English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Dadrewi’r LTLl am y tro

Cyhoeddodd y Canghellor Jeremy Hunt ei fod yn atal y rhewi a fu ers pedair blynedd ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol yn Natganiad yr Hydref.

Golyga’r penderfyniad y bydd LTLl yn cael ei adfer i’r 30ain canradd o renti lleol o fis Ebrill, gyda chyfraddau dangosol ar gyfer bras ardaloedd marchnad rhentu ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i’w cyhoeddi ym mis Ionawr.

Fodd bynnag, datgelodd print mân Datganiad yr Hydref fod bwriad i rewi cyfraddau eto wedi’i gynnwys mewn cynlluniau gwariant o 2025 ymlaen.

LTLl yw’r ffurf ar fudd-dal tai a delir i rentwyr preifat ond rhewyd cyfraddau ers 2020/21 a dim ond mewn dwy o’r deng mlynedd diwethaf yr oeddent gyfwerth â’r rhenti lleol rhataf. Ôl-ddyledion rhent cynyddol a throi allan yw un o brif achosion digartrefedd.

Seiliwyd y cyfraddau dangosol ar gyfer 2024/25 ar renti ym mis Medi 2023, sy’n golygu y byddant eisoes wedi dyddio erbyn mis Ebrill.

Yn y cyfamser, ni wêl miloedd o aelwydydd rhentu preifat unrhyw gynnydd yn eu LTLl gan ei fod cyfuwch â’r capiau ar fudd-daliadau a gadwyd ar lefelau 2023/24.

LLOEGR

Dyddiadau newydd i ddileu peryglon

Lansiodd yr ysgrifennydd tai Michael Gove ymgynghoriad ar ofynion cyfreithiol newydd ar i landlordiaid cymdeithasol ddileu peryglon yn cynnwys lleithder a llwydni ar fyrder.

Bwriad y cynlluniau i dynhau’r rheolau yn achos landlordiaid sy’n methu darparu cartrefi diogel yw cadw addewid y llywodraeth i gyflwyno Cyfraith Awaab yn sgil marwolaeth Awaab Ishak ddwy flwydd oed, o gyflwr anadlol a achoswyd gan ddod i gysylltiad â llwydni yn fflat cymdeithas tai ei deulu yn Rochdale.

Mae’r ymgynghoriad yn gosod gofynion cyfreithiol newydd ar landlordiaid cymdeithasol i ymchwilio i beryglon o fewn 14 diwrnod, dechrau eu trwsio o fewn 7 diwrnod arall, a gwneud atgyweiriadau brys o fewn 24 awr. Ceir mynd â landlordiaid sy’n methu i’r llys lle gellid gorchymyn iddynt dalu iawndal i denantiaid.

Disgwylir i landlordiaid gadw cofnodion clir a mwy tryloyw i denantiaid – gan ddangos y gwnaed pob ymdrech i ufuddhau i’r amserlenni newydd, fel na allant bellach wamalu ac oedi cyn trwsio cartrefi pobl.

Meddai Michael Gove: ‘Mae heddiw’n golygu camau cryfach a mwy cadarn yn erbyn landlordiaid cymdeithasol a wrthododd gymryd eu cyfrifoldebau sylfaenol o ddifrif ers yn llawer rhy hir. Byddwn yn eu gorfodi i drwsio’u cartrefi o fewn terfynau amser newydd llym a gweithredu ar unwaith i ddileu lleithder a llwydni peryglus gan helpu i atal trasiedïau yn y dyfodol.’

Defnydd GaB yn codi i’r entrychion

Cynyddodd nifer y teuluoedd digartref mewn llety dros-dro yn Lloegr i 105,750, gan guro’r lefel uchaf erioed o ganol y 2000au, yn ffigurau swyddogol y llywodraeth.

Mae’r cynnydd o 10.5 y cant yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mehefin yn golygu bod 68,070 o deuluoedd gyda 138,930 o blant bellach mewn llety dros-dro.

Roedd 14,090 o deuluoedd digartref mewn llety GaB yn yr ail chwarter, 37.6 y cant yn fwy na llynedd.

Dyna’r cyfanswm uchaf mewn ystadegau sy’n mynd yn ôl i 1998, sydd hefyd yn awr yn uwch nag yn sgil chwalfa’r farchnad dai ddechrau’r 1990au.

O fewn y cyfanswm hwnnw, roedd 4,480 o deuluoedd â phlant, cynnydd o 93 y cant ers y llynedd.

Ac o fewn y cyfanswm hwnnw, roedd 2,510 o deuluoedd â phlant wedi bod mewn llety GaB am fwy na’r terfyn cyfreithiol o chwe wythnos, cynnydd o 39 y cant o dri mis yn ôl, a 146 y cant ers y llynedd.

YR ALBAN

Torri’r gyllideb tai o chwarter

Torrodd Llywodraeth yr Alban ei Rhaglen Cyflenwi Tai Fforddiadwy o 26 y cant yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25 a dileu’r gronfa ansicrwydd tanwydd ar gyfer tenantiaid cymdeithasol.

Dywedodd y Gweinidog Tai Paul McLennan: ‘Mae’r Alban yn wynebu’r setliad cyllideb mwyaf heriol ers datganoli oherwydd chwyddiant uchel parhaus a Datganiad Hydref gan Lywodraeth y DU a fethodd fuddsoddi’r hyn sydd ei angen yng ngwasanaethau cyhoeddus yr Alban.

‘Ni ddiogelodd Llywodraeth y DU ei chyllideb cyfalaf rhag chwyddiant, a arweiniodd at doriad mewn termau real o 9.8 y cant yn ein cyllid cyfalaf rhwng 2023/24 a 2027/28.

‘Byddwn yn dwyn ymlaen i 2024 adolygiad o’n targed o ddarparu 110,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2032 gyda ffocws ar yr amserlen gyflawni.’

Dywedodd Sally Thomas, prif weithredydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban: ‘Er y bu toriad o 10 y cant mewn cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU, nid yw hyn yn esbonio nac yn cyfiawnhau’r toriad llym o 26 y cant i dai fforddiadwy yn yr Alban.

Dywedodd cyfarwyddwr CIH yr Alban, Callum Chomczuk: ‘Gydag adeiladu tai newydd i lawr yn aruthrol o’i gymharu â 12 mis yn ôl, costau adeiladu’n codi a thri awdurdod lleol yn datgan argyfyngau tai eleni, heddiw oedd y foment i fynd i’r afael â’r argyfwng. Yn gynharach eleni rhybuddiodd Rheoleiddydd Tai yr Alban am fethiant systemig yn ein gwasanaethau digartrefedd. Ond nid yw cyhoeddiad heddiw yn trafod y risg a’r pwysau a wynebir gan wasanaethau tai a digartrefedd awdurdodau lleol. Mae’r toriad yn y gyllideb mwy o gartrefi o tua £200 miliwn o’i gymharu â 23-24 yn ddinistriol i’n rhaglen gyflenwi tai cymdeithasol a’n cynlluniau i roi diwedd ar ddigartrefedd.’​

GOGLEDD IWERDDON

Y sefyllfa yn Stormont yn atal ôl-ffitio

Rhybuddiodd cymdeithasau tai fod Gogledd Iwerddon yn ‘sefyll yn ei hunfan’ ar ddatgarboneiddio tai cymdeithasol oherwydd y sefyllfa ddiddatrys yn Stormont.

Rhybuddiodd Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon fod y dalaith mewn perygl o ddisgyn hyd yn oed ymhellach y tu ôl i weddill y DU oherwydd na fu ganddi lywodraeth weithredol ers bron i ddwy flynedd.

Dywedodd Seamus Leheny, prif weithredwr y Ffederasiwn: ‘Tra’n bod ni i gyd yn aros am adfer Llywodraeth Gogledd Iwerddon a model cyllido gwasanaethau cyhoeddus newydd posibl, yn absenoldeb proses benderfynu weithredol a gwleidyddol, byddwn ar ei hôl hi am genedlaethau o ran datgarboneiddio ein stoc tai.

‘Rydym yn ymwybodol bod pwysau ariannol ar bob adran o’r llywodraeth, ac y bydd llawer o adrannau’n dadlau eu hachos, ond mae’r sector tai cymdeithasol yn glir y dylid blaenoriaethu rhaglen ôl-ffitio.’

LLYWODRAETH CYMRU

Cyllideb ddrafft yn chwalu gobeithion cymorth tai

Chwalwyd gobeithion am fwy o gyllid cymorth tai yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024/25 a oedd, meddai’r gweinidog cyllid, Rebecca Evans, yn gadael hyd yn oed y GIG a chynghorau lleol yn wynebu blwyddyn anodd.

Dywedodd y wynebai gweinidogion Cymru y ‘dewisiadau cyllideb mwyaf llym a phoenus i Gymru yn oes datganoli’ wrth iddyn nhw ddatblygu’r Gyllideb Ddrafft. O achos chwyddiant cyson uchel, meddai, roedd y gyllideb gyffredinol yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021 a dydy’r setliad, a ddaw yn bennaf gan lywodraeth y DU mewn grant, ddim yn ddigon i ymateb i’r pwysau eithafol ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl.

Yn y gyllideb newid yn yr hinsawdd, cadwyd y Grant Cymorth Tai (GCT) yn £166.8 miliwn mewn arian ar gyfer 2024/25, sy’n gyfystyr â thoriad mewn termau real ar ôl caniatáu ar gyfer chwyddiant.

Yn y cyfamser, gostyngwyd cynnydd o £5 miliwn yn y gyllideb atal digartrefedd a gynigiwyd yng nghyllideb ddangosol 2024/25 i £2 filiwn yn y Gyllideb ddrafft.

Cynhaliwyd buddsoddiad cyfalaf gyda phenderfyniadau’n cynnwys:

  • £365 miliwn yn 2024/25 ar gyfer adeiladu cartrefi cymdeithasol carbon- isel newydd drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.
  • £92 miliwn i gefnogi datgarboneiddio tai cymdeithasol presennol
  • £108 miliwn ar gyfer taliadau gwaddol TSRF
  • £127 miliwn ar ddiogelwch adeiladau
  • £35 miliwn i fynd i’r afael â thlodi tanwydd
  • £4 miliwn ar gyfer y cynllun Cymorth Prynu
  • £8 miliwn i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • £38.5 miliwn ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol.

Dywedodd Rebecca Evans: ‘Fe’n hwynebwyd gan y dewisiadau cyllidebol mwyaf llym a phoenus yn oes datganoli. Rydym wedi ail-lunio cynlluniau gwariant adrannol fel y gallwn fuddsoddi mwy yn y GIG a diogelu cyllid craidd llywodraeth leol ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau eraill rydym yn dibynnu arnynt bob dydd.

‘Er nad yw llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannu i Gymru sy’n cydnabod effaith chwyddiant, rydym wedi gwneud newidiadau i’n cynlluniau gwariant ac wedi targedu buddsoddiad tuag at y gwasanaethau cyhoeddus rydym i gyd yn eu gwerthfawrogi fwyaf.

Roedd Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru wedi rhybuddio cyn y gyllideb ddrafft fod gwasanaethau digartrefedd ar fin y dibyn heb ragor o arian.

Cap o 6.7% ar gynnydd mewn rhenti

Cyhoeddodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James y byddai rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru yn codi o uchafswm o 6.7 y cant o fis Ebrill 2024.

Mae’r cynnydd yn unol â chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD) ym mis Medi 2023 yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol y llynedd ar gefnogi pobl mewn llety rhent cymdeithasol fel rhan o’r ymrwymiad ehangach i ddiweddu digartrefedd yng Nghymru.

Meddai’r gweinidog: ‘Y llynedd, penderfynais gadw’r cynnydd mewn rhenti tai cymdeithasol islaw lefel chwyddiant er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i’n tenantiaid tai cymdeithasol wrth iddyn nhw wynebu pwysau costau cynyddol bwyd, ynni a nwyddau cartref eraill.

‘Mae’n hanfodol ein bod yn para i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol difrifol, a dyna pam y penderfynais gyfyngu’r cynnydd uchaf i lefel chwyddiant.

Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru: ‘Pennu rhent yw un o’r penderfyniadau pwysicaf i gymdeithasau tai dim-am-elw, ac maen nhw’n cymryd hynny o ddifri. Mae’n benderfyniad sy’n cydbwyso’n ofalus yr hyn y gall tenantiaid ei fforddio â buddsoddi yn y cartrefi o ansawdd uchel a’r gwasanaethau craidd hanfodol. Uchafswm yw’r setliad rhent a ganiateir, nid targed. Bydd y cymdeithasau yn awr yn pennu rhenti’n lleol drwy ymgysylltu â thenantiaid a defnyddio dulliau i ddeall fforddiadwyedd.

Mewn cyferbyniad, bydd rhenti tai cymdeithasol yn Lloegr yn cynyddu o 7.7 y cant (MPD ac 1 y cant).

Lansio Cymorth i Aros – Cymru

Gallai cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru helpu cannoedd o berchnogion tai yng Nghymru sy’n cael trafferth gyda chostau morgeisi cynyddol.

Mae cynllun cymorth morgais Cymorth i Aros – Cymru yn cynnig benthyciadau ecwiti i berchnogion sydd mewn trafferth am hyd at 15 mlynedd, yn ddi-log am y pum mlynedd gyntaf.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gwnaed ymrwymiad i archwilio’r syniad o forgeisi awdurdodau lleol. Cafodd Cynllun Cymorth i Aros Cymru ei ystyried fel rhan o drafodaeth am y farchnad morgeisi a sut y gallwn ddarparu cymorth wedi’i dargedu.

Fel rhan o gytundeb cyllideb 2023-24 gyda Phlaid Cymru, mae £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gael ar gyfer cynlluniau i ddarparu cymorth ariannol hyblyg.

Mae cymorth ar gael i hyd at 450 o fenthycwyr sydd mewn trafferth. Gallai pobl ag incwm teuluol o hyd at £67,000 a chartrefi gwerth hyd at £300,000 fod yn gymwys ond telir am gyngor ariannol annibynnol i wirio a yw hyn yn iawn iddyn nhw.

Bydd Cymorth i Aros – Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chymorth a gynigir gan ddarparwyr morgeisi drwy Siarter Morgeisi’r DU ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael trafferth fforddio eu taliadau morgais.

Mae’r cynllun yn darparu opsiwn i berchnogion tai sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref trwy gynnig ad-daliad rhannol ar forgais presennol trwy fenthyciad ecwiti cost-isel, wedi’i warantu gan ail arwystl (ar ôl benthyciwr yr arwystl cyntaf), gan leihau’r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.

Gweithredir y cynllun gan Fanc Datblygu Cymru a bydd yn ddi-log am y pum mlynedd cyntaf. Ar ôl hynny, codir llog o 2 y cant yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar y benthyciad ecwiti.

Mae Achub Morgeisi, a fu’n gweithredu yng Nghymru ers 2008, yn dal ar gael fel dewis olaf gwerthfawr, ond rhaid i bobl fod yn rhan o achos adfeddiannu eisoes i fod yn gymwys. Bydd Cymorth i Aros – Cymru yn ehangu hyn i gynnwys pobl sy’n wynebu achos adfeddiannu a/neu galedi ariannol. Drwy weithredu yn awr a buddsoddi mwy, gobeithia Llywodraeth Cymru allu atal llawer o unigolion a theuluoedd rhag wynebu achosion adfeddiannu a mynd yn ddigartref, gan ychwanegu at restrau aros sydd eisoes dan straen a chostau uchel llety dros-dro  i awdurdodau lleol.

500 o gartrefi ar safle fferm

Cymeradwyodd y gweinidog newid yn yr hinsawdd Julie James werthiant safle Fferm Cosmeston Uchaf ar gyrion Penarth, gan wahodd cynigion a fydd yn gorfod bodloni safonau byw di-garbon net newydd a heriol.

Gwelir mwy na 500 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn y datblygiad preswyl yno, gyda gofyniad bod 50 y cant ohonynt yn fforddiadwy i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2026.

Sefydlwyd datblygiad y tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg a gwelir ysgol gynradd newydd, mannau agored cyhoeddus, llwybr teithio llesol a chyfleusterau cymunedol yn cael eu hadeiladu hefyd.

Mae Savills yn rheoli’r gwerthiant ar ran Llywodraeth Cymru ac yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb cam 1 erbyn Ionawr 29.

Ymgynghoriadau

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys

Treth Gyngor Decach – cam 2 – ymateb erbyn 6 Chwefror

CYMRU

Datgelu enillwyr Gwobrau Tai Cymru

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Tai Cymru y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) mewn seremoni arbennig yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ddiwedd mis Tachwedd. Yr enillwyr yw:

RHAGORIAETH MEWN GWASANAETH CWSMERIAID

ChwilioCartref Sir Fynwy – rhagoriaeth i gwsmeriaid mewn oes ddigidol – Cymdeithas Tai Sir Fynwy

RHAGORIAETH MEWN IECHYD A LLES

RHA Cymru (Hapus a BeActive RhCT) – RHA Cymru

RHAGORIAETH MEWN ARLOESI TAI

Fflatiau Pen y Dre/Hyb Cymunedol Cwmpawd – CBS Merthyr Tudful mewn partneriaeth â Cartrefi Cymoedd Merthyr

GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH

Model tai STAR – United Welsh a Chyngor Caerffili mewn partneriaeth â Platfform

CYNALIADWYEDD MEWN TAI

Prosiect Dadgarbio Thornhill – Hafod mewn partneriaeth â SERS Cyf

RHAGORIAETH WRTH HYRWYDDO CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH

Materion Cydraddoldeb  Cymdeithas Tai Newydd

CEFNOGI CYMUNEDAU

NU Life – Cymdeithas Tai Cadwyn

DARPARU CARTREFI O ANSAWDD UCHEL

Y Felin – Lovell Tirion Homes mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu Principality a Llywodraeth Cymru

TÎM TAI Y FLWYDDYN

Tîm cartrefi gwag Caerffili – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

CONTRACTWYR Â’U SYLW AR Y GYMUNED

Pentwyn Drive – Willis Construction

CREU LLEOEDD CADARNHAOL

Sied Fach RHA – RHA Cymru

CEFNOGI BYW’N ANNIBYNNOL

Byw â chymorth – Caredig

RHAGORI MEWN PROFFESIYNOLDEB

Fframwaith egwyddorion ac ymddygiad Hafod – Hafod

CYFLAWNYDD IFANC MEWN TAI

Carys Wiggins – Tai Taf

Dywedodd cyfarwyddwr CIH Cymru, Matt Dicks: ‘Mae’n wych gweld cymaint o enghreifftiau cadarnhaol o arloesi o’r sector yng Nghymru. Hoffwn rannu fy llongyfarchiadau gwresog gyda’r enillwyr, yr enwebeion a phawb a gyflwynodd gais. Roedd gan bob un o’r cynigion safon anhygoel o uchel o arloesi a chyflawni y dylem oll ymfalchïo ynddi.’

Tîm cyngor ariannol yn helpu tenant i ennill £25,000

Mae tîm cyngor arian cymdeithas tai Trivallis wedi darganfod swm anferth o £25,000 o incwm blynyddol i breswylydd lleol.

Roedd Mrs P, a oedd am fod yn ddienw, yn nesáu at oedran pensiwn gwladol. Pan siaradodd â’i rheolydd cyfrif rhenti, darganfuwyd nad oedd hi wedi derbyn y cod angenrheidiol i wneud cais am ei phensiwn. Arweiniodd hyn at atgyfeiriad at Sue Hoskins, swyddog cyngor ariannol yn Trivallis, a allodd gefnogi Mrs P i gychwyn ei chais am bensiwn.

Dywedodd Mrs P: ‘Daeth llawer o lythyron dryslyd ac roedd arna’i ofn gofyn am help. Esboniodd Sue bethau mewn ffordd glir iawn heb wneud i mi deimlo’n wirion.’

Ar ôl datrys problem y pensiwn, gwnaeth Sue wiriad budd-daliadau, a ddatgelodd bod cymorth ariannol ychwanegol ar gael i Mrs P, yn cynnwys credyd pensiwn gwladol, budd-dal tai, gostyngiad treth gyngor, a chymorth gyda’i bil dŵr, cyfanswm ysgubol o £25,537.75 am y flwyddyn.

Gan fynegi ei diolchgarwch, dywedodd Mrs P: ‘Rwy’n ddiolchgar iawn i Sue am fy helpu a gwneud gwahaniaeth i ‘mywyd i. Nid yn unig yn ariannol ond yn feddyliol, gan ‘mod yn cael trafferth gwybod ble i gael help. Waeth pa gwestiwn oedd gen i, roedd hi’n gallu helpu.’

Meddai Sue: ‘Rhaid dweud bod Mrs P yn achos prin, fedrwn ni ddim addo dod o hyd i gymaint â hynny o arian i bawb, er cymaint yr hoffem ei wneud. Ond mae pob dim yn helpu yn y sefyllfa bresennol felly, yn union fel Mrs P, baswn yn annog pawb i geisio’r cymorth sydd ar gael. Does gyda chi ddim byd i’w golli drwy wneud, ond efallai llawer i’w ennill, yn ariannol ac yn emosiynol.’

Adra’n cyrraedd y 7,000

Mae cymdeithas tai gogledd Cymru, Adra, yn dathlu’r garreg filltir o gyrraedd 7,000 o gartrefi.

Mae’r eiddo yn Nhreborth, ger Bangor, rhan o ddatblygiad pedwar-eiddo ar safle hen fodurdai, wedi ei ddylunio a’i addasu’n arbennig i gwrdd ag anghenion y tenant newydd.

Mae gan y cartref ddrysau lletach, hoistiau nenfwd, stafell wlyb â thoiled closomat, ac arwyneb gweithio hydrolig yn y gegin. Mae ganddo sgôr EPC o A, gyda phaneli solar, pwmp gwres o’r aer, ac inswleiddio a ffenestri effeithlon dros ben.

Meddai Sarah Schofield, cyfarwyddydd cwsmeriaid a chymunedau Adra: ‘Mae’r garreg filltir o 7,000 o gartrefi yn adlewyrchu nid yn unig ymroddiad Adra i gartrefi o safon ond hefyd ein rhan mewn cefnogi llesiant a sefydlogrwydd pobl a theuluoedd ar draws y rhanbarth.’

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1) Making the case for a Welsh benefits system – people’s experiences

Sefydliad Bevan, Ionawr 2024

www.bevanfoundation.org/resources/making-the-case-for-a-welsh-benefits-system-peoples-experiences/

2) Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035?

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Rhagfyr 2023

www.wcpp.org.uk/cy/cyhoeddi/sut-gallai-cymru-ddiwallu-anghenion-ynni-erbyn-2035/

3) Help onto the housing ladder: the role of intergenerational transfers

Institute for Fiscal Studies, Rhagfyr 2023

ifs.org.uk/publications/help-housing-ladder-role-intergenerational-transfers

4) The property owning democracy

Policy Exchange, Rhagfyr 2023

policyexchange.org.uk/publication/the-property-owning-democracy/

5) Hidden renters: the unseen faces of the rising older rental wave

Independent Age, Hydref 2023

www.independentage.org/hidden-renters-report

6) Rapid rehousing transition plans: assessing the affordability of the private rented sector for LHA in Scotland

CaCHE, Tachwedd 2023

housingevidence.ac.uk/publications/rapid-rehousing-transition-plans-assessing-the-affordability-of-the-private-rented-sector-for-lha-recipients-in-scotland/

7) Homes fit for Londoners: Solving London’s housing crisis

Centre for London, Rhagfyr 2023

centreforlondon.org/publication/solving-londons-housing-crisis/

8) Heat pumps and domestic heat decarbonisation in the UK: a systems thinking analysis of barriers to adoption

CaCHE, Tachwedd 2023

housingevidence.ac.uk/publications/heat-pumps-and-domestic-heat-decarbonisation-in-the-uk-a-systems-thinking-analysis-of-barriers-to-adoption/

9) The key issue: Housing for survivors of modern slavery

Commonweal Housing, Hydref 2023

www.commonwealhousing.org.uk/scattered-housing-options-leaving-survivors-of-modern-slavery-at-risk-of-homelessness-and-re-trafficking-new-research-shows

10) Raising the roof: Building a better private rented sector

Centre for Social Justice, Hydref 2023

www.centreforsocialjustice.org.uk/library/raising-the-roof


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »