English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Dim atebion syml, dim ond yr un hen dôn gron

Mae lleithder, anwedd a llwydni yn her enfawr i landlordiaid cymdeithasol, sydd yn golygu ailfeddwl sut rydyn ni’n gweithredu, medd Duncan Forbes.

Roedd marwolaeth drasig Awaab Ishak yn ddwyflwydd oed, a achoswyd gan lwydni a oedd yn tyfu yn ei gartref, yn anffodus, fel tân Grenfell, yn ‘ddamwain arall yn aros i ddigwydd’ yn y byd tai cymdeithasol.

Does dim byd newydd o gwbl yn y canfyddiad bod llwydni yn achosi afiechyd. Bu hynny’n hysbys ers degawdau. Dechreuais fy ngyrfa yn y maes tai yn y 1980au fel cyfreithiwr tenantiaid yn erlyn awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 am ddarparu cartrefi a oedd yn ‘niweidiol i iechyd’ oherwydd anwedd a thwf llwydni.

Enillsom orchmynion llys ar gyfer mewnosod systemau gwresogi newydd, gwell inswleiddio ac awyru mecanyddol. Darparwyd tystiolaeth feddygol gennym bryd hynny gan arbenigwyr meddygol mewn anhwylderau anadlol ynghylch effaith niweidiol llwydni ar iechyd, yn enwedig plant (er, pan oedd rhieni’n ysmygwyr, roedd yr arbenigwyr meddygol o’r farn bod mwg tybaco yn cael effaith fwy niweidiol ar iechyd plentyn).

Câi tenantiaid glywed yr un hen dôn gron, ‘nid lleithder yw e, ond anwedd’ ynghyd â sylwadau mai’r broblem oedd eu ‘ffordd o fyw’. Yn aml, gallai tystiolaeth arbenigol ddangos mai dyluniad eu cartref oedd yr achos sylfaenol.

Ym 1993 sgrifennais ganllaw ar gyfer Panel Ymgynghorol Rheoli Tai Cymru (HMAP) o’r enw It’s not damp, it’s condensation! A guide to coping with condensation in the home’. Roedd hynny 30 mlynedd a mwy yn ôl, ac mae’n ddigalondid i weld rhai o’r un negeseuon a roddwyd i’r sector tai gan HMAP bryd hynny yn ymddangos eto nawr fel argymhellion adroddiad diweddar ombwdsmon Lloegr. Dwi ddim yn argyhoeddedig ein bod wedi symud ymlaen nemor ddim ers y 1980au neu’r 1990au.

Ar adeg pan fo llawer o denantiaid yn cael trafferth gwresogi a bwyta, ac y disgwylir i gostau ynni godi ymhellach, dim ond cynyddu mae’n debyg a wnaiff problemau anwedd a llwydni yn y misoedd i ddod.

I landlordiaid cymdeithasol, mae trin lleithder, anwedd a llwydni yn her enfawr a allai fod yn gymaint, os nad yn fwy, o her na diogelwch tân. Gall gostio mwy i i’w ddatrys a chymryd llawer yn hwy na diogelwch tân. Er enghraifft, yn Trivallis dros y 12 mis diwethaf cawsom fwy na 1,000 o alwadau gan ein tenantiaid yn mynegi pryderon am leithder ac anwedd. Yng Nghymru mae gennym rwymedigaethau cytundebol newydd ers Rhagfyr 2022 i sicrhau bod cartrefi’n ffit i bobl fyw ynddynt sy’n cynnwys rhyddid rhag lleithder a llwydni oni bai iddynt gael eu hachosi gan y tenant. Er nad yw hyn yn dechnegol yn newid y rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n arnom eisoes, mae’n egluro hawliau tenantiaid ac yn gwneud hawlio iawndal cyfreithiol yn haws.

Dyma rai o’r rhesymau pam mae lleithder, anwedd a llwydni yn her mor fawr a rhai o’r problemau mae angen i ni ddelio â nhw ar fyrder.

Yr heriau diwylliannol

Fel diogelwch tân, ein her fwyaf yw diwylliant a ffocws. Buom yn methu ar lefel uwch-arweiniol (bwrdd a gweithredol) ac ar lefel reoleiddiol am na roddodd pawb ddigon o sylw i hyn; dydy e ddim wedi bod ar yr agendâu iawn a bron yn sicr heb gael unrhyw le arwyddocaol ar ein cofrestrau risg. Ceir tystiolaeth o hyn gan ymateb difeddwl y rheoleiddwyr tai nad ydyn nhw erioed wedi gofyn cwestiwn ynglŷn â llwydni o’r blaen a’r ffaith ein bod ni fel landlordiaid bellach yn sgrialu o gwmpas yn ceisio canfod nifer gwirioneddol yr achosion o leithder a llwydni a ddylai fod wedi bod ar flaenau’n bysedd.

Fel diogelwch tân, mae ymdrin â phroblemau anwedd yn gofyn am ymateb gan yr holl sefydliad gan ei fod yn cynnwys asedau, atgyweirio, rheoli tai a thimau cefnogi (yn aml gyda chyngor ariannol hefyd). Rydym yn llwyddo i reoli niferoedd helaeth o drafodion sy’n ymwneud â thimau unigol fel problemau gydag atgyweirio a rheolaeth tai, ond pan fydd ein hymateb yn gofyn i sawl tîm weithio’n ddwys gyda’r un broblem a’r un aelwyd, yn rhy aml fe’i cawn hi’n anodd darparu ymateb effeithiol.

Mae gennym broblem fawr gydag iaith. Mae ‘lleithder’ mewn jargon eiddo yn golygu tamprwydd cynyddol, lleithder treiddiol neu bibell fewnol sy’n gollwng, h.y. problem atgyweirio. I syrfëwr eiddo, dydy’r gair ‘lleithder’ ddim fel arfer yn cynnwys anwedd. Ond mae ystyr naturiol y gair ‘lleithder’ yn bendant yn cynnwys anwedd. Os oes gan denantiaid anwedd yn eu cartref, maen nhw’n profi lleithder yn ystyr arferol y gair.

Felly mae’n tenantiaid a’n staff yn siarad iaith wahanol. Mae angen i ni fod yn gwbl glir mai math o leithder yw anwedd a pheidio byth ag ynganu’r ymadrodd ‘dim lleithder yw hwn, ond anwedd’ sydd, mae arna’i ofn, yn dal i gael ei ddefnyddio.

Mae gan ormod ohonom ddiwylliant ymhlith rhai o’n staff sy’n llawer rhy barod i feio tenantiaid am anwedd ac mae gormod o’n staff heb werthfawrogi pa mor anodd/ amhosibl yw hi i oroesi ar incwm isel iawn. Mae gennym bocedi o staff o hyd sy’n credu y dylai’n tenantiaid fod yn ‘ddiolchgar am yr hyn sy ganddyn nhw’. Dydy hyn ddim yn syndod efallai, pan fo Lywodraeth y DU yn hyrwyddo diwylliant sy’n mynnu mai ar y bobl eu hunain mae’r bai os ydyn nhw ar fudd-daliadau neu ar incwm isel.

Mae’r gred hon yn arwain at y trafodaethau ryn ni’n dal i’w cael gyda thenantiaid am ‘ffordd o fyw’. Mae’n derm sy’n drymlwythog o feirniadaeth ar sut mae tenantiaid yn byw eu bywyd, yn defnyddio’u cartref a hyd yn oed yn gofalu am eu plant os effeithir ar eu hiechyd. Mae’n derm sy’n gwbl sicr o godi gwrychyn tenant o’r cychwyn cyntaf a niweidio’u perthynas â’u landlord yn ddifrifol. Ac eto mae rhai o’n staff yn dal i ddefnyddio’r union ymadrodd yma yn 2023.

Her y systemau

Mae ein timau eiddo a’u systemau TGCh yn cyfrif ‘widgets’. Mae’n holl gynlluniau busnes a’n systemau atgyweirio ac asedau wedi’u seilio ar gyfrif cydrannau; pryd fydd angen eu hatgyweirio neu eu hadnewyddu a beth fydd cost atgyweirio cydrannau unigol, gan ystyried cyflenwadau a llafur. Does nunlle yn y systemau ar gyfer rhywbeth mor gymhleth â chael gwared o broblem anwedd, na ellir ei datrys trwy newid un neu fwy o gydrannau yn unig. Mae’n fater llawer mwy cymhleth fel arfer. Yn syml, dydy’r rhan fwyaf o’n systemau TGCh ddim yn addas i’r diben hwn.

Does gan y rhan fwyaf o feddalwedd parod y maes tai ddim dull iawn o gofnodi lleithder ac anwedd yn effeithiol. Mewn sawl sefydliad y bûm yn eu harwain, yr unig ffordd o ddarganfod nifer yr achosion o leithder neu anwedd oedd rhedeg chwiliad o eiriau allweddol yn y maes naratif, gan obeithio y defnyddiodd y ganolfan alw yr union eiriau hynny i gofnodi’r broblem. Mae hyd yn oed rhai o’n harolygon cyflwr stoc a gomisiynwyd ar gyfer degau (yn aml cannoedd!) o filoedd o dai yn seiliedig ar gyfrif cydrannau, heb nodi’n glir bod lleithder a llwydni yn broblem. Pa mor wallgo yw hynny!?

Mae delio ag achos o anwedd a llwydni yn golygu gwaith achos hen-ffasiwn da gan sawl tîm gyda’i gilydd yn ymateb i’r tenant ond hefyd yn gweithio’n rhagweithiol gyda’r tenant a’i deulu. Mae gan lawer ohonom systemau TGCh â threfn waith ar gyfer gwaith achos ond dwi’n amau mai ychydig, os unrhyw rai, sydd â threfn waith ar gyfer achosion o anwedd a llwydni neu drefn waith ar draws eu holl system TGCh ar gyfer asedau, atgyweirio a rheoli tai. Felly, prin yw’r prosesau safonol sy’n bodoli i sicrhau (a rhoi sicrwydd i weithredwyr, bwrdd a rheoleiddwyr) yr ymdrinir â’r achosion hyn yn y ffordd iawn.

Her y sgiliau

Mae diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â lleithder a llwydni yn ein sefydliadau a llawer rhy ychydig o staff â’r arbenigedd angenrheidiol. Mae hynny o arbenigedd sy’n bod yn aml yn bodoli o fewn grŵp bach iawn o syrfewyr o fewn ein timau asedau neu atgyweirio. Magwyd hyd yn oed y rheini i weld ‘lleithder’ fel problem y mae’r landlord yn gyfrifol amdani tra bod anwedd yn gyfrifoldeb y tenant. Mae arnom angen i ystod llawer ehangach o staff ddeall mwy am anwedd, ei achosion a sut i’w osgoi neu ei leihau. Dylai swyddogion cyswllt tenantiaid, swyddogion tai a thimau cymorth fod yn gallu rhoi cyngor sylfaenol.

Her y datrys

Mae gwneud diagnosis o achos dadfeiliad yn llawer haws na gwneud diagnosis o broblem anwedd. ‘Diagnosis cyn cymorth cyntaf’ yw’r mantra; rhaid i ni beidio â neidio i mewn ag ateb sydyn ond, yn hytrach, darganfod y gwir achosion.

Mae pob cartref, pob teulu, pob newid defnydd a phob awr yn arwain at wahanol gydbwysedd tymheredd, lleithder a gynhyrchir ac awyru; rhaid i’r tri fod mewn cydbwysedd cywir er mwyn osgoi anwedd.

Bydd gwneud diagnosis o wir achos anwedd mewn cartref penodol yn golygu monitro tymheredd a goleithder yn effeithiol dros gyfnod o ddefnydd, yn ogystal ag arbenigedd staff. Yn aml wedyn bydd angen cyfuniad o weithredu gan landlord a thenant, a monitro pellach i wirio a fu’r camau a gymerwyd yn effeithiol.

Bydd angen i ni fod â mwy o arbenigedd ein hunain er mwyn gwybod sut y gellir rheoli goleithder trwy newidiadau realistig a chyraeddadwy yn y modd y defnyddir y cartref, a bod yn llawer gwell am gefnogi tenantiaid a’u teuluoedd i wneud y newid iawn ar yr adeg iawn. Os cymerir y camau anghywir yna gall anwedd waethygu a chaiff ymddiriedaeth ei niweidio. Bydd rhaid i ni roi dyfeisiau monitro iddyn nhw i’w galluogi i fesur a rheoleiddio’r goleithder eu cartrefi eu hunain ynghyd â gwybodaeth a chyngor o ansawdd da.

Bydd perthynas waith dda barhaus gyda’r tenant a’i deulu sy’n magu ymddiriedaeth, a phartneriaeth rhwng landlord a thenant i ganfod y broblem a’i datrys yn y modd iawn yn hanfodol.

Her graddfa a chost

Bydd gan y landlordiaid hynny (awdurdodau lleol a chymdeithasau tai trosglwyddiad stoc yn bennaf), â llawer o’u stoc wedi’i adeiladu yn y ‘50au a’r ‘60au, yn llythrennol ugeiniau o unedau eiddo â phroblemau anwedd ac yn anffodus bydd llawer o’r rhain yn dioddef o rywfaint o dwf llwydni. Wrth i Lywodraeth y DU hyrwyddo insiwleiddio waliau deublyg â grantiau hael, bydd nifer o’r landlordiaid hyn hefyd wedi mewnosod inswleiddio waliau deublyg mewn waliau gorllewinol sydd bellach yn arwain at leithder treiddiol (cynghorodd BRE yn erbyn hyn ymhell cyn iddo ddigwydd!).

Mae datrys problemau anwedd yn aml yn ddrud; gosod systemau gwresogi newydd, inswleiddio allanol neu fewnol ac awyru mecanyddol. Os oes mannau oer sylweddol yng nghartref tenant, yna rhaid insiwleiddio i ddatrys y broblem a gall hwn fod yn un o’r mesurau drutaf ac yn un sy’n peri anghyfleustra mawr os yw’n fewnol.

Mae’r cyfuniad o angen a datrysiadau drudfawr yn achosi coblyn o gur pen ariannol i landlordiaid sy’n gorfod ymdrin â’r problemau hyn.

Her dysgu

Mae a wnelo llawer achos o ‘ddadfeiliad’ â lleithder a llwydni. Ond, fel y noda Ombwdsmon Lloegr, dydyn ni ddim yn trin y rhain fel cwynion pan ddylem. Dylid nodi’r hyn a ddysgir gan achosion o’r fath a’i ddefnyddio i addasu’n prosesau a’n hymatebion.

Her awyru

Yn aml gosodwyd systemau awyru mecanyddol mewn cartrefi i ddileu gwlybaniaeth, er enghraifft o stafelloedd ymolchi a cheginau. Mae gan bob ffenestr gwydro-dwbl ‘awyrell ddafnu’ (trickle vent). Ond dydy rhai o’r systemau hyn ddim yn gweithio’n effeithiol yma yng Nghymru oherwydd, hyd yn oed mewn gwynt cymedrol sy’n gyffredin yma, gall drafft llaith, oer chwythu i mewn i’r cartref yn hytrach na bod aer llaith yn dianc neu’n cael ei sugno allan. Gall y system awyru fod yn gwaethygu’r problemau anwedd a dim rhyfedd bod tenantiaid yn cau awyrellau neu’n atal awyru mecanyddol i gadw’r drafftiau oer allan o’u cartrefi. Y broblem go iawn yw dyluniad diffygiol.

Her fforddiadwyedd

Mae’n hanfodol ein bod yn realistig ynghylch y camau y gall tenantiaid fforddio eu cymryd i leihau neu atal anwedd yn eu cartrefi.

Mae natur ein grŵp cwsmeriaid yn golygu y dylem fod yn darparu cartrefi y gellir eu cadw’n gynnes yn fforddiadwy gan rai ar incwm isel iawn. Os nad yw hynny’n bosibl, yna ein cyfrifoldeb ni yw gwella’r cartrefi fel y gallant fod.

Er enghraifft, byddai cynyddu tymheredd cartrefi gyda’r awyru cywir yn lleihau problemau anwedd yn sylweddol. Gall ‘trowch y gwres i fyny ac agorwch y ffenestri’ fod yn ateb ar adegau. Ond mae’n gwbl afrealistig ar adeg pan fo llawer o denantiaid yn cael trafferth gwresogi a bwyta a phan fo costau ynni’n dal i godi. Mae’n rhaid i ni sicrhau y gall pobl fforddio gwresogi eu cartrefi.

Enghraifft arall yw bod pobl yn arfer rhoi golch allan ar lein ddillad gymunedol ond nawr mae pobl yn poeni y caiff ei dwyn. Felly, sychu’r olch yn y cartref yw’r norm newydd angenrheidiol. I’r rhai heb yr arian i brynu peiriannau sychu dillad wedi’u hawyru, does dim dewis arall ond crogi’r dillad rywle y tu mewn i’r cartref i’w sychu os nad oes golchdy rhad gerllaw. Rhaid i ni fod yn realistig nad oes dewis arall heblaw sychu dillad y tu mewn i’r cartref ond gan allu cynghori ar yr hyn y gellir ei wneud i leihau effaith y gwlybaniaeth a gynhyrchir ar anwedd.

Y ffordd ymlaen

Does dim ateb cyflym ac yn anffodus mae problem anwedd a llwydni yn mynd i gynyddu gyda chost uchel ynni, mwy o bwysau ar adnoddau teuluoedd a mwy o dlodi. Bydd hefyd yn fwy amlwg wrth i landlordiaid wella eu systemau ar gyfer cofnodi a chanfod ac wrth i denantiaid adrodd am fwy o achosion oherwydd y cyhoeddusrwydd ynghylch y peryglon i iechyd a achosir gan lwydni. Felly mae’n debygol iawn y bydd y niferoedd yn cynyddu.

Am gamau cyntaf, prin bod angen i ni edrych ymhellach nag argymhellion adroddiad Ombwdsmon Lloegr. Un agwedd allweddol sydd ar goll, efallai, yw bod angen i’r bwrdd a’r gweithredwyr gymryd cyfrifoldeb a bod yn atebol am sicrhau bod y sefydliad cyfan yn ymateb yn effeithiol.

Yn y tymor canolig mae’n ffodus bod y ffocws diweddar ar ôl-ffitio cartrefi i’w gwneud yn ddi-garbon yn golygu bod landlordiaid cymdeithasol eisoes yn gweithio ar raglenni ôl-ffitio ac yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw ailddiffinio ac ailflaenoriaethu’r rhaglen ôl-ffitio hon. Dylid ei hailddiffinio fel rhaglen gynhesrwydd fforddiadwy yn gyntaf a rhaglen ddi-garbon yn ail a dylid blaenoriaethu ôl-ffitio i dargedu’r cartrefi sydd yn anoddaf i’w gwresogi a’r rhai sydd â’r problemau mwyaf o ran anwedd.

Yn rhifyn Ebrill 2022 o WHQ sgrifennais erthygl yn dadlau bod angen i ni weithio’n llawer agosach gyda thenantiaid ar y rhaglen ôl-ffitio a bod angen inni fod yn gliriach gyda thenantiaid ynglŷn â sut y byddan nhw yn elwa o ôl-ffitio. Os gweithiwn ni gyda thenantiaid nawr ar broblemau anwedd, bydd y bartneriaeth honno’n ymestyn i weithredu rhaglenni gwella i helpu i ddatrys y problemau yn y tymor hir.

Ond un gair o rybudd ynghylch ôl-ffitio. Os mabwysiadwn ni’r dull arfaethedig o ‘ffabrig yn gyntaf’ a chanolbwyntio ar waith a fydd yn selio cartrefi’n well ac felly’n lleihau newidiadau yn aer cartrefi pobl i’w gwneud yn gynhesach, gallem yn anfwriadol gynyddu anwedd. Bydd llai o awyru. Dylem ystyried ôl-ffitio cartref cyfan ar y tro, i sicrhau cydbwysedd newydd gwell rhwng tymheredd ac awyru, yn hytrach na rhaglenni tameidiog o wella cydrannau penodol.

Mae Duncan Forbes yn gyfreithiwr ac yn brif weithredydd Trivallis


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »