Mae’r ffaith bod prisiau popeth, o fwyd a phetrol i nwy a thrydan, ar gynnydd yn golygu bod gaeaf llwm yn wynebu Cymru a gweddill y DU.
Dywed un o bob wyth aelwyd eu bod eisoes yn cael trafferth fforddio eitemau bob-dydd a thraean arall bod ganddynt ddigon o arian i dalu am bethau sylfaenol ond fawr ddim arall. Mae’r ffaith bod sefydliadau tai yn teimlo rheidrwydd i gamu i’r adwy i gefnogi eu staff yn ogystal â’u tenantiaid a’r gymuned ehangach yn dangos cynddrwg yw pethau eisoes.
Ar lwyfan gwleidyddol y DU, mae’r rhifyn hwn o WHQ yn mynd i’r wasg yn sgil ymddiswyddiad prif weinidog ar ôl 44 diwrnod, gyda Rishi Sunak ar fin cymryd yr awenau, a’r posibilrwydd o gyfnod arall o lymder ar y gorwel.
Felly, yn anochel, yr argyfwng costau byw fydd thema’r rhifyn hwn o WHQ, a dechreuwn â chyfweliad gyda’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James. Beth yw ei hymateb hi i’r hyn sy’n digwydd yn San Steffan? Beth yn fwy all Llywodraeth Cymru ei wneud? A beth yw ei syniadau hi ar bwnc hollbwysig rhenti?
Cawn safbwyntiau o bob rhan o’r sector tai a thu hwnt. Rhydd Victoria Winckler yr argyfwng cyfredol yng nghyd-destun degawd o doriadau i rwyd ddiogelwch nawdd cymdeithasol gan ddadlau eu bod yn gyfuniad sy’n gwarantu lled-amddifadedd i dderbynwyr budd-daliadau.
Mae Ben Saltmarsh yn amlinellu’r cymorth penodol sydd ar gael ar gyfer costau ynni ac mae’n dadlau bod angen gweithredu ym mhob maes, gan gynnwys gwaith i wella effeithlonrwydd ynni stoc tai sydd ymhlith yr hynaf a’r mwyaf drafftiog yn Ewrop.
Datgelir tystiolaeth frawychus am effaith yr argyfwng ar weithwyr rheng-flaen gan Katie Dalton ac eglura Jennie Bibbings pam fod rhaid mynd i’r afael â chost yr argyfwng tai hefyd.
Cawn adroddiadau hefyd gan Laura Courtney a Gareth Leech ar yr hyn y mae cymdeithasau tai yn ei wneud i helpu tenantiaid a staff ledled Cymru a chan Karen Thomas ar sut mae’r argyfwng yn ymestyn gwaith chyngori ariannol i gyfeiriadau newydd.
Mewn rhan arall o’r rhifyn hwn cyflwynir ymchwil a wnaed ar gyfer ymgyrch Cefnogi’r Bil ar y manteision a’r arbedion y gallai sefydlu hawl i dai digonol eu cynhyrchu yng Nghymru.
Mae Joy Kent yn ystyried dyfodol gwaith yn sgil y pandemig ac yn siarad â sefydliadau tai ynglŷn â sut y maent yn ymateb.
Ac mae Shan Lloyd Williams yn adrodd ar y Comisiwn Cymunedau Cymraeg newydd a’r camau mae’n eu cymryd i newid pethau o blaid y Gymraeg.
Hyn oll, ynghyd â’n holl ddiweddariadau rheolaidd, yn y rhifyn Hydref hwn o WHQ.
Jules Birch, golygydd, WHQ