Datblygiadau polisi yn rhannau eraill y DU
Y DU
Benththycwyr yn cytuno ar siarter morgeisi
Cytunodd y Canghellor Jeremy Hunt ar fesurau i gefnogi pobl mewn trafferth â‘u taliadau morgais yn sgil cyfarfod gyda benthycwyr morgeisi a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Yng nghanol pryder cynyddol am y farchnad dai, cytunodd benthycwyr yn cynrychioli 75 y cant o’r farchnad ar siarter morgeisi newydd i gynorthwyo cwsmeriaid. Ymhlith y mesurau allweddol, rhai ohonynt, ar fin cael eu cyflwyno beth bynnag, mae:
- Gall benthycwyr sy’n poeni am eu had-daliadau morgais ffonio eu benthyciwr am wybodaeth a chymorth, heb unrhyw effaith ar eu sgôr credyd
- Ni orfodir cwsmeriaid i gael eu cartrefi wedi’u hadfeddiannu o fewn 12 mis i’r taliad cyntaf a fethwyd
- Caiff cwsmeriaid sy’n nesáu at ddiwedd cytundeb cyfradd sefydlog gyfle i gloi bargen hyd at chwe mis o flaen llaw. Gallant hefyd wneud cais am fargen well hyd at ddechrau eu tymor newydd, os oes un ar gael
- Cytundeb newydd rhwng benthycwyr, yr FCA a’r llywodraeth yn caniatáu i gwsmeriaid newid i forgais llog-yn-unig am chwe mis, neu ymestyn cyfnod eu morgais i leihau eu taliadau misol, a newid yn ôl i’w cyfnod gwreiddiol o fewn y chwe mis cyntaf, os dewisant. Gellir cymryd y ddau opsiwn heb wiriad fforddiadwyedd newydd nac effeithio ar eu sgôr credyd
- Cefnogaeth i gwsmeriaid sydd wedi cadw i fyny â’u taliadau i newid i forgais newydd ar ddiwedd eu cytundeb cyfradd-sefydlog cyfredol heb orfod cael gwiriad fforddiadwyedd arall
Dywedodd y canghellor: ‘Dylai’r mesurau hyn gynnig cysur i’r rhai sy’n bryderus ynglŷn â chyfraddau llog uchel a chefnogaeth i’r rhai sy’n mynd i drafferthion.’
LLOEGR
Addo diwygiad i rentwyr preifat
Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan gynlluniau yr honnid y byddent o fudd i 11 miliwn o denantiaid ledled Lloegr mewn ‘diwygiad unwaith mewn cenhedlaeth’ i gyfreithiau tai.
Mae’r Bil (Diwygio) Rhentwyr a gyflwynwyd i’r senedd ym mis Mai yn gweithredu ymrwymiad maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019 i atal troi allan heb fai o dan Adran 21 ond yn cydbwyso hynny â mesurau i’w gwneud yn haws i landlordiaid adennill meddiant o dan amgylchiadau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys gwerthu’r eiddo, symud aelod o’r teulu i mewn a thenantiaid yn atal eu rhent yn fwriadol. Cwtogir cyfnodau rhybudd hefyd lle bu tenantiaid yn ‘anghyfrifol’, er enghraifft, drwy dorri’r cytundeb tenantiaeth neu achosi difrod i’r eiddo.
Bydd ombwdsmon newydd yn datrys anghydfod yn gyflymach ac yn rhatach, tra bydd Porth Eiddo digidol newydd yn galluogi landlordiaid i ddeall eu rhwymedigaethau ac yn helpu tenantiaid i benderfynu’n well wrth arwyddo cytundeb tenantiaeth newydd.
Cyflwynir deddfwriaeth hefyd fel rhan o’r Bil i gymhwyso’r Safon Tai Teilwng i’r sector rhentu preifat am y tro cyntaf a’i gwneud hi’n anghyfreithlon i landlordiaid ac asiantiaid i fod â gwaharddiadau cyffredinol ar denantiaid sydd yn derbyn budd-daliadau neu sydd â phlant.
YR ALBAN
Oedi’r cap rhenti a throi allan i barhau am chwe mis arall terfynol
Bydd amddiffyniadau i landlordiaid preifat yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Mawrth 2024 o dan gynlluniau Llywodraeth yr Alban.
Byddai cynnig y gweinidog hawliau tenantiaid Patrick Harvie yn golygu y byddai’r cap rhent a’r amddiffyniad rhag troi allan yn dal mewn grym am chwe mis terfynol pe bai Senedd yr Alban yn ei gymeradwyo.
Byddai mesurau’r Deddf Costau Byw (Amddiffyn Tenantiaid) yn cynnwys:
- Mwyafrif y codiadau rhent preifat yn ystod tenantiaeth yn parhau i gael eu cyfyngu i 3 y cant
- Fel arall, gall landlordiaid preifat wneud cais am gynnydd o hyd at 6 y cant i helpu i dalu am gynnydd mewn costau o fewn cyfnod penodol lle gellir tystio i’r costau hyn
- Parhau i oedi gorfodi troi allan am chwe mis i’r rhan fwyaf o denantiaid, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol
- Bydd iawndal uwch am droi tenant allan yn anghyfreithlon o hyd at 36 mis o rent yn parhau mewn grym
Caiff tenantiaid cymdeithasol eu hamddiffyn gan y cytundeb gwirfoddol gyda landlordiaid cymdeithasol ar godiadau rhent is-na-chwyddiant ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Meddai’r gweinidog: “Dim ond tan 31 Mawrth 2024 y gallai’r cap rhent a’r amddiffyniadau yn erbyn troi allan bara pe bai’r Senedd yn eu cymeradwyo. Caiff rheidrwydd y mesurau hyn ei adolygu beunydd a pharhawn i asesu a oes cyfiawnhad drostynt, ac a ydynt yn gytbwys ac yn gymesur ar sail y pwysau ariannol y mae teuluoedd sy’n rhentu a landlordiaid yn eu hwynebu.
‘Rydym hefyd yn edrych ar sut i symud allan o’r mesurau brys, ac yn parhau i wrando ar randdeiliaid a gweithio’n galed gyda nhw i ddatblygu a chyflwyno diwygiadau i’r sector rhentu.’
GOGLEDD IWERDDON
NIFHA yn galw am fwy o wario
Mae cymdeithasau tai wedi herio ysgrifennydd Gogledd Iwerddon i gydnabod pwysigrwydd darparu tai cymdeithasol drwy gynyddu cyllideb yr Adran Gymunedau i gefnogi codi tai cymdeithasol newydd a rhaglenni Cefnogi Pobl.
Daeth galwad Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon (NIFHA), sy’n cynrychioli’r 20 cymdeithas sy’n rheoli mwy na 57,000 o gartrefi Gogledd Iwerddon, cyn ei gynhadledd flynyddol ym Mehefin. Yn 2022/23 rhagorodd cymdeithasau tai ar eu targedau ar gyfer cwblhau tai a chychwyn ar rai newydd, ond mae pryder bellach y gallai toriadau yn y gyllideb effeithio ar y targedau ar gyfer eleni.
Mewn llythyr at Chris Heaton-Harris AS, nododd prif weithredwr NIFHA, Seamus Leheny, yr angen am fuddsoddiad pellach mewn tai i fynd i’r afael â rhestrau aros cynyddol. Er mwyn darparu’r 2,200 o gartrefi newydd sydd eu hangen bob blwyddyn, dywedir y bydd angen buddsoddiad ariannol ychwanegol sylweddol gan yr Adran Gymunedau, gyda chymdeithasau tai yn codi swm cyfatebol drwy gyllid preifat.
Mae’r sector tai hefyd yn galw am gymorth ychwanegol ar gyfer cyllideb Cefnogi Pobl, rhaglen sy’n cefnogi mwy na 19,000 o bobl i fyw’n annibynnol.
LLYWODRAETH CYMRU
Cyhoeddi papur gwyrdd ar dai digonol a fforddiadwy
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei phapur gwyrdd hirddisgwyliedig ar yr hawl i dai digonol a rhenti teg.
Mae’r ymgynghoriad yn cefnogi’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru i ‘gyhoeddi papur gwyn i gynnwys cynigion ar yr hawl i dai digonol gyda’r nod o sefydlu (a) system o renti teg (rheoli rhenti) yn y farchnad rhentu preifat, fel eu bod yn fforddiadwy i bobl leol ar incymau lleol a (b) ffyrdd newydd o fynd ati i wneud cartrefi’n fforddiadwy i’r rhai ar incymau lleol’.
Mae’r Cais am dystiolaeth ar sicrhau llwybr tuag at dai digonol – gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd yn gofyn i gyfranogwyr am dystiolaeth ar sut y gellir deall marchnad rentu Cymru yn well, yn enwedig ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad landlordiaid wrth bennu rhenti a gosod i denantiaid, a beth, ym marn tenantiaid, yw eiddo fforddiadwy a digonol.
Am ragor ynglŷn â’r papur gwyrdd, gydag ymateb gan Ymgyrch Cefnogi’r Bil, ACORN Caerdydd, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, gweler tt15-18.
Cynnig ardaloedd ‘o arwyddocâd’ ar gyfer y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu casgliadau cychwynnol gan grŵp o arbenigwyr ar ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Cyhoeddodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, ei gasgliadau rhagarweiniol ym mis Mehefin.
Bu’r gweinidog dros addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, yn trafod y casgliadau gyda chadeirydd y comisiwn, Dr Simon Brooks, ac yn clywed barn pobl ifanc mewn sesiwn holi ac ateb yn Eisteddfod yr Urdd. Roedd hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau yn holi cymunedau Cymraeg am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae’r adroddiad yn cynnig dynodi rhannau o Gymru lle gallai fod angen ymyrryd i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol fel ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’. Byddai hyn yn golygu y gellid amrywio polisi cyhoeddus i gydnabod anghenion gwahanol rannau o Gymru.
Meddai Jeremy Miles: ‘Mae’n hanfodol bod gennym gymunedau’n gryf a ddiogelir fel y gall yr iaith ffynnu. Mae’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu yn y blynyddoedd diwethaf, fel y gwelsom yng nghanlyniadau’r cyfrifiad y llynedd, ac mae papur y Comisiwn yn adlewyrchu hyn.
Meddai Dr Simon Brooks: ‘Ein casgliad rhagarweiniol yw bod angen cymorth pellach i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, yn enwedig mewn meysydd fel tai, cynllunio, datblygu cymunedol, yn ogystal ag addysg. Gellid cyflawni hyn drwy ganiatáu i bolisïau sy’n effeithio ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru. Er mwyn gwneud hyn, cred y Comisiwn y dylid dynodi “ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch”, ac mae ein papur safbwynt yn trafod sut y gellir cyflawni hyn.’
Naw datblygwr yn arwyddo cytundeb diogelwch tân
Mae naw cwmni y disgwylid iddynt ymrwymo i gytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru oll wedi gwneud hynny bellach meddai’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James, ym mis Gorffennaf.
Mae tri chwmni wedi ymuno â’r chwech a oedd eisoes wedi arwyddo’r cytundeb cyfreithiol i ymdrin â phroblemau diogelwch tân mewn adeiladau a ddatblygwyd ganddynt yn y 30 mlynedd diwethaf.
Ychwanegodd bod Persimmon bellach ar safle Century Wharf ac Aurora, Bellway ar safle Prospect Place ac bod cladin ACM wedi’i dynnu o fflatiau Quayside. Mae McCarthy Stone bellach wedi adfer mesurau diogelwch tân mewn adeiladau a ddatblygwyd ganddynt yng Nghymru, a Redrow wedi darparu cyllid ar gyfer gwaith diogelwch tân mewnol.
Datgelodd ei diweddariad ar ddiogelwch adeiladau hefyd fod un eiddo bellach wedi’i brynu drwy’r cynllun cymorth i brydleswyr a bod pump arall yn y broses o brynu eiddo. Mae’r cynllun yn galluogi prydleswyr i symud ymlaen neu rentu’r eiddo yn ôl.
Cadarnhaodd fod swyddogion hefyd yn gweithio ar garlam ar Fesur Diogelwch Adeiladau i Gymru, a gyflwynir yn ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd.
Fodd bynnag, dywedodd Mark Thomas o ymgyrch Cladiators Cymru, fod ymateb y Llywodraeth yn ‘wan’ a bod datganiad y gweinidog yn ‘llawn o optimistiaeth gamarweiniol’.
Aeth yn ei flaen: ‘O ystyried profiad y 30 mlynedd diwethaf, ffantasi yw dibynnu ar ewyllys da datblygwyr. Gwyddom y gallwn ddisgwyl oedi, gohirio ac osgoi talu fel y gwelwyd yn eang yn Lloegr. Bydd Cladiators Cymru yn parhau i lobïo am ddeddfau cryf ac effeithiol ynghyd â threfn orfodi effeithiol. Wedi chwe blynedd hir o frwydro dros gyfiawnder, mae ffordd bell o’n blaenau o hyd.’
YMGYNGHORIADAU
Mae ymgynghoriadau agored sydd o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:
- Sicrhau llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd – ymatebion erbyn 15 Medi
- Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd – ymatebion erbyn 18 Medi
CYMRU
Adra’n sicrhau benthyciad ar gyfer projectau uchelgeisiol
Sicrhaodd Adra fenthyciad ynghlwm â chynaliadwyedd gwerth £25 miliwn gan ei bartner bancio NatWest a fuddsoddir mewn adeiladu cartrefi newydd a gwella effeithlonrwydd ynni ei stoc bresennol.
Mae’r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £63 miliwn cymdeithas tai Gogledd Cymru mewn eiddo dros y 12 mis nesaf a bydd yn cynorthwyo gyda’r ymrwymiad i greu 750 o gartrefi newydd erbyn 2025.
Meddai Rhys Parry, cyfarwyddwr adnoddau Adra: ‘Rydym am chwarae rhan mewn datrys yr argyfwng tai drwy gwrdd â’r galw am fwy o dai – creu a darparu cartrefi gwyrdd, diogel a fforddiadwy o safon uchel y gall pobl ymfalchïo ynddyn nhw.
‘Rydym yn sicrhau bod y buddsoddiad o fudd i gymunedau ledled y gogledd drwy gyflogi contractwyr lleol a defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol i ddarparu deunyddiau lle y bo modd.’
Dywedodd Martin Skinner, cyfarwyddwr cyllid tai NatWest: ‘Rydym yn gweithio’n glòs gyda chymdeithasau tai i’w helpu i ddiffinio eu strategaethau cynaliadwyedd ac mae ein tîm arbenigol yn y sector yma wedi cefnogi nifer ohonynt gyda strwythuro eu fframweithiau llywodraethiant cymdeithasol amgylcheddol (ESG). Buom hefyd yn sbardun i’r Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol, sy’n darparu fframwaith gwirfoddol y gall darparwyr tai drwyddo adrodd ar eu perfformiad ESG yn gyson ac yn dryloyw.’
Cynllun y Barri yn dathlu gwobr blatinwm
Mae tenantiaid cynllun tai yn y Barri ar gyfer pobl 55 oed a hŷn yn dathlu newidiadau mawr i ddyluniad eu cartrefi sy’n cefnogi pobl a gollodd eu golwg.
Llys Arthur Davis yw pedwerydd cynllun byw’n annibynnol Cymdeithas Tai Newydd i dderbyn Gwobr Blatinwm Visibly Better RNIB Cymru am yr ailgynllunio, sy’n galluogi pobl hŷn a gollodd eu golwg i fyw’n annibynnol yn hwy.
Mae’r newidiadau syml ond effeithiol yn cynnwys waliau, gosodiadau a ffitiadau mewn lliwiau cyferbyniol, waliau a lloriau ag arwynebau cyffyrddol, arwyddion lefel-llygad, a chliwiau synhwyraidd i helpu pobl ddall neu wan eu golwg i lywio llwybr drwy’r gofodau cymunedol. Bellach mae gan y rheini oleuadau a reolir gan synwyryddion symudiad, ac arlliwiau ar y ffenestri i atal disgleirdeb, a all effeithio ar bobl wan eu golwg.
Mae canllawiau cyferbyniol eu lliw, llwybrau cerdded a oleuir yn dda, a gwahanol arwynebau i’r llwybrau a’r ffyrdd yn sicrhau y gall tenantiaid fwynhau bod yn yr ardd heb boeni am fynediad a diogelwch.
Tenantiaid wedi eu hyfforddi a wnaeth archwiliadau cychwynnol y cynllun yn ogystal ag asesu’n feirniadol y gwaith gan y contractwyr M Delacey & Sons, gyda chymorth gan RNIB Cymru. Trwy’r holl broses sicrhawyd bod y gwaith yn cyrraedd y safon ac yn addas ar gyfer eu cyd-denantiaid.
Datblygodd Cath Kinson, tenant Newydd sydd wedi bod yn rhan o brosiect Visibly Better ers dros 10 mlynedd, glawcoma a philennau yn ystod y cyfnodau clo. Ers hynny, meddai, mae’n deall yn well sut y gall newidiadau i ofodau byw helpu pobl gyda cholli eu golwg.
Meddai: ‘Gall fod yn frawychus mynd i rywle newydd a chithau wedi colli peth o’ch golwg, gan na wyddoch a yw grisiau’n mynd i fod yn beryglus, neu pa rwystrau fydd yn eich ffordd. Ond am ‘mod i’n rhan o Visibly Better, wnes i ddim mynd i banig pan gollais fy ngolwg. Fe wyddwn y byddai’r sgiliau rown i wedi’u dysgu a’r newidiadau rown i wedi helpu i’w creu yn fy helpu. A nawr fedra’i ddim peidio galw sylw at ddyluniad anhygyrch ble bynnag yr âf.’
Cynllun achredu gan RNIB Cymru yw Visibly Better ar gyfer cymunedau byw’n annibynnol a chartrefi gofal pobl hŷn. Cefnogir staff i gynyddu annibyniaeth, symudedd ac ansawdd bywyd preswylwyr trwy newidiadau syml i’w gofod byw.
Meddai David Watkins, cydlynydd Visibly Better RNIB Cymru: ‘Roeddem wrth ein bodd i weithio gyda Newydd eto. Mae’n wych gweld eu hymrwymiad parhaus i gefnogi preswylwyr dall a rhannol ddall. Ni ddylai colli golwg arwain at golli annibyniaeth, a bydd y newidiadau i Lys Arthur Davis mor ddefnyddiol i denantiaid cyfredol a rhai’r dyfodol.”
Cymdeithas ac elusen yn uno i ymgodymu â’r argyfwng costau byw
Ymunodd Trivallis ac elusen Plant y Cymoedd o RhCT mewn partneriaeth dwy-flynedd a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau sy’n dioddef fwyaf o’r argyfwng costau byw.
Ffurfiwyd y bartneriaeth yn dilyn chwilio cystadleuol lle dewisodd tenantiaid a staff Trivallis gyda’i gilydd Plant y Cymoedd fel eu partner-elusen.
Am y ddwy flynedd nesaf, bydd Trivallis yn gweithio ar y cyd â Phlant y Cymoedd i godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi’r gwaith a wna’r elusen i wella ansawdd bywyd pobl ledled y cymoedd.
Bydd y bartneriaeth hefyd yn gweld y ddau sefydliad yn cydweithio ar brojectau cymunedol o fudd i unigolion a theuluoedd mewn angen.
Meddai Tracey Cooke, uwch-reolwr partneriaethau Trivallis: ‘Mae un o bob deg o drigolion RhCT yn byw yn un o gartrefi Trivallis a gwyddom bod llawer o’n cymunedau’n wynebu caledi cyn yr argyfwng costau byw. Dyna pam mae hi mor bwysig i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu’r gefnogaeth iawn i’n cymunedau, a pham roedd barn Plant y Cymoedd ein bod ni i gyd yn “blant y cymoedd” mor boblogaidd gyda’n staff a’n tenantiaid.
‘Rydym eisoes yn gwneud llawer o waith yn unigol i gefnogi â gofodau a gweithgareddau cymunedol, cyngor ar arbed arian a llesiant, ond trwy gydweithio gallwn fynd hyd yn oed ymhellach. Gwnaiff hyn wahaniaeth enfawr i’n tenantiaid, yn y cymoedd a Bae Caerdydd.’
Dywedodd Elise Stewart, prif weithredwr Plant y Cymoedd: ‘Rydym wrth ein bodd i fod wedi cael ein dewis fel partner elusen Trivallis am y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn adeiladu ar berthynas faith ac yn dod ar adeg dyngedfennol wrth i effeithiau’r argyfwng costau byw ddwysáu gyda’r galw am ein cefnogaeth yn dal i dyfu.”
Drwy gydol y pandemig COVID-19 a thu hwnt, daeth rhan Plant y Cymoedd fel achubiaeth i’r gymuned i’r amlwg. Cludodd 2,456 o hamperi bwyd i deuluoedd a 1,176 o becynnau gofal oedolion i bobl mewn angen. Darparodd 8,711 o becynnau llesiant ychwanegol hefyd ac ateb mwy na 14,700 o alwadau ffôn llesiant.
Cafodd cynllun tai gwarchodol yn Springfield, Pontllanfraith ei drawsnewid diolch i £3.2 miliwn o fuddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cafodd hen lofftydd-byw yn Ynyswen (yn y llun) eu hailfodelu i ddarparu fflatiau un- a dwy-lofft disglair, mawr. Adnewyddwyd pob cartref yn helaeth gyda cheginau newydd, stafelloedd gwlyb a systemau gwresogi ac mae’r rhan fwyaf yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn. Gosodwyd system chwistrellu yn yr adeilad hefyd er mwyn diogelwch y trigolion.
Mae ffenestri a rendrad newydd wedi gwella golwg yr adeilad yn ogystal â’i wneud yn fwy ynni-effeithlon. Gosodwyd paneli solar hefyd wedi ar do Ynyswen.
Cafodd gofodau cymunedol dan-do ac awyr-agored eu trawsnewid, a gall preswylwyr fwynhau lolfa olau a llefydd eistedd heulog i gymdeithasu neu wneud gweithgareddau. Gyda gwell hygyrchedd, mae’r adeilad bellach yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA).
Cwblhawyd pob agwedd ar y gwaith yn Ynyswen gan dîm mewnol y cyngor, a nhw wnaeth hyd yn oed gynhyrchu’r fframiau ffenestri UPVC newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, aelod cabinet y cyngor dros dai, ‘Gwelsom nad oedd dyluniad gwreiddiol y cynllun yn addas i’r diben bellach. Roedd graddfa’r gwaith yn Ynyswen yn sylweddol, ond fe wnaeth ein tîm mewnol ymateb i’r her a chyflawni’r gwaith i safon eithriadol o uchel.’
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
1) State of the private rented sector in Wales
National and Residential Landlords Association, Mehefin 2023
www.nrla.org.uk/campaigns/wales – state-of-the-prs
2) The Cost of Ignoring Poor Housing
BRE, Gorffennaf 2023
files.bregroup.com/corporate/BRE_the_Cost_of_ignoring_Poor_Housing_Report_Web.pdf
3) Housing Quality and Affordability for Lower Income Households
Institute for Fiscal Studies, Mehefin 2023
ifs.org.uk/publications/housing-quality-and-affordability-lower-income-households
4) Shaping Housing Futures – Changing the Housing Story
CaCHE, Mehefin 2023
cityfutures.ada.unsw.edu.au/documents/539/shaping_futures_final_report_WEB.pdf
5) Delivering for Tenants – the foundations of an effective local authority housing service
London Housing Directors Group, Mehefin 2023
6) Home is the Foundation: perspectives on prevention from people with experience of homelessness
Crisis, Mehefin 2023
www.crisis.org.uk/media/249096/crisis_home-is-the-foundation-report.pdf
7) The Economic and Social Benefits of Housing Support
CaCHE, Mai 2023
housingevidence.ac.uk/wp-content/uploads/2023/05/Economic-benefits-of-housing-v6.pdf
8) Investing in the Future – reforming the UK’s welfare system
Grand Union Housing Group, Ebrill 2023
www.guhg.co.uk/investing-in-the-future-reforming-the-uks-welfare-system/
9) Real Homes, Real Change – meeting the net zero challenge in the north
Northern Housing Consortium, Mehefin 2023
www.northern-consortium.org.uk/real-homes-real-change/
10) Supported housing for people with learning difficulties and autistic people in England
Housing LIN, Gorffennaf 2023