English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Moment ddiffiniol

‘Sut mae hyn yn digwydd?’ holodd y crwner ym mis Tachwedd ar ôl y cwest i farwolaeth drasig Awaab Ishak, yn ddwyflwydd oed. Bu farw yn 2020 o ganlyniad i anhwylder anadlol difrifol yn gysylltiedig â llwydni hirfaith yn ei fflat cymdeithas tai yn Rochdale.

Atgyweiriadau a chynnal a chadw yw prif thema’r rhifyn hwn o WHQ ac mae ein stori glawr yn canolbwyntio ar eiriau’r crwner, sef y dylai hon fod yn ‘foment ddiffiniol’ o ran cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r broblem a arweiniodd at farwolaeth y bachgen bach sy bellach yn gyfarwydd o luniau a ryddhawyd gan ei deulu.

Fel y dadleua Duncan Forbes, bu’r canfyddiad bod llwydni’n achosi afiechyd yn hysbys ers degawdau, a felly hefyd yr hen dôn gron ‘dim lleithder yw e, ond anwedd’ a’r duedd i’w feio ar ‘ffordd o fyw’ tenantiaid. Mae’n egluro’r heriau a wynebir gan landlordiaid cymdeithasol nawr i ddatrys y broblem a pham y golyga hyn ailfeddwl sut maen nhw’n gweithredu.

Mae gennym hefyd ganlyniadau Ail Arolwg Blynyddol Tenantiaid Cymru o Ganfyddiadau Tenantiaid TPAS Cymru. Fel yr eglura David Wilton, mae ymwybyddiaeth ac anfodlonrwydd ynghylch lleithder a llwydni ar restr y pryderon a godwyd gan denantiaid, mewn ‘trindod gydgysylltiedig’ chwedl yntau gydag effeithlonrwydd ynni a chartref wedi’i gynnal a’i gadw’n dda. Mewn canlyniadau a ddylai fod yn destun pryder i bawb yn y maes tai, credai llai na’u hanner bod ganddynt gartref wedi’i gynnal a’i gadw’n dda (41 y cant), bod eu cartref yn rhydd o leithder a llwydni (40 y cant) a’i fod yn ynni-effeithlon ( 22 y cant).

Mater pwysig arall a ystyrir yn y rhifyn hwn yw llety i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Romy Wood yn ystyried y cynllun Cartrefi i Wcráin a’i effaith ar brojectau gwestya ffoaduriaid. Mae Gareth Lynn Montes yn dadlau bod system y DU ar gyfer lletya ceiswyr lloches yn rysáit ar gyfer trychineb. Ac mae Nick Taylor-Williams yn adrodd ar effaith y ddau gynllun ar awdurdodau lleol Cymru.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae Sophie Howe yn ystyried ei chyfnod fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn dadlau mai hawl gyfreithiol i lety yw un o’r rhoddion mwyaf y gallem ei rhoi i genedlaethau i ddod. Mae Suzanne Fitzpatrick yn esbonio gwaith y Panel Adolygu Arbenigol y mae hi’n ei gadeirio a’r hyn y dywed fydd yn gyfle cyffrous i wneud argymhellion i helpu i ddiweddu digartrefedd. Yn olaf, ceir rhagolwg gan Steve Wilson ar gynhadledd tai frys a fydd yn dwyn ynghyd ymgyrchwyr llawr-gwlad i drafod atebion newydd radical.

Yng ngweddill y rhifyn Gaeaf hwn o WHQ, cewch y diweddaraf am yr argyfwng diogelwch adeiladau, ymateb i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, datgarboneiddio, trafnidiaeth gymunedol a llawer, llawer mwy.

Jules Birch, golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »