English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

CYMRU A LLOEGR

Gollwng cynllun effeithlonrwydd ynni preifat

Dileodd y Prif Weinidog Rishi Sunak gynlluniau i dynhau Safonau Effeithlonrwydd Ynni Isafswm (MEES) yn y sector rhentu preifat fel rhan o wrthgiliad o fesurau sy’n cyflawni ymrwymiad cyfreithiol y llywodraeth i gyrraedd sero net erbyn 2050.

Ymgynghorwyd ar gynlluniau dair blynedd yn ôl i orfodi landlordiaid preifat yng Nghymru a Lloegr i wella’i heiddo i o leiaf lefel C y Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) erbyn 2025 i denantiaethau newydd a 2028 i rai presennol. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd safon EPC E eisoes.

Roedd llawer yn disgwyl oedi ond yn lle hynny dileodd Sunak y mesur yn gyfan gwbl ar y sail ‘y byddai rhai perchnogion eiddo wedi cael eu gorfodi i wneud gwaith uwchraddio drud ymhen dim ond dwy flynedd’.

Roedd hyn yn rhan o naratif ehangach am San Steffan yn arosod ‘costau sylweddol ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd eisoes yn ei chael i’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd’, a felly oedi cynlluniau i wahardd ceir tanwydd ffosil a bwyleri.

Fodd bynnag, mae dileu MEES yn golygu y bydd tenantiaid yn parhau i dalu biliau ynni uwch ar gyfer y mwy na dwy filiwn o gartrefi rhent preifat sydd â graddfa is nag EPC C.

Amcangyfrifwyd arbedion ar filiau o £220 y cartref yn asesiad effaith llywodraeth y DU ei hun a gynhaliwyd cyn i brisiau ynni godi i’r entrychion ar ôl yr ymosodiad ar Wcráen.

Mae landlordiaid wedi beirniadu ‘mwy o ddryswch parthed gwir gyfeiriad ein taith’ (gweler t4) tra bod y blaid Lafur wedi dweud y bydd yn adfer y mesur os ennilla’r etholiad cyffredinol nesaf.

LLOEGR 

Cynigion y pleidiau ar dai

Gwelodd tymor cynadleddau’r pleidiau arweinydd y Torïaid, Rishi Sunak, yn dweud nemor ddim am dai, arweinydd Llafur, Keir Starmer yn cyhoeddi mai ‘ni yw’r adeiladwyr’, ac aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn trechu ymgais yr arweinyddiaeth i ostwng eu targed ar gyfer cartrefi newydd.

Yr unig gartrefi yn araith y prif weinidog oedd miloedd o fflatiau moethus a gaiff eu hadeiladu o amgylch gorsaf Euston i helpu i gyllido estyniad HS2 i ganol Llundain.

Ar gyrion y gynhadledd, addawodd yr ysgrifennydd tai Michael Gove y caiff y Bil Rhentwyr (Diwygio) sy’n gwahardd troi allan o dan Adran 21 ei ail ddarlleniad cyn yr Hydref.

Cynigiodd Keir Starmer darged newydd o 1.5 miliwn o gartrefi newydd yn Lloegr o fewn pum mlynedd, 500,000 yn fwy nag y mae llywodraeth Sunak yn debygol o’i gyflawni a nifer hynod debyg i darged maniffesto 2019 y Ceidwadwyr o 300,000 y flwyddyn erbyn canol y 2020au.

Cyhoeddodd hefyd nifer o ddiwygiadau i’r system gynllunio a’r llain werdd yn ogystal â chenhedlaeth newydd o drefi newydd i gefnogi targed a fyddai, meddai, yn helpu i adfer ‘y freuddwyd o berchentyaeth’.

Addawodd y dirprwy arweinydd, Angela Rayner ‘yr hwb mwyaf i dai fforddiadwy a chymdeithasol mewn cenhedlaeth’, ond mae hyn yn dibynnu ar wneud y Rhaglen Tai Fforddiadwy yn fwy hyblyg ac atal datblygwyr rhag ‘gwingo’n rhydd’ o’u hymrwymiadau i godi tai fforddiadwy yn hytrach na buddsoddi newydd.

Cais i ddad-flocio cartrefi yn methu

Methodd llywodraeth San Steffan â chais munud-olaf i newid rheolau ar niwtraleiddio maetholion mewn afonydd er mwyn dadflocio’r gwaith o adeiladu miloedd o gartrefi newydd.

Methodd gwelliant i’r Bil Lefelu i Fyny ac Adfywio yn ystod ei gamau olaf yn Nhŷ’r Arglwyddi pan ymunodd Llafur â’r gwrthbleidiau a Cheidwadwyr gwrthryfelgar i bleidleisio yn ei erbyn.

Cyhuddwyd y llywodraeth o anwybyddu ei chorff gwarchod amgylcheddol ei hun ac o geisio cael awdurdodau cynllunio i anwybyddu tystiolaeth o lygredd mewn afonydd. Galwodd cyn-ysgrifennydd amgylchedd Torïaidd, yr Arglwydd Deben, hwn yn ‘un o’r darnau gwaethaf o ddeddfwriaeth a welais erioed’.

Fodd bynnag, cyhuddodd y Torïaid yr arweinydd Llafur Keir Starmer o ‘fflip-fflopio o fod yn adeiladwr i fod yn flociwr’.

YR ALBAN

Bydd y Bil Tai yn nodi rheolaethau rhent

Addawodd Llywodraeth yr Alban i greu pwerau ar gyfer rheolaethau rhent tymor-hwy yn y sector breifat fel rhan o’i Fargen Newydd i Denantiaid.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu newydd a gyhoeddwyd ym mis Medi yn cynnwys Bil Tai arfaethedig a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am y pwerau, creu hawliau tenantiaid newydd a dyletswyddau newydd â’r nod o atal digartrefedd.

Cyflwynodd Holyrood gap ar renti dros-dro ac amddiffyniad pellach yn erbyn troi allan yn y rhan fwyaf o’r sector rhentu yn ystod y pandemig, sy’n para tan fis Mawrth 2024.

Addawodd yr ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol, Shirley-Anne Somerville i weithio hefyd gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid i leihau’r niferoedd mewn llety dros-dro trwy atal digartrefedd lle bynnag y bo modd a, lle na ellir atal digartrefedd, gweithredu’n fuan i symud pobl i gartrefi sefydlog.

Cyflwynir Bil Adfer Cladin hefyd ‘i helpu i ddiogelu perchnogion tai a phreswylwyr drwy greu pŵer newydd i gymryd camau brys i adfer cladin anniogel sy’n achosi perygl i fywyd’.

GOGLEDD IWERDDON

Cronfa adfer cladin yn agor

Lansiodd yr Adran Cymunedau gronfa gwerth £33 miliwn ar gyfer adfer cladin anniogel ar adeiladau preswyl.

Mae’r gronfa ar gyfer blociau preswyl sy’n fwy nag 11 metr o uchder lle nad oes modd canfod, olrhain na dal datblygwr yn gyfrifol. Fe’i defnyddir i adfer neu liniaru risgiau tân yn gysylltiedig â chladin allanol.

Agorwyd y gronfa i geisiadau fis Awst a chânt eu prosesu a’u talu drwy Gynllun Diogelwch Cladin llywodraeth San Steffan.

 

LLYWODRAETH CYMRU

Torri cyllidebau i lenwi bylchau yn y GIG a rheilffyrdd

Cyhoeddodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, becyn o fesurau ariannol i liniaru ‘pwysau eithriadol’ ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Bu’n rhaid iddi ddod o hyd i £425 miliwn ychwanegol i lenwi’r bwlch yng nghyllideb GIG Cymru, a £125 miliwn i Drafnidiaeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau rheilffordd.

Mewn datganiad i’r Senedd wrth i WHQ fynd i’r wasg ym mis Hydref dywedodd ‘y gofynnwyd i bob portffolio gweinidogol wneud cyfraniad at gwrdd â’r pwysau sy’n ein hwynebu ar draws y Llywodraeth’. Diogelir y Grant Cynnal Refeniw i lywodraeth leol i helpu i dalu am wasanaethau hanfodol.

Bydd tua £100 miliwn o’r diffyg yn dod o gronfeydd wrth gefn ond telir am y gweddill o’r toriadau i gyllidebau adrannol, ailflaenoriaethu gwariant a chais i Lywodraeth y DU newid cyfran o gyllid cyfalaf i gyllid refeniw yn y flwyddyn ariannol hon.

Cynyddir y gyllideb refeniw newid hinsawdd o £82.6 miliwn ond mae hynny o fewn cyd-destun y cynnydd mewn cyllid i’r rheilffyrdd a thorrir £37.7 miliwn o gyllid cyfalaf.

Mae crynodeb o’r prif newidiadau yn cynnwys rhyddhau £19 miliwn o gyfalaf o’r cynllun Cartrefi Gwag trwy gyfrwng diweddaru rhagolygon a gohirio gweithgarwch a chyllid, a chaiff £14.5 miliwn ei ryddhau o gyllidebau adfywio, sy’n cynnwys £13 miliwn o incwm.

Cyhoeddi SATC newydd

Cyhoeddwyd y fersiwn newydd o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ddiwedd mis Hydref.

Yn dilyn ymgynghoriad hir, mae SATC yn egluro’r safon y bydd disgwyl i landlordiaid cymdeithasol Cymru ei chyrraedd ar gyfer eu holl gartrefi.

Datgarboneiddio a chynhesrwydd fforddiadwy yw’r ffocws allweddol; caiff landlordiaid fwy o hyblygrwydd yn yr amserlen o dargedau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

Cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ym mis Hydref yn egluro sut y bwriedir rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Drwy ddiwygio’r ddeddfwriaeth, dywed Llywodraeth Cymru y bydd y perygl o ddigartrefedd yn cael ei atal cyn gynted â phosibl ac y rhennir y cyfrifoldeb am ei ganfod a’i atal ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Seilir y cynigion i raddau helaeth ar ganfyddiadau Panel Adolygu Arbenigol Annibynnol y gofynnwyd iddo adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. 

Gweinidog yn nodi blwyddyn gyntaf TACP

Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James â hen safle Gwaith Nwy Caerdydd i nodi pen-blwydd cyntaf Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) Llywodraeth Cymru.

Dim ond un safle yw Gwaith Nwy Caerdydd o nifer a elwodd ar TACP, a ddisgrifiwyd gan y gweinidog fel rhaglen i helpu ‘i sicrhau bod gan bawb le i’w alw’n gartref’.

Sefydlwyd TACP yn wreiddiol yn Haf 2022 i ddod â mwy o lety tymor-hwy o ansawdd da ymlaen ar garlam i ymateb i’r pwysau cynyddol ar lety dros-dro, gan gynnwys yr hyn a grëwyd gan argyfwng  Wcráen.

Yn ei flwyddyn gyntaf, darparodd £76.4 miliwn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gynhyrchu 936 o gartrefi.

Nod y prosiect ar safle’r gwaith nwy ar Ferry Road, Caerdydd yw codi cartrefi modiwlaidd o ansawdd uchel at ‘ddefnydd yn y cyfamser’ ar gyfer mwy na 150 o deuluoedd, â £16.4 miliwn o gyllid grant. Mae hyn cyn gwneud defnydd tymor-hwy o’r safle a ddatblygir yn y pen draw i ddarparu rhyw 600 o gartrefi parhaol. Caiff yr unedau modiwlaidd eu symud wedyn i safle arall.

Ofnau am drefn diogelwch adeiladau newydd

Cododd Archwiliad Cymru bryderon ynghylch gweithredu newidiadau i reolaeth adeiladu a diogelwch adeiladau a gyflwynwyd yn dilyn tân Tŵr Grenfell.

Croesawai’r adroddiad y newidiadau ond dywedodd nad yw’r rhai sy’n gyfrifol am eu gweithredu mewn sefyllfa dda i’w cyflawni ac na allant gyflawni eu swyddogaeth estynedig yn effeithiol i sicrhau diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Mae ansicrwydd yn parhau ynglŷn â sut y gweithredir rhai agweddau ar y drefn Diogelwch Adeiladau newydd, meddai, gyda rhai pethau allweddol heb eu penderfynu.

Codai’r adroddiad bryderon hefyd am heriau gyda staffio a hyfforddiant yn y proffesiwn rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau ac am reolaeth ariannol rheoli adeiladu o fewn rhai awdurdodau lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ‘Mae diwygio’r system bresennol o reoli adeiladu yn flaenoriaeth i ni a chroesawn adroddiad Archwilio Cymru. Rhydd yr adroddiad drosolwg o gyflwr gwasanaethau rheoli adeiladu awdurdodau lleol, ac nid adolygiad o raglen diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru mohono.

‘Rydym wedi datblygu amserlen fesul cam ar gyfer gweithredu darpariaethau’r Ddeddf Diogelwch Adeiladu sy’n berthnasol i Gymru. Cafodd hyn ei gyfleu’n eang i’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill a bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2024.’

Adran newydd yn golygu datblygiadau ar reoleiddio

Dros yr haf, cymerodd Matthew Hall swydd newydd fel dirprwy gyfarwyddwr dros-dro, Strategaeth a Rheoleiddio Tai yn Llywodraeth Cymru.

Bydd yr is-adran newydd yn datblygu’r gallu i ymdrin â data ac ymchwil ar draws y gyfarwyddiaeth yn ogystal â chefnogi datblygu strategaeth a deddfwriaeth ar draws yr holl swyddogaethau tai ac adfywio. Dylid nodi bod yr is-adran newydd hefyd yn sicrhau bod y swyddogaeth reoleiddio wedi ei gwahanu’n glir oddi wrth benderfyniadau dyfarnu grantiau a chyllido.

Ceir proffil o’r is-adran newydd yn rhifyn nesaf WHQ gan gynnwys rhai datblygiadau pwysig o gwmpas rheoleiddio yn ogystal â rhagolwg ar dirwedd strategaeth a deddfwriaeth y misoedd nesaf.

Ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ:

Strategaeth wres i Gymru – ymatebion erbyn 8 Tachwedd

Papur gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru – ymatebion erbyn 16 Ionawr 2024

 

CYMRU

Caerffili yn cymeradwyo cynllun tai fforddiadwy

Cymeradwyodd cabinet Caerffili gynlluniau uchelgeisiol i godi 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon-isel newydd yn y deng mlynedd nesaf i ateb anghenion lleol cynyddol.

Mae’r cynlluniau’n rhan o’r strategaeth datblygu a llywodraethiant ‘Adeiladu Gyda’n Gilydd’ a fydd hefyd yn sefydlu bwrdd prosiect i oruchwylio datblygiad y rhaglen ddatblygu.

Cymeradwywyd cynlluniau hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lofnodi a chytuno i ufuddhau i’r egwyddorion allweddol a amlinellir yn Siarter Creu Lleoedd Comisiwn Dylunio Cymru.

Meddai’r Cyng Shayne Cook, aelod cabinet dros dai: ‘Yn gyfredol mae mwy na 6,300 o deuluoedd sydd ag angen tŷ ar Gofrestr Tai Gyffredin Caerffili, yn cynnwys 320 mewn llety dros-dro. Mae mwyfwy o angen am dai yn genedlaethol ac mae hyn yn debygol o gynyddu, wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar fwy o aelwydydd.’

Datgelu cynlluniau ar gyfer pentref eco

Mae Cartrefi Conwy wedi rhoi cipolwg i’r gymuned ar ei bentref eco arfaethedig o 130 o gartrefi carbon-isel ar safle ger Ffordd Tywyn ym Mhensarn, ger Abergele.

Mae caniatâd cynllunio ar gyfer tai gan hen safle Inter Leisure eisoes, wedi ei sicrhau gan y perchnogion blaenorol.

Cynhaliodd Cartrefi ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf ac mae’n rhagweld gwneud cais am ganiatâd i ddiwygio’r caniatâd presennol yn yr hydref.

Os caiff ei gymeradwyo gan gynllunwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, hwn fydd cynllun tai mwyaf erioed Cartrefi Conwy, yn costio cyfanswm o fwy na £30 miliwn.

Bydd yr eiddo’n cael ei adeiladu i ddyluniad modiwlaidd gyda’r fframiau pren a’r distiau post – gwe fetel wedi’i osod rhwng dwy fflans bren y gellir bwydo ceblau a phibellau drwyddi – a gynhyrchir gan is-gwmni Cartrefi, Creu Menter, yn ei ffatri yn y Rhyl.

Mae’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o gartrefi fforddiadwy un-, dwy-, tair- a phedair-llofft a bydd yn helpu i leihau’r prinder tai difrifol yn yr ardal.

Adeiledir pob un o’r 128 eiddo i safonau Passivhaus, gyda dyluniad ynni effeithlon fel eu bod yn

cynnal tymheredd cyson bron am gost isel iawn.

Bydd gan bob cartref baneli solar ar y to a bydd gan yr eiddo bwyntiau gwefru ceir trydan y tu allan fel rhan o ymgyrch Cartrefi tuag at sero net.

Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd profiad gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith ar gael i denantiaid Cartrefi a phobl leol sy’n ddi-waith ar hyn o bryd.

Yn ôl Katie Clubb, rheolydd-gyfarwyddydd Cartrefi Conwy, tanlinellir yr angen am y datblygiad gan y ffaith bod 1,942 ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yng Nghonwy.

Meddai: ‘Bydd hwn yn gynllun tirnod i Cartrefi Conwy, ein datblygiad tai mwyaf erioed gyda 100 y cant yn gartrefi fforddiadwy, sy’n anhygoel o gyffrous.

‘Fe’i gwnaed yn bosibl diolch i’r cymorth ariannol a gawsom gan Lywodraeth Cymru i gaffael y tir.’

Cadeirydd newydd Cynefin

Cadarnhaodd Grŵp Cynefin mai Tim Jones fydd cadeirydd newydd ei fwrdd rheoli.

Dilynodd Carys Edwards, a gwblhaodd ei thymor tair-blynedd fel cadeirydd ym mis Medi.

Yn Gymro Cymraeg, sy’n byw yn Llanbedr DC, Rhuthun, mae ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel cadeirydd bwrdd rheoli is-gwmni Grŵp Cynefin, Canllaw.

 

Penodi cadeirydd a bwrdd newydd ClwydAlyn

Mae ClwydAlyn wedi cadarnhau penodiad Cris McGuinness fel cadeirydd newydd y Bwrdd ac wedi croesawu pedwar aelod newydd arall.

Roedd Cris McGuiness yn brif swyddog ariannol cymdeithas tai flaenllaw Riverside yn Lloegr a daw â blynyddoedd lawer o brofiad tai lefel-uwch gyda hi. Yn Gyfrifydd Siartredig a hyfforddwyd gan KPMG, bu’n gweithio i’r Guinness Partnership, North Herefordshire Homes ac Adactus Housing Group yn flaenorol.

Ymgymerodd â’r swydd ym mis Medi, gan gymryd yr awenau oddi wrth Stephen Porter a fu yn y swydd am saith mlynedd ac ar y bwrdd am wyth.

Croesawodd ClwydAlyn Sally Thomas, Bethan Smith, Tania Silva a Brian Streford i’r Bwrdd hefyd. Bydd pob un yn ymuno â phwyllgorau arbenigol ar bobl, sicrwydd ac eiddo.

Pen-blwydd gwasanaeth Tai yn Gyntaf cyntaf Cymru

Mae’n gwasanaeth Tai yn Gyntaf cyntaf newydd ddathlu ei ddengmlwyddiant ar Ynys Môn.

Lansiodd y Wallich wasanaeth Tai yn Gyntaf Ynys Môn ym mis Ebrill 2013 fel cynllun peilot 12-mis yn unig ond mae bellach wedi gweithio gyda 330 o bobl ar yr ynys dros y degawd.

Fis Gorffennaf, gwahoddwyd defnyddwyr y gwasanaeth, partneriaid a staff – ddoe a heddiw – i ddathliad anffurfiol.

Yn Park Mount yn Llangefni, dros bryd da o fwyd, gofod awyr-agored heulog a chrefftau dan-do, daeth pawb ynghyd i gydnabod y berthynas a ffurfiwyd, y cartrefi a grëwyd a’r bywydau a wellwyd gan Tai yn Gyntaf Ynys Môn.

Meddai Jo Parry, rheolwr gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn y Wallich: ‘Bu’n bleser croesawu wynebau cyfarwydd o drod y blynyddoedd heddiw. Cerddodd un o’n cleientiaid cyntaf oll, Alan, drwy’r drws a fedrwn i’m coelio’r peth. Mae’n dal yn y llety yr helpon ni o i symud iddo ac yn gneud yn dda iawn.”

Dywedodd Dan Roebuck, ar ran tîm tai Cyngor Sir Ynys Môn: ‘Llongyfarchiadau ar 10 mlynedd ac ar weithio trwy gyfnod anodd a darparu gwasanaeth gwych, gan edrych ymlaen at flynyddoedd lawer mwy o ganlyniadau cadarnhaol.’

Dros y blynyddoedd, cafodd Tai yn Gyntaf Ynys Môn ei ganmol gan weinidogion Llywodraeth Cymru ac aelodau o’r Senedd, ei gefnogi gan y gymuned leol, a chefnogwyr corfforaethol fel Dunelm ac ASDA, ac ymddangosodd mewn cyfryngau fel y North Wales Chronicle a BBC Radio 4.

Cymoedd i’r Arfordir yn dathlu 20fed pen-blwydd â’r buddsoddiad mwyaf

Cyhoeddodd Cymoedd i’r Arfordir fuddsoddiad o £31.5 miliwn yn ei 6,000 o gartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Wrth ddathlu ei 20fed pen-blwydd, bydd y gymdeithas dai yn gwneud ei buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn ei chartrefi gyda’r nod o wella a gloywi ei stoc tai ar gyfer ei chwsmeriaid.

Bydd y buddsoddiad yn darparu cyllid ar gyfer datblygu ac adeiladu cartrefi newydd i gynyddu argaeledd tai fforddiadwy a chynaliadwy ym Mhen-y-bont.

Bydd hefyd yn talu am uwchraddio sylweddol a gwelliannau i eiddo presennol, i sicrhau ei fod yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni.

Ochr yn ochr â hyn bydd rhaglen ôl-ffitio gynhwysfawr hefyd, i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol, a chaiff addasiadau pwrpasol eu gwneud i sicrhau bod tai yn hygyrch ac yn gyfforddus i bawb. Caiff unedau eiddo gwag hefyd eu hailwampio a’u hadfywio.

Cymoedd i’r Arfordir oedd y trosglwyddiad gwirfoddol mawr cyntaf o dai o ofal awdurdod lleol yng Nghymru yn 2003.

Dywedodd Joanne Oak, prif weithredwr y grŵp: ‘Rydym wrth ein bodd i ddathlu ein 20fed drwy fuddsoddi mewn gwella ein cartrefi i’r bobl sy’n byw ynddyn nhw.’

Dechrau uwchraddio system wresogi ardal

Mae Cartrefi Dinas Casnewydd wedi penodi’r cwmni arobryn, Vital Energi, yn brif gontractwr i redeg y rhaglen adnewyddu i uwchraddio’r pibellau sy’n cysylltu system wresogi ardal â mwy na 1,000 o gartrefi yn y Dyffryn.

Profodd y system gyfres o ollyngiadau yn gynnar yn 2023, gan darfu’n sylweddol ar wresogi a chyflenwadau dŵr poeth. Mae’r gymdeithas bellach wedi cyhoeddi rhaglen sylweddol o waith gosod pibellau newydd i wella perfformiad ar gyfer y gymuned leol.

 

10 CYHOEDDIAD SY’N DAL Y SYLW

1) Yr Hawl i Gael Tai Digonol

Senedd Cymru Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Gorffennaf 2023

www.senedd.cymru/media/ybkejqcf/cr-ld15943-w.pdf

2) ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

Archwilio Cymru, Awst 2023

www.audit.wales/cy/publication/craciau-yn-y-sylfeini-diogelwch-adeiladau-yng-nghymru

3) Tlodi yn Arfon yn yr 21ain ganrif: Datrysiadau cyfoes ar gyfer hen her

Sefydliad Bevan, Awst 2023

https://www.bevanfoundation.org/resources/tlodi-yn-arfon/

4) Addasu i newid hinsawdd: Cynnydd yng Nghymru

Pwyllgor Newid Hinsawdd, Medi 2023

www.theccc.org.uk/wp-content/uploads/2023/08/Addasu-i-newid-hinsawdd-Cynnydd-yng-Nghymru.pdf

 5) The missing piece: the case for a public sector master developer

Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2023

www.jrf.org.uk/report/missing-piece-case-public-sector-master-developer

6) Make history: ending homelessness with homes – unlocking the potential of England’s empty buildings

Crisis, Medi 2023

www.crisis.org.uk/media/02en2gwp/crisis-make-history-ending-homelessness-with-homes.pdf

7) Why have the volume housebuilders been so profitable?

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Medi 2023

housingevidence.ac.uk/publications/why-have-the-volume-housebuilders-been-so-profitable/

8) More than money: moving towards a relational approach to retrofitting

Institute for Public Policy Research, Medi 2023

www.ippr.org/research/publications/more-than-money

9) The community right to buy – how housing acquisitions can regenerate left behind communities, improve standards, and decarbonise homes

New Economics Foundation, Medi 2023

neweconomics.org/2023/09/the-community-right-to-buy

10) Enabling locally led retrofit – reforms to scale up effective delivery

E3G, Gorffennaf 2023

www.e3g.org/publications/enabling-locally-led-retrofit/

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »