English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Datblygiadau polisi mewn rhannau eraill o’r DU

Y DU

Gove am ddatrys yr argyfwng diogelwch tân

Mae ysgrifennydd ‘lefelu i fyny’ y DU, Michael Gove, wedi addo amddiffyn lesddeiliaid yn gyfreithiol rhag costau gwaith diogelwch tân.

Daeth yr addewid wrth iddo ddatgelu cynllun i orfodi datblygwyr i dalu bil yr amcangyfrifir y bydd yn £4 biliwn am wella cladin ar adeiladau canolig eu maint rhwng 11m a 18m o uchder, gan addo gwelliannau i’r Bil Diogelwch Adeiladau i roi ‘amddiffyniad statudol i lesddeiliaid’.

Addawodd Gove hefyd yr ymdrinir mewn modd cymesur â’r risg i ddiogelwch tân mewn adeiladau o dan 11m mewn ymgais i ddelio ag amharodrwydd syrfewyr a benthycwyr i dderbyn risg, gan wneud degau o filoedd o fflatiau yn amhosib eu morgeisio na’u gwerthu.

Mae i fod i gynnal trafodaethau gyda datblygwyr ac eraill i ddod i gytundeb gwirfoddol ar dalu’r bil o £4 biliwn.

Mae llythyr gan brif ysgrifennydd y Trysorlys yn ei awdurdodi i ddefnyddio’r ‘bygythiad lefel-uchel o drethu neu gamau cyfreithiol’ os na chytuna’r datblygwyr, ond eiddo’r Trysorlys yw’r penderfyniad terfynol. Mynn hefyd mai dim ond problemau cladin sydd i’w cynnwys, ac nid problemau eraill yr amcangyfrifir y gallent gostio cymaint neu fwy i’w datrys.

Dywed y Trysorlys hefyd mai cyllideb bresennol ei adran yw’r sicrwydd wrth gefn os metha’r cytundeb gwirfoddol ac os na fydd trethu a chamau cyfreithiol yn codi digon o arian.

Pery effaith y cynllun newydd y tu allan i Loegr yn aneglur, gyda gwahanol rannau o’r Bil yn berthnasol i Loegr yn unig, Cymru a Lloegr, a gwahanol wledydd y DU. Cyfeiriodd Gove at y dreth fel un i’r DU gyfan ond achosodd hyn anghytundeb yn flaenorol rhwng gwahanol lywodraethau ynglŷn â gwariant canlyniadol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ‘Credwn yn gryf na ddylai pobl sy’n byw mewn adeiladau yr effeithiwyd arnynt gael eu gadael i dalu am unioni safonau diogelwch a thramgwyddiadau i reolau adeiladu.

‘Rydym yn mabwysiadu agwedd gyfannol at ddiogelwch adeiladau sy’n mynd y tu hwnt i gladin i gynnwys  y broses adrannu, a systemau rhybudd tân, ymgilio a llethu tân mewn adeiladau 11 metr a mwy.

‘Croesawn gyhoeddiadau Llywodraeth y DU, a bydd rhai ohonynt yn cefnogi ein gwaith yma. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â datblygwyr a phwyso arnynt i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu. Pob clod i’r datblygwyr hynny sydd eisoes wedi neilltuo arian ar gyfer gwaith gwella yng Nghymru – maent wedi gosod esiampl i eraill ei dilyn.

‘Roedd datganiad y gweinidog ym mis Rhagfyr yn nodi’r cynnydd sylweddol a welwyd ar yr agenda diogelwch adeiladau, yn cynnwys ymrwymiad o £375 miliwn yn y Gyllideb ddrafft dros y tair blynedd nesaf.’

 

LLOEGR

Adolygiad gwariant yn cadarnhau ymrwymiadau presennol – a rhewi LTLl

Ychydig o ymrwymiadau newydd ar dai oedd yn yr adolygiad aml-flwyddyn cyntaf o wariant yn Lloegr ers 2015 ond roedd colyn yn ei gynffon o ran budd-dal tai.

Cadarnhaodd y Canghellor Rishi Sunak £5 biliwn ar gyfer tynnu cladin ac £11.5 biliwn ar gyfer y Rhaglen Tai Fforddiadwy ynghyd â £10 biliwn mewn benthyciadau i gefnogi’r cyflenwad tai ond roedd hyn oll wedi cael ei gyhoeddi’n flaenorol.

Cadarnhawyd hefyd y codir Treth Datblygwr Eiddo Preswyl ar raddfa o 4 y cant ar elw dros £25 miliwn a disgwylir iddi godi £200 miliwn y flwyddyn tuag at gael gwared ar gladin.

Fodd bynnag, roedd print mân Llyfr Coch y Gyllideb hefyd yn cadarnhau y rhewir cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol (LTLl) eto ar gyfer 2022/23 ledled y DU.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol o rewi ers i gyfraddau LTLl gael eu hadfer i’r 30ain canradd o renti lleol yn 2020 ac mae’n golygu y bydd y diffyg rhwng budd-daliadau a rhenti yn parhau i gynyddu.

 

YR ALBAN

Lansio ymgynghoriad ar ‘fargen newydd i denantiaid’

Mae Llywodraeth yr Alban yn ymgynghori ar yr hyn a eilw’n fargen newydd ar gyfer tenantiaid er mwyn darparu sector rhentu tecach.

Mae cynigion yn cynnwys:

  • cosbau cynyddol am droi allan anghyfreithlon a gorfodaeth gryfach
  • cyfyngu ar droi allan yn ystod y gaeaf
  • mwy o hyblygrwydd i denantiaid addurno’u cartrefi a chadw anifeiliaid anwes
  • datblygu system genedlaethol o reolaethau rhent ar gyfer y sector rhentu preifat
  • cyflwyno Safon Tai newydd a fydd mewn grym ar gyfer pob cartref
  • sefydlu rheolydd sector rhentu preifat i gynnal y safonau hyn ac i sicrhau bod y system yn deg i landlordiaid a thenantiaid ill dau
  • gosod safonau lleiafswm ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan wneud cartrefi’n rhatach i’w gwresogi tra’n cyfrannu at dargedau newid hinsawdd yr Alban
  • Mae’r cynigion yn bwrw ymlaen ag ymrwymiadau a wnaed yn y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Werdd yr Alban a byddant yn bwydo i mewn i fersiwn derfynol y strategaeth Tai tan 2040. Cynhwysir elfennau mewn Bil Tai yn 2023.

 

GOGLEDD IWERDDON

Strategaeth newydd i ddarparu 100,000 o gartrefi

Amlinellodd y gweinidog cymunedau Deirdre Hargey gynlluniau i ddarparu mwy na 100,000 o gartrefi dros y 15 mlynedd nesaf mewn drafft o Strategaeth Cyflenwi Tai newydd.

Bwriedir i draean o leiaf o’r cartrefi fod yn dai cymdeithasol a dywedodd y dylai’r cynlluniau yn eu cyfanrwydd gyflawni amrywiaeth eang o anghenion gan gynnwys rhai poblogaeth sy’n heneiddio, pobl ag anableddau a phlant a phobl ifanc.

Aeth yn ei blaen: ‘Bydd trawsnewid y cyflenwad tai yn gofyn am ymateb torfol gan y Weithrediaeth a chydweithio go iawn. Rhaid iddo ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r rhai hynny sydd ag angen tai. Mae mynd ati fel hyn yn seiliedig ar yr egwyddor mai’r rhai yr effeithir fwyaf arnynt gan dai gwael yw’r rhai gorau i helpu i’w dylunio neu eu hailddylunio.’

Mae’r ymgynghoriad yn para tan fis Chwefror.

 

LLYWODRAETH CYMRU

Cyllideb yn nodi ymrwymiadau ar gyfer tai

Mae tai cymdeithasol newydd, datgarboneiddio ac ail gymal y Gronfa Diogelwch Adeiladau yn ymddangos yng nghyllideb ddrafft dair-blynedd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Roedd y cynlluniau a gyhoeddwyd gan y gweinidog cyllid Rebecca Evans yn disgrifio’r cynlluniau gwario ar gyfer 2022/23 a chynlluniau gwario mynegol 2023/24 a 2024/25.

Mae prif fesurau allweddol ar gyfer tai ac adfywio (dyfyniadau o destun y Gyllideb) yn cynnwys:

  • £1bn o gyfalaf ar gyfer tai cymdeithasol hyd at 2024/25 i ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel i’w rhentu
  • £580m o gyfalaf ar gyfer datgarboneiddio tai cymdeithasol hyd at 2024/25. ‘Mae hyn yn cynnwys ariannu ein Rhaglen Ôl-osod Optimeiddiedig sydd â’r bwriad o wella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai cymdeithasol presennol.’
  • £375m o gyfalaf ar gyfer diogelwch adeiladau hyd at 2024/25 ynghyd â £6.5m o refeniw. ‘Bydd y cyllid hwn yn caniatáu buddsoddiad hir-dymor mewn adfer blociau o fflatiau yn ail gymal Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, ochr yn ochr â chefnogi’r gwaith o ddarparu’r Cynllun Pasbort Diogelwch Adeiladau, sefydlu Tîm Cyd-Arolygu, a chefnogi gwaith diwygio ac adfer hir-dymor.’
  • £100m hyd at 2024/25 ar gyfer cynllun Nyth Cartrefi Clyd a chynlluniau olynol
  • £60m ar gyfer tai’r farchnad agored i ddiwallu anghenion tai a hybu adeiladu tai ynghyd ag £8.5m ar gyfer Cymorth Prynu i gefnogi perchentyaeth ecwiti
  • £27.5m o gymorth refeniw hyd at 2024/25 i’w fuddsoddi mewn atal digartrefedd a chymorth tai ledled Cymru. ‘Mae hyn yn cynnwys gwaith i gyrraedd ein nod o ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar ataliaeth ac ailgartrefu cyflym.
  • £3.5m i rentu eiddo yn y sector rhentu preifat er mwyn i awdurdodau lleol allu cyflawni eu dyletswyddau digartrefedd.
  • £3m o refeniw ychwanegol a chyfanswm cyfalaf o £100m hyd at 2024-25 ‘i gefnogi twf cynaliadwy trefi a dinasoedd a’u trawsnewid yn fannau byw, gweithio, dysgu a hamdden’.
  • £1m o refeniw i Unnos, y cwmni adeiladu cenedlaethol i gefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol, rhan o’r Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru.

Cytundeb cydweithredu yn cynnig newidiadau radical ar gyfer tai

Mae hawl i lety digonol, rheolaeth rhenti a gweithredu radical ar ail gartrefi ar yr agenda ar gyfer Cymru yn sgil Cytundeb Cydweithredu eang ei gwmpas a lofnodwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd y Blaid, Adam Price, fod y polisïau yn y cytundeb yn cyflawni’r ‘addewid o fath newydd o wleidyddiaeth’ ac y byddai’n sicrhau ‘Senedd sefydlog, a all ddarparu newid radical’.

Mae’r cyd-flaenoriaethau mewn 46 o feysydd polisi yn cynnwys Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, cwmni adeiladu cenedlaethol, ail gymal y Gronfa Diogelwch Adeiladau, diwygio’r gyfraith digartrefedd a diwygio’r dreth gyngor.

Bydd y pleidiau hefyd yn comisiynu cyngor annibynnol ar sut i gyrraedd sero net erbyn 2035 yn lle 2050 ac yn gweithio tuag at greu Ynni Cymru, cwmni ynni cenedlaethol cyhoeddus i ehangu’r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy cymunedol.

Ac maent am weld gweithredu ar raddfa eang ar addysg Gymraeg a safonau, trechu tlodi ac anghydraddoldeb, ac amrywiaeth a chydraddoldeb.

Daw’r ymrwymiadau sy’n ymwneud fwyaf â thai o dan y pennawd ‘camau radical ar gyfer amserau anodd’, gyda’r partïon yn tynnu sylw at filiau cynyddol teuluoedd, yr argyfwng tai a gofal am bobl hŷn. Maent yn cynnwys:

  • Dyfodol Gofal Cymdeithasol – Sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein nod ar y cyd i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim lle bynnag y bo’i angen, gan barhau yn wasanaeth cyhoeddus. Cytunir ar gynllun gweithredu erbyn diwedd 2023. Byddwn yn parhau i integreiddio iechyd a gofal yn well a gweithio tuag at sicrhau y caiff gweithwyr iechyd a gofal gydnabyddiaeth a chyflogau cydradd.
  • Ail gartrefi – Gweithredu ar unwaith yn radicalaidd i atal ymlediad ail gartrefi a thai anfforddiadwy, gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthu.

Mae’r camau a gynllunir yn cynnwys cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau; mesurau i ddod â rhagor o gartrefi o fewn i berchnogaeth gyffredin; cynllun statudol i drwyddedu llety gwyliau; mwy o bwerau i gynghorau lleol i godi cyfraddau premiwm ar y dreth gyngor a chynyddu trethi ar ail gartrefi. Byddwn yn ymchwilio i forgeisi awdurdod lleol.

  • Cwmni adeiladu cenedlaethol – Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i helpu cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
  • Diogelwch adeiladau – Diwygio’r system diogelwch adeiladau bresennol yn sylweddol – system sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd. Byddwn yn cyflwyno ail gymal Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.
  • Eiddo a Rhenti Teg – Cyhoeddi Papur Gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer hawl i gartref digonol, y rhan y gallai system rhenti teg (rheolaeth ar renti) ei chwarae mewn gwneud y farchnad rentu preifat yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm lleol, a ffyrdd newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy.
  • Digartrefedd – Diweddu digartrefedd. Os aiff rhywun yn ddigartref, dylai fod yn brofiad byr, prin, nas ailadroddir. Byddwn yn diwygio cyfraith tai, yn defnyddio’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i roi mwy o sicrwydd i rentwyr ac yn gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.
  • Diwygio’r dreth gyngor – Diwygio un o’r mathau lleiaf teg o drethu – un sy’n effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach Cymru – i’w gwneud yn decach.

Gweinidog yn gweithredu ar ail gartrefi

Datgelodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James fwy o fanylion am gynllun peilot i fynd i’r afael ag effaith perchnogaeth ail gartrefi ar rai o gymunedau Cymru.

Cadarnhaodd y gweinidog yn y Senedd y bydd y peilot yn dwyn ynghyd nifer o gamau gweithredu i fynd i’r afael ag effeithiau nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr. Dwyfor oedd y dewis ar gyfer peilot a gaiff ei lansio ym mis Ionawr gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd.

Bydd cymal cyntaf y peilot yn adeiladu ar sail y cymorth ymarferol a ddarperir eisoes gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblem fforddiadwyedd ac argaeledd tai, ac fe’i llunir i weddu i anghenion pobl yr ardal. Caiff mwy o fanylion eu cadarnhau yn sgil y Gyllideb, ond mae’r gweinidog am ystyried cynlluniau rhannu ecwiti, atebion i broblemau rhentu, a’r hyn y gellir ei wneud â chartrefi gwag.

Bydd dwy swydd benodol yn cefnogi darparu’r peilot yn yr ardaloedd, gan gydgysylltu’r gweithredu, ymgysylltu â chymunedau a sicrhau’r effaith fwyaf posibl.

Lansiodd y gweinidog ymgynghoriad ar newidiadau cynllunio arfaethedig. Bydd hwn yn holi barn ar y defnydd o ‘orchymyn dosbarth’ mewn cynllunio, sy’n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i wneud ceisiadau cynllunio yn ofynnol yn achos ail gartrefi a llety gwyliau ychwanegol mewn ardaloedd lle maent yn peri anawsterau sylweddol i gymunedau.

Yr ymgynghoriad fydd yn pennu ffurf ail gymal y peilot, a allai olygu newid systemau cynllunio, trethiant a thwristiaeth.

Yn ogystal, mae Jeremy Miles, y gweinidog dros addysg a’r Gymraeg, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar fesurau ychwanegol sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer y cymunedau hynny lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad ar raddfa eang.

Bydd hyn yn sail i Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru a bydd yn chwarae rhan bwysig mewn cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith fel mannau sy’n hwyluso defnydd o’r iaith.

Dros yr haf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar newidiadau posibl i drethi lleol i helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunan-arlwyo. Caeodd hwn ar 17 Tachwedd.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i ystyried sefydlu cynllun cofrestru neu drwyddedu statudol ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru.

Ymgynghoriadau

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

  • Diwygiadau i hawliau datblygu a ganiateir – ymatebion erbyn 15 Chwefror
  • Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr – ymatebion erbyn 22 Chwefror
  • Ail gartrefi: amrywiad lleol i gyfraddau treth trafodiadau tir – ymatebion erbyn 28 Mawrth
  • Cynigion ar gyfer iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd – ymatebion erbyn 1 Ebrill

Am fwy o fanylion, gweler llyw.cymru/ymgynghoriadau

CYMRU 

Gall Cymru ‘arwain y ffordd’ ar yr hawl i dai

Mae ymgyrch Cefnogi’r Bil wedi cyhoeddi rhan gyntaf yr ymchwil i effeithiau cymdeithasol ac economaidd yr hawl i dai digonol yng Nghymru, sy’n amlygu’r manteision posibl i’r wlad.

Gan ganolbwyntio ar gymariaethau rhyngwladol – gan gynnwys enghreifftiau o’r Ffindir, Canada a De Affrica – mae’r ymchwil, a wnaed gan Alma Economics, wedi canfod arfer da a gwersi gwerthfawr mewn amryfal ffyrdd o fynd ati.

Yn y Ffindir, er enghraifft, mae’r hawl i dai wedi’i sefydlu yng nghyfansoddiad y wlad. Mae’r ffaith i’r Ffindir, a amlygir yn yr adroddiad fel gwlad sydd wedi cymryd camau sylweddol tuag at lwyr wireddu’r hawl, fabwysiadu nifer o bolisïau, gan gynnwys Tai yn Gyntaf, wedi helpu i leihau digartrefedd o 50 y cant – ac mae ar y ffordd i’w ddileu yn llwyr erbyn 2027.

Yn y cyfamser, mae deddfwriaeth Canada yn cydnabod yr hawl i dai digonol trwy ei Deddf Strategaeth Dai Genedlaethol. Creodd y ddeddfwriaeth hefyd dri chorff atebolrwydd i hyrwyddo ac amddiffyn yr hawl, ond heb fynd cyn belled â chyflwyno mecanwaith barnwrol.

Yn Ne Affrica, mae’r hawl i lety digonol yn rhan o’r cyfansoddiad ac os tramgwyddir yr hawl, caniateir i bobl herio hynny’n gyfreithiol mewn llys barn; fodd bynnag, mae diffyg buddsoddi yn y cyflenwad tai dros gyfnod maith wedi bod yn faen tramgwydd.

Mae’r ymchwil, a gomisiynwyd gan bartneriaid Cefnogi’r Bil (Tai Pawb, Shelter Cymru a STS Cymru), yn dangos y gall Cymru arwain y ffordd fel esiampl ryngwladol yn ei hagwedd tuag at dai fel hawl ddynol. Mae’r papur hefyd yn ategu’r gost o fod â thai annigonol ac anghyfartal, gydag effeithiau sylweddol ar iechyd, addysg a chyfle mewn bywyd yn ogystal ag effaith anghymesur ar rai â nodweddion gwarchodedig.

Hwb buddsoddi i Sero

Mae’r cwmni yswiriant Legal and General a’r banc Cymreig Hodge wedi buddsoddi £5.5 miliwn yn y cwmni technoleg a gwasanaethau ynni Sero Technologies.

Mae’r cytundeb ecwiti yn rhoi cyfranddaliad o fymryn o dan 30 y cant iddynt yn y cwmni o Gaerdydd sydd wedi datblygu offer digidol ac arbenigedd i ddylunio a darparu atebion carbon-isel cost-effeithiol ar gyfer cartrefi newydd a rhai presennol.

Mae Sero wedi canolbwyntio i ddechrau ar weithio gyda darparwyr tai cymdeithasol sy’n wynebu heriau mawr o ran rheoleiddio a chyllid, wrth iddynt geisio cyrraedd targedau sero-net. Bydd buddsoddiad Legal & General a Hodge yn cefnogi Sero yn ei gyfnod nesaf o dwf, yn ogystal â’i nod o gefnogi’r gwaith o ddarparu cynhyrchion ariannol sero-net gyda phartneriaid sefydliadol.

Trwy ei gangen asedau amgen, Legal & General Capital, y cwmni yswiriant yw un o adeiladwyr tai mwyaf y DU o ran nifer. Gydag ymrwymiad i sicrhau allyriadau gweithredol sero-net o 2030 ar draws ei bortffolio preswyl, mae cyfleoedd sylweddol i Sero weithio gyda’i asedau tai a busnesau presennol.

Mae Hodge, y mae 79 y cant ohono’n eiddo i Sefydliad Hodge, yn arbenigwr mewn morgeisi, cyllid masnachol a chynilion. Mae Sero yn cael ei weld fel cwmni sy’n cydweddu’n naturiol i Hodge wrth iddo geisio sicrhau ei fod yn parhau i chwarae ei ran mewn gwella cymdeithas tra’n cefnogi a buddsoddi mewn busnesau sy’n cydymffurfio’n glos â’r nod hon.

Mae Sero’n gweithio gyda landlordiaid, benthycwyr morgeisi, adeiladwyr tai a mwy, i bennu llwybr tuag at sero net i’w cartrefi, gan ddarparu’r opsiwn o optimeiddio parhaus i sicrhau canlyniad da i gwsmeriaid. Yn nes ymlaen yn y gwanwyn bydd yn lansio ei Basbort Adeiladu, ap digidol sy’n galluogi perchnogion tai i ddeall ôl-troed carbon eu cartref yn well, sut y gallant ei wneud yn fwy ynni-effeithlon, ac olrhain hynt y cartref ar ei lwybr tuag at sero net.

Penodwyd dau gyfarwyddwr newydd gyda chysylltiadau â Legal & General a Hodge i Sero Technologies ym mis Rhagfyr. Nid yw’r cytundeb yn cynnwys y cwmni adeiladu tai Sero Homes, sy’n gwmni ar wahân.

Prif weithredydd grŵp newydd yn United Welsh

Cadarnhawyd Richard Mann fel prif weithredydd grŵp newydd United Welsh o fis Ionawr 2022.

Yn gyn-ddirprwy brif weithredydd a chyfarwyddydd gweithredu’r grŵp, ystyrir ei benodiad yn allweddol yn nhwf United Welsh. Ar hyn o bryd mae’r gymdeithas yn darparu dros 6,300 o gartrefi ar draws de Cymru, gyda’r bwriad o adeiladu 1,300 arall yn y pum mlynedd nesaf.

Mae Richard yn cymryd yr awenau oddi wrth Lynda Sagona, a gyhoeddodd ei bwriad i ymddeol ar ôl arwain United Welsh fel prif weithredydd y grŵp am bum mlynedd, a gweithio i’r sefydliad ers 2009.

 

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1) Yr hawl i gartref digonol yng Nghymru – y sylfaen dystiolaeth

Alma Economics ar gyfer Tai Pawb, STS Cymru a Shelter Cymru, Rhagfyr 2021

https://sheltercymru.org.uk/wp-content/uploads/2021/12/cymAlma-EconomicsEXEC-SUM.pdf

2) The Homelessness Monitor: Wales 2021

Crisis, Tachwedd 2021

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/homelessness-monitor/wales/the-homelessness-monitor-wales-2021/

3) A snapshot of poverty in winter 2021

Sefydliad Bevan, Rhagfyr 2021

www.bevanfoundation.org/resources/poverty-in-winter-2021/

4) Barely breaking even: the experience and impact of in-work homelessness across Britain

Crisis, Rhagfyr 2021

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/types-of-homelessness/barely-breaking-even-the-experiences-and-impact-of-in-work-homelessness-across-britain/

5) Hope to buy – the decline of youth home ownership

Sefydliad Resolution, Rhagfyr 2021

www.resolutionfoundation.org/publications/hope-to-buy/

6) Decarbonising the housing association sector – costs and funding options

Savills a National Housing Federation, Hydref 2021

www.housing.org.uk/resources/decarbonisation-briefing/

7) The cost of poor housing in England

BRE, Tachwedd 2021

files.bregroup.com/research/BRE_Report_the_cost_of_poor_housing_2021.pdf

8) Regulation of private renting

National Audit Office, Rhagfyr 2021

www.nao.org.uk/report/regulation-of-private-renting/

9) Levelling up with social housing

Shelter, Rhagfyr 2021

england.shelter.org.uk/support_us/campaigns/levelling_up_social_housing

10) Communicating about housing the UK: obstacles, openings and emerging recommendations

Sefydliad Joseph Rowntree, Tachwedd 2021

www.jrf.org.uk/report/communicating-about-housing-uk-obstacles-openings-and-emerging-recommendations


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »