English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Cyflawni ein huchelgais ddeublyg

Gall cymdeithasau tai fynd i’r afael â’r argyfwng tai a darparu cartrefi sy’n gynaliadwy a fforddiadwy, meddai Laura Courtney, ond mae heriau datblygu yn cynnwys rheoliadau ynghylch rheolaeth amgylcheddol yn ogystal â chwyddiant cynyddol.

Mae gennym bellach y lefel uchaf erioed o fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi fforddiadwy ar rent cymdeithasol. Ym mis Mawrth, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad dros sawl blwyddyn o £1 biliwn ar gyfer tai cymdeithasol, sy’n cynnwys £310 miliwn ar gyfer eleni yn unig.

Bydd croeso anferth i’r bleidlais hon o hyder yn y sector tai cymdeithasol. Dylid nodi bod y buddsoddiad hwn yn rhoi cyllid i gymdeithasau tai adeiladu cartrefi carbon-isel newydd, gan gydnabod rôl allweddol y sector o ran cyrraedd sero net erbyn 2050.

Mae cymdeithasau tai yn frwd o blaid adeiladu cartrefi sy’n darparu rheolaeth amgylcheddol ragorol, yn creu lleoedd diogel, iach, cysylltiedig i fyw ynddynt, ac yn darparu’r cartrefi fforddiadwy sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru.

Amlygir y ffordd hon o fynd ati mewn projectau datblygu ledled Cymru. Un enghraifft ddiweddar yw project gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy mewn partneriaeth ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, a ddarparodd gymysgedd o 17 o gartrefi o ansawdd uchel, a ddyluniwyd i bara am oes.

Nod y gymdeithas oedd rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil trwy ddefnyddio cyfuniad o bympiau gwres-o’r-aer a phaneli ffotofoltäig, gyda’r bwriad o leihau costau ynni i denantiaid. Defnyddiwyd deunyddiau adeiladu cynaliadwy, fel fframiau pren, trwy’r holl gyfnod adeiladu.

Cadw ymgorfforiad carbon yr adeilad yn isel oedd amcan y deunyddiau cynaliadwy a ddewiswyd, fel gwlân dafad ar gyfer inswleiddio, ffenestri alwminiwm â chot o bowdr arnynt i ymestyn eu hoes, a waliau allanol di-baent fel bod llai o angen gwaith cynnal a chadw arnynt.

Cynhwyswyd pyllau plannu coed pwrpasol, sy’n caniatáu draenio cynaliadwy, a phrysglwyni mewn cynlluniau i reoli glawogydd a diogelu rhag perygl llifogydd cynyddol hefyd, yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd rhag difrod morffolegol a difrod ecolegol cysylltiedig o ganlyniad i newidiadau mewn cyfraddau a phatrymau llif, a symudiad gwaddod wedi eu hachosi gan y datblygiad.

Dylanwadodd ystyriaethau ecolegol ar y cynlluniau a gweithiodd y gymdeithas gyda Chyngor Sir Fynwy ar strategaethau priodol er mwyn canfod rhywogaethau gwarchodedig. Cynhwyswyd lleiniau sy’n agored i bawb i gefnogi cymdeithasu rhwng preswylwyr ac i hyrwyddo creu llefydd dymunol, ochr yn ochr â seilwaith i ysgogi cerdded diogel. Ceir llwybrau beicio wedi’u goleuo’n dda ac wedi eu cadw ar wahân i draffig prysur, ac anogir defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r safleoedd hefyd wedi’u gwreiddio mewn cymdogaethau sy’n glòs at amwynderau fel ysgolion a sgowtiaid.

Heriau datblygu

Dyna’r newyddion da. Mae’n amlwg bod cymdeithasau tai yn ymroddedig i adeiladu cartrefi newydd yn gyflym, mewn ffordd sy’n amgylcheddol gyfrifol ac sy’n creu llefydd gwych i fyw. Fyddai hyn ddim yn orchwyl hawdd, hyd yn oed pe bai hi’n awyr las uwchben. Yn anffodus, fel sy’n wir am gynifer o ddiwydiannau ledled Cymru, mae’r sector tai cymdeithasol ar hyn o bryd yn wynebu storm berffaith o gynnydd mewn costau deunyddiau, bylchau mewn cadwyni cyflenwi, argyfwng costau byw, a thirwedd gyfnewidiol o ran recriwtio a chadw staff arbenigol.

Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn costau cyflawni projectau datblygu. Mae cymdeithasau wedi rhannu pryderon gyda CCC bod eu cynlluniau adeiladu cartrefi wedi cael eu gohirio yn y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd problemau gyda chaffael deunyddiau a chostau cynyddol.

Nid dim ond y sector tai sydd wedi dioddef o brinder staff arbenigol a chymwys, ond yn y fan yma bu’r prinder yn bell-gyrhaeddol ei effaith ar sawl agwedd ar y broses ddatblygu. Mae cymdeithasau tai wedi mynegi pryderon neilltuol ynglŷn ag arbenigwyr dylunio, cynllunio ac adeiladu yn symud ymlaen o’u swyddi ar ôl COVID-19, ar adeg pan fydd angen sgiliau newydd a gweithlu o faint digonol i allu cefnogi datgarboneiddio.

At hynny, er bod y broses gynllunio wedi bod, wrth reswm, yn drylwyr erioed, mae cymhlethdod ac therfynau amser wedi cynyddu ar garlam yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny oherwydd cynnydd yn y disgwyliadau sydd, yn gwbl gywir, ar ddatblygwyr parthed rheolaeth amgylcheddol.

Mae gan gymdeithasau tai ymrwymiad i fodloni’r disgwyliadau hyn, ac adeiladu trigfannau sy’n gwella’r amgylchedd naturiol. Fodd bynnag, golyga’r amser a gymer i ymgyfarwyddo â ffyrdd newydd o fynd ati, a’r diffyg staff cynllunio arbenigol a grybwyllwyd eisoes, bod penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn cymryd yn hwy.

Cymerwch Systemau Draenio Cynaliadwy, er enghraifft. Y bwriad yw y dylai’r broses o geisio cymeradwyaeth ar gyfer draenio gyd-redeg â’r broses gynllunio. Fodd bynnag, mae cymdeithasau’n  sôn am oedi wrth geisio cymeradwyaeth draenio cynaliadwy sy’n golygu bod angen cwblhau’r cam hwn mewn da bryd cyn cychwyn ar y cais am ganiatád cynllunio. Gwneir pethau’n fwy anodd gan y ffaith bod angen dyluniadau manwl er mwyn sicrhau cymeradwyaeth. Oni cheir caniatâd cynllunio yn gynt na’r disgwyl, gall cymdeithasau fod yn gwario arian ar ddyluniadau manwl ar gyfer tir nad yw eto’n eiddo iddynt.

Pryder arall tra difrifol yw sut yr eir ati i ymdrin â ffosfforws. Yn 2021, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyngor i awdurdodau cynllunio ar sut i ymateb i bryderon ynghylch lefelau ffosfforws mewn afonydd ledled Cymru. Mae hwn yn waith hanfodol i atal effaith amgylcheddol negyddol wael mewn amryw o sectorau, ond un canlyniad anfwriadol yw ei fod i bob pwrpas wedi dod â datblygiad tai cymdeithasol yn yr ardaloedd dan sylw i stop.

Ym mis Ebrill 2022, siaradodd CCC ag wyth o gymdeithasau tai lle mae’r cyngor hwn mewn grym. Dywedasant wrthym bod 28o’u projectau adeiladu cartrefi, a fyddai’n darparu cyfanswm o 1,046 o gartrefi ledled Cymru, yn segur wrth iddynt ddisgwyl am atebion i broblemau rheoli ffosfforws.

Gweithredodd y cymdeithasau hyn ar fyrder i geisio ffyrdd o liniaru effaith eu datblygiadau ar lefelau ffosfforws, ac i geisio negydu dull llai caeth o weithredu’r cyngor cynllunio, a fydd yn caniatáu i waith fynd rhagddo ar y datblygu tra bod systemau rheoli ffosfforws yn cael eu sefydlu. Fodd bynnag, ni lwyddwyd hyd yma i sicrhau’r cynnydd angenrheidiol i allu symud ymlaen gyda datblygu tai fforddiadwy yn yr ardaloedd hyn.

Felly mae’r ffaith i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ymrwymo i arwain uwch-gynhadledd i drafod sut i ddatrys problemau gyda rheoli ffosfforws yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 i’w groesawu’n fawr iawn. Dengys hyn yr arweiniad sydd ei angen i sicrhau y gall pob parti cyfranogol gyfarfod i gytuno ar ffyrdd cadarnhaol o ddatrys her ddeublyg yr argyfwng tai ac argyfwng yr hinsawdd.

Cyflawni ein cyd-amcanion

Er gwaethaf yr amserau anodd, mae cymdeithasau tai ledled Cymru wrthi’n dod o hyd i atebion i’r heriau cymhleth hyn er mwyn parhau i ddatblygu llefydd i fyw lle gellir gweld rheolaeth amgylcheddol ragorol.

Ond er bod cymdeithasau eu hunain yn dilyn llwybr pragmatig ar lefel leol, bydd ymateb i’r heriau hyn i’r holl sector yn gofyn am ffordd gydgysylltiedig a chyfannol o fynd ati gan yr holl randdeiliaid.

Gan adeiladu ar sail yr arweiniad a ddangoswyd gan uwch-gynhadledd y Prif Weinidog, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall fuddsoddi yn awr yn y seilwaith a’r capasiti i hwyluso’r rheolaeth amgylcheddol sydd ei hangen i gefnogi adeiladu cartrefi.

Yn ogystal, byddai’n fuddiol archwilio ymyriadau lleol penodol  a allai ddod â mwy o adnoddau i mewn i’r system gynllunio. Bydd canolbwyntio ar atebion hyblyg – ar yr hyn sy’n bosibl – yn helpu i gefnogi ardaloedd lleol i gyflawni eu nodau datblygu a diwallu anghenion tai.

Yn fwy strategol, mae cyfle gwirioneddol hefyd i adolygu ac adnewyddu polisi a chanllawiau i greu system gynllunio sydd â datblygu cartrefi fforddiadwy mewn modd amgylcheddol gyfrifol wrth ei chraidd.

Yn CCC, mae gennym ddiddordeb mawr yn hynt Unnos, y cwmni adeiladu cenedlaethol, a oedd yn un o ymrwymiadau Cytundeb Cydweithredu Llafur/Plaid Cymru. Rydym yn awyddus i ddeall sut y gall corff hyd-braich o’r natur yma roi hwb i allu Cymru i adeiladu tai mewn modd sy’n helpu’r hinsawdd; rhoi’r flaenoriaeth i gael y bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn i wneud i’r system weithio; a bod yn ysgogiad strategol gwirioneddol i gynyddu cyflymder a graddfa datblygiad tai cymdeithasol. O wneud pethau’n iawn, gobeithio y bydd Unnos yn drawsffurfiol, gan helpu cymdeithasau tai i wneud yr hyn y gwnânt orau – codi’r cartrefi fforddiadwy, diogel, o ansawdd uchel sydd eu hangen ar bobl Cymru.

Laura Courtney yw pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »