English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Moment ddiffiniol

Gyda phapur gwyrdd i’w gyhoeddi’n fuan ar renti teg a’r hawl i dai cyfaddas, mae rhifyn y Gwanwyn o WHQ yn edrych yn fanwl ar y sector sy’n chwarae rhan allweddol yn system tai Cymru.

Mae’r sector rhentu preifat bellach yn cyfrif am 15 y cant o gartrefi Cymru, ddwywaith y gyfran 20 mlynedd yn ôl, ac mae bellach yn gartref i ddegau o filoedd o bobl a allai fod wedi gobeithio prynu neu gael tenantiaeth gymdeithasol ar un adeg. Mae myfyrwyr, ffoaduriaid ac awdurdodau lleol sy’n chwilio am denantiaethau i bobl ddigartref hefyd yn dibynnu arno – a gall landlordiaid droi at farchnad amgen ar gyfer llety gwyliau tymor-byr.

Thema’r rhifyn hwn yw rhentu preifat ac adlewyrchir safbwyntiau o bob rhan o’r sector. Dywed Sam Coates o ACORN Caerdydd bod rhaid rheoleiddio’n llawer pellach i unioni’r anghydbwysedd grym rhwng landlordiaid a thenantiaid, tra rhybuddia Jennie Bibbings o Shelter Cymru bod perygl i Gymru fynd yn eithriad o ran gwahardd troi allan heb fai.

Fodd bynnag, mae Steven Bletsoe o Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl yn dadlau bod newidiadau mewn rheoliadau a threth wedi arwain at brinder llety cymwys a fyddai ond yn gwaethygu pe awgrymid rheolaeth ar renti. Dywed Tim Thomas o Propertymark mai gyrru safonau i fyny, yn hytrach na landlordiaid allan, ddylai fod y nod.

Cyhoeddir y papur gwyrdd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Ond mae llawer o’r polisïau sy’n effeithio ar rentu preifat yn cael eu pennu yn San Steffan yn hytrach na Bae Caerdydd. Mae Rob King o Sefydliad Bevan yn cyflwyno tystiolaeth o effaith enbyd rhewi cyfraddau Lwfans Tai Lleol tra bod Bethan Jones o Rhentu Doeth Cymru yn edrych ar y data ar berfformiad ynni yn y sector, gyda safonau llymach ar y gorwel.

Cyhoeddir y rhifyn hwn cyn TAI 2023 a dyma gynnig rhagolwg hefyd ar lawer o’r dadleuon allweddol. Mae Robin Staines yn canmol cynnydd sylweddol yn y project Tai Cyngor ar Raddfa a Chyflymder a dywed y bydd cynghorau yn rhan bwysig o ddiwallu’r angen am dai cymdeithasol newydd. Mae Matt Dicks yn ystyried proffesiynoldeb ym maes rheoli tai wedi i Loegr gyflwyno cymwysterau gorfodol. A chlywn bum safbwynt gwahanol ar y cwestiwn a yw swyddogion tai traddodiadol yn dal i fodoli.

Mewn rhannau eraill o’r rhifyn hwn fe welwch erthyglau ar bopeth, o ymddygiad gwrthgymdeithasol i ddatgarboneiddio, o ddulliau adeiladu modern i ddylunio, ac o wrth-hiliaeth i dai ar gyfer pobl hŷn, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd.

Mae rhifyn arall llawn-dop o WHQ yn adlewyrchu cyfnod prysur yn y maes tai yng Nghymru ar draws pob sector. Edrychaf ymlaen at ddal i fyny â chymaint ohonoch â phosib yn TAI.

Jules Birch,

Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »