English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DU

Daw Prif Weinidog arall heibio cyn hir

Roedd hi’n anhrefn ar ben anhrefn yn San Steffan wrth i Liz Truss ymddiswyddo fel prif weinidog ar ôl dim ond 44 diwrnod gyda Rishi Sunak yn cymryd yr awenau.

Yn yr ychydig wythnosau cythryblus cyn hynny, cawsai’r canghellor Kwasi Kwarteng ei ddiswyddo am gyfwyno’r toriadau treth roedd Truss wedi’u haddo yn y ras flaenorol mewn Cyllideb fach a frawychodd y marchnadoedd ariannol ac anfon cost morgais i’r entrychion.

Fe’i disodlwyd gan Jeremy Hunt, a ganslodd y rhan fwyaf o’r toriadau treth a gosod y sail ar gyfer toriadau ‘arteithiol’ mewn gwariant cyhoeddus mewn strategaeth gyllidol dymor-canolig i’w chyhoeddi ar Hydref 31.

Roedd agenda Truss hefyd yn cynnig diwygiadau ar yr ochr gyflenwi gan gynnwys creu parthau buddsoddi ledled y DU. Byddai’r rhain yn cynnig consesiynau treth a dadreoleiddio ar gyfer datblygu, gan gynnwys adeiladu tai.

Bydd penderfyniadau cyllidebol allweddol i’r llywodraeth newydd yn cynnwys p’un ai i dorri addewid gan lywodraeth Boris Johnson i gynyddu budd-daliadau yn unol â phrisiau yn ogystal ag a ddylid parhau i rewi’r lwfans tai lleol a’r cap at fudd-daliadau.

 

LLOEGR

Gostwng y dreth stamp i brynwyr tai

Prif nodwedd y Gyllideb fach ar gyfer Lloegr yn unig oedd gostyngiad mawr yn y dreth stamp, cam y dywedai’r Trysorlys y byddai’n hybu twf economaidd.

Dyblodd y trothwy ar gyfer y dreth o £125,000 i £250,000 i rai sy’n symud tŷ a chynyddodd o £300,000 i £425,000 i brynwyr tro-cyntaf am gost yr amcangyfrifir y bydd yn £7 biliwn dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd y Trysorlys y golygai hyn 29,000 o symudiadau tai ychwanegol y flwyddyn gan greu mwy o swyddi mewn sectorau’n ymwneud ag eiddo.

Roedd gostwng y dreth stamp yn un o ddim ond dau doriad treth a oroesodd ailwampiad y canghellor newydd Jeremy Hunt.

Terfyn arfaethedig ar renti tai cymdeithasol

Cyhoeddodd yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau ymgynghoriad ar roi cap ar gynnydd mewn rhenti ar gyfer tai cymdeithasol mewn ymateb i’r cynnydd mewn costau byw.

Bydd rhenti’n cynyddu bob mis Ebrill yn ôl fformiwla sy’n seiliedig ar gyfradd Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr y mis Medi blaenorol ynghyd ag 1 y cant, a fyddai’n gynnydd o 11.1 y cant ar gyfer 2023.

Fodd bynnag, mae’r ymgynghoriad o blaid cynnydd o 5 y cant, a fyddai’n golygu colled o £7.4 biliwn mewn incwm rhent dros y pum mlynedd nesaf yn ôl asesiad effaith cysylltiedig. Byddai tenantiaid nad ydynt ar fudd-dal tai yn arbed £2.8 biliwn drwy hyn, ond y llywodraeth ei hun fyddai’n elwa fwyaf, gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau yn arbed £4.6 biliwn mewn budd-dal tai.

Galwodd y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a’r Sefydliad Tai Siartredig am derfyn uwch o 7 y cant i ddiogelu buddsoddi mewn cartrefi.

 

YR ALBAN

Gellid rhewi rhenti y tu hwnt i fis Ebrill

Cyfuniad o rewi rhenti a moratoriwm ar droi allan er mwyn helpu pobl drwy’r argyfwng costau oedd canolbwynt Rhaglen Lywodraethu 2022-23 a gyhoeddwyd ym mis Medi.

Roedd y rhaglen yn amlinellu deddfwriaeth frys a fydd yn cael ei chyflwyno i rewi rhenti tan o leiaf 31 Mawrth 2023 a moratoriwm ar droi allan, yn ogystal ag ymgyrch hawliau tenantiaid newydd. Yn ogystal, bydd gwefan ‘siop-un-stop’ yn cael ei sefydlu i roi gwybodaeth i bobl am yr ystod o fudd-daliadau a chymorth sydd ar gael i’w helpu drwy’r argyfwng costau byw presennol.

Pasiwyd Bil Costau Byw (Amddiffyn Tenantiaid)(Yr Alban) ddechrau mis Hydref sydd yn deddfu fel a ganlyn:

  • terfyn dros-dro ar gynyddu rhenti
  • moratoriwm dros-dro ar droi allan (saib ar orfodi gorchymyn neu archddyfarniad troi allan, yn debyg i’r hyn a gafwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19) ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o amgylchiadau
  • cynnydd yn yr iawndal y gellir ei ddyfarnu mewn achosion lle mae landlord yn troi allan anghyfreithlon

Dywed Llywodraeth yr Alban mai’r bwriad yw y bydd y mesurau yn eu lle tan o leiaf 31 Mawrth 2023, ond mae’r Bil yn cynnwys dyletswydd ar weinidogion i adolygu’r mesurau.

Mae’r Bil hefyd yn cynnwys pŵer i ymestyn y mesurau am ddau gyfnod pellach o chwe mis, pe bai gwneud hynny yn angenrheidiol ac yn gymesur. Byddai ar weinidogion angen cytundeb Senedd yr Alban er mwyn gwneud hyn.

 

LLYWODRAETH CYMRU

Hutt yn apelio am groesawu mwy o ffoaduriaid o Wcráin

Mae’r gweinidog cyfiawnder cymdeithasol Jane Hutt wedi apelio ar i fwy o bobol yng Nghymru gynnig llety i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Wcráin.

Diolchodd i aelwydydd ledled Cymru sydd eisoes wedi cynnig eu croesawu ond dywedodd ei bod yn ‘hanfodol’ bod mwy yn ymuno â nhw.

Roedd tua 5,650 o bobl o Wcráin a noddwyd gan Lywodraeth Cymru a theuluoedd Cymreig wedi cyrraedd y DU erbyn diwedd mis Medi ond mae mwy nag 8,200 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru.

Dywedodd y gweinidog: ‘Noddodd miloedd o aelwydd yng Nghymru Wcraniaid i ddod i Gymru ac ymrwymo i’w lletya am o leiaf chwe mis. Wrth inni symud i mewn i’r hydref, rydym yn nesáu at ddiwedd y cyfnod hwnnw. Gobeithio y bydd gwesteiwyr ac Wcraniaid yn cytuno i ymestyn llawer o’r lleoliadau hynny, ond mae arnom angen gwesteiwyr ychwanegol i gefnogi’r rhai na fydd yn gallu parhau i fyw yn yr un lle.’

‘Er mwyn sicrhau croeso cynnes i Gymru, rwy’n estyn gwahoddiad i aelwydydd ledled Cymru i agor eu cartrefi i groesawu’r rhai sy’n ceisio noddfa. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb ar draws Cymru sydd wedi croesawu Wcraniaid eisoes, ond mae’n hanfodol bod mwy byth o aelwydydd yn gwirfoddoli.’

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Cyfiawnder Tai Cymru i ddarparu gwasanaeth cefnogi gwesteiwyr sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol.

Ychwanegodd y gweinidog: ‘Mae arnom angen llawer mwy o aelwydydd eto i ystyried a allent ddarparu cartref i rai mewn angen. Byddai hyn fel arfer yn ymrwymiad i letya am 6 i 12 mis. Os oes unrhyw un yn ystyried hyn, fe’u hanogir i gofrestru eu diddordeb yn llyw.cymru/cynnigcartref a mynychu un o’r sesiynau ‘Cyflwyniad i Groesawu’, a hwylusir gan Gyfiawnder Tai Cymru. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i barhau â’r broses os penderfynwch nad yw’n gweddu i chi.’

Gostwng y Dreth Trafodiadau Tir

Ni fydd prynwyr cartrefi yng Nghymru yn talu treth ar gartrefi gwerth hyd at £225,000 o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan y gweinidog cyllid, Rebecca Evans.

Codwyd y trothwy ar gyfer talu Treth Trafodiadau Tir o £180,000 o’r 10 Hydref. Bydd cynnydd bach hefyd yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer cartrefi sy’n costio mwy na £345,000.

Bwriad y cam hwn yw sicrhau bod y trothwy ar gyfer talu’r dreth yn adlewyrchu’r cynnydd ym mhrisiau cartrefi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ni fydd pobl sy’n prynu cartrefi o dan £225,000 yn talu unrhyw Dreth Trafodiadau Tir.

Bydd unrhyw un sy’n prynu cartref sy’n costio llai na £345,000 yn gweld gostyngiad yn y dreth sy’n daladwy, hyd at uchafswm o £1,575.

Bydd pobl sy’n prynu cartrefi gwerth mwy na £345,000 yn gweld cynnydd – hyd at £550 – ond dim ond tua 15 y cant o drafodion eiddo yng Nghymru yw’r rhain.

Erys holl elfennau eraill y Dreth Trafodiadau Tir yn ddigyfnewid, sy’n golygu na chynigir gostyngiad yn y dreth i rai sy’n prynu ail gartrefi yng Nghymru, yn wahanol i’r sefyllfa gyda’r dreth stamp yn Lloegr.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol:

‘Mae hwn yn newid sy’n gweddu i anghenion unigryw’r farchnad dai yng Nghymru ac mae’n cyfrannu at ein gweledigaeth ehangach o system drethi decach. Ni fydd 61 y cant o brynwyr cartrefi yn talu treth wrth brynu. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi cymorth i bobl sydd â’i angen ac yn lliniaru effaith cyfraddau llog cynyddol.’

‘Cyflwynwyd y newidiadau o ganlyniad i newidiadau i dreth dir y dreth stamp (a delir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn y gyllideb fach ym mis Hydref.

Cafodd y trothwy ar gyfer talu treth stamp yn Lloegr ei ddyblu o £125,0000 i £250,000 i bob prynwr a’i gynyddu o £300,000 i £425,000 ar gyfer prynwyr tro-cyntaf.

Rheolau cynllunio newydd ar gyfer gosod am dymor byr

Cafodd awdurdodau lleol bwerau newydd i fynd i’r afael ag ail gartrefi ac eiddo a osodir am dymor byr o dan offerynnau statudol a ddaeth i rym ar 20 Hydref.

Maent yn cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd yn y system gynllunio a fydd yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol, pan fo ganddynt dystiolaeth, i ddiwygio’r system gynllunio ar sail leol  drwy Gyfarwyddyd Erthygl 4, gan ganiatáu iddynt ystyried a oes angen caniatâd cynllunio i newid o’r naill ddosbarth defnydd i un arall ac i reoli’r nifer ychwanegol o ail gartrefi ac eiddo a osodir am dymor byr mewn ardal.

Roedd y newid i’r ddeddfwriaeth gynllunio yn rhan o becyn o fesurau i ymdrin ag ail gartrefi a gosod tymor-byr y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Gorffennaf 2021 ac yr ymgynghorwyd arnynt rhwng Tachwedd 2021 a Chwefror 2022.

Cyllid newydd ar gyfer llety trosiannol

Cyhoeddodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James £65 miliwn i helpu pobl i symud ymlaen o lety dros-dro i le y gallant ei alw’n gartref.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) sy’n cefnogi amrywiaeth eang o brojectau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i greu gofod llety ychwanegol y mae mawr angen amdano ledled Cymru.

Bydd y rhaglen yn sicrhau mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol y gellir eu defnyddio dros y 18 mis nesaf. Bydd tua’u hanner yn gartrefi tymor-hir neu barhaol, a’r lleill yn cynnig cartrefi o ansawdd da sy’n addas at ddefnydd gan unigolion a theuluoedd am nifer o flynyddoedd.

Mae’r projectau’n cynnwys defnyddio cartrefi Dulliau Adeiladu Modern, adnewyddu ac ailgyflunio adeiladau presennol.

Daw’r cyllid wrth i nifer y bobl sydd mewn llety dros-dro yng Nghymru barhau i gynyddu.

Meddai’r gweinidog: ‘Lle mae pobl mewn gwesty neu lety dros-dro gwely-a-brecwast, yn enwedig, gall fod yn anodd iddynt symud ymlaen â’u bywydau. Mae arnom angen mwy o opsiynau llety o ansawdd uchel yn y cyfamser – lle iddyn nhw eu hunain – i alluogi pobl i fwrw ymlaen â’u bywydau, tra byddwn yn eu cefnogi i ddod o hyd i gartref parhaol.’

Datblygwyr yn arwyddo cytundeb ar ddiogelwch tân

Mae naw o’r prif adeiladwyr tai wedi arwyddo Cytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru, a luniwyd er mwyn i gwmnïau gadarnhau eu bwriad i ddatrys problemau diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr a mwy o uchder a ddatblygwyd ganddynt yn y 30 mlynedd diwethaf.

Mewn datganiad ysgrifenedig, cadarnhaodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James y cwmnïau sydd wedi arwyddo ac, mewn rhai achosion, mae’r gwaith adfer wedi dechrau.

Y datblygwyr a arwyddodd y cytundeb yw Persimmon, Taylor Wimpey, Lovell, McCarthy a Stone, Countryside, Vistry, Redrow, Crest Nicholson a Barratt.

Dywedodd y gweinidog: ‘Rwyf bob amser wedi ei gwneud yn glir nad wyf yn disgwyl i brydleswyr ysgwyddo’r gost o atgyweirio problemau diogelwch tân nad achoswyd ganddynt ac fy mod yn disgwyl i ddatblygwyr gyflawni eu cyfrifoldebau.’

Daw’r datganiad yn sgil cyfarfod bord gron gyda datblygwyr ym mis Gorffennaf a chyfarfod dilynol i gadarnhau’r camau nesaf, a’u cynlluniau a’u hamserlenni ar gyfer gwaith adfer.

Dywedodd: ‘Hoffwn eu canmol am eu hymateb hyd yma ac edrychaf ymlaen at berthynas gynhyrchiol yn y dyfodol.

‘Mewn rhai achosion, mae datblygwyr wedi cychwyn ar eu gwaith adfer, ac wrthi’n gwneud yr atgyweirio angenrheidiol, a hyderaf y bydd y gwaith hwn yn parhau ar garlam.’

Fodd bynnag, mae hynny’n gadael tri datblygwr sy’n dal heb ymateb i Lywodraeth Cymru.

Meddai’r gweinidog: ‘Rwy’n parhau’n siomedig bod tri datblygwr yn dal heb roi sicrwydd i mi nad oes ganddynt unrhyw ddatblygiadau canolig neu uchel yng Nghymru neu, os oes, eu bod yn barod i gyflawni eu cyfrifoldebau parthed y datblygiadau hyn.

‘Y tri datblygwr sy’n dal heb ymateb yw: Laing O’Rourke, Westmark, a Kier (Tilia bellach). Dwi’n eu hannog i gysylltu â’m swyddogion ar unwaith i gadarnhau eu sefyllfa. Dwi am ei gwneud hi’n glir fy mod yn archwilio pob opsiwn, gan gynnwys deddfu, i sicrhau y bydd y datblygwyr hynny’n wynebu canlyniadau am amharodrwydd i dderbyn eu cyfrifoldebau.’

 

CYMRU

Gwaith yn parhau ar gynllun i gymryd lle’r rheoleiddiwr

Doedd dim trefniadaeth i gymryd lle Bwrdd Rheoleiddiol Cymru o hyd wrth i ni fynd i’r wasg.

Diddymwyd swydd y rheoleiddiwr tai cymdeithasol ym mis Gorffennaf yn ddirybudd gan y gweinidog newid hinsawdd, Julie James, er mawr syndod i’r rhan fwyaf o’r sector.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ‘Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r sector tai drwy’r heriau digynsail sy’n deillio o’r pandemig a’r argyfwng costau byw.

‘Gwneir gwaith i edrych ar sut mae cynnal y swyddogaeth reoleiddiol ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yng ngoleuni’r dirwedd reoleiddio gyfnewidiol a’r heriau cyfredol.

‘Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ymgysylltu â’r sector drwy’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Shelter Cymru, TPAS Cymru, Tai Pawb, CLlLC, CCC, UK Finance a’r STS.’

Dywedodd TPAS Cymru: ‘Edrychwn ymlaen at glywed gan a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y modd y bwriedir craffu ar yr amgylchedd rheoleiddio tai cymdeithasol yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llais tenantiaid yn cael ei glywed.’

Deddfwriaeth frys i helpu pobl sy’n cysgu allan

Croesawodd Crisis ddeddfwriaeth dros-dro newydd a basiwyd yn y Senedd a fydd yn golygu mwy o help i bobl sy’n cysgu allan.

Bydd y newid yn y gyfraith yn golygu y bydd pobl sy’n cysgu ar y strydoedd yng Nghymru bellach yn cael eu hystyried yn gyfreithiol fel un o’r grwpiau sydd ag angen blaenoriaethol am ailgartrefu o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae’r newid hwn, meddai’r elusen , yn hollbwysig wrth i gostau byw gynyddu a’r gaeaf yn agosáu.

Mae’r ychwanegiad cyfreithiol newydd hwn yn barhad o’r ffordd o fynd ati a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol yn ystod y pandemig, gan weithio i sicrhau bod pobl sy’n cysgu allan yn cael y cymorth a wrthodwyd iddynt yn aml cyn y pandemig.

Cred Crisis bod angen diwygio’r gyfraith ar raddfa lawer ehangach i atal ddigartrefedd unwaith ac am byth, ond dywed bod yr ychwanegiad hwn at y gyfraith yn gam hollbwysig i arbed llawer o bobl rhag gorfod cysgu allan tra’r adolygir y newidiadau tymor-hwy.

Crisis sydd yn cynnull Panel Adolygu Arbenigol Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth digartrefedd, sy’n argymell newidiadau cyfreithiol hirdymor ac ehangach eu cwmpas i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Meddai Matt Downie, prif weithredwr Crisis: ‘Hoffwn longyfarch a diolch i Lywodraeth Cymru am y newid hanfodol hwn yn y gyfraith. O ran digartrefedd, does gennym ni ddim amser i’w golli – ac ni fu hynny erioed yn fwy gwir nag yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Mae hynny’n golygu bod y ddeddfwriaeth i’w chroesawu hyd yn oed yn fwy, ac mae’n gam amserol a phendant ar y ffordd i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.’

Cadeirydd newydd i Pobl

Chwith i’r dde: Wendy Bourton OBE, Prif Weithredydd Pobl, Amanda Davies, a Julia Cherrett

Penododd Pobl Julia Cherrett yn ddarpar-gadeirydd, gan gadarnhau y bydd y cadeirydd presennol, Wendy Bourton OBE, yn ymddiswyddo ar ôl chwe blynedd yn y swydd.

Mae disgwyl iddi gael ei chadarnhau’n ffurfiol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y grŵp ym mis Medi. A hithau eisoes yn eistedd ar fwrdd Pobl, dechreuodd ei gyrfa ym maes AD yn y gwasanaethau ariannol a’r diwydiant dŵr cyn symud i swyddi gwasanaethau cwsmeriaid a masnachol mewn busnesau cyfleustodau yn y DU ac Ewrop.

Yn un o aelodau bwrdd annibynnol Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ganddi brofiad o arwain rhaglenni o newidiadau mawr gan gynnwys gwella gwasanaethau a newid TG, a daw â phrofiad gweithredol a strategol i Pobl.

Chwith i’r dde: Wendy Bourton OBE, Prif Weithredydd Pobl, Amanda Davies, a Julia Cherrett

 

  

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

Llety Gwyliau ar Rent a’r sector rhentu preifat

Sefydliad Bevan, Medi 2022

https://www.bevanfoundation.org/wp-content/uploads/2022/09/Holiday-lets-and-the-private-rental-sectorCymraeg.pdf

Making a house a home: why policy must focus on the ownership and distribution of housing

Sefydliad Joseph Rowntree, Awst 2022

www.jrf.org.uk/report/making-house-home-why-policy-must-focus-ownership-and-distribution-housing

Resilience in the housing system: market institutions from the global financial crisis to Covid-19

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Awst 2022

housingevidence.ac.uk/publications/resilience-in-the-housing-system-market-institutions-from-the-global-financial-crisis-to-covid-19/

Hard to decarbonise social homes

Y Ffederasiwn Tai a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, Hydref 2022

www.local.gov.uk/publications/hard-decarbonise-social-homes

 

Housing our ageing population

LIN Tai a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, Medi 2022

www.housinglin.org.uk/Topics/type/Housing-our-Ageing-Population/

Cover the cost – preventing homelessness for renters in the cost of living crisis

Shelter, Medi 2022

england.shelter.org.uk/professional_resources/policy_and_research/policy_library/report_cover_the_cost_-_preventing_homelessness_for_renters_in_the_cost_of_living_crisis

Helping more people become first-time buyers

Policy Exchange, Awst 2022

policyexchange.org.uk/wp-content/uploads/Helping-more-people-become-First-Time-Buyers.pdf

Domestic abuse and housing

UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Awst 2022

housingevidence.ac.uk/publications/domestic-abuse-and-housing/

Reaching rural properties – off-grid heating in the transition to net zero

Localis, Gorffennaf 2022

www.localis.org.uk/research/reaching-rural-properties-off-grid-heating-time-crisis/

Tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Medi 2022

https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2022/09/WCPP-Poverty-and-social-exclusion-in-Wales-September-2022-Welsh-final-updated.pdf

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »