English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU 

Y DU

Adeiladu tai’n ganolog i’r llywodraeth newydd

Enillodd Llafur etholiad cyffredinol San Steffan ag adeiladu tai a chynllunio’n allweddol i’w chynlluniau i hybu twf economaidd.

Wrth i WHQ fynd i’r wasg, disgwylid llu o gyhoeddiadau yn adfer targedau adeiladu tai, adolygu ffiniau’r llain las, a recriwtio 300 o swyddogion cynllunio ychwanegol yn Lloegr.

Roedd disgwyl hefyd i waith ddechrau ar bennu safleoedd ar gyfer to newydd o drefi newydd, diwygio pryniant gorfodol a diogelu cartrefi cyngor newydd rhag yr hawl i brynu.

Addawodd Llafur hefyd i gwblhau’r gwaith o ddileu’r brydles ‘ffiwdal’ a dod â diwygio sefyllfa rhentwyr yn ôl fel blaenoriaethau deddfwriaethol cyn Araith y Brenin ar 17 Gorffennaf.

Addawai maniffesto’r blaid ‘yr hwb mwyaf i dai fforddiadwy a chymdeithasol’ ers cenhedlaeth ond heb unrhyw ymrwymiadau gwariant newydd i gefnogi’r uchelgais.

Cwtogwyd ar gynlluniau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio cyn yr etholiad, a fydd yn effeithio ar arian canlyniadol i’r llywodraethau datganoledig.

Gwrthododd Llafur ymrwymo i ddileu toriadau’r Torïaid i fudd-daliadau, yn cynnwys y terfyn dau-blentyn, y cap budd-daliadau a’r dreth stafell wely.

LLOEGR

Etholiad yn suddo diwygiadau allweddol i brydleswyr a rhentwyr

Gollyngwyd deddfwriaeth allweddol ar rentu preifat a chyfyngwyd ar ddiwygio’r brydles o ganlyniad i benderfyniad Rishi Sunak i alw etholiad cynnar.

Daeth y Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad, y mae’r rhan fwyaf ohoni’n berthnasol i Gymru, yn gyfraith yn y broses ‘olchi lan’ ar ddiwedd y senedd fis Mai; mae’n cynnwys gwelliannau i brydleswyr yn cynnwys gwaharddiad ar werthu tai newydd ar brydles a chynnydd mawr yn hyd prydles pan gaiff ei hymestyn.

Fodd bynnag, collwyd newidiadau allweddol yn cynnwys cap ar renti tir ac roedd eisoes wedi methu gweithredu gwaharddiad a addawyd ar werthu cartrefi newydd ar brydles.

Golygodd taith chwim y Ddeddf na fu cyfle i’r Senedd ystyried cydsyniad deddfwriaethol nac i Lywodraeth Cymru geisio gwelliannau i ganiatáu dirprwyo pwerau pellach.

Cawsai’r Bil (Diwygio) Rhentwyr, sy’n berthnasol i Loegr yn bennaf, ei ohirio gan wrthryfel Torïaid meinciau cefn. Golygai’r etholiad iddo redeg allan o amser, gan adael addewid maniffesto’r Torïaidd 2019 i ddileu troi allan heb fai o dan Adran 21 heb ei gyflawni.

YR ALBAN

Dengys ystadegau ‘enbyd’ ‘chwalfa mewn adeiladu tai’

Bu cwymp sylweddol yn nifer y tai newydd a gychwynwyd ac a gwblhawyd yn sectorau preifat a chymdeithasol yr Alban yn 2023/24.

Syrthiodd y nifer a gwblhawyd yn y sector cymdeithasol o fwy na 30 y cant i 5,043, yr isaf er y pandemig, a chychwynwyd ar 15 y cant yn llai.

Roedd gostyngiad yn y sector preifat o 13 y cant, i 14,589, sy’n golygu bod y nifer o dai a gwblhawyd ar draws pob sector o dan 20,000 am y tro cyntaf ers chwe blynedd.

Mae hyn yn bygwth targedau tai fforddiadwy Llywodraeth yr Alban, gyda’r gweinidog tai Gordon McLennan yn beio toriadau Llywodraeth y DU. Meddai: ‘Er bod ein ffocws yn dal i fod ar ddarparu 110,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2032, bydd lleihad o 10 y cant bron yn ein grant bloc cyfalaf, colled o fwy na £1.3 biliwn erbyn 2027-28. Yn yr un modd, cafodd ein cyllideb trafodion ariannol – sy’n allweddol i ddarparu tai fforddiadwy – ei thorri o 62 y cant.’

Dywedodd Sally Thomas, prif weithredydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban (SFHA), ‘y dylai’r ystadegau enbyd fod yn rhybudd arall i lywodraeth yr Alban ynghylch maint yr argyfwng tai a’r heriau uniongyrchol sy’n ein hwynebu o ran darparu tai rhent fforddiadwy. Mae gostyngiad yn nifer y cartrefi newydd a ddechreuwyd a’r nifer sy’n cael eu cwblhau ym mhob sector ac mae’n glir ein bod yn gweld chwalfa o ran adeiladu tai.’

GOGLEDD IWERDDON

Benthyciad llog-isel i gyllido rhent canolradd

Cyhoeddodd y gweinidog cymunedau Gordon Lyons gyfle cyllido newydd ar gyfer cartrefi rhent canolradd fel elfen o’r Strategaeth Cyflenwi Tai sydd wrth law.

Bydd y cynllun Rhent Canolradd yn cynnig cyllid ar ffurf benthyciad hirdymor, llog-isel gan y llywodraeth i weithredwr a fydd yn datblygu cyflenwad newydd o gartrefi fforddiadwy i’w rhentu.

Meddai Mr Lyons: ‘Bydd y cyllid sydd ar gael i ddarparu tai canolradd i’w rhentu yn creu cyflenwad o gartrefi sy’n cynnig opsiwn tai arall i’r rheini a brisiwyd allan o’r farchnad rentu brif-ffrwd.’

Mae Rhent Canolradd yn fath newydd o dai rhent fforddiadwy, sydd rhwng tai cymdeithasol a’r sector rhentu preifat o ran cost, ac sydd o ansawdd uchel ac yn darparu mwy o sicrwydd. Mae’n cynnig cartrefi â gostyngiad ar y rhent, sy’n golygu eu bod ar gael i rai ar incwm is, a gall gynnig opsiwn tai arall i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd fforddio i rentu tra naill ai’n cynilo i brynu cartref neu’n aros am gartref cymdeithasol.

LLYWODRAETH CYMRU

Ymestyn y safon rhent tan 2026

Ymestynnodd yr ysgrifennydd tai Julie James safon rhent a thâl gwasanaeth tai cymdeithasol o 12 mis arall hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026.

Mae’r penderfyniad yn golygu, ar yr amod bod ffigur chwyddiant prisiau defnyddwyr (CPI) mis Medi yn disgyn i rhwng 0 y cant a 3 y cant, y bydd landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn gallu pennu eu codiadau rhent eu hunain ar gyfer eu tenantiaid ar gyfer 2025-26, yn unol â’r fformiwla CPI plws 1 y cant a’r canllawiau a geir yn y safon rhent.

Meddai ysgrifennydd y cabinet: ‘Mae ymestyn y safon rhent am flwyddyn arall yn hysbysiad cynnar i landlordiaid cymdeithasol o’r paramedrau y mae’n rhaid i unrhyw gynnydd yn rhent eu tenantiaid ei weithredu o’u mewn. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i denantiaid y gwneir ymdrechion i gefnogi’r rhai sy’n profi caledi ariannol difrifol, a nid troi tenantiaid allan i ddigartrefedd pan fyddant yn ymgysylltu â’u landlordiaid, yn parhau yn y dyfodol.’

Ychwanegodd y byddai hysbysiad cynnar o’r paramedrau ar gyfer setliad rhent y flwyddyn nesaf yn ‘galluogi ein holl bartneriaid ar draws y sector ehangach i gyfranogi a chydweithio ar ddatblygu polisi rhent cymdeithasol i Gymru yn y dyfodol. Dwi’n hyderus y gallwn gyda’n gilydd lwyddo yn y maes sylfaenol a phellgyrhaeddol hwn o bolisi tai’.

Gweinidog yn gweld Tai yn Gyntaf ar waith

Ymwelodd yr ysgrifennydd tai Julie James â phrosiect Tai yn Gyntaf a rhai o’i weithwyr cymorth hanfodol Ynys Môn (llun uchod).

Mae Tai yn Gyntaf yn gweithredu drwy The Wallich, sy’n gweithio gyda mwy na 7,000 o bobl y flwyddyn ledled Cymru. Gwasanaeth Ynys Môn yw prosiect Tai yn Gyntaf hynaf Cymru.

Mae’r prosiect yn helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i’w llety eu hunain, gan gynnal eu tenantiaethau yn y tymor hir a chreu cyfleoedd i bobl.

Mae’r cymorth yn ymestyn i bobl sy’n cysgu allan, syrffio soffa, gadael cyfleusterau iechyd meddwl diogel, triniaeth am gamddefnydd sylweddau neu garchar, a phobl sydd wedi cael eu rhoi mewn llety dros-dro.

Mae’r prosiect yn derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Ynys Môn drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru.

Meddai Julie James: ‘Mae pawb yn haeddu cael rhywle i’w alw’n gartref, a dyna pam y lluniwyd cynllun radical ac uchelgeisiol yma yng Nghymru i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Mae nodi’r peryglon yn gynnar a gweithredu yn rhan hanfodol o hyn, ac mae prosiectau fel Tai yn Gyntaf yn Ynys Môn yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cefnogi’n cynlluniau.

Cynllun cynghori cyfreithiol ar gyfer prydleswyr

Mae cynllun cyngor cyfreithiol newydd ar gyfer prydleswyr mewn adeiladau canolig ac uchel sydd â phroblemau diogelwch tân yn golygu y gallant bellach gael cymorth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Lansiwyd y cynllun ym mis Mai a golyga y gall prydleswyr neu bobl gyfrifol ar eu rhan, gael mynediad i’r cynllun drwy’r Gwasanaeth Cynghori ar Brydlesau (LEASE).

Bydd cynghorydd yn adolygu’r sefyllfa, yn asesu a yw cymorth cyfreithiol yn briodol ac yn cynghori ar sut i fynd ati.

Lle bo’n briodol, bydd LEASE yn gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio at wasanaethau cyfreithiol y telir am eu cyngor cychwynnol gan Lywodraeth Cymru.

Biliau i ddod ar ddiogelwch adeiladau a digartrefedd

Cyn ymddiswyddo fel prif weinidog wrth i ni fynd i’r wasg, nododd Vaughan Gething ei flaenoriaethau deddfwriaethol yn y Senedd hon er mwyn adeiladu ‘dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach a gwyrddach’.

Mae’r rhaglen yn cynnwys deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau, digartrefedd, llety ymwelwyr a chynllunio.

Bydd Bil Diogelwch Adeiladau yn diwygio trefn ddiogelwch adeiladau bresennol Cymru yn sylfaenol ac yn ymdrin â diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr a throsodd yn y stoc adeiladau bresennol.

Bydd Bil Digartrefedd yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau i helpu pobl i aros yn eu cartrefi ac atal unrhyw un rhag mynd yn ddigartref.

Bydd dau Fil arall yn rheoleiddio llety i ymwelwyr ac yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi ardoll ar ymwelwyr.

Tuag at ddiwedd y tymor Seneddol hwn, caiff Bil ei gyflwyno i symleiddio a moderneiddio’r gyfraith gynllunio yng Nghymru, y dywed y prif weinidog ei bod yn ‘fwyfwy anhygyrch a rhy gymhleth’ ar hyn o bryd.

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda San Steffan ar ddeddfwriaeth y DU yn Araith y Brenin ac yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth i weithredu deddfau’r DU a wnaed yn sesiwn flaenorol San Steffan, yn cynnwys Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, a roddai bwerau i weinidogion Cymru gyflawni diwygiadau yn y maes hwn.

Gwelodd yr ysgrifennydd tai Julie James drosti ei hun sut mae cartrefi yn Sir y Fflint yn elwa o arian grant gan y Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig (ORP).

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn gwerth rhyw £5.7 miliwn o arian grant ORP dros dair blynedd ac mae wedi ymrwymo i ôl-ffitio tua 600 o gartrefi.

Ymwelodd ysgrifennydd y cabinet â chartrefi y gweithir arnynt yn ardal Coed-llai, rhai a adeiladwyd rhwng 1920 a 1950 ac sydd â waliau traddodiadol gyda nwy fel y prif danwydd gwresogi.Meddai: ‘Trwy ôl-ffitio paneli solar ar eiddo presennol, gosod waliau allanol a waliau ceudod, a goleuadau LED, bydd hyn yn helpu i leihau biliau ynni preswylwyr yn sylweddol.‘Bydd y wybodaeth a gasglwn o’r gwaith yn gymorth i werthuso’r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o wresogi ein cartrefi a helpu pobl yn y dyfodol i wneud dewisiadau ar sail fwy gwybodus’.

CYMRU

Cyntaf mewn datblygu i Cymoedd i’r Arfordir

Datgelodd Cymoedd i’r Arfordir fanylion ei brosiect datblygu cyntaf y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr.

Mewn partneriaeth â Grŵp Castell Cyf, nod y datblygiad yw darparu tai fforddiadwy ynni-effeithlon o ansawdd uchel yn y Porth, Rhondda Cynon Taf, i ymateb i alw sylweddol am gartrefi newydd yn y rhanbarth.

Bydd y prosiect yn trawsnewid safle tir llwyd lle safai adeilad y YMCA, a ddinistriwyd gan dân fis Tachwedd 2008. Bydd yr ailddatblygiad nid yn unig yn darparu tai hanfodol ond hefyd yn anadlu  bywyd newydd i ardal a esgeuluswyd ers amser maith.

Meddai Darrin Davies, cyfarwyddwr datblygu Cymoedd i’r Arfordir: ‘Mae hon yn foment fawr i ni wrth i ni ehangu ein hymdrechion i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr angen amdanynt y tu allan i Ben-y-bont. Drwy ailddatblygu’r safle hwn, rydym yn ateb anghenion tai dybryd y gymuned ond hefyd yn cyfrannu at adfywio’r ardal.’

Bydd pob un o’r 21 o fflatiau un-llofft gradd EPC A â gwresogi di-danwydd-ffosil a phaneli solar i helpu preswylwyr i reoli eu costau byw. Gan ddefnyddio technegau adeiladu arloesol, caiff y cartrefi’u hadeiladu gan ddefnyddio system ffrâm bren panel-caeedig. Mae’r dull hwn yn cynnwys cydosod a rhag-insiwleiddio paneli pren o flaen llaw oddi ar y safle, gan sicrhau effeithlonrwydd ac ansawdd.

Caiff y cartrefi oll eu cynnig am rent cymdeithasol a chânt eu dyrannu drwy’r rhestr aros anghenion cyffredinol Cyngor RhCT trwy Homefinder RhCT.

Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod erbyn Gwanwyn 2026. Mae’r camau nesaf yn cynnwys sefydlu’r safle yn yr wythnosau nesaf a threfnu digwyddiadau ymgysylltu cymunedol i hysbysu trigolion lleol a’u cynnwys yn y broses ddatblygu.

Hwb cynllunio i gartrefi gwledig

Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys ganllawiau cynllunio newydd ar gyfer gweithwyr garddwriaethol sydd ag angen cartrefi ar dir eu mentrau bach neu gerllaw.

Mae hyn yn ategu polisi cynllunio cenedlaethol a’r cyngor yn Nodyn Cyngor Technegol 6 ac fe’i datblygwyd i adlewyrchu amgylchiadau unigryw a phenodol y mentrau hyn. Nod y canllawiau newydd yw cefnogi tyfwyr i baratoi cais cynllunio ar gyfer annedd menter wledig dros-dro neu barhaol, a dylai eu helpu i gael caniatâd cynllunio ar gyfer tŷ ar dir agored pan fydd angen iddynt fod yn agos at eu cnydau. Mae’r angen am y cartref yn seiliedig ar nifer o brofion, yn cynnwys y gofyniad am weithiwr llawn-amser ar y safle am y rhan fwyaf o’r amser, a hyfywedd y busnes.

Croesawodd Judy Wayne, cadeirydd Our Food 1200, un o nifer o sefydliadau a gyfrannodd at y canllawiau newydd, ymrwymiad CSP i gefnogi garddwriaeth: ‘Mae’r canllawiau hyn yn cynnig llwybr i newydd-ddyfodiaid i ffermio allu byw ar y tir y maent yn ei drin, gan greu tai fforddiadwy y mae mawr angen amdanynt yng nghefn gwlad, a chefnogi’r newid i system fwyd fwy lleol sy’n darparu swyddi da a ffynhonnell ddibynadwy o fwyd ffres, fforddiadwy ar gyfer marchnadoedd lleol.’

Partneriaeth i greu byngalos yn Aberdâr

Mae Celtic Offsite yn partneru â Chymdeithas Tai Newydd ac M&J Cosgrove i ddarparu cartrefi y mae mawr angen amdanynt yn Bridge Road, Cwmbach, Aberdâr.

Bydd cangen United Welsh yn darparu’r strwythurau ffrâm bren ar gyfer 17 byngalo carbon-isel o’u ffatri yng Nghaerffili. Caiff y gwaith adeiladu ei gwblhau ar y safle gan y contractwr M&J Cosgrove, gyda’r cartrefi o dan reolaeth CT Newydd.

Meddai Jodie Follett, rheolwr partneriaethau Celtic Offsite: ‘Mae’n gyffrous partneru gyda Newydd am y tro cyntaf i ddarparu’r cartrefi newydd hyn i Aberdâr.

‘Bydd y byngalos hyn yn darparu dewis o dai y mae mawr angen amdanynt ar gyfer y gymuned leol, a defnyddir technoleg ynni-effeithlon i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.’

Dywedodd Simon Morris, cyfarwyddydd datblygu ac asedau Cymdeithas Tai Newydd: ‘Pan gododd y cyfle i ni ddefnyddio strwythurau ffrâm bren a adeiladwyd gan Celtic Offsite gwta 15 milltir i ffwrdd o’n safle yng Nghwmbach, roeddem wrth ein bodd.

‘Gwyddem y byddai hyn nid yn unig yn sicrhau bod ein buddsoddiad yn cefnogi swyddi a sgiliau lleol ond hefyd yn ein helpu i gyflawni ein nod o gynhyrchu datblygiad tai cynaliadwy ac ynni-effeithlon.’

‘Mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a chyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru i’r datblygiad, bydd y byngalos ffrâm bren a graddau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) A diolch i’n defnydd o systemau gwresogi di-danwydd-ffosil a phaneli solar.’

Bydd y cartrefi dwy-lofft ar gael i bobl sy’n chwilio am dai fforddiadwy trwy Homefinder, rhestr dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Cost gwresogi tai cynllun Passivhaus yn gostwng yn arw

Bydd gostyngiad o fwy nag 80 y cant ym miliau gwresogi datblygiad gwerth £6 miliwn o 21 o gartrefi carbon-isel yng Ngogledd Cymru. Mae’r eiddo ar safle Plas Penrhyn ym Mae Penrhyn, Conwy yn cael eu hadeiladu i safonau Passivhaus diolch i bartneriaeth arloesol rhwng Adra a Cartrefi Conwy.

Mae’r fframiau pren a’r Posi-ddistiau ar gyfer y tai fforddiadwy yn cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer cynllun Adra gan Creating Enterprise, is-gwmni Cartrefi, yn ei ffatri yn y Rhyl.

Oedwyd y datblygiad am gyfnod pan aeth y cwmni adeiladu gwreiddiol, Brenig, i’r wal yn wirfoddol ond mae bellach ar y gweill eto ar ôl i Beech Developments gael ei benodi yn ei le.

Mae gwaith wedi dechrau ar y safle a fydd yn cynnwys cymysgedd o eiddo rhent cymdeithasol a rhent canolradd o wahanol feintiau, gan gynnwys byngalo un-llofft wedi’i addasu’n arbennig, pedwar byngalo dwy-lofft, wyth tŷ dwy-lofft ac wyth tŷ tair-llofft.

Mae’r sylfeini ar gyfer y cam cyntaf yn eu lle gyda’r fframiau i’w cludo i’r safle o fewn wythnosau a’r prosiect i’w gwblhau ymhen rhyw 12 mis.

Yn ogystal â bod ag inswleiddio da a gwydro triphlyg, mae’r selio aerglos yn golygu y collir cyn lleied o wres fel na fydd angen nemor ddim gwresogi.

Caiff unrhyw wres ychwanegol sydd ei angen ei ddarparu gan wresogyddion trydan yn aml yn rhedeg ar ynni’r paneli solar ffotofoltäig ar y to.

Bydd gan bob un o’r cartrefi hefyd systemau awyru mecanyddol ac adfer gwres, sy’n tynnu hen aer llaith a chwythu aer ffres a gynheswyd  gan uned cyfnewid gwres i mewn.

Yn ôl Adra, mae’r eiddo bron yn hunangynhaliol o ran gwresogi gan ddefnyddio ychydig iawn o ynni o’r grid – ac ni ddefnyddir dim tanwydd ffosil yn uniongyrchol gan yr eiddo.

Meddai Adrian Johnson, dirprwy brif weithredydd Cartrefi Conwy, sy’n bennaeth Creating Enterprise: ‘Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Adra ar y prosiect gwych yma a darparu’r fframiau pren a Posi-ddistiau i adeiladu cartrefi fforddiadwy, ynni-effeithlon ac amgylcheddol iach ar gyfer pobl leol.’

Trivallis yn trosglwyddo cartrefi yn y Pentre

Cwblhaodd Trivallis ei ddatblygiad cyntaf yn 2024 trwy drosglwyddo’r allweddi i wyth cartref newydd sbon yng nghanol y Pentre fis Mehefin (gweler llun uchod).

Trawsffurfiodd y cynllun hen safle Gwesty’r Pentre yn dai mawr eu hangen, yn cynnwys fflat un-llofft wedi’i addasu’n arbennig ar y llawr gwaelod.

Cydweithiodd y gymdeithas tai â’r contractwyr lleol WK Plasterers ar y prosiect, a ddechreuodd yn gynnar yn 2023. Mae’r cartrefi newydd bellach yn cyflenwi’r eiddo cyfagos yn natblygiad Llewellyn Place, gan wella golwg gyffredinol ac ymdeimlad cymunedol yr ardal.

Meddai Sarah Davies, rheolydd datblygu Trivallis: ‘Mae’n wych gallu anadlu bywyd newydd i mewn i’r adeilad hanesyddol yma yn y Pentre. Ar ôl cwblhau datblygiad Llewellyn Place drws nesaf, fe wnaethom sylweddoli y gellid gwella golwg a theimlad yr ardal ymhellach wrth ddarparu cartrefi newydd i ateb anghenion tai lleol.’

Ychwanegodd y Cyng. Mark Norris, aelod cabinet ffyniant a datblygiad Cyngor Rhondda Cynon Taf: ‘Mae’n wych gweld grantiau tai cymdeithasol yn cael eu defnyddio nid yn unig i fynd i’r afael â’r galw lleol am dai ond hefyd i hybu’r economi leol. Fel cyngor, rydym yn hynod gefnogol i brosiectau sy’n cynyddu nifer y tai fforddiadwy y mae cymaint o’u hangen, mewn lleoliadau hygyrch a chynaliadwy. Gwell fyth pan fo eiddo segur neu wag yn cael eu defnyddio eto.’ 

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1 Projections of housing tenure and poverty in older age in Great Britain, 2022 to 2040

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mehefin 2024

housingevidence.ac.uk/publications/projections-of-housing-tenure-and-poverty-in-older-age-in-great-britain-2022-2040/

2 Disabled people in the housing sector

Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Mehefin 2024

publications.parliament.uk/pa/cm5804/cmselect/cmcomloc/63/report.html

 3 LGBTQ+ Housing & Homelessness Survey

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mehefin 2024

housingevidence.ac.uk/publications/lgbtq-housing-amp-homelessness-survey/

4 First-time buyers – Age-old problems, modern solutions, a road map for change

Building Societies Association, Mai 2024

www.bsa.org.uk/information/publications/research-and-reports/first-time-buyers

5 Home again: a 10-city plan to rapidly convert empty homes into social rent homes

Shelter, Ebrill 2024

england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/policy_library/empty_homes_10-city_plan

6 The finances and sustainability of the social housing sector

Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Mai 2024

publications.parliament.uk/pa/cm5804/cmselect/cmcomloc/60/report.html

7 Let down: rental regulations, subsidies and tenants’ rights across the English-speaking world

Social Market Foundation, Ebrill 2024

www.smf.co.uk/publications/anglosphere-rental-regulations/

8 Bringing private homes into social ownership can rewire the housing system

Sefydliad Joseph Rowntree, Mawrth 2024

www.jrf.org.uk/housing/bringing-private-homes-into-social-ownership-can-rewire-the-housing-system

9 Shared ownership

Pwyllgor Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Mawrth 2024

publications.parliament.uk/pa/cm5804/cmselect/cmcomloc/61/summary.htm

10 Unlocking affordable homes: Boosting affordable housebuilding to solve the housing crisis

YMCA, Mawrth 2024

www.ymca.org.uk/wp-content/uploads/2024/03/ymca-unlocking-affordable-homes-1.pdf


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »