maint cwrt tennis (200 metr sgwâr), gyda rhyw 600 o goed.
Wedi’u datblygu’n wreiddiol yn Japan, mae’r coedwigoedd bychain hyn yn cynnig man gwyrdd ir, gan hyrwyddo bioamrywiaeth, cadw carbon, a chreu adnodd cymunedol.
Bydd pob Coetir Bach yn cynnwys llwybr a stafell ddosbarth awyr-agored, gan greu cyfleoedd i drigolion, ysgolion a grwpiau cymunedol ymgysylltu â byd natur.
Yn ogystal â helpu i blannu coed, gall trigolion hefyd dderbyn hyfforddiant ar gyfer mynd yn geidwaid coed, sy’n gyfrifol am helpu i gynnal a monitro coedwigoedd.
United Welsh yn bwrw ati gyda chartrefi Caerffili
Mae gwaith ar y gweill i adeiladu 75 o gartrefi fforddiadwy newydd ger canol tref Caerffili.
Mae datblygiad Austin Grange yn cael ei adeiladu ar dir ger Parcio a Theithio Gorsaf Caerffili a bydd yn gymysgedd o dai a fflatiau, gyda’r cartrefi ar gael i’w rhentu gan United Welsh.
Bydd yr holl gartrefi heb eu cysylltu â nwy ac wedi eu hadeiladu i lefelau effeithlonrwydd ynni uchel, fel rhan o ymrwymiad United Welsh i leihau ei ôl-troed carbon a darparu cartrefi mwy cost-effeithiol i breswylwyr fyw ynddynt.
Bydd Celtic Offsite, menter gymdeithasol Grŵp United Welsh, yn cynhyrchu strwythurau ffrâm-bren y cartrefi o’u ffatri yng Nghaerffili. Bydd y strwythurau’n cyrraedd y safle yn gyflawn, ag insiwleiddio a ffenestri wedi’u ffitio, a gorffennir y gwaith adeiladu wedyn ar y safle gan gontracwr y datblygiad, Morganstone.
Bydd y cartrefi’n amrywio o un i bedair llofft, gan gynnwys fflatiau un- a dwy-lofft, sy’n caniatáu i bobl sicrhau cartref llai o faint neu symud i gartref teuluol mwy.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
Tai Fforddiadwy
Archwilio Cymru, Medi 2024
www.audit.wales/cy/cyhoeddiad/tai-fforddiadwy
Nowhere to call home: Understanding our housing crisis – living in temporary accommodation
Sefydliad Bevan a Shelter Cymru, Medi 2024
www.bevanfoundation.org/resources/living-in-ta/
Capped and trapped (in the UK’s housing market): how the benefit cap makes it almost impossible to find affordable housing
London School of Economics, Gorffennaf 2024
sticerd.lse.ac.uk/CASE/_NEW/PUBLICATIONS/abstract/?index=11048
Measuring the Wellbeing and Fiscal Impacts of Housing for Older People
Emotions, policy and collective action in housing safety crises
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mehefin 2024
housingevidence.ac.uk/publications/emotions-policy-and-collective-action-in-housing-safety-crises/
Brownfield First: How devolved brownfield funding can build a new generation of homes in the North
Northern Housing Consortium, Awst 2024
www.flipsnack.com/northernhousingconsortium/brownfield-first-1m2t0yajiq/full-view.html
Brick by Brick: Why we must act to remake our housing market
Fabian Society, Awst 2024
fabians.org.uk/publication/brick-by-brick/
Building blocks: Assessing the role of planning reform in meeting the Government’s housing targets
Resolution Foundation, Medi 2024
www.resolutionfoundation.org/publications/building-blocks/
Securing the future of council housing: Five solutions from 100 council landlords
Cyngor Southwark, Medi 2024
www.southwark.gov.uk/housing/securing-the-future-of-england-s-council-housing
From the ground up: How the government can build more homes
Y Sefydliad Llywodraethu, Awst 2024
The effectiveness of government in tackling homelessness
Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Gorffennaf 2024
www.nao.org.uk/reports/the-effectiveness-of-government-in-tackling-homelessness/