Ymddengys bod pwl o golled cyfuno wedi torri allan yng Nghymru , gydag o leiaf dri phâr arall o gymdeithasau tai ar fin dilyn Pobl a Linc Cymru, a selio partneriaeth. Wrth gwrs nid dyma’r cyfuno cyntaf a fu yng Nghymru ac nid y rhain fydd yr olaf ond mae’r amseriad yn teimlo’n ddigon arwyddocaol i ni neilltuo llawer o’r rhifyn gwanwyn hwn i edrych ar yr oblygiadau i dai Cymru.
Yn dynn ar sodlau cyfuniad Pobl a Linc, y dywedir y bydd ‘yn fawr ac yn lleol’, clywn gan y chwe phartner cyfuno posib arall – Newydd a Cadwyn, RHA Cymru a Chartrefi Coastal, a Melin a Chartrefi Dinas Casnewydd – am y rhesymeg y tu ôl i’w penderfyniadau a’r hyn maen nhw’n ei wneud i gynnal eu ffocws ar eu cymunedau a’u tenantiaid fel rhan o sefydliadau mwy.
Mae’r ddau yn sicr yn hanfodol os yw tai Cymru i gynnal ei hunaniaeth arbennig ac osgoi rhai o gamau gwag y mega-gyfuno sydd wedi digwydd yn Lloegr. Mae David Wilton yn dadlau pam mae angen i fyrddau roi tenantiaid wrth graidd y broses benderfynu, tra bod Duncan Forbes yn nodi gwersi o brofiadau y tu draw i Glawdd Offa. Clywn hefyd gan Darren Hartley ar fanteision a pheryglon posibl cyfuno a chan Gemma Bell ar y materion cyfreithiol allweddol i’w hystyried cyn gynted ag y penderfyna landlordiaid cymdeithasol gyfuno
Mewn rhan arall o’r rhifyn hwn, mae WHQ yn cyfweld â Rhys Goode, yr aelod cabinet dros dai ym Mhen-y-bont, sy’n trafod yr heriau sy’n wynebu’r cyngor 20 mlynedd ar ôl trosglwyddiad stoc cyntaf Cymru. Mae ganddo farn ddiddorol ar drosglwyddo, ar gyfuno, ac ar y rheswm y dylai’r cyngor ailystyried troi’n awdurdod sy’n berchen ar stoc unwaith eto.
Cyn y papur gwyn a ddisgwylir yn yr haf, mae Mabon ap Gwynfor AoS yn dadlau bod yr hawl i dai digonol yn ‘gonglfaen i Gymru fwy cyfiawn a theg’, a neges ffarwel Lindsay Cordery-Bruce hithau wrth iddi ymadael â’r Wallich yw mai hyn yw’r allwedd i symud ymlaen i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y dyfodol.
Mae’r rhifyn hwn, a gyhoeddwyd wythnos cyn TAI, hefyd yn cynnwys ein holl nodweddion arferol, yn cynnwys diweddariad ymchwil newydd o’r Senedd, a newyddion am y datblygiadau diweddaraf yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Gobeithio y gwela’i lawer ohonoch yn TAI.
JULES BIRCH Golygydd, WHQ