Thema’r rhifyn hwn o WHQ yw cyflenwad, ac mae yna newyddion da a newyddion drwg o ran tai fforddiadwy.
Y pethau cadarnhaol i’w hadrodd yw’r arian buddsoddi newydd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y tair blynedd nesaf a thystiolaeth bod awdurdodau lleol yn ail-fwrw ati fel datblygwyr cartrefi newydd. Mae Simon Inkson a Robin Staines yn adrodd ar ganlyniadau cyntaf y Project Adeiladu Tai Cyngor ar Raddfa ac ar Garlam tra bod Mike Ingram ac Andrew Freegard yn adrodd ar gynlluniau Bro Morgannwg ar gyfer y dyfodol.
Y ffactorau negyddol a ddaeth i’r amlwg yn y misoedd diwethaf yw’r problemau cadwyn-gyflenwi sydd mewn peryg o danseilio pob uchelgais am gartrefi newydd a gwelliannau i’r stoc bresennol. Mae Matt Kennedy yn adrodd ar arolwg gan Tyfu Tai Cymru tra dywed Claire Shiland a Kath Webb wrthym am yr effeithiau ar Grŵp Cynefin a Chartrefi Caerffili.
Mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae’r materion hyn ynghlwm. Mae Matt Dicks yn ystyried y gyllideb ddrafft yng nghyd-destun blaenoriaethau cystadleuol cyflenwad tai newydd a datgarboneiddio, tra bod Sarah Prescott yn edrych ar wahanol strategaethau ariannu’r naill a’r llall yn ei diweddariad cyllidol.
Newyddion gwleidyddol mawr y chwarter diwethaf oedd arwyddo’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru. Cawn gyfweliad gyda llefarydd tai’r Blaid, Mabon ap Gwynfor, ar yr hyn y mae’n ei ystyried yn flaenoriaethau’r dyfodol.
Mae gweithredu ar ail gartrefi ac, yn gysylltiedig â hynny, amddiffyn cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn elfennau pwysig yn y cytundeb hwnnw. Mae Shan Lloyd Williams yn ystyried y problemau ym Mhen Llŷn ac yn gweld rôl allweddol i landlordiaid cymdeithasol.
Ceir erthyglau hefyd ar ddwy o’r problemau mawr sy’n wynebu perchentywyr yng Nghymru. Daeth newyddion da o bosib i lesddeiliaid fflatiau yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng diogelwch adeiladau yn ddiweddar, ond dywed Mark Thomas o Cladiators Cymru na fydd cynllun Llywodraeth Cymru i adbrynu cartrefi’r dioddefwyr gwaethaf yn gweithio.
Mae Mark Tami AS yn sgrifennu ar y sgandal prydlesu ehangach, gan ddadlau ei fod wedi adfywio ysbryd Rachmaniaeth. Dim ond ymateb radicalaidd wnaiff y tro, meddai.
Wrth i ni (gobeithio) ddechrau cefnu ar y pandemig, rydym hefyd yn ystyried sut mae Cymru’n gwneud gydag un o’r problemau allweddol a danlinellwyd ganddo. Nick Morris sy’n adrodd ar asesiad diweddaraf Crisis o’r ymdrech i ddelio â digartrefedd.
Mae hynny i gyd, ynghyd â’n holl erthyglau rheolaidd, yn creu rhifyn Gaeaf prysur y gobeithiwn y bydd â rhywbeth at ddant pawb.
Jules Birch, Golygydd, WHQ