English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y DU

Codi’r cap ar fudd-daliadau ond LTLl yn dal yn ei unfan

Bydd y cap budd-daliadau yn cynyddu yn unol â chwyddiant o fis Ebrill am y tro cyntaf ers cael ei gyflwyno.

Mae’r mesur annisgwyl a gyhoeddwyd gan y canghellor Jeremy Hunt yn Natganiad yr Hydref yn golygu y bydd y prif gap ar gyfer teuluoedd yn codi o £20,000 i £22,020 y flwyddyn y tu allan i Lundain ac o £23,000 i £25,323 yn Llundain a bydd yn rhyddhau rhywfaint o’r pwysau ariannol ar deuluoedd â phlant a rhai sy’n byw mewn ardaloedd drud.

Ond ni fu cynnydd yn y Lwfans Tai Lleol, gyda chyfraddau yn eu hunfan am y bedwaredd flwyddyn yn olynol er gwaethaf cynnydd mewn rhenti preifat.

Cadarnhaodd Hunt hefyd y bydd cap o 7 y cant ar y cynnydd mewn rhenti cymdeithasol yn Lloegr yn 2023/24, mwy na’r 5 y cant a gynigiwyd mewn ymgynghoriad a mymryn yn uwch na’r 6.5 y cant yng Nghymru. Cyhoeddodd y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol wedyn y bydd cymdeithasau tai Lloegr yn cyfyngu codiadau rhent i berchnogion sy’n rhannu i’r un lefel.

Gwrthdrodd y canghellor y rhan fwyaf o’r toriadau treth a gynigiwyd o dan lywodraeth drychinebus Liz Truss. Trowyd toriad ‘parhaol’ yn y dreth stamp ar brynu tai a gyflwynwyd gan ei ragflaenydd Kwasi Kwarteng yn wyliau treth stamp dros-dro tan fis Mawrth 2025.

Seinio cloch rybudd ar forgeisiau

Fe allai mwy na 750,000 o deuluoedd y DU fod ar ei hôl hi â’u morgais yn y ddwy flynedd nesaf, yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Dywedodd y prif reoleiddiwr ariannol fod bron i 200,000 o forgeisi rheoledig (tua 2.4 y cant o’r cyfanswm) eisoes ar ei hôl hi â thaliadau erbyn diwedd mis Mehefin 2022.

Fodd bynnag, rhybuddiodd mewn llythyr at bwyllgor dethol y Trysorlys y gallai 570,000 arall fod mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi â thaliadau dros y ddwy flynedd nesaf wrth i gyfraddau llog gynyddu.

Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar y dybïaeth y bydd aelwydydd yn dioddef gostyngiad o 10 y cant yn eu hincwm real dros y cyfnod a bod aelwydydd sy’n gwario mwy na 30 y cant o’u hincwm gros ar eu taliadau morgais mewn perygl o syrthio’n fyr.

 

LLOEGR

Adolygiad yn argymell archwiliad tai cymdeithasol

Dylai cymdeithasau tai gydweithio i gyhoeddi archwiliad trylwyr o’r holl dai cymdeithasol yn Lloegr ac ymrwymo i ail-ganolbwyntio ar eu diben craidd.

Roedd y rheini ymhlith argymhellion allweddol yr Adolygiad annibynnol ar Well Tai Cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Sefydlwyd yr adolygiad gan y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a’r Sefydliad Tai Siartredig, a ymrwymodd o flaen llaw i dderbyn yr holl argymhellion.

Roedd yr argymhellion eraill fel a ganlyn:

  • Dylai cymdeithasau tai ffurfio partneriaeth gyda thenantiaid, contractwyr a staff rheng-flaen i ddatblygu a chymhwyso safonau newydd sy’n diffinio sut beth yw proses gynnal-a-chadw ac atgyweirio ardderchog.
  • Dylai’r Sefydliad Tai Siartredig hyrwyddo rôl draddodiadol y swyddog tai fel cyfle cyflogaeth mewn swydd a gefnogir ac a werthfawrogir sydd â rhaglen gydnabyddedig o hyfforddiant a datblygiad parhaus.
  • Dylai cymdeithasau weithio gyda’r holl denantiaid i sicrhau bod ganddynt lais a dylanwad ar bob lefel o’r broses benderfynu ar draws y sefydliad, drwy swyddi gwirfoddol a chyflogedig.
  • Dylai cymdeithasau ddatblygu presenoldeb cymunedol lleol rhagweithiol trwy hybiau cymunedol sy’n meithrin mwy o weithio aml-asiantaeth.
  • Dylai cymdeithasau gefnogi tenantiaid a staff rheng-flaen i gynnal adolygiad blynyddol o hynt pob sefydliad wrth iddynt weithredu argymhellion yr adolygiad hwn.

Sefydlwyd yr adolygiad wedi i’r cyfryngau ddatgelu amodau gwarthus mewn rhai tai cymdeithasol, ac fe’i cyhoeddwydi wedi’r cwest i farwolaeth Awaab Ishak yn ddwyflwydd oed. Dyfarnodd y crwner iddo farw o ganlyniad i anhwylder anadlol difrifol a achoswyd gan leithder a llwydni heb ei drin yng nghartref ei deulu, a dywedodd y ‘dylai fod yn foment ddiffiniol i sector tai’r DU’.

Meddai Helen Baker, cadeirydd yr Adolygiad Gwell Tai Cymdeithasol: ‘Amlygwyd safon syfrdanol o wael rhai tai cymdeithasol yn ddiweddar ac mae ein hadolygiad yn cefnogi’r angen am weithredu brys ar lefel y sector i ddatrys y problemau hyn. Hoffem weld ein hargymhellion wedi eu hymgorffori mewn cynlluniau ar gyfer y sector cyfan, yn ogystal â chynlluniau penodol gwahanol sefydliadau, o fewn chwe mis.

‘Deil yr anghydbwysedd pŵer rhwng tenantiaid a darparwyr tai i fod yn un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r sector, gan barhau yn hytrach na chwalu’r stigma cymdeithasol a gwahaniaethol a brofir gan bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Mae hyn yn neilltuol o wir am bobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.’

Enwodd yr ysgrifennydd tai Michael Gove 14 o ddarparwyr tai gwahanol a’u cywilyddio am eu perfformiad gwael yn 2022 ar ôl iddynt gael eu cosbi gan yr Ombwdsmon Tai am gamweinyddu.

 

YR ALBAN

Landlordiaid cymdeithasol yn cyhoeddi codiadau rhent is na’r gyfradd chwyddiant

Daeth gweinidogion i gytundeb gyda landlordiaid cymdeithasol ar setliad rhent ar gyfer 2023/24 a fydd yn cadw codiadau yn sylweddol is na chwyddiant.

Cyhoeddodd Cydffederasiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA) a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban (SFHA) ddatganiadau o fwriad eu haelodau ar gyfer rhent yn 2023/24. Mae COSLA wedi ymrwymo i gadw codiadau rhent awdurdodau lleol i ddim mwy na £5 yr wythnos ar gyfartaledd. Cyhoeddodd aelodau Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Fforwm Cymdeithasau Tai Gorllewin Glasgow gynnydd arfaethedig o 6.1 y cant ar gyfartaledd.

Mae’r cyfeiriad at ffigurau cyfartalog, yn hytrach na therfyn sefydlog, yn caniatáu hyblygrwydd er mwyn gallu anrhydeddu canlyniadau’r ymgynghoriadau statudol â thenantiaid ar bennu rhenti rhaid i landlordiaid cymdeithasol eu cynnal bob blwyddyn.

Dywedodd y gweinidog hawliau tenantiaid, Patrick Harvie: ‘Bydd datganiadau o fwriad y sector rhentu cymdeithasol, ar sail ymgynghoriadau â thenantiaid, yn cadw rhenti’n fforddiadwy tra’n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol fel gwella a chynnal a chadw cartrefi.’

 

GOGLEDD IWERDDON

Cymdeithasau tai yn arddangos gwytnwch

Cynyddodd trosiant yr 20 o gymdeithasau tai yng Ngogledd Iwerddon o 9 y cant y llynedd, i £429 miliwn.

Nododd Cyfrifon Byd-eang Sector 2022 Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon (NIFHA) y cafodd yr holl wargedion eu hail-fuddsoddi mewn gwelliannau a chynnal a chadw cartrefi presennol a chodi rhai newydd. Roedd gwargedion gweithredu 2 y cant yn llai ond daeth y canlyniadau hyn er gwaethaf cynnydd o 12 y cant mewn costau gweithredu.

O ganlyniad i fenthyca gan y sector preifat mae cyfanswm o £1.541 biliwn wedi’i fuddsoddi yn gyfredol mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy. Dywed NIFHA yr amlygir cryfder y model ariannol gan y ffaith bod y gerio a amcangyfrifir yn 32.5 y cant yn ddiogel o fewn yr ystod cysur ariannol o rhwng 25 y cant a 50 y cant.

Mae ffigurau allweddol eraill yr adroddiad yn cynnwys cwblhau 835 o gartrefi cymdeithasol newydd, gyda adeiladu wedi cychwyn ar 1,700 o unedau newydd eraill yn yr un cyfnod.

Dywedodd prif weithredwr NIFHA, Seamus Leheny, ‘Wynebodd y sector tai cymdeithasol heriau enfawr yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae gwytnwch ein haelodau wedi sicrhau bod y sector yn parhau i fod mewn sefyllfa gref.’

 

LLYWODRAETH CYMRU

Cyllideb Ddrafft yn mygu gwariant

O dan gynlluniau’r Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, gadewir cyllidebau tai allweddol yn ddigyfnewid i raddau helaeth yn 2023/24 er gwaethaf chwyddiant cynyddol.

Disgrifiodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, hon fel ‘un o’r cyllidebau caleta ers datganoli’ gyda chyllideb Llywodraeth Cymru yn ei chrynswth £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu’n unol â chwyddiant ers 2010/11.

Fodd bynnag, anogodd sefydliadau tai weinidogion i ailedrych ar gyllidebau tai allweddol fel y Grant Cynnal Tai yn y gyllideb derfynol a ddisgwylir ym mis Chwefror.

Pennu cap rhent cymdeithasol o 6.5 y cant

Bydd rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru yn cynyddu o dim mwy na 6.5 y cant yn Ebrill o dan setliad a gyhoeddwyd gan y gweinidog newid hinsawdd Julie James ym mis Tachwedd.

Daeth y setliad ar ôl ymgynghori’n helaeth â chymdeithasau tai, awdurdodau lleol a thenantiaid ynghylch y cynnydd mewn rhent ar gyfer 2023/24 yng nghyd-destun chwyddiant llawer uwch na phan ddaeth y safon rhent pum mlynedd i fod yn 2020/21.

Bydd rhenti fel arfer yn codi yn unol â chyfradd chwyddiant mis Medi plws 1 y cant os yw chwyddiant rhwng 0 a 3 y cant ond roedd chwyddiant CPI fis Medi diwethaf yn 10.1 y cant.

Gwêl Llywodraeth Cymru y cynnydd o 6.5 y cant fel y cyfaddawd gorau rhwng buddiannau tenantiaid sy’n wynebu argyfwng costau byw a landlordiaid sy’n gorfod buddsoddi mewn stoc tai a gwasanaethau.

Mae tua 75 y cant o denantiaid yn cael y cyfan neu ran o’u rhent wedi’i dalu gan fudd-dal tai, sy’n golygu y bydd rhai o’r arbedion o gynnydd rhent is na chwyddiant yn mynd nôl i Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan.

Bydd gan landlordiaid yr hyblygrwydd i leihau neu rewi eu rhenti ar gyfer cartrefi unigol neu eu cynyddu hyd at uchafswm o 6.5 y cant plws £2 yr wythnos ar yr amod nad yw eu rhenti yn eu crynswth yn codi o fwy na 6.5 y cant.

Yn ôl modelu gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cynnydd o 6.5 y cant yn sicrhau na fydd unrhyw landlord yn wynebu diffyg cyllidebol y flwyddyn nesaf.

Fel rhan o’r setliad, dywedodd y gweinidog ei bod wedi sicrhau cyfres o ymrwymiadau gan landlordiaid cymdeithasol gan gynnwys ‘dim troi allan oherwydd caledi ariannol am gyfnod y setliad rhent yn 2023-24’ cyhyd ag y bo tenantiaid yn ymgysylltu â’u landlordiaid.

Nid yw taliadau gwasanaeth yn dod o fewn y safon rhent ond bydd disgwyl i landlordiaid eu cynnwys mewn asesiadau fforddiadwyedd cyn cyhoeddi unrhyw gynnydd mewn rhent.

Cymorth i Brynu i redeg am ddwy flynedd arall

Cafodd cynllun Cymorth i Brynu Cymru ei ymestyn tan fis Mawrth 2025 er mwyn cefnogi’r diwydiant tai a chadwyni cyflenwi.

Roedd cyfnod presennol y cynllun, sy’n cynnig benthyciadau ecwiti i brynwyr tai, i fod i ddod i ben ym mis Mawrth eleni. Mae Cymorth i Brynu eisoes wedi cau i geisiadau yn Lloegr.

I adlewyrchu newidiadau yn y farchnad dai ac effaith yr hinsawdd economaidd presennol, y cap prisiau newydd ar gyfer y cynllun fydd £300,000 o fis Ebrill 2023 yn unol â’r cynnydd mewn prisiau ar gyfartaledd.

Rhaid i bob cartref a brynir hefyd sicrhau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) B o leiaf.

Dywedodd y gweinidog tai, Julie James: ‘Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod cymorth i ddarpar-berchnogion tai newydd yn dal i fod yn berthnasol ac wedi’i dargedu at y rhai sydd ag arnynt ei angen fwyaf, yn enwedig yn y cyfnod economaidd heriol hwn.’

 

CYMRU 

Gwobr i broject ailgartrefu cyflym

Enillodd datblygiad bach o dai cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wobr genedlaethol am arloesi.

Enillodd Ffordd yr Eglwys, a godwyd gan gymdeithas tai Cymoedd i’r Arfordir, y categori ‘darparu arloesedd’ yng ngwobrau Stadau Cymru a redir gan Lywodraeth Cymru.

Y datblygiad pedwar-cartref yng Ngogledd Corneli oedd y cyntaf i gael ei adeiladu gan ddatblygwr tai cymdeithasol gan ddefnyddio dull adeiladu modiwlaidd, gyda phaneli inswleiddio strwythurol a gynhyrchwyd oddi ar y safle.

Mae’n arloesol nid yn unig yn y dull adeiladu, ond yn y dyluniad – gan gynnig llety un-llofft  wedi’i arosod ar arddull tŷ deulawr traddodiadol.

Cwblhawyd y cynllun fel rhan o’r Protocol Ailgartrefu Cyflym yn ystod y pandemig Covid a sbardunodd yr angen am dai fforddiadwy o ansawdd da i bobl sy’n symud ymlaen o lety dros-dro.

Cymerodd y cartrefi – a ddarparwyd gan Cymoedd i’r Arfordir mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ac a gyllidwyd gan grant ddigartrefedd Llywodraeth Cymru – ddim ond 12 mis o’r caniatâd cynllunio i fod yn barod i’w trosglwyddo.

Cawsant eu dylunio gan gwmni Pentan Architects o Gaerdydd a darparwyd y cydrannau modiwlaidd gan First Start Homes o Bont-y-clun.

Mae hwn, y datblygiad tai cymdeithasol cyntaf o’i fath yng Nghymru, ar gael fel archdeip bellach i ddatblygwyr tai cymdeithasol eraill yn y gobaith y gellir atgynhyrchu’r cynllun ar garlam mewn ardaloedd eraill.

Meddai Joanne Oak, prif weithredydd Cymoedd i’r Arfordir: ‘Ryn ni wrth ein bodd i ennill y wobr darparu arloesedd am ddatblygiad Ffordd yr Eglwys, ac yn falch i fod yn arwain y ffordd i Gymru o ran datblygu tai cymdeithasol newydd o’r math yma, a gobeithiwn weld mwy o’r tai modiwlaidd hyn yn cael eu codi i helpu gydag anghenion tai ardaloedd eraill.’

Caerffili yn cytuno ar bolisi perchenogaeth

Cymeradwydodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unfrydol Bolisi Perchenogaeth Cartrefi Cost-isel a fydd yn helpu pobl ar incwm is i ddod yn berchen tai fforddiadwy.

Mae’r polisi’n cynnwys eiddo a brynwyd gan y cyngor drwy’r system gynllunio neu eiddo a adeiladwyd drwy ei raglen ddatblygu ei hun, ac nid yw’n berthnasol i gartrefi o fewn ei stoc tai presennol.

Trwy’r polisi, gall darpar-brynwyr cartref brynu eiddo trwy gyfrwng cyd-ecwiti neu gyd-berchnogaeth. I fod yn gymwys, rhaid bodloni meini prawf penodol a nodir yn y polisi.

Meddai’r  Cyng. Shayne Cook, yr aelod cabinet dros dai: ‘Rydyn ni’n deall bod llawer o bobl leol yn dyheu am fod yn berchen cartref ond mae problemau cynyddol gyda fforddiadwyedd yn aml yn eu hatal rhag gallu prynu eu cartref eu hunain.

‘Rydym ar hyn o bryd yng nghanol argyfwng tai cenedlaethol a gyda dros 6,000 o ymgeiswyr wedi’u cofrestru ar Gofrestr Tai Gyffredin Caerffili, ‘fu darparu amrywiaeth o opsiynau i roi mynediad i dai cynaliadwy, fforddiadwy erioed yn bwysicach.

‘Mae’r cyngor yn cymryd camau breision ymlaen gyda gwireddu ei gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu cartrefi newydd a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol. Mae lansio’r Polisi Perchenogaeth Cartrefi Cost-isel yn gam arall ar y daith gyffrous hon.’

 

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1) Ail Arolwg Tenantiaid Cymru Gyfan Blynyddol ar Ganfyddiadau Tenantiaid – Yr Hawl i Deimlo’n Ddiogel ac yn Gynnes

TPAS Cymru, Ionawr 2023

https://www.tpas.cymru/blog/ail-adroddiad-arolwg-tenantiaid-blynyddol-cymru-gyfan-yr-hawl-i-deimlon-ddiogel-ac-yn-gynnes

2) Race equality in housing – A review of the policy approach in England, Scotland and Wales

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Rhagfyr 2022

housingevidence.ac.uk/wp-content/uploads/2022/12/12979_UoS_Equality_in_Housing_Report-13-December-22.pdf 

3) The Homelessness Monitor: Great Britain 2022

Crisis/Prifysgol Heriot-Watt, Rhagfyr 2022

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/homelessness-monitor/about/the-homelessness-monitor-great-britain-2022/

4) The Better Social Housing Review

Arolwg annibynnol, Rhagfyr 2022

www.bettersocialhousingreview.org.uk/

5) Hitting a Brick Wall – How the UK can upgrade its housing stock to reduce its energy bills and cut carbon  

The Economy 2030 Inquiry, Sefydliad Resolution, Rhagfyr 2022

economy2030.resolutionfoundation.org/reports/hitting-a-brick-wall/

6) Renters on low incomes face a policy black hole: homes for social rent are the answer

Sefydliad Joseph Rowntree, Hydref 2022

www.jrf.org.uk/report/renters-low-incomes-face-policy-black-hole-homes-social-rent-are-answer

7) Do affordable housing schemes reduce homeownership risks for low income households in England?

Prifysgol Efrog, Hydref 2022

www.york.ac.uk/media/business-society/news/2022/55103_Final Report Oct 22.pdf

8) How to mobilise renters to speak out: tenant voice

Sefydliad Nationwide, Ionawr 2023

www.nationwidefoundation.org.uk/how-to-mobilise-renters-to-speak-out-tenant-voice/

9) The living standards outlook 2023

Sefydliad Resolution, Ionawr 2023

www.resolutionfoundation.org/publications/the-living-standards-outlook-2023/

10) Poor country, rich country: why young people need a basic income

Y Gymdeithas Frenhinol er Hybu’r Celfyddydau, Cynhyrchu a Masnach (RSA), Ionawr 2023

www.thersa.org/blog/2023/01/poor-country-rich-minority-why-young-people-need-a-basic-income


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »