English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Dadrewi’r LHA am y tro

Dylai’r Lwfans Tai Lleol (LHA) gael ei uwchraddio’n awtomatig bob blwyddyn yn unol â’r 30ain canradd o renti lleol, medd pwyllgor holl-bleidiol dylanwadol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae argymhelliad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau yn cefnogi tystiolaeth bod rhewi cyfraddau LHA yn gorfodi tenantiaid i dalu am ddiffygion rhent o’u budd-daliadau eraill a’u gwthio i mewn i ddigartrefedd neu dai o ansawdd gwael.

Cafodd cyfraddau LHA eu rhewi am bedair blynedd cyn eu hadfer i’r 30ain canradd yn gynharach y mis yma. Ond caiff y rhan fwyaf o denantiaid na fydd yn ddigon o hyd i dalu rhenti a gynyddodd o 9 y cant digynsail yn y flwyddyn hyd at fis Chwefror, a chaiff cyfraddau LHA eu rhewi eto o fis Ebrill 2025.

Bydd cyfraddau LHA uwch eleni hefyd yn golygu y caiff mwy o denantiaid eu dal gan y cap ar fudd-daliadau, sydd ddim ond wedi cynyddu unwaith ers iddo gychwyn yn 2013.

Argymhellodd ASau ar y pwyllgor, sydd â mwyafrif Ceidwadol, y dylai’r cap ar fudd-daliadau a lwfansys eraill gael eu huwchraddio bob blwyddyn hefyd.

LLOEGR

Gove mewn trafferth gyda’i ddiwygiadau

Caiff ymrwymiad maniffesto llywodraeth San Steffan i atal troi tenantiaid allan heb fai o dan Adran 21 yn Lloegr ei lastwreiddio ar ôl gwrthryfel gan ASau Torïaidd mainc-gefn.

Cyflwynwyd y Bil (Diwygio)Rhentwyr yn wreiddiol yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Mai 2023 ond daeth i stop yn y cyfnod adrodd nes i weinidogion sgrifennu at bob AS Ceidwadol â chyfres o welliannau a gyflwynir pan fydd yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ar ôl gwyliau’r Pasg.

Mae’r rhain yn cynnwys un sy’n rhagnodi na chaiff Adran 21 ei dileu ar gyfer tenantiaid presennol hyd onid asesir effaith hynny ar system adfeddiannu’r llys sirol, ac un arall sy’n atal y mwyafrif helaeth o denantiaid rhag diweddu eu tenantiaeth yn y chwe mis cyntaf.

Dywedodd Clymblaid Ddiwygio’r Rhentwyr fod y llywodraeth wedi taro ‘bargen Faustaidd gyda lobi’r landlordiaid’ a’i bod yn ‘bradychu rhentwyr â chonsesiynau a fydd yn atal y mwyafrif helaeth o rentwyr rhag elwa ar y diwygiadau hyn am gyfnod amhenodol’.

Ymddengys bod yr ysgrifennydd tai Michael Gove hefyd yn cael trafferth pasio rhai o’r mesurau yn ei Fil Diwygio Llesddaliad a Rhydd-ddaliad, y bydd llawer ohonynt yn berthnasol i Gymru.

Fel y dadleua’r AS Llafur Mark Tami yn y rhifyn hwn, dylai’r Bil ei gwneud yn haws ac yn rhatach i lesddeiliaid ymestyn eu les ond nid yw’n cynnwys mesurau eraill fel gwaharddiad ar fflatiau newydd ar brydles a dileu fforffedu.

Mae Gove yn ymgynghori ar gynllun i ostwng rhenti tir ar brydlesi presennol i swm enwol yn unig ond mae buddiannau eiddo yn wrthwynebus a honnir ei fod yn cael ei rwystro gan y Trysorlys a Rhif 10.

YR ALBAN

Holyrood yn cyflwyno rheolaeth newydd ar renti

Mae Llywodraeth yr Alban am ddeddfu i gynnig rheolaeth hirdymor ar renti tenantiaethau preifat a hawliau newydd, ac amddiffyniad cryfach i rentwyr rhag cael eu troi allan.

Bydd Bil Tai (Yr Alban) yn cyflwyno dyletswydd i ‘holi a gweithredu’ ar landlordiaid cymdeithasol a chyrff cyhoeddus fel byrddau iechyd a’r heddlu hefyd. Rhaid iddynt holi ynghylch sefyllfa dai person a gweithredu i’w hatal rhag mynd yn ddigartref lle bynnag y bo modd.

Mae rheolaethau rhent yn rhan o’r Fargen Newydd i Denantiaid sy’n rhan allweddol o Gytundeb Tŷ Bute rhwng Llywodraeth yr Alban a Phlaid Werdd yr Alban.

Mae’r Bil yn creu pŵer i weinidogion yr Alban ddynodi ardaloedd rheoli rhenti. Mewn ardal o’r fath, gellid rhoi cap ar godiadau rhent yn ystod tenantiaethau a rhyngddynt.

Cododd rhenti yn yr Alban o 10.9 y cant yn y flwyddyn hyd at Chwefror, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd y DU.

Nod ‘mewn perygl’ gyda chwtogi ar y gyllideb tai

Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban gynlluniau i dorri £196 miliwn o’r gyllideb tai fforddiadwy yn ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2025/26.

Dywedwyd mai canlyniad toriad yn ei chyllideb cyfalaf o San Steffan oedd hyn, ond beirniadwyd y penderfyniad gan bob rhan o’r sector tai ac addefodd y gweinidog tai Shirley-Anne Sommerville fod y nod o adeiladu 100,000 o dai fforddiadwy erbyn 2032 bellach ‘mewn perygl’.

Yn y rhifyn hwn o WHQ, dywed Carolyn Lochhead, cyfarwyddydd materion allanol Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban: ‘Rydym bellach mewn dyfroedd newydd a dieithr, lle mae record ragorol yr Alban ar dai rhent fforddiadwy o dan fygythiad difrifol.’

GOGLEDD IWERDDON

Adfer datganoli’n paratoi’r ffordd ar gyfer diwygio

Dychwelodd llywodraeth ddatganoledig i Stormont ar ôl i’r pleidiau gwleidyddol gytuno i ailddechrau rhannu pŵer.

Mae diwedd y cyfyngder gwleidyddol yn golygu y gellir symud ymlaen ar faterion tai allweddol yn cynnwys diwygio Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon, efallai fel corff cydfuddiannol neu gydweithredol neu drwy ofyn i’r Trysorlys i ganiatáu mwy o fenthyca.

Yn y rhifyn hwn o WHQ, dywed Justin Cartwright, cyfarwyddwr cenedlaethol Sefydliad Tai Siartredig Gogledd Iwerddon: ‘Mae ailsefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon yn agor pennod newydd yn y cyrch am bolisi tai teg a chynaliadwy. Er gwaethaf heriau lu, mae’r ysbryd o wytnwch a phenderfyniad sy’n ddwfn yn y teulu tai yn paratoi’r ffordd ar gyfer newid trawsffurfiol.’

LLYWODRAETH CYMRU

Y Prif Weinidog yn ad-drefnu’r cabinet

Cadwodd Julie James y cyfrifoldeb am dai o fewn portffolio newydd yn ad-drefniad llywodraeth y prif weinidog newydd, Vaughan Gething.

Aeth yn ysgrifennydd cabinet dros dai, llywodraeth leol a chynllunio yn y weinyddiaeth newydd gyda’i chyfrifoldeb blaenorol am yr hinsawdd yn mynd i Huw Irranca Davies fel ysgrifennydd cabinet newid hinsawdd a materion gwledig.

Penodiadau nodedig eraill oedd Jayne Bryant yn weinidog iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar a Jeremy Miles, yr ymgeisydd aflwyddiannus am yr arweinyddiaeth Lafur, yn ysgrifennydd cabinet dros yr economi, ynni a’r Gymraeg.

Mae un cyn-weinidog tai, Rebecca Evans, yn ysgrifennydd cyllid, cyfansoddiad a swyddfa’r cabinet, ac un arall, Lesley Griffiths, yn ysgrifennydd diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol.

Yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth, addawodd Vaughan Gething gyflymu’r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol ac annog arloesi, fel defnyddio tai modiwlaidd i ddarparu cartrefi â chostau rhedeg is yn gyflymach.

Meddai: ‘Dwi’n hynod o falch i allu dod â llywodraeth ynghyd o bob rhan o Gymru i wasanaethu ein cenedl gyfan, gyda gwleidyddiaeth flaengar yn ganolog iddi. Pleser arbennig yw penodi gweinidog iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar i sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.

Dwi’n credu mewn Cymru sy’n cydnabod y gallwn ddathlu ein gwahaniaethau ac ymfalchïo yn yr holl bethau hynny sy’n ein tynnu ynghyd a’n gwneud yr hyn ydym. Er y bydd llawer o heriau o’n blaenau, mae mwy fyth o gyfleoedd. Rwy’n uchelgeisiol ynglŷn â gwaith y tîm hwn i wneud Cymru’n wlad gwell fyth.’

Dyma Gabinet llawn Llywodraeth Cymru:

  • Prif Weinidog – Vaughan Gething
  • Darpar Gwnsler Cyffredinol – Mick Antoniw AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros yr economi, ynni a’r iaith Gymraeg – Jeremy Miles AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol – Eluned Morgan AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Rebecca Evans AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros dai, llywodraeth leol a chynllunio – Julie James AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros addysg – Lynne Neagle AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros ogledd Cymru a thrafnidiaeth – Ken Skates AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros newid hinsawdd a materion gwledig – Huw Irranca Davies AoS
  • Ysgrifennydd cabinet dros ddiwylliant a chyfiawnder cymdeithasol – Lesley Griffiths AoS
  • Prif Chwip a Threfnydd – Jane Hutt AoS
  • Gweinidog dros bartneriaeth gymdeithasol – Hannah Blythyn AoS
  • Gweinidog iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar – Jayne Bryant AoS
  • Gweinidog gofal cymdeithasol – Dawn Bowden AoS

Arian canlyniadol yn hwb i’r Gyllideb

Daeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, o hyd i £10 miliwn ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol ac atal digartrefedd yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Dywedodd y gallai newid y Gyllideb Ddrafft yn fwy nag arfer yn sgil cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU ar ôl cynnydd mewn gwariant mewn meysydd datganoledig yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Meddai: ‘Daeth y wybodaeth hon drwodd yn hwyr iawn yn y flwyddyn. Mae’r £231 miliwn o refeniw ychwanegol yn cynrychioli tua dau-draean o’n cronfa wrth gefn. Pe baem wedi cael y wybodaeth hon pan oeddem yn ymdrin â’n sefyllfa anodd eleni gallem fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol, ac osgoi rhai o’r penderfyniadau anoddaf. Fodd bynnag, mae’n golygu y gallwn ddyrannu bron £190 miliwn ychwanegol yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae’r prif ddyraniadau ychwanegol yn cynnwys cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac ysgolion, £40 miliwn o gyllid cyfalaf newydd ar gyfer y GIG, £30 miliwn ar gyfer Morglawdd Caergybi ac £20 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint.

Mae yna hefyd ‘nifer o ddyraniadau cyfalaf Trafodion Ariannol, yn cynnwys hyd at £20 miliwn i fwrw ymlaen â chynigion tai, parhau i gefnogi tai cymdeithasol ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd, a’r costau anuniongyrchol cysylltiedig sy’n cynnwys canlyniadau gwaeth o ran iechyd, cyflogaeth ac addysg.’

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) fod dogfennau cefndir y Gyllideb Derfynol yn manylu ar gynnydd o £5 miliwn yn y Grant Tai Cymdeithasol o’i gymharu â’r Gyllideb Ddrafft.

Dywedodd prif weithredwr CHC, Stuart Ropke: ‘Mae potensial enfawr i gymdeithasau tai ac eraill nid yn unig adeiladu mwy o dai, ond adeiladu’r tai iawn yn y lleoedd iawn i bobl Cymru nawr ac am flynyddoedd lawer i ddod. Mae’r cyllid ychwanegol heddiw yn gam i’w groesawu i’r cyfeiriad iawn, ond mae mwy i’w wneud.’

Ar ôl y Gyllideb Ddrafft, beirniadodd CHC a Cymorth Cymru y ffaith fod y Grant Cymorth Tai yn dal wedi ei rewi gan rybuddio bod angen cynnydd yn unol â chwyddiant i atal gwasanaethau rhag methu ac i dalu cyflog teg i weithwyr rheng-flaen.

Mae dogfennau’r Gyllideb Derfynol yn nodi dyraniad o £5 miliwn ychwanegol i benawd Cymorth ac Atal Digartrefedd y gyllideb.

Dywedodd Stuart Ropke: ‘Mae hwn yn gynnydd i’w groesawu. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y dyrennir cymaint o gyllid ychwanegol â phosib i’r Grant Cymorth Tai.’

Ymgynghoriadau

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i’n darllenwyr yn cynnwys:

Newidiadau arfaethedig i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor – ymatebion erbyn 6 Mehefin

CYMRU

Pobl a Linc yn cyfuno’n un corff ‘mawr a lleol’

Mae Grŵp Pobl a Linc Cymru wedi cwblhau proses gyfuno ffurfiol i ddod â dau o brif landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymru at ei gilydd,

Y bwriad yw ffurfio partneriaeth a fydd yn gwella’n sylweddol y ddarpariaeth o dai cymdeithasol a gwasanaethau gofal a chymorth ledled Cymru.

Bydd y grŵp newydd mwy o faint yn rheoli mwy na 23,000 o gartrefi, gyda chynlluniau i ddarparu mwy na 4,500 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y grŵp yn cyflogi mwy na 3,000 o bobl.

Cadarnhawyd mai Scott Sanders, prif swyddog gweithredol Linc, fydd Prif Weithredydd newydd Grŵp Pobl, gydag Amanda Davies yn camu i lawr ar ôl arwain Pobl ers 20 mlynedd a mwy. Bydd Julia Cherrett yn parhau fel cadeirydd Grŵp Pobl.

Medd Julia Cherrett: ‘Mae’r ddau sefydliad yn gymharus mewn cymaint o ffyrdd. Yn ddiwylliannol, rhannwn yr un gwerthoedd ac agweddau, yn strategol mae gennym uchelgais tebyg ac arbenigedd cyflenwol, ac yn ddaearyddol rydym yn gweithredu’n bennaf ar hyd coridor yr M4. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd.’

Dywedodd Scott Sanders: ‘Ni fu erioed adeg bwysicach i sector tai Cymru glosio at gymunedau a helpu i gynhyrchu canlyniadau sy’n gwir wella bywydau a llesiant. Gyda hyn mewn golwg, nod y grŵp cyfunedig yw darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y gymuned a rhaglenni buddsoddi. Gyda’r partneriaethau cryf sydd gennym, rydym mewn sefyllfa berffaith i wneud y gwahaniaeth y mae ein cwsmeriaid ei eisiau. Mae maint y grŵp yn dod â llawer o fanteision busnes, yn cynnwys ein nod o fod yn fawr ac yn lleol.

Mae Grŵp Pobl yn gweithredu ledled Cymru a chyn cyfuno â Linc roedd yn rheoli mwy na 18,000 o gartrefi, gan ddarparu gofal a chymorth i bron 17,000 o unigolion a chyflogi dros 2,000 o bobl.

Mae Linc Cymru, a sefydlwyd ym 1977, yn fusnes annibynnol â 5,500 o gartrefi, yn darparu tai i’w rhentu a’u gwerthu ynghyd â darparu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl mewn angen. Nid yw’n dosbarthu er elw, ac ailfuddsoddir pob gwarged er mwyn ehangu eu gweithgareddau ymhellach.

Dywedodd y cyn-Brif Weithredydd, Amanda Davies: ‘Mae cyfuno yn bennod newydd gyffrous i Grŵp Pobl a Linc Cymru. Bydd y Grŵp mewn sefyllfa well i fynd i’r afael ag anghenion esblygol ein cwsmeriaid a’n cymunedau, yn enwedig mewn cyfnod heriol, gan ysgogi newid positif a chael effaith barhaol ledled Cymru. Mae’r cyfuno yn gyfle hefyd i’n cydweithwyr fel rhan o sefydliad mwy.

Bydd Linc Cymru yn mynd yn is-gwmni i Grŵp Pobl, ochr yn ochr â Chartrefi a Chymunedau Grŵp Pobl, Gofal a Chymorth Grŵp Pobl, Byw Pobl, Datblygu Pobl Cyf, Ymddiriedolaeth Pobl, Tai Cartrefi Cyf ac Arloes Cyf.

I gael golwg fanwl ar gyfuno a’i oblygiadau, gweler yr erthyglau yn y rhifyn hwn o WHQ, o t19 ymlaen.   

Canfod perygl o RAAC yn Hirwaun

Cynghorodd Trivallis 40 o aelwydydd i symud allan o’u cartrefi ar unwaith oherwydd perygl Concrit Awyredig Awtoclaf Atgyfnerthedig (RAAC).

Canfu gwaith arolygu ar ei eiddo yn ardal Hirwaun broblemau gyda’r toeau a’r nenfydau sy’n gysylltiedig â’r deunydd.

Mae RAAC mewn 60 o’i gartrefi Trivallis ar stad Gŵyr yn Hirwaun. Mae 17 eiddo arall ar y stad sy’n eiddo i berchnogion preifat, a adeiladwyd yn yr un modd.

Dywedodd y gymdeithas tai eu bod wedi cael gwybod yn ddiweddar fod y RAAC yn un o’i chartrefi yn risg argyfyngus – gallai hyn fod y wir am 40 o gartrefi eraill o ddyluniad ac adeiladwaith tebyg.

Meddai’r Prif Weithredydd Duncan Forbes: ‘Diolch i gydweithrediad tenantiaid a roddodd fynediad i ni i’w cartrefi, gallasom gael darlun llawer cliriach o sefyllfa RAAC ym mhob eiddo. Ein cam nesaf fydd cynnal arolygon strwythurol cynhwysfawr ar draws pob un o’r 60 eiddo Trivallis. Bydd yr arolygon hyn yn ein galluogi i lunio cynlluniau pwrpasol ar gyfer pob cartref erbyn canol mis Ebrill. Gan fod pob cartref yn unigryw, gall y cynlluniau ar gyfer pob cartref amrywio o ran amseriad a’r hyn sydd angen ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phob cartref yn unigol i gytuno ar gynlluniau penodol ar eu cyfer.

‘Yn y cyfamser, rydym yn cynnull tîm o beirianwyr sydd â sgiliau arbenigol mewn adfer adeiladau sy’n cynnwys RAAC. Rydym hefyd yn dod o hyd i gartrefi amgen fel y gallwn ailgartrefu pobl yn addas pan fo gofyn i bobl symud.

‘Rydym wedi penodi rheolydd cymdogaeth i stâd Gŵyr am y misoedd rhagweladwy. Bydd hi’n ymweld â’r holl denantiaid ddwywaith yr wythnos, yn cynnig cefnogaeth ac yn ymateb i unrhyw bryderon a all godi.’

Math o goncrit ysgafn yw RAAC a ddefnyddiwyd mewn llawer o adeiladau cyhoeddus yn y 1950au a’r 1960au. Ysgogodd enghreifftiau mewn ysgolion yn Lloegr yr haf diwethaf bryder ehangach am y risgiau i ddiogelwch ac aed ati i asesu’r ystad gyhoeddus ehangach, yn cynnwys tai cymdeithasol.

