Bydd prisiau sy’n codi ar garlam a blynyddoedd o gyfyngu ar fudd-daliadau yn arwain yn anochel at dlodi gwaeth byth i aelwydydd incwm-isel, medd Victoria Winckler, ond gall darparwyr tai ddal i gamu i mewn i helpu.
Prin bod y cynnydd chwim mewn costau byw yn newyddion bellach. Mae costau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd yn gwbl amlwg yn ein bywydau beunyddiol yn ogystal ag yn y stadegau chwyddiant. Ac os yw’n boenus nawr mae gwaeth i ddod. Rhagwelai Banc Lloegr y codai chwyddiant i 7 y cant yng ngwanwyn 2022, ond mae bellach yn disgwyl chwyddiant o 8 y cant, a chynnydd hyd yn oed yn uwch o bosib yn nes ymlaen eleni. Mae unrhyw ysbaid ymhell i ffwrdd – mae’r Banc yn disgwyl y cymer sawl blwyddyn i chwyddiant ‘syrthio’n ôl’.
Mae’r cynnydd mewn prisiau yn waeth byth am na chaed cynnydd cyfatebol yn incwm aelwydydd. Chafodd nemor ddim gweithwyr godiadau cyflog ar y gyfradd chwyddiant, a chawsant eu taro hefyd gan gynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Cododd rhai budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol a phensiynau’r wladwriaeth, ond o lai na hanner y cynnydd mewn prisiau. Yn waeth byth, cafodd llawer o elfennau eraill y system nawdd cymdeithasol, yn bennaf oll y cap ar fudd-daliadau a lefel y Lwfans Tai Lleol, eu rhewi.
Effaith y cyfuniad o brisiau ar gynnydd ac incwm ar ei hôl hi yw gostyngiad sylweddol mewn termau real yng ngrym gwario pobl. Mae’r Resolution Foundation yn darogan y bydd aelwyd oed-gwaith nodweddiadol ar ei cholled o 4 y cant, neu £1,100, yn 2022-23. Mae hynny’n broblem i bawb. Ond y lleiaf cefnog fydd yn wynebu’r ergyd fwyaf, gyda’r chwarter tlotaf o aelwydydd yn wynebu cwymp mewn incwm o 6 y cant.
Daw’r rhagolygon hyn ar ben gostyngiad yn incwm yr aelwydydd tlotaf yn y deng mlynedd diwethaf o achos diwygio a rhewi budd-daliadau nawdd cymdeithasol, a newidiadau atchweliadol i drethi ac yswiriant gwladol. At hynny, gwelodd llawer o aelwydydd incwm-isel eu hincwm yn disgyn yn ystod y pandemig o ganlyniad i golli bywoliaeth neu fod ar ffyrlo ar 80 y cant o’u cyflog.
Ble mae hynny’n gadael pobl Cymru?
Yn fwyaf amlwg, mae mwy o bobl yn waeth eu byd. Ni wyddom faint yn union a wthiwyd i mewn i dlodi gan fod ffynhonnell arferol y stadegau tlodi, sef set ddata’r Aelwydydd Islaw’r Cyfartaledd Incwm, mor annibynadwy ar gyfer 2020/21 nes i Lywodraeth Cymru gynghori peidio â’i defnyddio.
Nid mater o niferoedd yn unig mo hyn – mae effeithiau hirdymor gostyngiadau mewn incwm hefyd yn gwthio pobl i mewn i dlodi llawer dyfnach na chynt. O’r blaen, roedd bod ag incwm cymharol isel yn golygu bod gan aelwydydd lawer llai i fyw arno na’r norm ond yn aml fe allent ymdopi. Ond mae effaith gynyddol toriadau i fudd-daliadau a chwyddiant wedi lleihau incwm i’r fath raddau fel nad oes gan aelwydydd bellach yr hanfodion – pethau fel bwyd, gwres, sebon, dillad a chartref diogel.
Hyd yn oed ym mis Tachwedd 2021, cyn i chwyddiant wir ddechrau cynyddu, canfu arolwg YouGov Sefydliad Bevan ar gostau byw nad oedd gan bron bedwar o bob deg cartref yng Nghymru ddigon o arian i brynu unrhyw beth ond eitemau bob-dydd. Yn frawychus, gwelsom fod mwy nag un o bob pum teulu â phlant yn cwtogi ar eitemau i blant yn cynnwys llyfrau, teganau, cewynnau a dillad, tra bod un o bob deg teulu â dau neu fwy o blant yn gorfod torri’n ôl ar fwyd i’r plant.
Rhaid canmol Llywodraeth Cymru am eu hymateb hyd yma. All darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, ar ôl sawl blwyddyn o ymgyrchu gan Sefydliad Bevan, ddim dod yn ddigon buan. Roedd y cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, sy’n rhoi £200 i aelwydydd cymwys, i’w groesawu, yn ogystal â’r penderfyniad i’w estyn i aelwydydd sy’n derbyn Credyd Pensiwn – buddugoliaeth arall gan Sefydliad Bevan. Croesawn hefyd ehangu’r taliadau Mynediad i Grant Datblygu Disgyblion i ddisgyblion o gartrefi incwm isel ym mhob blwyddyn ysgol ynghyd â chynnydd sylweddol yn ei werth – dadleuodd Sefydliad Bevan o blaid y ddau. Ychwanegwch at hyn y taliadau i ofalwyr, gwirfoddol ac ar gyflog, y taliad Treth Gyngor o £150 i bawb mewn eiddo Bandiau A-D, parhau â hyblygrwydd yn y Gronfa Cymorth Dewisol ynghyd â’r addewid o gynllun Tanwydd Gaeaf arall yn hydref 2022, a diau mai dyma’r pecyn ariannol mwyaf hael erioed i aelwydydd incwm-isel gan Lywodraeth Cymru.
Er bod hyn oll i’w groesawu, ysywaeth y mae terfynau ar ffordd Llywodraeth Cymru o fynd ati. Gyda llu o daliadau gwahanol, a gyhoeddir ar adegau gwahanol, gyda meini prawf cymhwysedd amrywiol, mae perygl y gall teuluoedd golli allan am y rheswm syml na wyddent y gallent ymgeisio neu am eu bod yn credu eu bod eisoes wedi gwneud. Er enghraifft, dim ond tua 35% oedd yn derbyn y taliad Tanwydd Gaeaf yn gynnar ym mis Chwefror er y gall hynny fod wedi cynyddu yn y cyfamser.
Er eu holl deilyngdod, darnau o elastoplast un-tro yw’r cynlluniau amrywiol nad ydynt – ac na allant – fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol sef bod y system bresennol o fudd-daliadau yn annigonol o ran diwallu anghenion hirdymor pobl. Fel pawb arall, mae ar aelwydydd incwm-isel angen sicrwydd ariannol i allu cynllunio a rheoli eu bywydau, nid taliadau ad hoc, annisgwyl.
Felly beth fydd effaith y cynnydd mewn cost byw ar dai? Ar yr ystyr fwyaf uniongyrchol mae’n golygu y caiff mwy o denantiaid a phreswylwyr hi’n anodd i fforddio byw yn eu cartrefi. Hawdd dychmygu y bydd ôl-ddyledion yn codi ac y bydd y nifer o droadau allan oherwydd ôl-ddyledion rhent neu forgais yn cynyddu. Bydd landlordiaid a morgeiswyr yn wynebu penderfyniadau anodd am eu polisïau ôl-ddyledion a throi allan yn y misoedd nesaf.
Mae oblygiadau hefyd o ran atgyweirio a chynnal a chadw. Dichon na fydd gan denantiaid a phreswylwyr ddigon o incwm gwario i gadw cartref trefnus, o ran ei wresogi’n ddigonol i osgoi anwedd a llwydni, neu allu ailaddurno neu drin gardd. Gwyddom eisoes na all llawer o denantiaid tai cymdeithasol fforddio gorchuddion lloriau neu lenni, ac na all nifer cynyddol fforddio eitemau hanfodol fel gwelyau, dillad gwely neu nwyddau gwyn. Efallai y bydd landlordiaid am feddwl sut mae gosod cartref y gellir byw ynddo pan nad oes gan denantiaid incwm i’r wario ar ddodrefn ac offer.
Mae nifer o landlordiaid cymdeithasol yn ystyried lles tenantiaid yn ei grynswth, gan gynnig gwasanaethau fel gwirio budd-daliadau, blychau bwyd, dodrefn rhad a phaent eilgylch ar gyfer addurno. Rhagwelaf y bydd y galw ar y rhai sy’n gwneud hyn yn saethu i fyny. Bydd gofyn i’r gweddill ddechrau darparu pecyn ehangach o gymorth os am helpu tenantiaid i osgoi caledi difrifol.
Mae’r oblygiadau yn mynd y tu hwnt i’r tenant unigol a’u cartref – mae canlyniadau pwysig i’r system dai ehangach hefyd. Mae tenantiaid eisoes yn ei chael hi’n anodd fforddio rhenti yn y sector preifat, gyda mwyafrif helaeth rhenti tenantiaethau newydd yn uwch na’r Lwfans Tai Lleol. Mae perygl yr â rhenti cymdeithasol yn anfforddiadwy, yn enwedig i denantiaid sy’n talu rhywfaint neu’r cyfan o’u rhent o’u cyflog. I berchentywyr, disgwylir i’r cynnydd mewn prisiau arafu (ond nid dechrau disgyn) tra disgwylir i gyfraddau morgais godi, gan roi pwysau ar berchnogion tai ymylol.
Gyda gwasgfa ar draws y system, gallwn ddisgwyl i ddigartrefedd gynyddu’n ddwys tra bod llai o ddewisadau ar gael ar gyfer pobl heb lety o safon dderbyniol.
Mae’r rhagolygon yn hynod heriol ac yn dra gwahanol i’r addewidion o ‘adeiladu nôl yn well’. Er gwaethaf hyn, mae llawer y gall darparwyr tai o bob math ei wneud i leddfu’r wasgfa ar aelwydydd sydd dan bwysau. Dylai cartref cynnes o safon dderbyniol fod yn hawl i bawb.
Victoria Winckler yw cyfarwyddydd Sefydliad Bevan, elusen annibynnol sy’n mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb