Y gweinidog newid hinsawdd Julie James yn amlinellu’r cynllun i godi safonau tai cymdeithasol yng Nghymru.
Ar droad y ganrif, cyflwynwyd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â landlordiaid cymdeithasol, ein partneriaid cyflawni, wedi buddsoddi biliynau o bunnau ar wella a chynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol ledled Cymru yn sylweddol.
Ni wyrodd ein hymrwymiad i wella ansawdd y stoc tai cymdeithasol ac rwy’n ymfalchïo yn y ffaith bod holl dai cymdeithasol Cymru bellach yn cyrraedd y safon a bod landlordiaid cymdeithasol yn parhau i gynnal y safon honno heddiw.
Mae SATC, sy’n rychwantu chwe gweinyddiaeth, yn dangos sut y gall llywodraethau edrych ymhell i’r dyfodol: buddsoddi mewn polisïau a rhaglenni hirdymor, gyda modelau cyllido hirdymor, gan alluogi landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi’n hyderus yn y tymor hir mewn asedau a chymunedau.
Canlyniad hynny fu gyrru safon tai cymdeithasol yng Nghymru i fyny.
Daeth y pandemig â newid cyflym ac annisgwyl, gan newid yn sylfaenol sut mae pobl yn byw, a’r hyn y maent yn ei deimlo am gartref ac yn ei ddisgwyl ganddo.
Daeth cwestiynau o gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb fel mynediad i fand eang, diogelwch adeiladau a gallu byw’n ddiogel a sefydlog mewn cartrefi i’r amlwg; mae ddigon posib bod ein gwerthfawrogiad o’n cartrefi yn uwch nag y bu ers amser maith iawn.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymru hefyd wedi arwain y ffordd gan ddatgan argyfwng hinsawdd, a chyda hynny ffocws o’r newydd ar ddatgarboneiddio tai – uwchraddio tai cymdeithasol yn effeithiol ac yn effeithlon i ostwng allyriadau carbon, a biliau ynni i denantiaid.
Mae’r her ôl-ffitio’r stoc tai presennol yn enfawr. Mae gan bob tŷ hanes gwahanol; felly, ein cenhadaeth yw lleihau allyriadau carbon, gartref fesul cartref, a stryd fesul stryd.
Bydd yr hyn a ddysgwn wrth uwchraddio’r 230,000 o gartrefi cymdeithasol hefyd yn llywio’r ffordd yr awn ati fel cenedl i wneud yr 1.2 miliwn o gartrefi mewn perchenogaeth breifat yn ddi-garbon.
Yn 2021, lansiais safon fwriadol feiddgar ar gyfer cartrefi rhent cymdeithasol newydd, sy’n llwyr ddileu’r defnydd o danwydd ffosil i gynhyrchu gwres a dŵr poeth.
Mae’n dilyn dull ‘Ffabrig yn Gyntaf’ o fynd ati, gan bennu safon leiafswm ar gyfer perfformiad thermol, ynghyd ag asesiad o berygl gordwymo – a fydd, wrth i’r blaned gynhesu, a’r tywydd yn mynd yn fwy eithafol, yn hanfodol.
Mae’n bwysig sicrhau bod ein cartrefi cymdeithasol cyfredol, lle bo modd,â’r un ansawdd, effaith amgylcheddol a chynhesrwydd fforddiadwy â thai newydd.
Mae ein safon newydd ar gyfer tai cymdeithasol cyfredol yn gofyn am Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) A – Gweithdrefn Ynni Safonol (SAP) 92 neu fwy yn y dyfodol. I wireddu’r uchelgais hon, rhaid mynd ati fesul cam.
Cam cyntaf y daith yn y safon newydd yw i landlordiaid cymdeithasol gynnal Asesiadau Stoc Cyfan i gael dealltwriaeth o lefel y gwaith ag angen ei gwblhau.
Y cam nesaf fydd cynhyrchu cynllun i bob cartref gyrraedd EPC A, a elwir yn Llwybr Ynni wedi’i Dargedu. Mae hyn yn unol â’r Rhaglen Ôl-ffitio Wedi’i Optimeiddio.
Mae hon yn safon hirdymor ac y mae ond yn iawn pennu pwyntiau gwirio ar hyd y ffordd. Mae’n ofynnol o dan y safon newydd i bob landlord cymdeithasol gyrraedd EPC C – SAP 75 erbyn 2029.
‘Mae’n bwysig sicrhau bod ein cartrefi cymdeithasol cyfredol, lle bo modd,â’r un ansawdd, effaith amgylcheddol a chynhesrwydd fforddiadwy â thai newydd.’
O dan y safon newydd hon, bydd EPC C – SAP 75 yn sicrhau y caiff pob tenant cymdeithasol gynhesrwydd fforddiadwy, nid dim ond deiliaid cartref cymdeithasol newydd-ei-adeiladu.
Mae’n bleser gennyf hefyd gynnwys elfen lloriau newydd yn y safon, a fydd yn gwella profiad y tenant wrth newid tenantiaeth.
O dan y safon newydd, pan fydd tenantiaeth yn newid, dylai pob stafell gyfanheddol, grisiau a landin yn y cartref fod â gorchuddion llawr addas.
Mantais ychwanegol hyn yw lleihau gwastraff diangen cael gwared o loriau cwbl addas pan ddaw tenantiaeth i ben, sef yr arfer cyfredol fel rheol.
Gyda phroblem lleithder a llwydni, mae’r safon yn darparu eglurder ychwanegol ar sail ar yr hyn a ddysgwyd o achos trasig Awaab Ishak yn Rochdale.
Mae’r safon yn ei gwneud hi’n glir i landlordiaid cymdeithasol ei bod hi’n ofynnol i gartrefi fod yn rhydd o leithder, yn cynnwys anwedd cyson.
Mae 13 o elfennau o fewn y safon newydd hon sydd naill ai’n newydd neu’n ddiwygiedig a bydd angen i landlordiaid ddechrau’r broses o gydymffurfio â’r elfennau hyn o 1 Ebrill 2024.
Mae gennym agwedd bragmatig gyda’r newidiadau hyn, gyda nifer o elfennau yn cael eu gwireddu wrth newid tenantiaeth.
Bydd hyn yn sicrhau proses o gyflwyno elfennau fesul cam dros gyfnod maith, i helpu landlordiaid cymdeithasol gyda chost y rhaglen.
Datblygwyd y safon newydd hon mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid ac ar draws adrannau.
Mae’n cynnwys elfennau sy’n gyson â’n hegwyddor o economi gylchol, teithio llesol, bio-amrywiaeth a defnydd effeithlon o ddŵr i gyfrannu at y targedau newid hinsawdd yn ein cynlluniau Sero Net Cymru.
Dwi’n hyderus mai dyma’r safon iawn a’r amser iawn i gyflwyno’r safon hon, ond ni fydd heb ei heriau.
Dwi hefyd yn cydnabod y bydd yr uchelgeisiau yn y safon newydd yn mynnu swm sylweddol o arian i’w cyflawni.
Bydd yr hinsawdd ariannol bresennol yn gwneud cyrraedd y targedau yn y safon yn ymrwymiad hirdymor.
Fel llywodraeth byddwn yn parhau i gydweithio â’r sector, yn yr un ffordd ag yr aethom ati i ddatblygu’r safon. Un peth allweddol fydd dod o hyd i atebion cyllido hirdymor addas mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol.
Byddai’n hawdd cael eich llethu gan gymaint o her yw uwchraddio tai cymdeithasol.
Rydym wedi gwneud hyn o’r blaen, a gyda’n gilydd gallwn wneud hynny eto.
Mae angen i ni fod yn bragmatig ac ymateb i’r her – mae tenantiaid Cymru yn dibynnu arnom.
Julie James yw’r gweinidog dros newid hinsawdd