Gofynnwyd i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru archwilio eu stoc am bresenoldeb RAAC ym mis Medi. Roedd y broses yn cynnwys sefydlu pryd y cynhaliwyd arolygiadau ddiwethaf a lle na fu rhai, gwneud arolygon manwl o eiddo a adeiladwyd o fewn yr amserlen RAAC berthnasol.

Caerffili yn prynu cartrefi drwy TACP

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi prynu eiddo preifat i ddarparu tai ar gyfer teuluoedd a fyddai fel arall yn cael eu hunain mewn llety dros dro.

Cafodd y cyngor gyllid trwy Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) Llywodraeth Cymru i brynu ac adnewyddu 17 o gartrefi ym mwrdeistref Caerffili. Cafodd y cyllid, sy’n rhan o ymgais Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â digartrefedd a’i atal, ei ddefnyddio hefyd gan y cyngor i foderneiddio pedwar o’i cartref o’i eiddo ei hun i’r un diben.

Meddai’r Cyng. Shayne Cook, yr aelod cabinet dros dai: ‘Yn y blynyddoedd diwethaf gwelsom gynnydd sylweddol yn y nifer sy’n dod ar ofyn y cyngor am eu bod yn ddigartref ac, yn wyneb yr argyfyngau tai a chostau byw presennol, mae’n debyg mai tyfu a wna’r nifer yma. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau presennol a llety dros-dro.‘Dwi wrth fy modd i weld y cyngor yn prynu ac yn adnewyddu 17 o gartrefi ym mwrdeistref Caerffili a fydd yn cynnig llety addas mae mawr angen amdano ar gyfer rhai sy’n dioddef digartrefedd. Darparodd y cyngor dros £1 miliwn o’i arian ei hun ynghyd â £3 miliwn o gyllid gan Llwodraeth Cymru, gan ein galluogi i brynu’r eiddo.’

Cymoedd i’r Arfordir yn penodi cadeirydd newydd…

Penododd Cymoedd i’r Arfordir Amanda Davies, cyn brif weithredydd Grŵp Pobl, yn gadeirydd newydd ei fwrdd.

Mae Amanda yn ymuno â’r gymdeithas dai o Ben-y-bont y mis yma, gan ddod â chyfoeth o brofiad gyda hi o’i gyrfa ym maes tai, gofal a gwasanaethau cymorth ochr yn ochr â swyddi ar fyrddau wrth galon adfywio ac achosion elusennol yng Nghymru. Bydd yn camu i esgidiau’r cadeirydd sy’n ymddeol, Anthony Whittaker, sy’n ffarwelio â’r gymdeithas ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Bydd Amanda yn gweithio’n glòs gyda phrif weithredydd grŵp y gymdeithas Joanne Oak a’r tîm gweithredol, gan ddarparu cyngor strategol a llygad graff wrth i’r busnes barhau â’i dwf fel un o landlordiaid tai cymdeithasol blaenllaw Cymru.

Cymoedd i’r Arfordir oedd y gymdeithas Gymreig gyntaf i’w sefydlu fel rhan o drosglwyddiad stoc  mawr, gwirfoddol yn 2003, gan fynd yn berchen mwy na 6,000 o gartrefi oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Amanda Davies: ‘Dwi’n gyffrous ynglŷn â gweithio gyda’r bwrdd, Joanne Oak, a’i thîm, i sicrhau bod Cymoedd i’r Arfordir yn sefydliad gwydn sy’n cyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau.

Dywedodd Joanne Oak: ‘Roedd angerdd Amanda dros roi cwsmeriaid wrth galon pethau yn sefyll allan mewn maes cryf iawn o ymgeiswyr am y swydd – rhywbeth a gydnabuwyd gan ein cwsmeriaid a gefnogodd ein recriwtio a rhannu eu cwestiynau a’u profiad fel rhan o’r broses gyfweld.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Amanda ac elwa ar ei phrofiad a’i gwybodaeth arbenigol.

…ac yn lansio is-gwmni atgyweirio newydd

Lansiodd Cymoedd i’r Arfordir gwmni atgyweirio a chynnal a chadw eiddo newydd gydag addewid i ddod â gwasanaethau dibynadwy, adfywiol a chyson i’w  gwsmeriaid.

Bydd Llanw yn darparu gwasanaethau eiddo i fwy na 6,000 o gartrefi ar draws bwrdeistref Pen-y-bont. Dewiswyd Llanw fel enw i gynrychioli ei ymrwymiad i ymaddasu ac ymateb i symudiad a newidiadau cyson yn anghenion ei gwsmeriaid, yn union fel y mae natur a phobl yn ymaddasu i lanw a thrai y moroedd.

Cyhoeddodd Grŵp Cymoedd i’r Arfordir gynlluniau i greu is-gwmni y mae’n unig berchen arno y llynedd fel ymateb i adborth cwsmeriaid yn galw am ddull newydd o gynyddu boddhad gyda gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw.

Dywedodd y Prif Weithredydd, Joanne Oak, fod y lansiad yn arwydd o ‘agwedd newydd tuag at atgyweirio a chynnal a chadw. Fe wrandawon ni ar gwsmeriaid pan ddywedon nhw eu bod eisiau gwell gwasanaeth gennym, a gyda’u mewnbwn gwerthfawr, dyma ni’n creu is-gwmni â ffocws llwyr ar ddarparu gwasanaethau eiddo o safon i gynnal cartrefi diogel a hapus.’

Meddai Paul Price, cyfarwyddydd rheoli Llanw: ‘Ymgysylltwyd yn helaeth â chwsmeriaid Cymoedd i’r Arfordir ac adeiladwyd Llanw o amgylch eu hadborth a’u hanghenion. Pleser yw gallu cynnig gwell gwasanaeth gydag oriau estynedig a mwy o hyblygrwydd a fydd yn ein helpu i ymateb i geisiadau yn gyflymach ac yn hwylusach. Yn ogystal â chefnogi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid, rydym yn darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddi o safon i gefnogi pobl leol a’r economi leol, ac edrychwn ymlaen at fwy o dwf wrth i’r cwmni fwrw ymlaen.’

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1) Benefit levels in the UK

House of Commons Work and Pensions Committee, Mawrth 2024

committees.parliament.uk/publications/43979/documents/217876/default/

2) Anghenion a Dymunoldeb Tai

Tyfu Tai Cymru, Chwefror 2024

www.cih.org/media/j5qc5rvs/0512-ttc-report-housing-need-and-desirability-welsh-v1.pdf

3) Homelessness, refugees and resettlement in the UK

Centre for Homelessness Impact, Ionawr 2024

https://www.homelessnessimpact.org/news/critical-links-between-resettlement-in-the-uk-and-rising-rates-of-street-homelessness

4) Dwelling on it: Housing crises in the English speaking world

Social Market Foundation, Mawrth 2024

www.smf.co.uk/publications/dwelling-on-it-housing-crises/

5) Living Rent that works: unlocking genuinely affordable homes for thriving lives

Centre for Social Justice, Mawrth 2024

www.centreforsocialjustice.org.uk/library/living-rent-that-works

6) Bringing private homes into social ownership can rewire the housing system

Sefydliad Joseph Rowntree, Mawrth 2024

www.jrf.org.uk/housing/bringing-private-homes-into-social-ownership-can-rewire-the-housing-system

7) The economic impact of building social housing

CEBR, Shelter, National Housing Federation, Chwefror 2024

www.housing.org.uk/resources/the-economic-impact-of-building-social-housing/

8) Housebuilding market study

Competition & Markets Authority. Chwefror 2024

www.gov.uk/cma-cases/housebuilding-market-study

9) Evaluation of the Housing First pilots

Department for Levelling Up, Housing and Communities, Chwefror 2024

assets.publishing.service.gov.uk/media/65a1503ce96df5000df845ba/Housing_First_Pilots_report_on_clients__12-month_outcomes.pdf

10) Prevention in health and social care: healthy places

House of Commons Health and Social Care Committee, Ionawr 2024

publications.parliament.uk/pa/cm5804/cAoSelect/cmhealth/484/report.html


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »