English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Llwybr at argyfwng

Canfu arolwg gan Sefydliad Bevan ym mis Chwefror mai dim ond 32 eiddo i’w rentu’n breifat yng Nghymru oedd yn fforddiadwy o fewn cyfraddau Lwfans Tai Lleol, a bod hyd yn oed llai o fewn cyrraedd i denantiaid ar incwm isel. Rob King sy’n adrodd ar y sefyllfa.

Nid moethusrwydd yw llety fforddiadwy o ansawdd da, ond hawl nad yw ar gael i lawer yng Nghymru bellach, yn enwedig teuluoedd ar incwm isel. Mae’r her yn arbennig o ddifrifol yn y sector rhentu preifat. Mae rhenti wedi codi’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf ac mae tenantiaid yn y sector rhentu preifat yn ei chael hi’n fwyfwy anodd dod o hyd i lety cyfaddas a fforddiadwy ar y farchnad.

Mae hyn yn rhoi straen ariannol, corfforol a meddyliol ar aelwydydd incwm-isel ac yn eu gorfodi i ddewis rhwng tri opsiwn amhosibl: rhentu llety anaddas neu o ansawdd gwael; talu rhenti uwch nag y gallant eu fforddio sy’n eu rhoi dan straen ariannol; neu geisio cymorth gan wasanaethau cymorth digartrefedd awdurdodau lleol.

Pennir faint o gymorth y gall aelwydydd yn y sector rhentu preifat ei dderbyn gan y Lwfans Tai Lleol (LTLl). Mewn egwyddor, dylai’r LTLl fod yn cynnwys y 30 canradd isaf o renti o fewn ardaloedd marchnad penodol, a elwir yn Fras Ardaloedd Marchnad Rhentu (BRMAs). Bu’r cwestiwn a yw cyfraddau LTLl yn ddigonol yn destun pryder ers tro ond daeth yn neilltuol o amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf gan fod cyfraddau LTLl yn dal wedi’u capio ar y lefelau a bennwyd ar gyfer 2020.

Mae’r argyfwng sy’n wynebu rhentwyr yn mynd yn fwyfwy difrifol. Canfu ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan mai dim ond 32 o’r 2,638 eiddo a oedd ar y farchnad yng Nghymru ar ddechrau Chwefror 2023 a oedd yn gyfan gwbl o fewn eu cyfraddau LHA perthnasol, sef 1.2 y cant o’r farchnad.

At hynny, rhaid i ddarpar-denantiaid yn y sector rhentu preifat ymgodymu â gofynion ychwanegol a osodir gan lawer o landlordiaid preifat ar eu heiddo, ac ymateb iddynt. Mae’r gofynion hyn yn aml yn wahaniaethol, yn annheg ac yn anodd i denantiaid ar incwm isel eu bodloni, gan gynnwys amodau ‘proffesiynol yn unig’, neu fod â gwarantwyr a gorfod gwirio isafswm incwm. Pan ystyrir y gofynion hyn, mae’r darlun yn waeth byth, gyda dim ond naw eiddo ar gael yn yr holl wlad. Fel canran, dim ond 0.34 y cant o’r holl eiddo ar y farchnad yw hynny.

Nid problem leoledig mo hon, ond un a deimlir ledled Cymru. O’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru dim ond chwech oedd ag unrhyw eiddo ar gael a oedd yn gyfan gwbl o fewn y cyfraddau LTLl ddechrau mis Chwefror. Pan ystyrir gofynion landlordiaid hefyd, dim ond pedwar awdurdod lleol oedd ag unrhyw eiddo ar y farchnad rentu ar gyfraddau LTLl a fyddai’n hygyrch i denantiaid incwm isel.

Mae amrywiaeth sylweddol hefyd ym maint y bwlch fesul math o eiddo a fesul awdurdod lleol. Ym mhob awdurdod lleol ac eithrio dau (Blaenau Gwent a Bro Morgannwg), ceir y diffyg mwyaf rhwng rhenti a chyfraddau LTLl mewn eiddo pedair-llofft. Y bwlch mwyaf a ganfuwyd rhwng LTLl a’r eiddo rhataf ar y farchnad oedd yn Ynys Môn, sef £851.78 y mis ar gyfer eiddo pedair-llofft.

Mae’r bylchau lleiaf yn tueddu i fod ar gyfer eiddo un-llofft. Y bwlch lleiaf yng Nghymru rhwng LTLl a’r eiddo rhataf ar y farchnad oedd ar gyfer eiddo un-llofft yn Abertawe, gyda dim ond £1.24 o ddiffyg rhwng cyfraddau’r LTLl a’r rhent gofynnol. Torfaen sydd â’r bwlch mwyaf ar draws eiddo, heb unrhyw fwlch llai na £371.05 (eiddo un-llofft) a’r mwyaf yn £636.78 ar gyfer eiddo pedair-llofft. Byddai teulu sy’n rhentu’r eiddo un-llofft rhataf oedd ar gael yn Nhorfaen ym mis Chwefror yn gweld bwlch o £4,452.60 rhwng eu rhent a’r LTLl dros gyfnod o flwyddyn.

Mae’n amlwg bod y farchnad dai yng Nghymru mewn argyfwng. Mae aelwydydd ar incwm isel mewn sefyllfa lle na allant fforddio llety cyfaddas, ac mae’r pwysau ar wasanaethau cymorth digartrefedd ledled Cymru yn dod i’r berw. Mae angen gweithredu ar fyrder. Ym mis Mawrth rhannodd Sefydliad Bevan ein casgliadau mewn cyfarfod o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Ddigartrefedd yn San Steffan. Yn y cyfarfod galwodd sawl sefydliad ar Lywodraeth y DU i ddad-rewi LTLl yng Nghyllideb y gwanwyn, ac adleisiwyd hynny gan aelodau o glymblaid Cartrefi i Bawb Cymru. Er i Lywodraeth y DU fethu gwneud unrhyw ymrwymiad go iawn naill ai i gynyddu LTLl na mynd i’r afael â’r argyfwng tai mewn modd ehangach yn y gyllideb, bydd Sefydliad Bevan yn parhau i bwyso am yr angen i gynyddu LTLl Lleol, ynghyd â’n partneriaid.

Er bod LTLl yn parhau i gael ei bennu ar lefel y DU, mae mecanweithiau y gallai Llywodraeth Cymru eu defnyddio i liniaru rhai o effeithiau mwyaf difrifol argyfwng tai Cymru. Galwodd Sefydliad Bevan ar Lywodraeth Cymru i wneud gwell defnydd o’r pwerau hyn. Un awgrym, sydd eisoes wedi sicrhau cefnogaeth sylweddol, yw defnyddio mecanweithiau datganoledig i wella ac ehangu’r broses o gasglu data ar y rhenti a godir gan landlordiaid preifat yn y sector rhentu preifat, a sicrhau bod y data hwn ar gael i’r cyhoedd yn ddirwystr. Gallai gwell data weld cyfraddau LTLl yn adlewyrchu amodau’r farchnad yng Nghymru yn well pe bai cyfraddau LTLl yn codi yn y dyfodol.

Nid yw cynyddu LTLl a chasglu gwell data ynddynt eu hunain yn atebion hirdymor i argyfwng tai Cymru. Mae angen dull strategol mwy unedig i ddatrys y problemau strwythurol sylfaenol a ganiataodd i’r argyfwng hwn gyrraedd y man lle mae heddiw. Yn y tymor byr, gallai cynyddu i’r eithaf y cymorth y gall awdurdodau lleol ei ddarparu drwy Daliadau Tai Dewisol leddfu rhai o’r heriau a wynebir gan rentwyr. Byddai archwilio ffyrdd o ehangu’r stoc tai cymdeithasol yn gyflym yn lliniaru rhai o’r problemau dwysaf yn y tymor byr yn ogystal â darparu sylfaen i weledigaeth dymor-hwy ar gyfer tai yng Nghymru. Byddai creu system fudd-daliadau Gymreig yn sicrhau mynediad haws i aelwydydd incwm-isel at y cymorth y mae ganddynt hawl iddo ond nad ydynt yn aml yn ei gael heddiw, gan leddfu pwysau ariannol.

Mae llety cyfaddas a fforddiadwy yn sylfaen i iechyd da – corfforol a meddyliol – plentyndod sefydlog ac iach, llesiant cymuned, ac ysgogi’r economi. Byddai mynd i’r afael â’r argyfwng tai – yn y tymor byr a’r tymor hir – yn gam mawr ei angen tuag at ddatrys y problemau ehangach sy’n wynebu Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »