English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Dewisadau anodd Gyda’r nod o 20,000

Y mis diwethaf cyhoeddodd Archwilio Cymru adolygiad manwl o’r cynnydd yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu erbyn mis Mawrth 2026. Mark Jeffs sy’n cyflwyno rhai o’r negeseuon allweddol, yn enwedig ynghylch y dewisiadau sydd bellach yn wynebu Llywodraeth Cymru.

BETH YN UNION YW’R NOD?

Un o’n tasgau cyntaf oedd canfod beth yn union yw nod Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy. Fel archwilwyr sy’n edrych ar werth am arian, dydyn ni ddim yn dweud wrth lywodraeth beth y dylai ei werthfawrogi, ond yn gofyn pa les cyhoeddus mae llywodraeth yn ei geisio â pholisïau a gwariant. Yna, archwilir pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y bu ei defnydd o’i hadnoddau i gyflawni ei nodau yn awr ac yn y tymor hwy.

Yn ei Rhaglen Lywodraethu, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn ‘adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu’. Er ymddengos yn syml ar bapur, mae’r ymrwymiad yn fwy cymhleth yn ymarferol:

Adeiladu newydd? Dywed y Rhaglen Lywodraethu ‘adeiladu’, ond mae Llywodraeth Cymru yn cyfrif caffaeliadau – cartrefi presennol a brynwyd neu sydd ar brydlesi hirdymor.

Carbon isel? Yn wahanol i’r tai newydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, nid yw caffaeliadau’n ‘garbon isel’ o reidrwydd, ond maent yn cyfrif tuag at y nod.

Cartrefi cymdeithasol? Yn ogystal â chartrefi ar rent cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrif eiddo ar rent ‘canolradd’.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am sicrhau amrywiaeth o fanteision. Mae’r rhain yn cynnwys diwallu anghenion tai a manteision ehangach megis lleihau carbon a chefnogi economi Cymru, er enghraifft, drwy ddefnyddio cwmnïau lleol a chefnogi prentisiaethau.

CYNNYDD YN ERBYN Y NOD

Mae chwyddiant wedi cynyddu costau adeiladu cartrefi newydd ymhell y tu hwnt i amcangyfrifon Llywodraeth Cymru pan osododd y nod. At hynny, mae ffactorau amrywiol wedi llesteirio cyflymder y gwaith adeiladu. Ceisiodd Llywodraeth Cymru adennill tir drwy ailffocysu ymdrechion ar gaffael eiddo sy’n bod eisoes. Cyllidodd y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) i dalu am hynny.

Hyd yn oed gyda’r adnoddau ychwanegol a’r newid ffocws, erbyn diwedd 2023-24, dair blynedd i mewn i raglen bum-mlynedd, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif iddi sicrhau llai na hanner (rhwng 8,859 a 9,197) yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol (gweler y graffiau).

Niferoedd y tai fforddiadwy a gyflawnwyd, gwirioneddol a rhagamcanol yn ôl sgôr risg, rhwng 2021-22 a 2025-26 (y sefyllfa fis Mehefin 2024)

Niferoedd a gyflawnwyd yn flynyddol                                 

 

 

Niferoedd cronnus a gyflawnwyd

Gweler adroddiad Archwilio Cymru, Arddangosyn 3, am nodiadau manwl ar ddehongli’r graffiau

Erbyn diwedd 2023-24, roedd wedi gwario £1.1 biliwn ar y cynlluniau cyfalaf craidd – y Grant Tai Cymdeithasol a TACP – i ddarparu’r 20,000 o gartrefi. Mae eisoes yn bwriadu gwario £730 miliwn pellach ar y cynlluniau hynny erbyn diwedd Mawrth 2026.

Amcangyfrifwn y gallai fod ar Lywodraeth Cymru angen cymaint â £580-£740 miliwn o gyfalaf ychwanegol ar ben y tybiaethau cyllidebol presennol i gyflawni’r cwbl sydd ganddi ar y gweill hyd at fis Mawrth 2026. Heb gyllid ychwanegol, amcangyfrifwn y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn darparu rhwng 15,860 a 16,670 o gartrefi sy’n cyfrif tuag at y nod o 20,000. Hyd yn oed pe câi Llywodraeth Cymru afael ar gyllid, does ganddi ddim digon o gynlluniau cyfredol ar y gweill i gyrraedd y nod. Gan yr ystyrir rhai yn risg, mae’n annhebygol y cânt oll eu darparu mewn pryd.

DEWIS ANODD YN Y TYMOR BYR: ADEILADU NEU BRYNU?

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu dewis anodd o ran blaenoriaethu ei hymdrechion a’i chyllid. Yn y tymor byr, y dewis yw adeiladu neu brynu.

Mae dibynnu ar gynnydd mewn adeiladu newydd yn her. Gydag amserlenni adeiladu cartrefi newydd, onid yw prosiect ymhell ar ei ffordd yn y flwyddyn ariannol hon, nid yw’n debygol o fod yn barod mewn pryd i gyfrif tuag at y nod.

Ar y llaw arall, mae caffael cartrefi presennol yn gymharol gyflym. Ac y maent yn rhatach. Amcangyfrifwn y byddai’r gofyn am gyllid ychwanegol yn gostwng o £110-£140 miliwn pe câi 50 y cant o’r ddarpariaeth anghenion cyffredinol ei diwallu drwy brynu eiddo sy’n bod eisoes.

Mae rhesymau ariannol eraill sy’n gwneud caffaeliadau yn ddeniadol yn y tymor byr. Mae yn agos i 6,000 o aelwydydd mewn llety dros-dro ledled Cymru. Yn ogystal â bod yn annymunol i’r bobl sy’n byw yno, mae llety dros-dro fel gwely a brecwast yn ddrud iawn. Gall prynu eiddo i’w rentu arbed arian a gwella amgylchiadau pobl.

Ond mae anfanteision i gaffael o’i gymharu ag adeiladu o’r newydd. Nid yw’n cynnig buddiannau lleihau-carbon tai newydd a adeiladwyd i safonau effeithlonrwydd ynni uwch. Does dim rhaid iddynt ychwaith fodloni’r un safonau gofod. Ac oni bai mai defnyddio cartrefi a fu’n sefyll yn wag a wneir, nid yw caffael yn ychwanegu at gyfanswm y stoc dai. Wrth ymateb i’n hadroddiad, rhybuddiai arweinydd polisi Shelter Cymru yn erbyn mynd yn rhy bell:

‘Byddai ymateb ag agwedd fyrdymor drwy symud ffocws yn rhy bell tuag at gaffael (sydd â rôl i’w chwarae) yn gamgymeriad’ – Shelter Cymru

Wrth gydbwyso’i blaenoriaethau, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau hefyd ei bod yn cynnal llif cyson o gartrefi newydd. Mae bod â nod yn seiliedig ar dymor Senedd wedi arwain at batrwm o ddarparu ôl-lwythog. Caiff niferoedd isel o gartrefi eu hadeiladu’n gynnar yn y cyfnod, gyda chyflawniad llawer uwch wrth i’r nod ddod i ben ‘ar ymyl dibyn’ cyn dychwelyd i Flwyddyn 1. Er mwyn osgoi’r un sefyllfa eto, bydd angen i Lywodraeth Cymru gyllido cynlluniau adeiladu newydd yn ystod 2024-25 a 2025-26 i’w darparu yn 2026-27 a thu hwnt.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad i gynllunio sawl senario i gynorthwyo ei phroses benderfynu ariannol ar gyfer rhaglen 2025-26. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y cydbwysedd rhwng caffaeliadau ac adeiladau newydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig fframwaith y gall ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei defnyddio i benderfynu ar faterion o’r fath. Ochr yn ochr â ffyrdd eraill o weithio, dylai Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae’n cydbwyso anghenion hirdymor a thymor-byr a defynddio dull integredig o ystyried sut y gallai ei hamcanion effeithio ar bob un o nodau llesiant ehangach Cymru. Mae enghraifft y nod o 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn dangos nad oes wastad ateb syml, pawb-ar-eu hennill, i ddewisiadau anodd.

CYNLLUNIO TYMOR-HWY Y TU HWNT I GYFNOD Y NOD

Mae ein hargymhellion yn galw am ddull tymor-hwy o gynllunio a chyllido’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Ymddengys fod y sector yn croesawu hyn:

Mae cynnig sicrwydd a goresgyn cyfyngiadau cyflawni yn hanfodol i ddatgloi’r rhwystrau presennol – felly rydym yn cefnogi argymhellion yr adroddiad i ddatblygu dull hirdymor o ariannu a darparu tai cymdeithasol’ – Cartrefi Cymunedol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ymateb i’n hadroddiad, a ystyriwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd. Mae wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad i ddatblygu ymrwymiad ariannu tymor-hwy, gan dynnu ar wersi o raglen yr ystad ysgolion ac addysg bellach.

Nid ymrwymiadau cyllido yw’r unig her dymor-hwy. Unwaith eto mae dewisiadau pwysig i’w gwneud, yn dibynnu ar beth yw’r blaenoriaethau. Rydym eisoes wedi pwysleisio’r cydbwysedd rhwng adeiladau newydd a chaffaeliadau. Ond mae opsiynau pellach i’w harchwilio.

Gallai newid cydbwysedd deiliadaethau alluogi Llywodraeth Cymru i gael mwy o gartrefi am ei harian. Rhent cymdeithasol yw’r rhent rhataf, sy’n amlwg yn dda i denantiaid. Ond oherwydd bod landlordiaid cymdeithasol yn cael llai o rent, mae arnynt angen mwy o gyllid gan y llywodraeth i allu adeiladu’r cyfryw dai.

Mae cyfraddau grant i adeiladu cartrefi rhent cymdeithasol yn fwy na 60 y cant. Mewn cyferbyniad, mae terfyn o 25 y cant ar gyfer rhanberchenogaeth, tra bod rhent canolradd rhwng y ddau ffigur. Felly, mae symud y cydbwysedd oddi wrth rent cymdeithasol yn golygu y caiff Llywodraeth Cymru fwy o gartrefi am ei harian. Trosglwyddir y ‘gost’ i denantiaid, sy’n talu rhenti uwch.

Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd ddewis a ddylid cryfhau, cynnal, neu lacio safonau ansawdd ar gyfer tai fforddiadwy ar ôl cyfnod y nod gyfredol. Mae safonau ansawdd uwch yn golygu gwell llety i denantiaid. Ac mae safonau effeithlonrwydd ynni uchel yn cyfrannu at leihau carbon. Fodd bynnag, mae cost i’r manteision hyn. Er enghraifft, yn 2021 amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y byddai angen grant ychwanegol o £5,775 ar gyfer systemau gwresogi di-danwydd ffosil. Gallai safonau is olygu mwy o gartrefi i ateb yr anghenion dybryd ond byddai hynny’n anghymharus â’r ffocws polisi tymor-hwy ar ansawdd ac ar ddarparu cartrefi carbon-isel.

Ac nid dyna’r cyfan. Mae meysydd eraill y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu arnynt yn cynnwys: maint ei huchelgais, lefel y cyllid, beth sy’n cyfrif tuag at y nodau, a chydweddu cyllid â’i hasesiad o angen a galw. Mae’n bositif felly fod Llywodraeth Cymru, yn ei hymateb i’n hadroddiad, wedi derbyn ein hargymhellion i asesu’r opsiynau tymor-hwy a datblygu achos busnes llawn ar gyfer buddsoddi mewn tai fforddiadwy yn y dyfodol. 

MYND I’R AFAEL Â HERIAU HIRHOEDLOG YN Y SYSTEM GYNLLUNIO

Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael hefyd â rhai o’r rhwystrau hirhoedlog sydd wedi rhwystro cynnydd. Ymhlith y rhain mae’r system gynllunio, a oedd yn fwgan cyffredin drwy gydol ein gwaith. Pwysleisiodd y Sefydliad Tai Siartredig yr adnoddau sydd ar gael i adrannau cynllunio yn ei ymateb i’n hadroddiad.

‘Mae angen i ni hefyd ystyried rhwystrau eraill i ddarparu tai cymdeithasol yng Nghymru fel yr amlygwyd yn ein tystiolaeth ddiweddar ar dai cymdeithasol gan gynnwys: darparu mwy o adnoddau i adrannau cynllunio; gwella’r gadwyn gyflenwi; prinder contractwyr; rhyddhau mwy o dir cyhoeddus i’w ddatblygu; mynd i’r afael â’r stigma ynghylch tai cymdeithasol sy’n atal datblygu’ – Y Sefydliad Tai Siartredig

Nodwyd problemau’n gysylltiedig â’r system gynllunio – yn cynnwys hyd, cost, a chymhlethdod y broses – yn adroddiad diweddar yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar adeiladu tai yn y farchnad ehangach. Nodai’r adroddiad opsiynau i ddiwygio’r system gynllunio i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad i weithio gyda phartneriaid llywodraeth leol i ddatblygu atebion cynaliadwy i’r cyfyngiadau ar allu i gyflawni mewn gwasanaethau cynllunio awdurdodau lleol. Dywedodd y bydd yn ymgynghori ar gynigion i wella gwytnwch a pherfformiad awdurdodau cynllunio. Bydd y cynigion hynny’n cynnwys cynyddu ffioedd, ailfywiogi mesur a rheoli perfformiad, cryfhau capasiti drwy ddal gafael ar staff, bwrsariaethau a phrentisiaethau a gweithio’n rhanbarthol yn cynnwys rhannu gwasanaethau.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF?

Yn y pen draw, mater i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid, yw penderfynu a gweithredu i gyflawni yn y tymor byr a chynllunio ar gyfer y tymor hwy. Mae wedi derbyn ein holl argymhellion, yn llawn gan mwyaf. Bydd angen iddi hefyd fyfyrio ar y canfyddiadau a’r argymhellion sy’n deillio o ymchwiliad i’r cyflenwad tai cymdeithasol gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd.

Ac er bod yr erthygl hon wedi canolbwyntio ar yr heriau mawr, cawsom hefyd feysydd o gryfder y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid adeiladu arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith partneriaeth cryf a rhai o’r newidiadau a wnaed i’r trefniadau cyllido a monitro ar gyfer darparu tai fforddiadwy.

Fel archwilwyr, nid yw ein gwaith ar ben gyda’r adroddiad. Byddwn yn cadw golwg wrth i Lywodraeth Cymru weithredu’r camau yr ymrwymodd iddynt mewn ymateb i’n hargymhellion. Mae’n debyg y dychwelwn at y pwnc hwn mewn blynyddoedd i ddod.

Mae Mark Jeffs yn rheolwr archwilio yn Archwilio Cymru. Ceir gwybodaeth am waith Archwilio Cymru ar ei wefan. Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau tystiolaeth, y dulliau a ddefnyddiwyd a’r modelu ariannol a gyflwynir yn yr erthygl yn adroddiad llawn Archwilio Cymru.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »