Datblygiadau polisi mewn rhannau eraill o’r DU
Y DU
Toriadau o £12 biliwn i fudd-daliadau mewn termau real
Gwrthsafodd y Canghellor Rishi Sunak bwysau i gynyddu budd-daliadau i wneud iawn am yr argyfwng costau byw yn Natganiad y Gwanwyn.
Cynnydd o 3.1 y cant yn unig a fu yn y rhan fwyaf o fudd-daliadau ym mis Ebrill yn unol â chyfradd chwyddiant mis Medi diwethaf er bod prisiau’n codi o ddwbl hynny a mwy.
Bydd y bwlch o 5 y cant yn golygu cwtogi ar werth budd-daliadau o fwy na £12 biliwn mewn termau real a bydd budd-dal diweithdra yn disgyn i’w lefel isaf ers 50 mlynedd.
Cadarnhaodd y datganiad hefyd y caiff y Lwfans Tai Lleol ei rewi ar lefelau 2020 am 12 mis arall, ni waeth beth a ddigwydd i renti. Bydd y cap budd-daliadau cyffredinol hefyd yn dal wedi ei rewi ar y lefel a bennwyd yn 2016, sef £20,000 y flwyddyn i deuluoedd (£13,400 i bobl sengl) y tu allan i Lundain.
Mewn mesurau a elwir yn rhai i ‘helpu teuluoedd â chostau byw’, torrodd y canghellor y dreth danwydd dros dro, gostyngodd TAW ar ddeunyddiau ynni-effeithlon a chynyddodd y Gronfa Gefnogi ar gyfer teuluoedd diymgeledd a redir gan awdurdodau lleol o £500 miliwn.
YR ALBAN
Tryloywder newydd ar berchnogaeth tir
Bydd cofrestr newydd yn rhoi’r hawl i gymunedau ddarganfod pwy sydd â buddiant rheoli mewn tir yn yr Alban.
Daeth y Gofrestr o Bersonau sy’n Dal Buddiant Rheoledig i rym ar 1 Ebrill ac mae’n darparu gwybodaeth allweddol ar bwy yn y pen draw sy’n penderfynu ar reolaeth neu ddefnydd tir hyd yn oed os nad dyna’r perchennog cofrestredig o reidrwydd, gan gynnwys endidau ac ymddiriedolaethau tramor.
Dywedodd gweinidog yr amgylchedd a diwygio tir, Mairi McAllan: “Bydd y gofrestr newydd yn rhoi’r Alban ar y blaen yn Ewrop ac yn sicrhau mwy o dryloywder nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae’n galluogi’r cyhoedd i edrych y tu ôl i berchenogaeth tir a dysgu pwy sy’n gwneud penderfyniadau yn y pen draw.
‘Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Diwygio Tir newydd yn ystod y senedd hon a fydd yn mynd i’r afael ymhellach â phatrymau hanesyddol anfad o berchenogaeth a defnydd tir yn yr Alban.’
GOGLEDD IWERDDON
Cymeradwyo cynllun rhent canolradd
Rhoddodd y gweinidog cymunedau Deirdre Hargey sêl ei bendith i gyflenwad newydd o gartrefi Rhent Canolradd.
Cymeradwywyd y dewis o dai fforddiadwy newydd wedi ymgynghoriad cyhoeddus ar yr angen am y cartrefi hyn a sut y dylai model â chymhorthdal weithredu.
Y nod yw cynnig opsiwn diogel a fforddiadwy i bobl ar incwm isel i gymedrol sy’n ei chael hi’n anodd talu cost rhenti marchnad.
Dywedodd y gweinidog: ‘Mae adborth o bob rhan o’r sector tai, a chan ddarpar-denantiaid, yn cefnogi darparu mwy o gartrefi fforddiadwy, diogel ac o ansawdd da trwy raglen Rhent Canolradd.
‘Bydd y gallu i gyllido datblygu cyflenwad newydd o gartrefi ar Rent Canolradd trwy fenthyciad Cyfalaf Trafodion Ariannol yn ein galluogi i ddarparu cyflenwad newydd o’r cartrefi fforddiadwy y mae cymaint o’u hangen.’
LLOEGR
Lesddeiliaid yn gwella’r Mesur Diogelwch Adeiladau
Roedd lesddeiliaid ar fin gwneud un ymgais olaf i sicrhau diwygiadau pellach i’r Mesur Diogelwch Adeiladau wrth i WHQ fynd i’r wasg.
Aeth y ddeddfwriaeth yn ôl gerbron Tŷ’r Cyffredin ar Ebrill 20 ar ôl newidiadau sylweddol yn Nhŷ’r Arglwyddi. Cyflwynodd y llywodraeth welliannau i roi mwy o amddiffyniad i lesddeiliaid mewn fflatiau gwerth-is a landlordiaid prynu-i-osod yn ogystal â’r terfynau presennol ar gyfraniadau lesddeiliaid.
Llwyddodd arglwyddi gwrthryfelgar, yn cynnwys dau gyn-weinidog Ceidwadol, i ymestyn yr amddiffyniad i adeiladau o dan 11m, gwarchod lesddeiliaid sydd hefyd yn berchen ar y rhyddfraint a gostwng y terfyn ar gyfraniadau lesddeiliaid. Trechwyd gwelliant ‘llygrwr-i-dalu” ehangach.
Yn y cyfamser dywed llywodraeth San Steffan ei bod wedi dod i gytundeb eang a wêl adeiladwyr tai yn cyfrannu £5 biliwn at ddatrys problemau gyda diogelwch adeiladau.
O dan y cytundeb, bydd dros 35 o ddatblygwyr mwyaf y DU yn ymrwymo o leiaf £2 biliwn (£1 biliwn yn fwy nag a gytunwyd ganddynt eisoes) i atgyweirio pob adeilad dros 11m y chwaraesant ran yn ei ddatblygu yn y 30 mlynedd diwethaf.
Dywedodd yr ysgrifennydd lefelu i fyny Michael Gove fod amser yn prinhau i gwmnïau sydd heb gofrestru eto ac y byddant yn wynebu canlyniadau os na fyddant yn gallu cytuno.
Bydd y diwydiant hefyd yn talu £3 biliwn pellach dros y deng mlynedd nesaf trwy ehangiad i’r Ardoll Diogelwch Adeiladau. Codir y tâl ar bob adeilad preswyl newydd yn Lloegr a dywed y llywodraeth y bydd yn sicrhau na fydd unrhyw lesddeiliad yn wynebu biliau llethol, hyd yn oed pan na ellir dod o hyd i ddatblygwyr eu hadeilad.
Mae’r cytundeb gyda datblygwyr yn golygu y byddant yn:
- Gweithredu cyn gynted â phosibl i drwsio adeiladau
- Gweithredu canllawiau cymesur newydd ar ddiogelwch adeiladau
- Adrodd wrth lesddeiliaid a’r llywodraeth yn rheolaidd ar hynt y gwaith
- Parchu proses ddatrys anghydfod annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth; ac
- Ad-dalu arian a dderbyniwyd eisoes gan y trethdalwr i atgyweirio eu hadeiladau
Bydd pwerau newydd yn y Mesur Diogelwch Adeiladau yn rhoi i’r ysgrifennydd gwladol bwerau i rwystro cwmnïau sy’n torri’r cytundeb, neu sydd heb ei arwyddo, rhag adeiladu a gwerthu cartrefi newydd.
Mae’r llywodraeth yn dal i bwyso ar wneuthurwyr cladin a defnydd inswleiddio i dderbyn eu cyfran nhw o’r cyfrifoldeb a chynnig beth y gellir ei wneud.
LLYWODRAETH CYMRU
Ail gartrefi’n wynebu cynnydd mawr mewn treth gyngor
Gall awdurdodau lleol godi 300 y cant o bremiwm treth gyngor ar ail gartrefi a gweithredu rheolau treth newydd ar gyfer gosod llety gwyliau o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall pobl ddod o hyd i gartref fforddiadwy ym mro eu mebyd.
Mae’r mesurau’n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblem ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru, fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Bydd y lefel uchaf o bremiwm treth gyngor y gall awdurdodau lleol ei osod ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn cynyddu i 300 y cant o fis Ebrill 2023.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn galluogi cynghorau i bennu lefel briodol ar gyfer eu hamgylchiadau lleol unigol. Byddant yn gallu gosod y premiwm ar unrhyw lefel hyd at yr uchafswm, ac yn gallu amrywio’r premiwm ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor.
Ar hyn o bryd, gellir codi premiymau hyd at uchafswm o 100 y cant ac fe’u talwyd ar fwy na 23,000 o unedau eiddo yng Nghymru eleni. Mae gan awdurdodau lleol sy’n dewis arosod premiymau fynediad at gyllid ychwanegol, ac mae’r Llywodraeth wedi annog cynghorau i ddefnyddio’r adnoddau hyn i wella’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Bydd y meini prawf ar gyfer codi ardrethi busnes yn hytrach na threth gyngor ar lety hunan-ddarpar yn newid o fis Ebrill nesaf hefyd.
Yn gyfredol, bydd eiddo sydd ar gael i’w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac a osodir am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi yn hytrach na threth gyngor. Bydd y newid yn codi’r trothwy argaeledd i 252 o ddiwrnodau o leiaf, a’r trothwy gosod eiddo i 182 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod 12-mis.
Meddai Rebecca Evans, y gweinidog cyllid a llywodraeth: ‘Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol a mwy o gymorth i gymunedau lleol fynd i’r afael â’r effeithiau negyddol ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Dyma rai o’r mesurau sydd ar gael i ni wrth inni geisio creu system decach.’
Panel arbenigol i adolygu’r ddeddfwriaeth digartrefedd
Mae’r gweinidog newid hinsawdd Julie James wedi cadarnhau cynlluniau ar gyfer Panel Adolygu Arbenigol ar ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru.
Mae hyn yn dilyn yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio cyfraith tai a gweithredu argymhelliad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd ‘i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol i ganolbwyntio ar ataliaeth ac ailgartrefu cyflym’.
Cyflwynir papur gwyrdd yn ddiweddarach eleni i archwilio’r diwygiadau deddfwriaethol angenrheidiol a bydd y panel arbenigol yn datblygu cynigion a chyngor.
Caiff y panel diwygio cyfreithiol ei gadeirio gan yr Athro Suzanne Fitzpatrick o Brifysgol Heriot-Watt, sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban ar ei deddfwriaeth atal digartrefedd.
Meddai Julie James: ‘Bydd y panel yn cynrychioli sectorau allweddol, â sgiliau a fydd yn caniatáu iddo ystyried diwygiadau angenrheidiol yn effeithiol. Bydd yn cynnwys partneriaid o lywodraeth leol, cymdeithasau tai, sefydliadau digartrefedd a chydraddoldeb trydydd-sector, ac arbenigwyr academaidd a chyfreithiol. Yn ogystal, dwi’n awyddus iawn i roi llais yn y broses hon i’r rheini yr effeithir fwyaf arnynt gan wasanaethau digartrefedd, sef rhai â phrofiad personol o fod yn ddigartref.’
Cynllun newydd i helpu lesddeiliad
Gellir ymgeisio o fis Mehefin ymlaen i Gynllun Cymorth i Lesddeiliaid newydd fydd yn helpu pobl sydd mewn trafferthion ariannol ac yn methu gwerthu eu heiddo oherwydd costau cynyddol yn ymwneud â diogelwch tân.
Cyhoeddwyd hyn wrth i waith gychwyn ar raglen £375 miliwn i fynd i’r afael â phroblemau diogelwch adeiladau fel rhan o ddull holl-adeilad o fynd ati, sy’n gwneud mwy na dim ond ymdrin â diffygion cladin.
Rhydd y cynllun ddewis i lesddeiliaid cymwys i werthu eu heiddo a, fel y bo’n briodol, naill ai symud oddi yno neu rentu’r eiddo yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn y sector tai i ganfod dull priodol o brisio eiddo, gyda meini prawf cymhwysedd clir, i greu proses brynu eiddo gynhwysfawr ar gyfer lesddeiliaid.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r manylion, gorffen y gwiriadau cyfreithiol a sefydlu cytundebau cyn lansio’r cynllun. Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy’n talu am gost arolygon diogelwch tân, wedi nodi mwy na 100 o adeiladau o’r 248 cais cyntaf lle mae angen arolygon pellach mwy manwl ac ymwthiol.
Yn y cyfamser bydd y Tîm Arolygu ar y Cyd – grŵp aml-ddisgyblaethol, a fydd yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub i godi safonau – yn penodi arweinydd strategol i’r swydd yn yr haf.
CYMRU
Bron hanner cartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd bellach
Gallai hyd at 45 y cant o aelwydydd Cymru – a bron y cwbl o’r rhai ar yr incwm isaf – fod mewn tlodi tanwydd wedi’r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni y mis hwn, yn ôl amcangyfrifon newydd ar gyfer Lywodraeth Cymru.
Mae’r amcangyfrif diweddaraf yn cynrychioli 614,000 o aelwydydd sydd bellach yn cwrdd â’r diffiniad o dlodi tanwydd, sef gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar wresogi boddhaol, o’i gymharu â 196,000 fis Hydref diwethaf. Bernir bod 201,000 o aelwydydd eraill (hyd at 15 y cant) mewn perygl o dlodi tanwydd.
Mae nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol (sef yn gwario mwy nag 20 y cant o’u hincwm ar gadw’n gynnes) wedi treblu ers mis Hydref i 115,000 (hyd at 8 y cant).
Yn amlwg, aelwydydd â’r incwm isaf sydd mewn mwyaf o berygl gan eu bod yn gwario cyfran uwch o’u hincwm ar filiau ynni. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 217,700 (98 y cant) bellach mewn tlodi tanwydd a 91,700 (41 y cant) mewn tlodi tanwydd difrifol.
Rhybuddiodd National Energy Action (NEA) fod angen mwy o gymorth i wrthbwyso’r ‘effaith drychinebus’ ar ddioddefwyr mwyaf yr argyfwng ynni, sef rhai mewn tlodi tanwydd difrifol.
Meddai Ben Saltmarsh, pennaeth Cymru yr NEA: ’Mae’r ystadegau hyn yn waeth na’r disgwyl. Mae’r argyfwng ynni yn effeithio’n drychinebus ar aelwydydd ledled Cymru, ac amcangyfrifir bod bron hanner yr holl aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Mae dros 217,000 yn byw ar yr incwm isaf, yn brwydro i gadw’n gynnes ac yn ddiogel gartref.
‘Testun pryder yw’r ffaith bod hyd at 115,000 o aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol, yn gwario mwy nag 20 y cant o’u hincwm ar ddim ond cadw’n gynnes. Does nemor ddim y gallant ei wneud i wella’u sefyllfa eu hunain. Yn syml, mae’r rhai ar yr incwm isaf, sy’n byw yn y cartrefi sy’n gollwng fwyaf, yn cael eu prisio allan o fod â gwres a phŵer hanfodol. Heb ddim dros ben yn eu cyllidebau a dim ar ôl i’w ddogni, mae eu hansawdd bywyd yn plymio. Pan ddaw’r tywydd oer y gaeaf hwn, caiff effaith ddifrifol ar iechyd a llesiant.”
Ofni y gwelir cynnydd mewn achosion o droi allan
Rhybuddiodd Shelter Cymru y gwelir ton o droi rhentwyr preifat allan o’u cartrefi wrth i gyfyngiadau coronafeirws ddod i ben.
Ofna’r elusen y gwêl rhai landlordiaid preifat ac asiantwyr ‘ffenestr’ ddeddfwriaethol o bedwar mis rhwng diwedd Mawrth a Gorffennaf fel cyfle olaf i droi tenantiaid allan ar fyr rybudd er mwyn gwerthu eiddo neu ei osod i denantiaid newydd ar delerau llai sicr.
Gostyngodd hyd y rhybudd troi allan o chwe mis i ddau fis pan ddaeth cyfyngiadau Deddf Coronafeirws 2020 i ben.
Fodd bynnag, bydd y cyfnod rhybudd troi allan heb fai yn codi’n ôl i chwe mis yn barhaol i denantiaid newydd pan ddaw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 15 Gorffennaf.
Dywedodd Shelter Cymru fod ei waith achosion eisoes yn dangos cynnydd o 78 y cant mewn hysbysiadau troi allan heb fai o’i gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig a’i fod yn ofni cynnydd pellach a phwysau cynyddol ar wasanaethau digartrefedd.
Addewidion y pleidiau
Bydd tai yn fater allweddol pan â etholwyr i bleidleisio ar Fai 5 i ethol 1,254 o gynghorwyr lleol mewn 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ledled Cymru.
Yn lawnsiad ymgyrch etholiadol llywodraeth leol Plaid Cymru, addawodd arweinydd y blaid Adam Price fynd i’r afael â’r argyfwng tai drwy adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy mwy ynni-effeithiol a charbon-bositif a chymryd ‘camau radical’ ar ail gartrefi a digartrefedd.
Ymhlith addewidion lleol Llafur Cymru, mae’r blaid yn Abertawe wedi addo adeiladu miloedd o gartrefi newydd i bobl ar y rhestr aros neu i’w gwerthu fel cartrefi fforddiadwy, adnewyddu dau floc tŵr, a therfyn o 10 y cant ar gartrefi aml-feddiant mewn ardaloedd newydd. Yn Sir Gaerfyrddin, mae’n addo 2,500 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf mewn partneriaeth â chymdeithasau tai a’r sector preifat.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddent yn galluogi cymunedau lleol i greu Cynlluniau Cymdogaeth Lleol, ‘fel y gall pobl leol arwain ar ble y dylid adeiladu tai a gwasanaethau newydd’.
Mae STS Cymru wedi annog pob ymgeisydd etholiad lleol i ‘Feddwl am Dai’ cyn yr etholiad.
Cyflwyno gweledigaeth ar gyfer cynllun iechyd a llesiant
Cyhoeddodd Grŵp Cynefin ddogfen weledigaeth yn manylu ar greu cynllun iechyd a llesiant mawr gwerth £38 miliwn ym Mhenygroes, Gwynedd. Mae’r gymdeithas tai yn arwain ar y project, sef Canolfan Lleu, gyda’i phartneriaid Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Theatr Bara Caws yn chwarae rhan ganolog.
Mae’r ddogfen yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer canolbwynt cymunedol yng nghanol Penygroes, i wasanaethu’r pentref a chymunedau Dyffryn Nantlle a thu hwnt. Nod Canolfan Lleu yw cryfhau cymunedau ar draws y dyffryn, gan gefnogi iechyd a llesiant pobl trwy amrywiaeth o wasanaethau traddodiadol ac ataliol. Bydd yn cynnig lle i gymdeithasu a chysylltu pobl â’i gilydd, pwynt mynediad at wasanaethau iechyd, tai, cymuned a chyngor, a’i nod yw cryfhau’r economi leol.
Bydd y safle ei hun yn cynnig:
- Cartref preswyl 36-gwely
- 17 fflat sy’n hwyluso byw’n annibynnol
- Gwasanaethau meddygol cyffredinol craidd gyda chyfleusterau a rennir, fferyllfa gymunedol a gwasanaeth deintyddol
- Gwasanaethau iechyd cymunedol traddodiadol ac ataliol
- Mannau aml-bwrpas ar gyfer pobl ifanc, gwasanaethau cymorth a mannau i’r trydydd sector gyflwyno darpariaeth allgymorth
- Swyddfeydd newydd Grŵp Cynefin gyda gofodau addas ar gyfer gweithio modern, hyblyg
- Cartref newydd i Theatr Bara Caws gan gynnwys swyddfeydd, gofod ymarfer a theatr
- Mannau i hyrwyddo gweithgaredd rhyng-genhedlaeth
Mae tenantiaid wedi symud i mewn i’r tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu ym mwrdeistref sirol Caerffili ers 19 mlynedd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n berchen ar y cartrefi, ar safle Cae Bedwellte yn Aberbargod, a’r cyngor sy’n eu rheoli; cawsant eu sicrhau trwy gytundeb Adran 106 gyda’r datblygwyr Llanmoor Homes.
Mae chwe chartref ar rent cymdeithasol ar y datblygiad 55-eiddo, yn ogystal â dau eiddo perchentyaeth cost-isel. Ymwelodd Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden, â Mr a Mrs Huxley, tenantiaid newydd yn y datblygiad yn ddiweddar. Dywedodd Mr Huxley: ‘Mae mor heddychlon a thawel yma mae wedi helpu problemau iechyd fy ngwraig. Mae’r symudiad hwn wedi gwir newid ein bywyd fel teulu.’
Meddai’r Cyng. Marsden, ‘Gyda galw cynyddol am dai fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol, mae dargfanfod amrywiaeth o ddulliau i helpu i ddiwallu’r angen yn flaenoriaeth allweddol i ni. Yn ogystal â gweithio gyda datblygwyr preifat, fel Llanmoor, rydym hefyd wedi cychwyn ar ein taith gyffrous ein hunain i adeiladu cartrefi newydd arloesol â’r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni.’
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
1 UK Housing Review 2022
Y Sefydliad Tai Siartredig a Phrifysgol Glasgow, Mawrth 2022
2 Wales’ Housing Crisis: making the LHA work for Wales
Sefydliad Bevan, Mawrth 2022
www.bevanfoundation.org/resources/wales-housing-crisis-making-the-lha-work-for-wales/
3 Covid-19: Housing market impacts and housing policy responses – an international review
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mawrth 2022
4 Climate Crisis/Housing Crisis: How can social landlords reconcile safety and energy saving?
LSE Housing and Communities, Chwefror 2022
sticerd.lse.ac.uk/CASE/_NEW/PUBLICATIONS/abstract/?index=9162
5 Housing is a human right – How Labour can make it a reality
Labour Housing Group, Mawrth 2022
labourhousing.org/news/housing-is-a-human-right-new-publication-from-lhg-and-lchr/
6 Where next for the private rented sector?
Social Market Foundation, Mawrth 2022
www.smf.co.uk/publications/private-rented-sector/
7 Delivering a Step Change in Affordable Housing Supply
Legal & General and British Property Foundation, Mawrth 2022
8 The Bottom Line – an investigation of rent arrears in social housing
Demos, Chwefror 2022
demos.co.uk/project/the-bottom-line-an-investigation-of-rent-arrears-in-social-housing/
9 Self-build and Custom Housebuilding in the UK
Cambridge Centre for Housing and Planning Research, Chwefror 2022
www.cchpr.landecon.cam.ac.uk/news/self-build-and-custom-housebuilding-uk
10 Ein Tir – Cymunedau a Defnyddio Tir
Y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), Chwefror 2022
https://www.iwa.wales/wp-content/media/IWA_-Ein-Tir_-Cymunedau-a-Defnyddio-Tir.pdf