English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Codi’r bar

Ar ôl ymgynghoriad maith ar draws y sector, mae fersiwn newydd o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) newydd gael ei gyhoeddi.

Safonau yn gyffredinol, a SATC 2023 yn benodol, yw thema’r rhifyn Hydref hwn. Mae’r ffocws, yn anochel, ar ddatgarboneiddio a chynhesrwydd fforddiadwy, ond mae’r oblygiadau’n ymestyn ar hyd a lled stoc tai cymdeithasol presennol Cymru.

Mae’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James yn cyflwyno ein rhifyn arbennig gydag erthygl yn amlinellu ei gobeithion ar gyfer SATC 2023 a’r meddylfryd y tu ôl iddo.

Clywn hefyd gan landlordiaid ledled Cymru am eu cynlluniau ar gyfer gwella eu stoc a sut mae SATC yn cyd-fynd â’u huchelgais ehangach ar gyfer cartrefi a chymunedau cynaliadwy. Mae eisoes yn amlwg yr atebodd yr ymgynghoriad ar y safon ddim ond rhai o’r cwestiynau sydd ganddynt, yn enwedig ynglŷn â chyllid ar gyfer y gwaith.

Yng nghyfweliad WHQ y tro hwn, holir Shayne Cook, yr aelod cabinet dros dai yng Nghaerffili, am y gwersi a ddysgwyd o’r SATC blaenorol, a sut mae’n cydbwyso buddsoddi yn ei stoc bresennol â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cartrefi fforddiadwy newydd.

Mae Duncan Forbes hefyd yn ystyried profiad y tro diwethaf, ynghyd â rhai cwestiynau allweddol am y safon newydd a’r gwersi a ddysgwyd o’r modd yr aeth Trivallis ati i ôl-ffitio.

Mae erthyglau eraill yn cynnwys Fiona Westwood ar ofynion data, Debbie Green ar systemau gwresogi ac inswleiddio, Tim Balcon ar sgiliau a hyfforddiant, a Ross Thomas ar ofynion cydraddoldeb yn y SATC newydd.

Dim ond un yw SATC mewn amrywiaeth eang o safonau sy’n effeithio ar dai. Mae Max Hampton yn edrych ar ochr arall y geiniog: y canlyniadau anfwriadol weithiau ar gyfer dylunio tai y gellir eu hachosi gan ofynion mewn meysydd eraill. Mae’n dadlau na fyddai rhai o’n lleoedd hanesyddol gorau yn bodloni’r safonau mwyaf modern.

Ym mis Hydref hefyd cyhoeddwyd ail ddogfen bolisi allweddol gan Lywodraeth Cymru: y papur gwyn ar ddigartrefedd. Cyn rhifyn arbennig y Gaeaf ar ddigartrefedd, mae WHQ yn crynhoi’r cynigion allweddol a’r ymateb hyd yn hyn tra bod Katie Dalton yn canmol cyfraniad ‘arbenigwyr trwy brofiad’ i argymhellion y Panel Adolygu Arbenigol.

Mewn rhannau eraill o’r rhifyn hwn fe welwch erthyglau ar gynhwysiant a rhan technoleg mewn tai ar gyfer pobl hŷn, y newidiadau polisi diweddaraf sy’n effeithio ar rentu preifat, a swyddogaeth sefydliadau tai mewn economïau lleol. Mae gennym hefyd y cyntaf mewn cyfres newydd o erthyglau gan weithwyr tai proffesiynol o Gymru yr aeth eu gyrfa â nhw y tu allan i Gymru.

Golyga hyn oll, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd, bod rhifyn y chwarter hwn o WHQ  hyd yn oed yn fwy prysur nag arfer.

Jules Birch

Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »