English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Y siwrnai ddigidol

Am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, mae llywodraeth Lafur mewn grym yn Llundain yn ogystal â Chaerdydd.

Mae cysylltiadau eisoes wedi gwella rhwng San Steffan a’r llywodraethau datganoledig, gyda’r prif weinidog newydd Keir Starmer yn ymweld â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond wrth i ni fynd i’r wasg, roedd anhrefn llwyr yn Llywodraeth Cymru wrth i bedwar gweinidog, ac yna’r prif weinidog, ymddiswyddo.

Ochr yn ochr â hynny, aeth 25 mlynedd heibio ers i lywodraeth ddatganoledig ddod i Gymru. Gofynwyd i amryw o gyfranwyr rheolaidd WHQ fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma ac ar beth allai fod nesaf ar y ‘siwrnai heb bwynt terfyn sefydlog’, chwedl un cyn-ysgrifennydd Cymru.

Ar wahân i’r datblygiadau gwleidyddol hyn, craidd y rhifyn yw golwg ar sut mae technoleg a data yn newid popeth am ein ffordd o fyw ein bywydau, boed gartref neu yn y gwaith.

Asesir lle rydym arni ar y siwrnai ddata ac oblygiadau hynny i landlordiaid, tenantiaid a thai yn gyffredinol. Bethan Jones sy’n agor ein hadran nodwedd arbennig gyda golwg ar yr hyn y gall data Rhentu Doeth Cymru ei ddweud wrthym am gyflwr y sector rhentu preifat, ac mae Dewi Knight yn edrych ar yr hyn ddylai gweinidogion a chynghorwyr polisi ei gadw mewn cof wrth osod targedau.

Mae Andrea Gale, fel cyfarwyddydd gweithredol technoleg, data a rhaglenni Pobl, yn tybio sut y gallai swyddogaeth data newid i landlordiaid yn y dyfodol, tra bod Gareth Leech yn ystyried y siwrnai hyd yma yn Cartrefi Conwy.

Gall data a dadansoddi data hefyd ddatgelu bod gwahanol grwpiau yn cael profiadau tai tra gwahanol. Noda Sacha Hassan a Gita Netto sut y gall sefydliadau tai ymdrin ag anawsterau a gaiff lleiafrifoedd ethnig gyda gwasanaethau tai digidol, tra dywed Alicja Zalesinska y dylai dadansoddi data cydraddoldeb fod yn rhan allweddol o sicrwydd a gwella gwasanaethau.

Yn olaf, mae mwyfwy o ddata hefyd yn gofyn am fwy o ddiogelwch. Mae David Teague yn rhannu cyngor gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am yr hyn y gall sefydliadau tai ei wneud i ddiogelu gwybodaeth bersonol preswylwyr a chadw systemau’n ddiogel.

Mewn mannau eraill yn y rhifyn hwn fe welwch erthyglau ar bopeth o weithgynhyrchu oddi ar y safle i dai ar gyfer pobl sy’n ceisio noddfa, o atal lleithder a llwydni i swyddogaeth tai cymdeithasol – yn ogystal â sut mae newidiadau yn ein ffordd o fyw’n bywydau yn her i ddylunio ac adeiladu cartrefi. Ac mae Jonathan Roberts yn dathlu 150 mlwyddiant sefydlu Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru ac yn olrhain yr hanes, o slymiau ‘Uffern Fach’ yn y 19eg ganrif i’w rôl bresennol yn Tai yn Gyntaf.

Gyda hyn oll, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd, gobeithio y cewch ddigon i’ch diddori yn y rhifyn Haf hwn o WHQ.

Jules Birch, golygydd WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »