English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Y siwrnai o’n blaen

Matt Downie yn canmol camau tuag at ddiweddu digartrefedd yng Nghymru ac yn myfyrio ar yr heriau i ddod.

I lawer, Ionawr yw’r tymor ar gyfer myfyrio ar y flwyddyn a fu ac addunedu uchelgais ar gyfer y flwyddyn i ddod. I rai sy’n gweithio gyda digartrefedd yng Nghymru, yn cynnwys cynrychiolwyr y Bwrdd Cynghori ar Ddiweddu Digartrefedd (ENHAB), yn sicr mae llawer i fyfyrio arno a chynllunio ar ei gyfer y Calan hwn.

Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i frathu, gwelsom fwy o bobl yn cael eu gwthio i ddigartrefedd llynedd – cynnydd o 7 y cant. Tu ôl i’r ystadegyn hwn mae miloedd o bobl sy’n cael trafferth ymdopi – p’run ai’n cysgu ar soffa, yn aros mewn llety dros-dro am gyfnodau maith neu hyd yn oed yn cysgu ar y strydoedd. Ddylai neb orfod byw fel hyn.

Mae gweithwyr rheng-flaen ledled y wlad yn wynebu pwysau sylweddol a straen emosiynol wrth i’r galw am gymorth gynyddu ac adnoddau’n brin.

Ac yn yr oes economaidd anodd hon, ymddengys bydd y Grant Cymorth Tai (GCT) y dibynna cymaint o wasanaethau atal digartrefedd arni yn aros yn ei hunfan eto yng nghanol chwyddiant a chostau cynyddol. Doedd cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru – yr ‘anoddaf ers datganoli’ – fis Rhagfyr ddim yn bodloni galwadau’r sector am gynyddu’r gronfa hon wrth i wasanaethau frwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.

Ar adeg fel hon, fu’r frwydr ddyddiol erioed yn llymach. Ac eto, rhaid i ni nid yn unig barhau i frwydro yn erbyn problemau cyfredol, ond ar yr un pryd edrych at gynlluniau ar gyfer y dyfodol i roi terfyn ar yr argyfwng tai. Dwi’n ddiolchgar i aelodau’r bwrdd am edrych tua’r dyfodol yn y cyfnod anodd hwn.

Ar ôl mynd yn gadeirydd y bwrdd fis Mehefin 2022, y llynedd oedd fy nhymor llawn cyntaf yn gweithio gyda chynrychiolwyr gwych o amgylch y bwrdd. Dwi mor ddiolchgar i’r bwrdd am ddod â mewnwelediad ac arbenigedd o bob rhan o’r sector, cynghorau lleol, sefydliadau trydydd-sector, cymdeithasau tai, y sector rhentu preifat, Llywodraeth Cymru, y GIG, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr heddlu , gwasanaethau cymdeithasol ac eraill. Unir pawb sydd ar y bwrdd gan nod gyffredin: cynghori’r gweinidog ar gyflawni’r nodau yng nghynllun 2021 i ddiweddu digartrefedd yng Nghymru a sicrhau ei fod yn brin, yn fyrhoedlog a ddim yn digwydd eto.

Yn ogystal â’r rheini o gwmpas y bwrdd, rhaid diolch i’r rhai sy’n mynychu’r grwpiau gorchwyl a gorffen sy’n gysylltiedig â’r bwrdd – grwpiau sy’n ymroddedig i ddod o hyd i atebion ymarferol i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Y FLWYDDYN A AETH HEIBIO

Rhaid cydnabod i’r i’r flwyddyn ddiwethaf fod yn un hynod o anodd, a mwy na 12,500 o deuluoedd yn profi trawma digartrefedd yng Nghymru a gwasanaethau’n straffaglu gyda’r niferoedd cynyddol hyn wrth iddynt gael eu gwthio hyd at derfynau eu cyllidebau. Ac wrth i restrau tai cynghorau lleol barhau i dyfu, wynebai Cymru heriau lu wrth adeiladu cartrefi newydd.

Ond er iddi fod yn anodd iawn, rhaid peidio â cholli golwg ar y camau sylweddol ymlaen y llynedd. Dwi’n ymfalcho yn y sector am barhau i edrych tua’r dyfodol ac adeiladu ar y sylfeini i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Yn wir, ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd, cyhoeddwyd papur gwyn wedi’i lywio gan waith y Panel Adolygu Arbenigol ac ymgynghori helaeth â phobl â phrofiad personol o ddigartrefedd yng Nghymru, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol rheng-flaen. Mae’r cynigion hyn ar gyfer newid cyfreithiol yn gyfle pwysig i symud rhwystrau presennol a dangos ffordd newydd o weithio sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, yn ataliol ac yn canolbwyntio ar ddiweddu digartrefedd.

Gwelwyd gwaith caled grŵp gorchwyl a gorffen y bwrdd ar sefydlu fframwaith canlyniadau hefyd yn dwyn ffrwyth gyda Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fersiwn derfynol. Pan ddaw i rym, bydd o gymorth mawr wrth fesur cynnydd yn erbyn dangosyddion allweddol.

Gosododd grŵp gorchwyl a gorffen gweithlu’r bwrdd sylfeini gwych hefyd, gan edrych ar sut y gallwn gefnogi gweithwyr rheng-flaen yn well a chydnabod eu gwaith. Rydyn ni’n ffodus yn y sector i fod â chymaint o weithwyr ymroddedig sydd yn gwir ddymuno gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ond gwyddom y gall gweithio ar y rheng flaen fod yn emosiynol a gadael ei ôl – yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol.

Fel llawer, mae’r bwrdd wedi bod yn galw am gynnydd yng nghyfraddau’r Lwfans Tai Lleol. Amlygodd ystadegau gan Zoopla a Crisis mai gan Gymru, o blith gwledydd Prydain, y mae’r lleiaf o eiddo ar gael sydd â rhent o fewn cyfraddau budd-dal tai – dim ond 2 y cant. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i lawer, yn ogystal â rhoi mwy o straen ar dai cymdeithasol a llety dros-dro ledled y wlad. Gwych felly oedd clywed yn Natganiad hydref Llywodraeth y DU fod y LTLl i’w gynyddu eleni. Bydd yn bwysig sicrhau bod yr ymrwymiad hwnnw’n para yn y tymor hwy.

​Y FLWYDDYN O’N BLAENAU

Wrth i ni gamu i mewn i 2024, mae’r bwrdd yn ymwybodol iawn o’r llu o rwystrau cymhleth mae’r sector yn dal i’w hwynebu, yn enwedig y storm ariannol sy’n dod. Wrth gwrs, mae’r rhain yn amserau anodd i’r holl wasanaethau, ond bydd y Bwrdd yn lleisio’r pryderon gwirioneddol rydym yn eu clywed am allu gwasanaethau â’u cyllidebau dan straen i gefnogi’r nifer cynyddol o bobl sy’n wynebu digartrefedd – gan alw am gynnydd i gyllidebau lle bynnag y bo modd. Mae’r amserau anodd hyn hefyd yn ei gwneud hi’n anos esgor ar newid. Ond, hyd yn oed yn yr hinsawdd yma, rhaid inni ddal ati gydag egni a phendantrwydd, a bwrw ymlaen â’r cynlluniau os am sicrhau dyfodol heb ddigartrefedd.

Fel y nodir yn adroddiad diweddaraf y bwrdd, rhaid i ni symud ymlaen ar fyrder â’r agenda ailgartrefu cyflym a sicrhau ein bod yn adeiladu digon o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy i ddiwallu anghenion pobl sy’n dioddef digartrefedd. Mae hwn yn ddull cydnabyddedig yn rhyngwladol lle caiff pobl ddigartrefedd eu symud i mewn i dai diogel a sefydlog cyn gynted â phosib. Ni ddisgwylir i neb arddangos ‘parodrwydd am dai’; yn hytrach, ymdrinir ag unrhyw anghenion am gymorth ochr yn ochr â darparu tai prif-ffrwd. Er bod Cymru fel gwlad wedi ymrwymo i’r dull hwn, mae terfynau amser ar gyfer mapio’r newid hwn mewn Cynlluniau Trosiannol Ailgartrefu Cyflym lleol wedi llithro’n ôl o dan y pwysau presennol.

Os yw ailgartrefu cyflym yn mynd i ddigwydd, mae angen i ni edrych ar sut y caiff awdurdodau lleol eu cefnogi i adeiladu’r cynlluniau hollbwysig hyn. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yn ofalus sut mae ymdrechion i gyflenwi mwy o dai yn cysylltu â data ar anghenion pobl ddigartrefedd. A bydd angen cefnogaeth a dealltwriaeth glir awdurdodau lleol – ni all newid mor sylweddol god yn gyfrifoldeb opsiynau tai yn unig. Wrth gwrs, does dim o hyn yn hawdd ac mae rhai awdurdodau ymhellach ar hyd y ffordd nag eraill. Wrth inni symud i mewn i 2024, mae’r bwrdd yn awyddus i ystyried sut y gellir cefnogi’r daith hon tuag at ailgartrefu cyflym yn well.

Y llynedd, adroddodd grŵp gorchwyl a gorffen gweithlu’r bwrdd ar natur hynod emosiynol gwaith dyddiol ar y rheng flaen. Pwysleisiodd y grŵp bod angen sicrhau bod ein gweithlu’n cael ei gefnogi a’i werthfawrogi’n well, gan gynnwys edrych ar sut y gall cymwysterau arbenigol newydd ddod â chydnabyddiaeth. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld hynt y grŵp gorchwyl a gorffen hwn eleni wrth iddo ymchwilio ymhellach i waith ymchwil ac ymgynghori, ac argymell yn glir sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi lles emosiynol o fewn y sector a rhoi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i’r rhai sy’n gweithio’n galed ar ein rheng flaen.

​Bydd yn gyffrous cael gweld sut y datblyga grwpiau gorchwyl a gorffen diweddaraf y bwrdd ar iechyd ac ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysedd yn y flwyddyn nesaf. Gwyddom, mewn llawer achos, bod cysylltiad cryf rhwng iechyd a digartrefedd gan y gall problemau iechyd meddwl a/neu gorfforol fod yn achos ac yn ganlyniad i ddigartrefedd. Gorchwyl cychwynnol y grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fydd ystyried lle mae angen mwy o waith i atal digartrefedd ymhlith lleiafrifoedd ethnig.

Eleni, rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at weld sut y bydd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn datblygu wrth iddo symud drwy’r broses graffu seneddol. Mae’r papur yn nodi cyfeiriad pwysig ar gyfer cymorth digartrefedd.

Mae llawer o waith i’w wneud, eleni ac yn y blynyddoedd nesaf, i fynd i’r afael â’r heriau cymhleth yr ydym yn eu hwynebu ledled Cymru yn yr ymgais i roi diwedd ar ddigartrefedd. Nid mater bach fydd goresgyn yr heriau hyn mewn cyfnod o bwysau cynyddol, ond mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i wneud ar gyfer y dyfodol.

Mae gan y bwrdd, y grwpiau gorchwyl a gorffen cysylltiedig, a’r sector ehangach yr angerdd a’r penderfyniad i gefnogi’r rhai sy’n wynebu’r sefyllfaoedd mwyaf anodd i adeiladu bywyd y tu hwnt i ddigartrefedd. Efallai bod taith hir o’n blaenau, ond mae’n un hynod werth-chweil. Gyda’n gilydd, gallwn roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Matt Downie yw prif weithredydd Crisis a bu’n gadeirydd y Bwrdd Cynghori ar Ddileu Digartrefedd ers mis Mehefin 2022. Am ragor o wybodaeth am feysydd ffocws gwaith y bwrdd, edrychwch ar yr adroddiad blynyddol


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »