English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol: Argyfwng ar ôl argyfwng

Gwelodd y ddwy flynedd ddiwethaf gymaint o argyfyngau nes y teimlai weithiau fel pe baem yn byw trwy un argyfwng diddiwedd. Thema wreiddiol y rhifyn hwn o WHQ oedd ystyried ein profiadau ers y clo mawr cyntaf o achos Covid-19, ond wrth i brisiau ynni godi i’r entrychion, a gyda rhyfel yn erbyn Wcráin, rhaid oedd ailfeddwl. Felly, am y tro cyntaf, wele rifyn â nid un, ond dwy, brif thema.

Yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn union cyn i ni fynd i’r wasg, mae’r cynnydd y mis yma yn y cap ar brisiau ynni yn golygu bod hyd at 45 y cant o aelwydydd Cymru bellach mewn tlodi tanwydd (yn gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar gadw’n gynnes). Mae Ben Saltmarsh yn myfyrio ar hyn, gan ofyn beth all llywodraethau ei wneud yn ei gylch.

Mae Victoria Winckler yn rhoi prisiau ynni yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw. Bydd prisiau sy’n codi ar garlam, ynghyd â blynyddoedd o gyfyngu ar fudd-daliadau, yn arwain yn anochel at dlodi gwaeth byth i aelwydydd incwm-isel, meddai, ond gall darparwyr tai ddal i gamu i mewn i helpu. Clywn hefyd gan ddau landlord cymdeithasol sydd wrthi’n gwneud.

Meddyliwch yn ôl at Ebrill 2020 ac ymddengys fel petai’r clo cyntaf hwnnw a’r pandemig wedi newid popeth am ein ffordd o fyw a gweithio. Ond beth a newidiodd mewn gwirionedd a pha wersi a ddysgon ni ar hyd y ffordd?

Mae Chris Bolton yn gofyn beth all aelodau bwrdd ei wneud mewn byd ôl-Covid, tra bod Gareth Leech a Rowjee Kaur yn sgrifennu am yr effaith ar weithwyr tai proffesiynol ifanc. Clywn hefyd gan dair cymdeithas tai sut y maent wedi newid y ffordd y maent yn gweithio ac mae Ewan Hilton yn ystyried gwersi dyfnach y pandemig.

Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi hyd yn oed Covid a chostau byw mewn persbectif. Mae cannoedd o filoedd o bobol yn y DU wedi cynnig cartrefu ffoaduriaid o’r gwrthdaro ond mae biwrocratiaeth Llywodraeth y DU yn dal yn faen tramgwydd. Mae Romy Wood o Cyfiawnder Tai Cymru yn edrych ar rai problemau gyda chynllun Homes for Ukraine ac yn gobeithio y gwna’r cynlluniau gwestya presennol yn llai llafurus.

Ac yn llechu yn y cefndir agos, mae argyfwng hinsawdd sy’n golygu y bydd rhaid ôl-addasu cannoedd o filoedd o gartrefi. Mae Duncan Forbes yn defnyddio gwersi o raglen Safon Ansawdd Tai Cymru i sicrhau cyfranogiad tenantiaid yn y gwaith sydd i ddod.

Gyda hyn i gyd, ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd, mae TAI yn ôl y mis yma hefyd. Fe welwch gyfraniadau gan lawer o’r siaradwyr yn y rhifyn hwn ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn Abertawe.

Jules Birch, Golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »