Julie James yn amlinellu camau gan Lywodraeth Cymru i helpu cymunedau cefn gwlad a Chymraeg eu hiaith yr effeithir arnynt gan dai haf, llety gwyliau, a chartrefi gwag.
Mae Cymru’n wlad hardd a chroesawgar, sy’n falch o’i threftadaeth, ei diwylliant a’i hiaith.
Mae gennym draddodiad maith o letygarwch ac rydym yn falch i groesawu ymwelwyr a phawb sy’n dewis dod i fyw yma.Mae yma gymaint i’w fwynhau – o’n traethau arobryn a harddwch syfrdanol ein tirweddau i fwrlwm canol ein trefi a’n dinasoedd bywiog, a’r iaith a’r diwylliant Gymraeg unigryw.
Fodd bynnag, fel pob rhan arall o’r DU, rydym hefyd yn wynebu sawl her.
Un o’r rhain, wrth i brisiau tai godi ar garlam ac i renti gynyddu, yw sicrhau bod pobl yn gallu fforddio byw yn y cymunedau y magwyd nhw ynddynt – yn y llefydd maen nhw’n falch o’u galw’n gartref.
Mae llawer o gymunedau ledled Cymru yn gweld niferoedd anghymesur o fawr o dai haf, llety gwyliau tymor-byr, a chartrefi sy’n wag am gyfnodau maith.
Mae hyn yn creu problem wirioneddol gyda chynnal gwasanaethau nes bod perygl o greu cymunedau sy’n ‘cau’ am y gaeaf.
Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ond pan geir gormod o lety gwyliau a thai haf mewn un gymuned, yna ceir eiddo sy’n wag am fisoedd lawer o’r flwyddyn a gall hyn effeithio ar yr hyn a fyddai wedi bod yn gymunedau lleol, bywiog.
Rydyn ni am i bawb allu fforddio byw yn eu hardal leol – os mai dyna eu dymuniad – boed trwy brynu neu rentu cartref.
Rydym am i Gymru fod yn genedl o gymunedau ffyniannus; gwlad lle teimla pobl y gallant greu dyfodol yma, heb orfod ymadael i ddod o hyd i swyddi da a gwerth chweil.
Mae hon yn broblem gymhleth a chynyrfiadol sydd heb un ateb syml iddi neu ffyrdd chwim o’i datrys, ond rydym wedi cymryd camau breision ymlaen.
Yn 2021, soniais am ein dull triphlyg o fynd ati i helpu i fynd i’r afael â niferoedd tai haf yn y dyfodol, gan roi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol a sicrhau bod perchenogion yn gwneud cyfraniad teg drwy drethiant priodol a theg.
Ers hynny, rydym wedi datblygu’r set fwyaf cynhwysfawr, pellgyrhaeddol a galluogol o fesurau yn y DU.
Fel rhan o’n ffordd gydlynol o fynd ati, rydym wedi:
- Cynyddu’r premiwm dewisol ar y dreth gyngor i 300 y cant ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor
Mae gan awdurdodau lleol bellach y pŵer i godi premiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Ar hyn o bryd Cymru yw’r unig wlad yn y DU sy’n rhoi pwerau dewisol i gynghorau i godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Eleni, mae naw o’n 22 awdurdod lleol yn codi premiwm ar y ddau fath o eiddo ac mae un, Cyngor Gwynedd, wedi cynyddu ei bremiwm i 150 y cant ar ail gartrefi. Rydym yn annog awdurdodau lleol i gyfeirio’r arian a godir i mewn i gynlluniau tai fforddiadwy.
- Newid y trothwyon gosod eiddo ar gyfer ardrethi annomestig i sicrhau bod busnesau yn gwneud cyfraniad clir i’r economi leol
Newidiwyd y meini prawf ar gyfer rhestru llety gwyliau ar gyfer ardrethi annomestig.
Rhaid i lety gwyliau bellach fod ar gael i’w rentu am o leiaf 252 diwrnod y flwyddyn a bod wedi ei osod am o leiaf 182 diwrnod mewn cyfnod 12-mis. Diben hyn yw sicrhau bod busnesau’n cael eu trethu fel busnesau ac yn gwneud cyfraniad clir ac amlwg i economïau lleol.
- Wedi newid y gyfraith gynllunio trwy sefydlu tri chategori o ddefnydd
Mewn cam arloesol, rydym wedi creu tri dosbarth newydd o ddefnydd i ddibenion cynllunio: cartref cynradd; ail gartref; a llety gwyliau tymor-byr.
Bellach mae gan awdurdodau cynllunio lleol y pŵer i atal rhydd-symudiad ar draws y dosbarthiadau defnydd, lle y bo ganddynt dystiolaeth, a diwygio’r system gynllunio ar sail leol. I bob pwrpas, gallant benderfynu peidio â chaniatáu newid cartref cynradd i’r naill ddosbarth arall neu’r llall yn y dyfodol (er y bydd rhwydd hynt i droi tai haf a llety gwyliau tymor-byr yn gartrefi cynradd). Rydym yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i roi prawf ar adnoddau ac oblygiadau ymarferol y dull newydd hwn o fynd ati.
- Wedi ymgynghori ynglŷn â’n hymrwymiad i gyflwyno trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr
Byddwn yn cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor-byr.
- Wedi gweithio i archwilio amrywiadau rhanbarthol neu fesul ardal i’r Dreth Trafodiadau Tir ar ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr
Mae Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn cyfateb i’r dreth stamp ar dir yng Nghymru.
Rydym eisoes wedi cynyddu cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir, a godir pan fydd pobl yn prynu eiddo ychwanegol, yn cynnwys ail gartref, i bedwar y cant.
Rydym wedi ymgynghori ynghylch a ddylai fod gan awdurdodau lleol y gallu i wneud cais am amrywio cyfradd uwch y dreth yn achos tai haf a llety gwyliau mewn ardaloedd lle mae niferoedd mawr o eiddo o’r fath, a chafodd hynny gefnogaeth gref.
- Lleihau nifer y tai gwag, yn cynnwys lansio cynllun cartrefi gwag gwerth £50 miliwn ledled Cymru
Mae gennym fesurau pellach i ddod â chyfran uwch o gartrefi presennol, yn enwedig rhai gwag, i mewn i berchenogaeth gyffredin ar lefel leol.
Buddsoddwyd £24.5 miliwn gennym yn 2021-22 mewn awdurdodau lleol sydd â llawer o dai haf a llety gwyliau i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag fel tai cymdeithasol.
Darparwyd £50m pellach mewn cyllid cyfalaf dros ddwy flynedd (2023-24 i 2024-25) ar gyfer cynllun grant cartrefi gwag cenedlaethol. Mae’r cynllun yn ategu’r benthyciadau di-log presennol o £43m, fel y gall hyd at 2,000 o dai gwag ychwanegol gael eu defnyddio fel cartrefi eto.
- Cyflwyno’r Cynllun Tai ar gyfer Cymunedau Cymraeg
Mae’r cynllun, a gyhoeddwyd fis Hydref 2022, yn dwyn ynghyd nifer o ymyriadau ymarferol mewn problemau economaidd, tai, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol i sicrhau y gall cymunedau Cymraeg barhau i ffynnu. Yn ddiweddar, dyfarnodd project Perthyn, a sefydlwyd ar y cyd â Cwmpas, grantiau i 21 o grwpiau cymunedol i ddatblygu mentrau cydweithredol newydd a thai dan arweiniad y gymuned. Mae pump o’r projectau a gefnogwyd o fewn ardal beilot Dwyfor. Mae Perthyn hefyd yn darparu gwasanaeth cynghori a chefnogi arbenigol a helpodd i sefydlu 10 menter gymdeithasol newydd.
Sefydlodd y cynllun hefyd Gomisiwn ar gyfer cymunedau Cymraeg â’r dasg o wneud argymhellion ar bolisi cyhoeddus gyda’r nod o gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn cynnwys cymunedau â dwysedd uchel o ail gartrefi. Cyhoeddodd y Comisiwn ei ganlyniadau rhagarweiniol fis Mehefin 2023.
- Sefydlu peilot yn Nwyfor, Gwynedd er mwyn deall effaith y dulliau newydd hyn
Mae hyn yn gyfle i roi prawf ar effaith unigol a chynyddol y mentrau hyn ac asesu eu gweithrediad a’u heffaith ar fforddiadwyedd yn yr ardal beilot.
Parheir i ddatblygu’r peilot trwy gydweithio’n glòs gyda Chyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymunedau lleol.
Enghraifft dda yw Cymorth Prynu a sut mae’n ymateb i amgylchiadau lleol yn Nwyfor. Ymaddasodd Cymorth Prynu i roi mwy fyth o ystyriaeth i amodau lleol, gan gefnogi ymddiriedolaethau tir cymunedol, a chlustnodi cyllid i droi eiddo gwag yn gartrefi.
Yn ardal Peilot Dwyfor, buom yn gweithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin i addasu’r cynllun, er mwyn iddo adlewyrchu’n well y prisiau tai uwch a wynebir gan bobl leol.
Gall trigolion lleol cymunedau yn Nwyfor sydd ag incwm teuluol rhwng £16,000 a £60,000 wneud cais i Cymorth Prynu yn awr am fenthyciad ecwiti di-log o hyd at 50 y cant o werth yr eiddo, a hyd at uchafswm pris tŷ o £300,000.
Ers lansio’r cynllun Cymorth Prynu newydd mwy hyblyg fis Medi 2022, gwelodd Dwyfor 13 o geisiadau llwyddiannus, gyda llawer mwy ar y gweill. Cyn hynny, dim ond un cynllun yn Nwyfor a gwblhawyd mewn pum mlynedd.
Rydym yn gweithio’n glòs gyda Chyngor Gwynedd wrth iddo weithredu’r newidiadau i’r system gynllunio a, hefyd, gyda chymunedau lleol wrth i ni eu cefnogi i ganfod ffyrdd posib o ddatrys problemau eu hunain, a manteisio ar hynny.
SYLWADAU I GLOI
Er bod ein holl weithredoedd gyda’i gilydd yn ffordd eang a beiddgar iawn o fynd ati, fe gymer beth amser i asesu effaith yr ymyriadau. Mae’r hinsawdd economaidd yn un anodd a bydd amryw o ffactorau – lawer ohonynt y tu hwnt i’n rheolaeth – yn effeithio ar fforddiadwyedd. Bydd gwerthusiad annibynnol o’n hymyriadau yn rhannu’r gwersi ledled Cymru wrth inni fwrw ymlaen.
Does gennym ni mo’r fantais o weld canlyniadau o rannau eraill o’r DU – Cymru sy’n darparu’r dystiolaeth, ac rydym wedi bod yn arloesol yn ein ffordd gyfannol o fynd ati.
Bydd y gwerthusiad yn profi a yw’r hyn rydym wedi ei roi ar waith yn caniatáu i awdurdodau lleol gydbwyso a rheoli’r nifer o dai haf a llety gwyliau tymor-byr yn eu cymunedau yn well. Rydym am sefydlogi’r niferoedd ac atal ardaloedd eraill rhag bod â niferoedd anghymesur o dai haf a llety gwyliau tymor-byr.
Wrth gwrs, rhaid i ni weithredu mewn modd teg, heb greu, trwy ryw amryfusedd, unrhyw ganlyniadau anfwriadol a allai ansefydlogi’r farchnad dai ehangach neu ei gwneud hi’n anos i rai pobl rentu neu brynu.
Byddwn yn parhau i gynnig croeso gwirioneddol gynnes i ymwelwyr tra’n cefnogi pobl leol i fyw yn y cymunedau ffyniannus a byrlymus sydd wrth galon Cymru.
Julie James yw gweinidog Llywodraeth Cymru dros newid yn yr hinsawdd