Y DU
Y Gyllideb yn dal i rewi LTLl
Gwrthododd y Canghellor Jeremy Hunt y galw gan sefydliadau tai ledled y DU i ddod â’r cyfnod o rewi cyfraddau Lwfans Tai Lleol (LTLl) i ben yn ei Gyllideb Wanwyn.
Cefnogodd Cartrefi i Bawb ddod â’r cyfnod i ben wedi i ymchwil gan Sefydliad Bevan ddangos mai dim ond 1.2 y cant o gartrefi rhentu preifat a hysbysebir yng Nghymru sydd ar gael ar gyfraddau LTLl neu islaw hynny.
Cyflwynodd y Gyllideb hefyd gyfradd ostyngol ar gyfer benthyciadau awdurdodau lleol sydd am fuddsoddi mewn tai eleni.
Bydd cyfradd ostyngol newydd y Cyfrif Refeniw Tai o 40 pwynt sail ar gael i gynghorau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gyfer benthyciadau oddi wrth y Bwrdd Benthyciadau Gweithiau Cyhoeddus am flwyddyn.
LLOEGR
Cymeradwyo newid rheoliadau tai cymdeithasol
Bydd newidiadau sylweddol yn dod i rym mewn rheoleiddio tai cymdeithasol yn Lloegr o dan ddeddfwriaeth sydd ar fin cael Cydsyniad Brenhinol.
Cafodd y Bil (Rheoleiddio) Tai Cymdeithasol ei drydydd darlleniad ym mis Mawrth, gyda gwelliannau munud-olaf gan y llywodraeth i osod terfynau amser gorfodol ar gyfer ymchwilio i broblemau lleithder a llwydni a’u datrys, a safonau proffesiynol ar gyfer staff tai cymdeithasol
Lansiodd yr Adran Lefelu Lan, Tai a Chymunedau ymgyrch ‘Unioni Pethau’ hefyd i wneud yn siŵr bod tenantiaid yn gyfarwydd â’u hawliau ac yn ddigon hyderus i fynd at yr Ombwdsmon Tai.
YR ALBAN
Cap ar renti peifat a chyfyngu ar droi allan
Cafodd codiadau rhent yn y sector rhentu preifat yn yr Alban eu cyfyngu i 3 y cant o dan ddeddfwriaeth frys y cytunwyd arni gan Senedd yr Alban.
Mae’r newidiadau i’r Ddeddf Costau Byw (Amddiffyn Tenantiaid) yn golygu, o’r 1 Ebrill:
- Os bydd landlord preifat am gynyddu rhent tenant ar ganol tenantiaeth, bydd cap o 3 y cant ar y cynnydd
- Y gall landlordiaid wneud cais am gynyddu rhent o hyd at 6 y cant i helpu i dalu am gynnydd penodol mewn costau o dan amgylchiadau diffiniedig a chyfyngedig (yn cynnwys cynnydd mewn taliadau llog morgais, yswiriant landlordiaid a thaliadau gwasanaeth)
- Bydd gweithredu i droi tenant allan yn dal i gael ei oedi am hyd at chwe mis ac eithrio o dan nifer o amgylchiadau penodol
- Bydd yr iawndal uwch am droi allan anghyfreithlon, sef hyd at 36 mis o rent, yn dal mewn grym.
Mae’r mesurau’n para tan y 30 Medi, a bwrw eu bod yn dal yn angenrheidiol, gyda’r posibilrwydd o’u hymestyn am gyfnod chwe-mis pellach os bydd angen.
Mclennan yn weinidog tai wedi’r ad-drefnu
Mae gan yr Alban ei gweinidog tai pwrpasol cyntaf ers 2021 wedi’r ad-drefnu yn sgil ethol Humza Yousuf yn brif weinidog.
Mae Paul McLennan, ASA yr SNP dros Ddwyrain Lothian, yn cefnogi ysgrifennydd y cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol, Shirley-Anne Somerville yn y weinyddiaeth newydd. Ei rhagflaenydd, Shona Robison, yw’r dirprwy brif weinidog ac ysgrifennydd cyllid newydd.
Cafodd cyd-arweinydd Gwyrddion yr Alban, Patrick Harvie, ei ailbenodi’n weinidog dros adeiladau di-garbon, teithio llesol a hawliau tenantiaid.
GOGLEDD IWERDDON
Lansio opsiwn tai fforddiadwy newydd
Cyhoeddodd yr Adran Cymunedau bolisi tai fforddiadwy newydd sy’n anelu at greu cyflenwad ychwanegol o gartrefi Rhent Canolradd.
Mae’r opsiwn newydd yn ceisio cynnig cartrefi mwy diogel, fforddiadwy a rhai ar gyfer teuluoedd cymwys sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â chost rhenti’r farchnad.
Tenantiaeth rentu preifat yw tenantiaeth Rent Canolradd. Ond yn wahanol i denantiaethau rhentu preifat y farchnad agored, mae’n cynnig buddiannau ychwanegol, yn cynnwys rhenti is na rhai’r farchnad agored. Cyfeirir ati felly fel opsiwn tai fforddiadwy islaw rhent y farchnad. Mae holl hawliau a rhwymedigaethau tenantiaeth breifat yn mewn grym yn achos tenantiaethau Rhent Canolradd.
Mae dogfen bolisi yn amlinellu’r rheolau ar gyfer Rhent Canolradd, a disgwylir i fodel ariannu adrannol ddilyn maes o law.
LLYWODRAETH CYMRU
Pwerau newydd i fynd i’r afael â thai haf a chartrefi gwag
Cafodd awdurdodau lleol bwerau newydd i fynd i’r afael ag effaith perchnogaeth ail gartrefi ac eiddo gwag i rym ar Ebrill 1.
Cyflwynwyd y pwerau fel rhan o Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru.
Mae cynghorau bellach yn gallu gosod a chasglu premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o hyd at 300 y cant – i fyny o 100 y cant – gyda lefelau yn seiliedig ar eu hanghenion lleol.
Mae pum cyngor wedi cynyddu’r premiwm a godir ar ail gartrefi yn 2023-24, gyda saith arall ar fin cyflwyno premiwm o fis Ebrill 2024.
Mae tri chyngor wedi cynyddu’r premiwm ar eiddo gwag hirdymor yn 2023-24, gyda phedwar arall yn codi premiwm am y tro cyntaf, a dau arall yn bwriadu gwneud ym mis Ebrill 2024.
Mae’r meini prawf ar gyfer llety gwyliau sy talu trethi annomestig yn lle’r dreth gyngor hefyd wedi’u cryfhau, gyda’r bwriad o ddangos yn gliriach bod eiddo’n cael ei osod yn rheolaidd fel rhan o fusnesau llety gwyliau gwirioneddol sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol.
Chwe datblygwr yn arwyddo cytundeb diogelwch adeilad
Cadarnhaodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James fod chwe datblygwr mawr wedi cytuno i arwyddo Cytundeb cyfreithiol sy’n eu hymrwymo i wneud gwaith diogelwch tân ar adeiladau o uchder canolig ac uchel ledled Cymru.
Wrth gyflwyno’i diweddariad diweddaraf ar y rhaglen diogelwch adeiladau yn y Senedd ym mis Mawrth, dywedodd fod Redrow, McCarthy Stone, Lovell, Vistry, Persimmon a Countryside i gyd wedi arwyddo’r cytundeb newydd, tra bod Taylor Wimpey, Crest Nicholson a Barrett wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu arwyddo.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru hefyd i gamu i mewn a gwneud gwaith adfer mewn carfan gychwynnol o 28 o adeiladau preifat o waith datblygwyr nad ydynt yn hysbys neu sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu – cyfeirir atynt weithiau fel ‘adeiladau amddifad’.
Mae mwy na £40m ar gael i atgyweirio 38 o adeiladau pellach yn y sector cymdeithasol. Mae hyn yn ychwanegol at y 26 o adeiladau sector cymdeithasol a adnewyddwyd hyd yn hyn a 41 o adeiladau sector cymdeithasol lle mae gwaith ar y gweill.
Cadarnhawyd hefyd fanylion cynllun newydd o Fenthyciadau Diogelwch Adeiladau i Ddatblygwyr Cymru gwerth £20m. Bydd y cynllun yn darparu benthyciadau di-log am hyd at bum mlynedd i gynorthwyo datblygwyr â gwaith adfer i ddatrys problemau diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr neu’n uwch yng Nghymru.
Dywedodd Julie James: ‘Bydd ein rhaglen uchelgeisiol yn sicrhau y gall preswylwyr deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi. Rwyf wedi dadlau erioed y dylai’r diwydiant gyflawni eu cyfrifoldebau mewn materion diogelwch tân.
‘Dylai datblygwyr unioni diffygion yn ymwneud â diogelwch tân o’u pocedi eu hunain neu beryglu eu henw da proffesiynol a’u gallu i weithredu yng Nghymru yn y dyfodol.’
Cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn ‘ymbweru’ ymadawyr â gofal
Mae mwy na 90 y cant o ymadawyr cymwys wedi ymuno â’r cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn y chwe mis ers ei lansio.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i ymadawyr â gofal dros 18 oed i dderbyn £1,600 (cyn treth) y mis am gyfnod o 2 flynedd. Bydd y rhai sy’n cyrraedd 18 rhwng Gorffennaf 2022 a Mehefin 2023 yn gymwys.
Yr arwyddion cynnar yw bod y taliadau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Meddai Emma Phipps-Magill, cyfarwyddydd gweithredol Voices from Care Cymru: ‘Y gwahaniaeth yn eu bywydau yw bod hyn yn rhoi’r cyfle iddyn nhw edrych ar lety preifat yn lle gorfod aros ar restrau tai cymdeithasol, gallu teithio a dysgu gyrru er mwyn sefyll prawf gyrru; gallai un arall fynd i’r brifysgol, na allai fod wedi gwneud o’r blaen.’
Ymgynghoriadau
Mae ymgynghoriadau agored sydd o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:
Diogelwch adeiladau ar gyfer adeiladau risg uwch – ymatebion erbyn 12 Mai
CYMRU
Dull gwahanol o ymgysylltu â thenantiaid yn gyntaf i Newydd
Newydd yw’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gwblhau her Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid (TESA) newydd TPAS Cymru yn llwyddiannus.
Roedd yr her, a gymerodd naw mis i’w chwblhau, yn cynnwys adolygu sefyllfa bresennol Newydd o ran ymgysylltu â thenantiaid, nodi lle gellid gwella, sicrhau bod disgwyliadau Llywodraeth Cymru a safonau rheoleiddio yn cael eu bodloni, a dangos ymrwymiad at gyfranogiad tenantiaid.
Dyfarnwyd statws ‘gwyrdd’ i Newydd ar gyfer pob un o dair safon flaenoriaeth TESA. Bodlonwyd y meini prawf ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethiant, sicrhau cyfranogiad, a bod yn agored ac yn atebol.
Meddai David Lloyd, cyfarwyddydd rhaglenni TPAS Cymru, ‘Mae gan Newydd hanes clodwiw o ddarparu ffyrdd effeithiol ac ystyrlon i denantiaid allu cyfranogi; mae hyn yn sicrhau eu bod mewn sefyllfa gref i fwrw ymlaen â gweithredu’r Strategaeth Tenantiaid Dylanwadol newydd. Bydd diwylliant Newydd, sy’n seiliedig ar ymrwymiad y bwrdd, y tîm gweithredol, a’r staff i gyfranogiad tenantiaid, yn rhan allweddol o’i ffordd newydd o fynd ati.’
Tenantiaid dylanwadol Newydd, Amanda a Cath, gyda Jason Wroe, i prif weithredydd
Cii yn lansio prosiect ôl-ffitio newydd
Cyhoeddodd Cii (Y Fenter Effaith Gymunedol) gynlluniau ar gyfer project newydd gydag arian gan y Loteri Genedlaethol i gael pobl i gyfranogi yn y gwaith o ôl-ffitio tri eiddo preswyl segur yn ne Cymru.
Yn y pen draw, bydd y rhain ar gael fel tai ynni-effeithlon ar gyfer y gymuned leol. Bydd y project yn helpu’r rhai sy’n gwneud y gwaith adnewyddu i fod yn rhan o weithredu ar yr hinsawdd, lleihau eu hôl-troed carbon ac arbed ar eu biliau ynni yn y pen draw. Bydd y project yn cychwyn ym mis Mehefin.
Bydd y gwaith adnewyddu yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i ddysgu sgiliau ôl-ffitio cynaliadwy i bobl, gan eu helpu i weithredu ar yr hinsawdd mewn ffordd ymarferol. Caiff gwirfoddolwyr gyfle hefyd i ennill cymwysterau, gwella eu llesiant, a dod i adnabod eraill yn eu cymuned. Bydd y Cii yn dechrau hysbysebu llefydd ar y project yn y misoedd nesaf.
Liam, tiwtor project Cii, yn dysgu i bobl sut i osod lloriau pren
Cafodd pum cartref eu hadeiladu yng Nghasnewydd o’r safon uchaf o ran effeithlonrwydd ynni. Gweithiodd Cartrefi Dinas Casnewydd gyda YourSpace Projects i adeiladu’r teras o gartrefi dwy-lofft yn Vale Mews, Gaer sydd wedi derbyn Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) gradd A.
Ymunodd gwesteion a disgyblion o Ysgolion Cynradd Maesglas a’r Gaer â Lynda Sagona, cadeirydd Bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd (llun, canol), i ddathlu cartrefi newydd Vale Mews.
Mae gan y cartrefi’r dechnoleg ddiweddaraf i gadw biliau ynni cwsmeriaid mor isel â phosib. Mae waliau a ffrâm pob cartref wedi’u gwneud o baneli sydd wedi’u llenwi â choncrit i gadw cartrefi’n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf.
Bydd cwsmeriaid yn defnyddio ap ffôn symudol i reoli eu golau a’u gwres a bydd hwn yn cofnodi data ar sut a phryd y defnyddir ynni yn eu cartref. Bydd y wybodaeth hon yn helpu’r system wresogi i ymaddasu fel y gallant arbed mwy o arian.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
1 UK Housing Review 2023
CIH a Phrifysgol Glasgow, Mawrth 2023
www.cih.org/bookshop/uk-housing-review-2023
2 Wales’ housing crisis: Local Housing Allowance and the private rental market in Wales, Winter 2023
Sefydliad Bevan, Mawrth 2023
www.bevanfoundation.org/resources/housing-winter-2023/
3 State of the Community Land Trust Sector 2023
Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, Mawrth 2023
www.communitylandtrusts.org.uk/wp-content/uploads/2023/03/State-of-the-Sector-2023-PRESS-1.pdf
4 Reboot: building a housing market that works for all
Sefydliad Joseph Rowntree, Chwefror 2023
www.jrf.org.uk/report/reboot-building-housing-market-works-all
5 Homeless in the countryside: a hidden crisis
Gweithlu Digartrefedd Gwledig, Prifysgolion Caint a Southampton, Mawrth 2023
research.kent.ac.uk/rural-homelessness/
6 The housebuilding crisis: the UK’s three million missing homes
Centre for Cities, Chwefror 2023
www.centreforcities.org/publication/the-housebuilding-crisis/
7 Homes for growth: how housebuilding can revitalise the UK economy
Policy Exchange, Chwefror 2023
policyexchange.org.uk/publication/homes-for-growth/
8 Housing affordability since 1979: determinants and solutions
Sefydliad Joseph Rowntree, Ionawr 2023
www.jrf.org.uk/report/housing-affordability-1979-determinants-and-solutions
9 Cyflwr tai pobl hŷn yng Nghymru
Care & Repair Cymru, Chwefror 2023
www.careandrepair.org.uk/cy/tai2023
10 Public perceptions of homelessness 2022
Centre for Homelessness Impact/Ipsos, Ionawr 2023