English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Argyfwng yng nghefn gwlad

Mae’r rhifyn hwn o WHQ yn garreg filltir bwysig i’r cylchgrawn. Rwy’n falch o gyflwyno ein rhifyn cwbl ddwyieithog cyntaf, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg mewn fformat PDF ac ar-lein. Dim ond oherwydd y gefnogaeth hael a gawn gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â’n tanysgrifwyr, noddwyr a hysbysebwyr y bu hyn yn bosibl.

Gyda hynny mewn cof, thema’r rhifyn hwn yw cymunedau cefn gwlad ac mae gennym gyfres o erthyglau yn myfyrio ar yr argyfwng tai mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol ac mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Ar lefel genedlaethol, clywn gan y gweinidog newid hinsawdd Julie James am hynt hyd yma y mesurau i fynd i’r afael â phroblemau a achosir gan dai haf, llety gwyliau a chartrefi gwag. Ar lefel leol, mae gennym gyfweliadau gyda dau aelod cabinet dros dai, Michelle Bateman a Craig ab Iago, am raddfa’r problemau tai sy’n codi yn sir Benfro ac yng Ngwynedd a’u hymateb hwythau i hynny.

Ar y Gymraeg, mae gennym erthygl gan Walis George, aelod o Gymdeithas yr Iaith, ar ei hymgyrch dros weithredu ar ail gartrefi a thai haf a thros newidiadau tymor-hwy i’r system dai. Mae Laura Truelove yn sgrifennu ar arfer gorau ym maes cyfathrebu dwyieithog.

Mae swyddogion galluogi tai gwledig yn chwarae rhan allweddol gydag anghenion tai cefn gwlad. David James a Mari Wynn Tudur sy’n sôn am eu gwaith yn Sir Fynwy a’r gogledd orllewin.

Mae Barcud Cyf bellach yn gweithio yng Ngheredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Gâr yn sgil uno Tai Ceredigion a Chymdeithas Tai’r Canolbarth yn 2020. Clywn gan y prif weithredydd Steve Jones am bwysigrwydd ymgynghori â’r gymuned, deiliadaeth gymysg a pholisïau dyrannu lleol.

Yn olaf, mae digartrefedd mewn ardaloedd gwledig yn cynnig heriau penodol. Mae gennym erthyglau gan Carin Tunåker ar themâu allweddol a ddarganfu ymchwil newydd yn Lloegr a chan Alex Osmond ar fabwysiadu Tai yn Gyntaf yn y Gymru wledig a lled-wledig.

Manylir ar y papur gwyrdd ar ddigonolrwydd a fforddiadwyedd tai mewn rhan arall o’r rhifyn yma, gyda barn tenantiaid, landlordiaid ac ymgyrch Cefnogi’r Bil. Ceir erthyglau hefyd gan Jonathan Clode ar ail-fframio’r ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol, Nick Taylor-Williams ar baratoi ar gyfer SATC2023 a Rhea Stevens a Katie Dalton ar y Grant Cymorth Tai.

Gobeithio bod y rhifyn cwbl ddwyieithog cyntaf hwn o WHQ yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb sy’n ymddiddori mewn tai yng Nghymru. Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth nawr ac yn y dyfodol.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »