Rhaid i atebion hirdymor i’r argyfwng costau byw gychwyn gyda thrwsio rhwyd diogelwch nawdd cymdeithasol a ddifrodwyd gan ddeng mlynedd o doriadau, medd Victoria Winckler.
Mae pobl yng Nghymru eisoes yn wynebu dewisiadau anodd. Fis Gorffennaf comisiynodd Sefydliad Bevan arolwg gan YouGov ar sut mae pobl yn ymdopi â chostau byw. Gyda mwy na 1,000 o ymatebion, wedi’u pwysoli i adlewyrchu poblogaeth Cymru, mae’n fewnwelediad unigryw i amgylchiadau ariannol pobl. Dangosai’r canlyniadau fod mwy nag un o bob wyth aelwyd (13 y cant) naill ai weithiau neu yn aml yn cael trafferth fforddio eitemau bob-dydd – pethau fel bwyd, nwy a thrydan a thocynnau bws. Dywedodd 32 y cant arall fod ganddynt ddigon ar gyfer pethau sylfaenol ond fawr ddim byd arall.
Mae’r sefyllfa eisoes yn destun pryder mawr. Mae’r ffaith bod bron hanner poblogaeth Cymru prin yn ymdopi nid yn unig o bwys i’r aelwydydd sy’n cyfrif pob ceiniog, ond ag oblygiadau enfawr i’r economi. Mae llawer o weithgarwch busnes Cymru yn dibynnu ar wariant teuluol ar bopeth o fwyd i ffasiwn i wyliau penwythnos. Pan fo pobl yn torri’n ôl ar wariant, busnesau lleol sy’n dioddef.
Mae hyd yn oed yn fwy brawychus ar drothwy’r hydref a’r gaeaf. Mae cynnydd pellach mewn prisiau ar y gweill. Mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd y brif gyfradd chwyddiant yn cyrraedd penllanw o 11 y cant ym mis Hydref ac yn aros yn uwch na 10 y cant ‘am ychydig fisoedd’ cyn disgyn yn raddol i tua 2 y cant tua diwedd 2024. Mewn geiriau eraill, byddwn yn byw gyda chynnydd mewn prisiau am ddwy flynedd arall ac mae’r gost uwch yma i aros.
Efallai na fyddai’r rhagolygon chwyddiant yn destun cymaint o bryder pe bai incwm aelwydydd yn cynyddu cyfuwch â’r prisiau. Ond nid felly y bu hyd yma ac mae’n annhebygol o newid yn y dyfodol. Rhagwelir cynnydd o 6.2 y cant mewn cyflogau yn y misoedd nesaf, llai na’r gyfradd chwyddiant gyfredol ac ymhell islaw’r gyfradd a ddisgwylir dros y gaeaf. Mae cynyddu budd-daliadau nawdd cymdeithasol o fis Ebrill 2023 yn destun dadl ar adeg sgrifennu’r adroddiad hwn ond dichon mai cynnydd o ryw 5.5 y cant a welir yn hytrach nag un yn cyfateb i chwyddiant fel yr arferai fod.
Bydd prisiau cynyddol ac incymau statig yn ddi-os yn gwasgu aelwydydd ymhellach. I’r rhai sy’n dal i fod ag arian dros ben, diau y bydd rhywfaint o dynhau gwregys: llai o brydau allan efallai neu osod y thermostat radd yn is. I’r rhai sydd prin yn ymdopi, bydd bywyd yn galetach fyth: dognau llai o fwyd rhatach efallai a dim gwres oni bai ei bod yn rhewi. Ond yr aelwydydd a oedd eisoes yn mynd heb y pethau hyn ddylai fod yn destun pryder gwirioneddol. Maent yn wynebu – ac nid ar chwarae bach y defnyddiaf y term hwn – amddifadedd gwirioneddol. Wrth hyn, golygir bod heb fwyd, gwres, dillad cynnes, sebon a phast dannedd nid dim ond unwaith ond wythnos ar ôl wythnos.
Mewn ymchwil ddiweddar heb ei chyhoeddi rwyf wedi clywed am nifer cynyddol sydd mewn cyflwr argyfyngus. Mae’r nifer sy’n defnyddio banciau bwyd wedi cynyddu’n aruthrol, mae’r nifer sy’n derbyn taliadau brys drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol ar y lefelau uchaf erioed tra bod dwywaith cymaint o bobl mewn llety dros-dro am eu bod yn ddigartref nag oedd ym mis Awst 2020. Mae’r trallod dynol y tu ôl i’r ystadegau hyn yn ofnadwy.
Beth sy’n cael ei wneud?
Mae mwy yn cael ei wneud i gefnogi pobl nag y mae llywodraethau efallai’n cael clod amdano. Yn ogystal â chapio prisiau ynni drwy Warant Pris Ynni, mae Cynllun Lliniaru Biliau Ynni Llywodraeth y DU yn cwtogi ar filiau cartrefi o £400 am chwe mis o fis Hydref eleni. Er i brisiau ynni ddyblu yn y flwyddyn ddiwethaf (hyd yn oed gyda’r Warant Pris Ynni), mae cael £15 ychwanegol yr wythnos ar y mesurydd o gymorth. Yn yr un modd, mae taliadau costau byw Llywodraeth y DU ar gyfer rhai derbynwyr budd-daliadau – cyfanswm o £650 a dalwyd mewn dau randaliad yng Ngorffennaf a Thachwedd 2022 – yn werth £25 yr wythnos dros y cyfnod.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu nifer o gynlluniau hefyd. Yn gynharach eleni talodd £150 i bob aelwyd ym mandiau treth gyngor A-D. Mae ei Gynllun Tanwydd Gaeaf ei hun a roddodd £200 i gartrefi incwm isel cymwys y gaeaf diwethaf newydd ailagor ar gyfer taliadau pellach. Yn yr haf cynyddodd gwerth ei Grant Datblygu Disgyblion i £225 i bob disgybl cymwys, ac ymestynwyd cymhwysedd i bob grŵp blwyddyn, ac mae’n parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys yn ystod y gwyliau, yn aml ar ffurf taliadau arian parod o tua £19.50 yr wythnos y plentyn, hyd at Chwefror 2023.
Mae gweinidogion Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn honni – gyda pheth cyfiawnhad – eu bod eisoes yn gwneud llawer. Dichon y bydd prif weinidog y DU yn edrych ar y bil o dros £100 biliwn am y Warant Pris Ynni a’r Cynllun Lliniaru Biliau Ynni a thybio beth yn fwy raid iddo’i wneud!
Mae’r ffaith nad yw’r cynlluniau hyn yn ddigon, er gwaethaf y gwariant enfawr, yn deillio o broblemau sylfaenol yn y cymorth a roddir i aelwydydd incwm-isel. Yn syml iawn, mae gwerth budd-daliadau nawdd cymdeithasol i rai o oedran gwaith yn rhy isel. Prin fod budd-daliadau’n ddigonol ddeng mlynedd yn ôl, cyn cyflwyno’r Credyd Cynhwysol, ac ers hynny cawsant eu herydu’n raddol. Rhagwelwyd ers tro y byddai effeithiau’r dreth stafell wely, y terfyn dau-blentyn, y cap ar fudd-daliadau, gostwng y Lwfans Tai Lleol i’r 30ain canradd o renti, rhewi’r cyfraddau, a llu o newidiadau eraill yn peri gostyngiad anferth mewn termau real yng ngwerth nawdd cymdeithasol. Ac felly y bu.
Fodd bynnag, fe gymerodd hi Covid yn gyntaf, ac yn awr, chwyddiant aruthrol i ddatgelu effaith deng mlynedd o doriadau i fudd-daliadau. Drosodd a throsodd, dywed gweithwyr rheng-flaen wrthym fod argyfwng ariannol difrifol bellach yn un o ffeithiau bywyd beunyddiol aelwydydd ar incwm isel, nid argyfwng unigryw yn deillio o ddigwyddiad nas rhagwelwyd fel tân, llifogydd neu ladrad.
Yn erbyn cefndir system nawdd cymdeithasol annigonol, dim rhyfedd nad yw clytwaith o grantiau a chynlluniau untro gwahanol yn cael yr effaith – na’r croeso cynnes – y byddai gwleidyddion yn ei ddymuno. Mae’n anodd i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r cynlluniau hyn i’w olrhain i gyd, heb sôn am ymgeisydd dan straen, yn fyr o amser AC arian, sy’n gorfod llywio ffordd drwyddynt.
At hynny, mae’r rhan fwyaf o bobl ar incwm isel yn rheoli eu cyllidebau i’r geiniog olaf. Er y gwn bod taliadau untro yn hynod ddefnyddiol, boed er cefnogi costau byw beunyddiol, prynu eitemau i gymryd lle rhai sydd wedi treulio neu i glirio ôl-ddyledion, dydyn nhw ddim yn helpu yn y tymor hir. Mae’n bosibl iawn y bydd y Cynllun Lliniaru Biliau Ynni yn golygu ychydig oriau ychwanegol o wres y gaeaf yma, ond beth am fis Mai neu fis Hydref nesaf?
Mae’r ddadl am nawdd cymdeithasol yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar y pethau bach – y cynnydd o £20 neu’r mecanwaith uwchraddio, er enghraifft. Ond does dim her i’r erydu hirdymor yn ei werth, y capiau cosbol na’r didyniadau otomatig sy’n cyfuno i warantu lled-amddifadedd i lawer o dderbynwyr budd-daliadau. Gyda phrisiau uchel yma i aros, dyma drafodaeth sydd angen ei chynnal ar fyrder.
Victoria Winckler yw cyfarwyddydd Sefydliad Bevan