English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Sgwario’r cylch

Byddai effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid, a chostau cynyddol deunyddiau a llafur ar landlordiaid a datblygwyr yn her enbyd i sector tai Cymru ynddynt eu hunain.

Adroddwyd yn rhifyn diwethaf WHQ ar gostau byw yn gyffredinol, yn enwedig prisiau ynni cynyddol, a dim ond gwaethygu a wnaeth y pwysau hynny yn y tri mis diwethaf gydag oblygiadau i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd. Fodd bynnag, mae landlordiaid yn gorfod ymdopi â’r pwysau hynny yn erbyn cefndir o reoliadau, safonau a thargedau mwy caeth, a dyna ffocws y rhifyn haf yma.

Mae gan y mesurau hyn y gallu i ddod â buddiannau mawr i unrhyw un sy’n byw mewn cartref yng Nghymru ond gan ddod hefyd heriau yn eu sgil – rhaid sicrhau cydbwysedd.

Fel yr eglura Laura Courtney, bydd y targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel yn cynnig cartrefi sy’n fforddiadwy ac yn ynni-effeithlon ac yn helpu i ymgodymu â’r newid yn yr hinsawdd, ond rhaid ymgodymu hefyd â phroblemau a achosir gan reoliadau amgylcheddol, cynllunio, a chostau adeiladu cynyddol.

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn addo gwella cartrefi cymdeithasol presennol a’u datgarboneiddio – ond sut mae talu am hynny a beth yw’r ffordd orau o egluro manteision hynny i denantiaid? Mae Debbie Green a Howard Toplis yn cyflwyno safbwyntiau gan wahanol gymdeithasau tai tra bod Sarah Prescott yn edrych ar y problemau y mae’n rhaid eu hystyried wrth gyllido SATC.

Yn y cyfamser mae Craig Sheach o Gomisiwn Dylunio Cymru yn rhoi safbwynt pensaer ar safonau, gan ddadlau y gallant ymddangos fel ffordd wych o wella ansawdd ond y gallant hefyd fod yn elyn i ddylunio da.

Bydd y drefn Rhentu Cartrefi newydd yn golygu newidiadau mawr yn y gyfraith a ddaw i rym o’r diwedd ym mis Rhagfyr, yn sgil sylwadau gan landlordiaid am y gwaith y bydd yn ei olygu. Clywn gan gyn-Gomisiynydd y Gyfraith, Martin Partington, ar fanteision y drefn newydd, tra dywed Jennie Bibbings o Shelter Cymru bod achosion o droi allan di-fai yn cynyddu i’r entrychion, a bod ar denantiaid angen mwy o amddiffyniad ar fyrder.

O ran y safonau pwysicaf oll, edrychwn ar yr argyfwng diogelwch tân parhaus yng Nghymru. Mae arwyddion bod pethau’n symud ymlaen o’r diwedd yn sgil camau gan Lywodraeth y DU, ond rhwystredigaeth ymhlith prydleswyr nad yw’r cymorth yn dod yn ddigon cyflym.

Mewn man arall yn y rhifyn hwn fe welwch safbwyntiau awdurdodau lleol gan Jason McLellan, arweinydd newydd sir Ddinbych, a Nick Taylor-Williams, pennaeth tai Caerffili. Ar ddigartrefedd a chymorth tai, clywn gan Alex Osmond ar Tai yn Gyntaf ac ailgartrefu cyflym a Joy Williams ar etifeddiaeth y Rhwydwaith Cymorth Tai.

Gobeithio y rhydd hyn oll, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd, syniad i’n darllenwyr o’r her sydd o’n blaenau a sut y gellir sgwario’r cylch.

Jules Birch

Golygydd

WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »