English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Datblygiadau polisi mewn rhannau eraill o’r DU

LLOEGR

Clark yn dychwelyd wedi diswyddiad Gove

Penodwyd Greg Clark yn ysgrifennydd lefelu i fyny a thai yn llywodraeth dros-dro y DU ar ôl i’r cyn-brif weinidog, Boris Johnson, ddiswyddo’i ragflaenydd Michael Gove.

Bu Clark yn ysgrifennydd cymunedau o dan David Cameron rhwng 2015 a 2016 a chytunodd ar gytundeb gwirfoddol gyda’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol i ymestyn yr Hawl i Brynu i denantiaid cymdeithasau tai yn Lloegr. Er na chafodd hyn erioed mo’i weithredu y tu hwnt i gynllun peilot rhanbarthol, bydd yn awr yn ôl ar ei ddesg wedi i’r cynllun gael ei adfywio gan lywodraeth San Steffan.

Llywiodd Gove y Ddeddf Diogelwch Adeiladau drwy’r senedd yn ei gyfnod fel ysgrifennydd tai ac mae’n cael y clod am orfodi datblygwyr i ymrwymo i addewid i adfer eu hadeiladau. Cafodd ei ddiswyddo ar ôl galw ar Johnson i ymddiswyddo.

Mae’r ras i olynu Johnson fel prif weinidog ac arweinydd y Blaid Geidwadol eisoes wedi cychwyn.

Adran 21 i gael ei dileu

Bydd achosion o droi allan di-fai a thenantiaethau byr-ddaliadol sicr o dan Adran 21 yn cael eu diddymu yn Lloegr o dan gynlluniau a gyflwynwyd mewn papur gwyn gan Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau y DU (DLUHC).

Os ânt yn ddeddf, byddai’r cynlluniau’n gwrthdroi llawer o’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y sector rhentu preifat a sefydlwyd gan y Ceidwadwyr ym 1988.

Mor ddiweddar â 2016, roedd llywodraeth San Steffan yn symud i’r cyfeiriad gwrthwyneb ac yn bwriadu cyflwyno tenantiaethau cyfnod-penodol gorfodol i bob tenant cyngor newydd.

Gollyngwyd y cynnig yn sgil tân Tŵr Grenfell a bydd cynlluniau’r papur gwyn yn cynnwys tai cymdeithasol hefyd ac yn rhoi terfyn ar denantiaethau prawf a thenantiaethau isradd.

Yn y dyfodol, byddai pob tenantiaeth yn denantiaeth gyfnodol y gellir ei therfynu gan denant ar rybudd o ddau fis neu gan landlord sydd â sail ddilys ar gyfer meddiannu yn unig.

Fodd bynnag, caiff landlordiaid reswm gorfodol newydd dros feddiannu mewn achosion lle bu ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu ôl-ddyledion rhent cyson neu pan ddymunant symud i mewn i’r eiddo eu hunain.

Mae gweinidogion hefyd am weld diwedd ar waharddiadau cyffredinol ar denantiaid sydd â phlant neu anifeiliaid anwes neu sydd ar fudd-daliadau.

YR ALBAN

Camau newydd tuag at garbon sero

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban reoliadau newydd a fydd yn cwtogi ar allyriadau o bob cartref newydd o bron i draean.

Mae’r safonau ynni newydd yn rhan o’r cynlluniau i leihau allyriadau holl stoc adeiladau’r Alban o fwy na dwy ran o dair erbyn 2030. Mae’r elfennau allweddol yn cynnwys:

  • gwell targedau perfformiad a fydd yn lleihau allyriadau o gartrefi newydd o grynswth o 32 y cant ac adeiladau busnes ac ati newydd o grynswth o 20 y cant.
  • pennu targed ynni newydd ar gyfer adeiladau newydd ac adrodd ar berfformiad datgarboneiddio wrth i adeiladau newydd gael eu datgarboneiddio
  • ffocws ar leihau’r galw am ynni, gan gynnwys gwell deunydd insiwleiddio mewn cartrefi newydd fel bod arnynt lai o angen gwresogi
  • newidiadau i’w gwneud yn haws cysylltu â systemau gwresogi carbon-isel fel rhwydweithiau gwres

Mae’r safonau newydd, a fydd mewn grym o fis Rhagfyr 2022, hefyd yn cefnogi cynlluniau i sicrhau bod gan bob adeilad newydd system wresogi heb ddim allyriadau o 2024 ymlaen.

Meddai Patrick Harvie, y gweinidog adeiladau di-garbon: ‘Y safonau ynni newydd hyn yw’r cam nesaf mewn sicrhau bod ein hadeiladau mor ynni-effeithlon â phosib a gwireddu’r weledigaeth uchelgeisiol a nodwyd gennym yn ein Strategaeth Gwres mewn Adeiladau.

‘O fis Rhagfyr eleni, bydd yr holl gartrefi ac adeiladau newydd a godir yn yr Alban yn gynhesach, yn wyrddach ac yn rhatach i’w gwresogi.’

GOGLEDD IWERDDON

NIFHA yn galw am lywodraeth newydd

Galwodd cymdeithasau tai am ail-sefydlu Llywodraeth Gogledd Iwerddon ar fyrder er mwyn rhoi mwy o sicrwydd iddynt wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.

Dywedodd Patrick Thompson, prif weithredydd dros-dro Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon (NIFHA), wrth ei gynhadledd flynyddol fod ‘rhwystredigaeth amlwg’ ynglŷn â’r ‘broses wleidyddol herciog’ a bod angen llywodraeth sefydlog a chyllideb dros sawl blwyddyn i helpu i fynd i’r afael â’r angen am dai.

Bu Gogledd Iwerddon heb lywodraeth ers i’r Unoliaethwyr Democrataidd dynnu allan ym mis Chwefror mewn protest yn erbyn Protocol Gogledd Iwerddon. 

 

LLYWODRAETH CYMRU

Pwerau newydd i atal ail gartrefi

Bydd cyfyngiadau cynllunio newydd ar ail gartrefi yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd yr haf o dan gynigion a osodwyd gerbron gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cynhaliodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price gynhadledd i’r wasg ar y cyd i gyflwyno’r pecyn o fesurau sydd hefyd yn cynnwys cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr a chynigion i godi treth trafodiadau tir uwch ar ail gartrefi a gosod tai gwyliau.

Daw’r pecyn yn sgil yr ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithredu i fynd i’r afael â phroblem ail gartrefi sy’n effeithio ar gymunedau ledled Cymru, gan adeiladu ar fesurau a gyflwynwyd eisoes i roi pŵer i gynghorau i godi cyfraddau treth gyngor uwch ar ail gartrefi a chartrefi gwag.

Mae’r mesurau yn cynnwys:

  • Newidiadau i reoliadau cynllunio erbyn diwedd yr haf. Bydd y rhain yn cyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd – cartref cynradd, ail gartref a llety gwyliau tymor-byr. Bydd awdurdodau cynllunio lleol, lle bo ganddynt dystiolaeth, yn gallu diwygio’r system gynllunio i wneud caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall yn ofynnol. Bydd newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol hefyd yn rhoi’r gallu i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi ac unedau llety gwyliau ar osod mewn unrhyw gymuned.
  • Cynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosod am dymor-byr, gan ei gwneud yn ofynnol bod â thrwydded. Bydd hyn yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth.
  • Yn dilyn ymgynghoriad ynghylch amrywio’r dreth trafodiadau tir yn lleol mewn ardaloedd â nifer fawr o ail gartrefi, aethpwyd ati ym mis Gorffennaf gydag awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol fel y gallant geisio cyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a thai gwyliau ar osod yn eu hardal leol.

Dywedodd Mark Drakeford: ‘Mae twristiaeth yn hanfodol i’n heconomi ond nid yw gormod o dai haf ac ail gartrefi, sy’n wag am ran helaeth o’r flwyddyn, yn gydnaws â chymunedau lleol iach ac y maent prisio pobl allan o’r farchnad dai leol.

‘Does dim un ateb syml i’r materion hyn. Rhaid i unrhyw gamau a gymerwn fod yn deg. Nid ydym am greu unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a allai ansefydlogi’r farchnad dai ehangach neu ei gwneud yn anos i bobl rentu neu brynu.’

Meddai Adam Price: ‘Bydd y pecyn o fesurau pwrpasol a ddatblygwyd o ganlyniad i’r cydweithrediad adeiladol rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn y maes hwn, yn ei grynswth yn dechrau mynd i’r afael â’r anghyfiawnder yn ein system dai a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ledled ein cenedl.

‘Y nod yw rhoi i bawb “yr hawl i fyw adra” – i fyw a gweithio yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.’

Mwy o help gyda chostau tanwydd sy’n codi i’r entrychion

Lansiodd Jane Hutt, y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, gynllun talebau tanwydd gwerth £4 miliwn wedi’i dargedu at bobl â mesuryddion rhag-dalu ac aelwydydd heb nwy canolog. Daeth y cyhoeddiad wrth i ffigurau ddangos mai pobl ar fesuryddion rhag-dalu yng ngogledd Cymru a ergydiwyd fwyaf yn y DU gan y cynnydd mewn taliadau sefydlog, gyda chostau’n codi o 102 y cant.

Mae taliadau sefydlog ar gyfer pobl ar fesuryddion rhag-dalu yn ne Cymru wedi codi o 94 y cant – y pedwerydd uchaf ym Mhrydain.

Bydd y cyllid yn galluogi Sefydliad y Banc Tanwydd i gychwyn cynllun talebau cenedlaethol, gan ddarparu cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys sydd ar fesuryddion rhag-dalu a’r rhai heb nwy canolog.

Bydd bron 120,000 o bobl ar fesuryddion rhag-dalu yn gymwys i dderbyn tua 49,000 o dalebau i’w cefnogi yn ystod yr argyfwng costau-byw.

Bydd talebau’n amrywio o £30 ym misoedd yr haf i £49 yn y gaeaf, gydag aelwydydd yn derbyn hyd at dair taleb dros gyfnod o chwe mis.

Bydd y £4 miliwn hefyd yn cynnwys Cronfa Wres, a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys sy’n byw oddi ar y grid nwy, sy’n dibynnu ar olew gwresogi a nwy hylif. Bydd hyn yn helpu tua 2,000 o aelwydydd ledled Cymru.

Meddai Jane Hutt: ‘Mae’r argyfwng costau-byw yn cael effaith ddinistriol ar bobl Cymru.

‘Mae’r cymorth ychwanegol hwn ar gyfer pobl ar fesuryddion rhag-dalu a rhai heb nwy neu drydan canolog – a anwybyddwyd ill dau gan y Canghellor yn ei becyn diweddaraf.’

Lansio cynllun cymorth diogelwch tân newydd

Bydd prydleswyr yng Nghymru sy’n wynebu caledi ariannol sylweddol oherwydd problemau diogelwch tân yn gymwys ar gyfer cynllun cymorth newydd Llywodraeth Cymru o ddiwedd mis Mehefin.

Mae’r Cynllun Cymorth i Brydleswyr, y cyntaf o’i fath yn y DU, yn darparu cyngor annibynnol perthnasol i amgylchiadau prydleswyr mewn cartrefi yr effeithir arnynt.

Fe’i targedir i ddechrau at brydleswyr sy’n berchentywyr neu yn breswylwyr dadleoledig ond bydd ceisiadau’n cael eu monitro a chymhwysedd yn cael ei gadw dan sylw i sicrhau bod y rhai sydd ag arnynt fwyaf o angen cymorth yn ei gael.

Bydd pob prydlesydd sy’n gymwys ar gyfer y cynllun yn cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol, gyda’r costau’n cael eu talu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyngor yn eu cynorthwyo i wneud y dewis cywir iddyn nhw ac, os mai gwerthu eu heiddo yw’r ffordd orau, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am werth marchnad teg a bennir gan brisiwr annibynnol.

Byddai unrhyw eiddo a brynir yn mynd yn gartref cymdeithasol newydd ac yn cael ei rentu’n ôl i’r prydlesydd neu ei rentu i deulu ag angen tŷ.

Nid yw’n glir eto faint o brydleswyr y gallai’r cynllun eu cynnwys ond does dim terfyn ariannol penodol o fewn y gyllideb cymorth diogelwch tân o £375 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Meddai’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James: ‘Rhaid i ymdrin â diffygion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel fynd y tu hwnt i’r cladin, i wneud yr adeiladau mor ddiogel ag y gallant fod.

‘Dyna oedd ein dadl o’r cychwyn cyntaf ac, er bod hynny’n gwneud canfod problemau a’u datrys yn llawer mwy cymhleth, dyma’r dull cywir o fynd ati.

‘Does dim atebion cyflym na hawdd, ond ni allwn gyfaddawdu ar sicrhau’r atebion cywir, cynaliadwy.

‘Mae unrhyw ymdrech lai yn agor cil y drws i’r posibilrwydd y bydd problemau pellach yn codi, ac mae’n bwysig i mi bod y problemau hyn a ddatryswyd yn parhau wedi eu datrys.

‘Rhaid i ni wneud hyn yn iawn, ei gael yn iawn yn awr ac ar gyfer y dyfodol.’

 

CYMRU 

Hwb ariannol ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned

Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £540,000 dros y tair blynedd nesaf i Cwmpas (Canolfan Gydweithredol Cymru gynt) i barhau â thwf y sector Tai Cydweithredol a Thai dan Arweiniad y Gymuned yng Nghymru. Mae Sefydliad y Nationwide hefyd wedi cytuno i barhau i gyllido tan 2025 gyda buddsoddiad pellach o £408,539.

Bydd y cyllid yn helpu i ehangu’r rhaglen Cymunedau yn Creu Cartrefi a ddarperir gan Cwmpas, sydd wedi gosod targedau uchelgeisiol yn ei strategaeth bum mlynedd newydd i ddyblu nifer y grwpiau sy’n hybu tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru – i gynnwys cwblhau 150 o gartrefi carbon-isel newydd a chreu llwybr datblygu ar gyfer 250 o gartrefi pellach.

Dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James: ‘Rwy’n falch i ni allu cynyddu cyllid i’r sector tai dan arweiniad y gymuned a pharhau â rhaglen ar y cyd â Sefydliad y Nationwide. Rhaid i dai dan arweiniad y gymuned barhau i gyfrannu at ddatrys problem tai yng Nghymru; mae’n cefnogaeth i’r sector cyn gryfed ag ydoedd ddeng mlynedd yn ôl ac mae’r ymrwymiad yn ein Rhaglen ar gyfer Llywodraethu yn ategu hyn.’

Dywedodd Gary Hartin, rheolwr rhaglen Sefydliad y Nationwide: ‘Gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn ddull amgen ymarferol o ddarparu tai gwirioneddol fforddiadwy. Gall greu cartrefi y mae ar bobl leol eu hangen yn y mannau y maent eu heisiau. Mae’r amodau sy’n caniatáu i hyn ddigwydd yn gryf yng Nghymru a thrwy barhau i ariannu Cymunedau yn Creu Cartrefi, anelwn at gadarnhau sefyllfa’r sector yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o gartrefi teilwng, fforddiadwy.’

Meddai Jocelle Lovell, cyfarwyddwr cymunedau cynhwysol Cwmpas: ‘Mae tai cydweithredol a than arweiniad y gymuned yn chwarae rhan hanfodol ynghyd â chynghorau, datblygwyr a buddsoddwyr i greu cartrefi fforddiadwy yng Nghymru sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad y Nationwide yn hanfodol i ategu’r gwaith rhagorol a wnaed yn y maes hwn eisoes.’ 

Gweithredu ar eiddo gwag

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio pecyn gwybodaeth fel rhan o broject ehangach i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag. Nod y pecyn ‘Caerffili – Da i Ddim yn Wag’ yw darparu adnodd i berchnogion eiddo gwag a’u cyfeirio at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i’w helpu i wneud eu hadeiladau yn ddefnyddiadwy unwaith eto.

Ym mis Rhagfyr 2020, rhoddodd Cabinet y cyngor olau gwyrdd i sefydlu tîm pwrpasol i ymdrin ag eiddo gwag yn y fwrdeistref sirol. Er hynny mae’r tîm wedi datblygu cynllun gweithredu ac mae’n adeiladu ar waith blaenorol y cyngor wrth ymgysylltu â pherchnogion unedau eiddo gwag a’u hadfer i ddefnydd buddiol. Mae ganddo hefyd bwerau i gymryd camau gorfodi mewn achosion lle mae eiddo preswyl yn peri pryder sylweddol.

Meddai’r Cynghorydd Shayne Cook, aelod cabinet dros dai: ‘Mae’r tîm eisoes yn sicrhau canlyniadau rhagorol o ran dod â thai gwag yn ôl i gyflwr defnyddiadwy ac, mewn rhai achosion, dod â manteision ychwanegol drwy eu defnyddio i ailgartrefu pobl leol a fyddai fel arall wedi cael eu hunain yn ddigartref. Mae’r pecyn gwybodaeth yn arf ychwanegol y gobeithiwn y bydd yn ein helpu i ymgysylltu â mwy o berchnogion eiddo gwag a’u hysbysu o’r cymorth sydd ar gael.’

‘Papur wal’ yn cynhesu cartrefi

System wresogi graffin sy’n edrych ac yn teimlo fel papur wal traddodiadol yw un o’r technolegau newydd sy’n cael eu treialu yn nhai cymdeithasol Cymru o dan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.

Gall y system – rhan o arbrawf sy’n archwilio dyfeisiau amgen fforddiadwy yn lle pympiau gwres a rheiddiaduron – gael ei phlygio i mewn i soced domestig, a daw gyda phaneli solar a batri clyfar, sy’n golygu llai o allyriadau tra’n cwtogi’n aruthrol ar gostau tanwydd.

Wedi’i gosod ar waliau, nenfydau neu o dan loriau, mae’r dechnoleg yn anweledig i breswylwyr ac yn darparu dull arloesol o gynhesu stafelloedd unigol yn llawer cyflymach, gan eu galluogi i reoli eu cyllidebau ynni yn fwy effeithiol.

Mae Graphene Infrared Heating gan NexGen yn un o nifer o dreialon arloesol sy’n cael eu cynnal gan gymdeithas tai Cartrefi Melin, diolch i gyllid drwy Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru

Ar ymweliad â’r project yn Nhredegar, dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James: ‘Ychydig dros flwyddyn yn ôl, rhoddodd y Prif Weinidog yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd wrth galon blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac, wrth inni weithio i adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a thecach, rwy’n gyffrous iawn am yr hyn y gallai cynhyrchion arloesol fel y rhain ei gynnig i’n helpu i gyflawni ein huchelgais.’

Mae Cartrefi Melin wedi cydweithio â Phrifysgol Abertawe, a ddilysodd berfformiad y dechnoleg. Mae bellach mewn trafodaethau gydag amryw o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill, ac awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn treialu’r system.

Mae Adran Economi Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a NexGen i archwilio cyfleoedd i’r cwmni sefydlu canolfan weithgynhyrchu yn y cyffiniau.

Meddai Paula Kennedy, prif weithredydd Cartrefi Melin: ‘Gwyddom fod yn rhaid gweithredu nawr, felly dyma ymuno â Nexgen a’n cymheiriaid mewn cymdeithasau tai eraill i geisio ffyrdd amgen o wresogi ein cartrefi a fydd yn wyrddach ac yn rhatach i bobl eu defnyddio.

‘Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a threialu technolegau newydd a fydd yn helpu ein preswylwyr, a phreswylwyr ledled Cymru. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r buddsoddi mewnol wrth sefydlu ffatri ac edrychwn ymlaen at weld y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny i Gymru.’

Mae gwaith ar y gweill i adeiladu cartrefi newydd ar safle hen Glinig Brynmawr ym Mlaenau Gwent.

Bydd y cynllun bach tai â chymorth yn cael ei adeiladu gan Celtic Offsite, menter gymdeithasol newydd o fewn Grŵp United Welsh. Mae’r datblygiad, a fydd wedi’i insiwleiddio’n helaeth ac yn ynni-effeithlon, yn cynnwys tri fflat gyda gofodau cymunedol a swyddfa i’r staff ar y llawr isaf, a dau fflat arall, gofod staff a storfa ar y llawr cyntaf. Bydd Celtic Offsite yn cynhyrchu’r strwythurau ffrâm-bren ar gyfer yr adeilad, gyda deunydd inswleiddio a ffenestri ynddynt, o’u ffatri newydd yng Nghaerffili. Yna bydd y cartrefi’n cael eu cwblhau ar y safle gyda’r contractwr Kingfisher. 

Papurau ymgynghori

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 – ymatebion erbyn Awst 3ydd.

  

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

  1. Older people’s care in social housing: a manifesto for change

Altair, Mehefin 2022

altairltd.co.uk/2022/06/22/a-manifesto-for-change-older-peoples-care-in-social-housing/

2. Offences under the Protection from Eviction Act 1977 in England and Wales

Safer Renting, Mehefin 2022

ch1889.org/safer-renting

3. Net zero and the housing challenge

Comisiwn Adeiladu Prydain yn Ôl, Mai 2022

buildingbackbritain.com/our-research/paper-two-net-zero-and-the-housing-challenge/

4. Evidence review of home adaptations in the UK and other OECD countries

Canolfan Cydweithio at Dystiolaeth Tai y DU, Mai 2022

housingevidence.ac.uk/publications/evidence-review-of-home-adaptations-in-the-uk-and-other-oecd-countries/

5. Rising to the climate change challenge: the role of housing and planning within local councils

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus/Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, Mai 2022

tcpa.org.uk/rising-to-the-climate-change-challenge-the-role-of-housing-and-planning-within-local-councils/

6. RentBetter, Wave 2 – Final Report

RentBetter/Grŵp Tai Indigo, Mehefin 2022

rentbetter.indigohousegroup.com/findings/

7. Climate crisis/housing crisis: how can social landlords reconcile safety and energy saving?

Centre for Analysis of Social Exclusion Research at LSE, Mawrth 2022

sticerd.lse.ac.uk/CASE/_NEW/PUBLICATIONS/abstract/?index=9162

8. World Cities Report 2022 – Envisaging the future of cities

UN Habitat, Gorffennaf 2022

http://unhabitat.org/wcr/

9. Not heating, eating or meeting bills – managing a cost of living crisis on a low income

Sefydliad Rowntree Foundation, Mehefin 2022

www.jrf.org.uk/report/not-heating-eating-or-meeting-bills-managing-cost-living-crisis-low-income

10. Unlocking the door; a road map for supporting non-UK national homelessness

Homeless Link, Mehefin 2022

homeless.org.uk/news/new-report-roadmap-for-tackling-non-uk-national-homelessness

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »