English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Gwireddu ein gobeithion am COP26

Chris Jofeh yn gofyn sut y gall tai helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Mae COP26 yn atgof, pe bai angen un, o’r ffaith bod yr hinsawdd eisoes yn newid a bod yr angen brys am ddelio â hynny yn cynyddu beunydd. Nod bennaf COP26 yw ‘sicrhau sero net byd-eang erbyn canol y ganrif a chadw 1.5 gradd o fewn cyrraedd’.

Mae’r DU wedi ymrwymo i sero net erbyn 2050. Beth yw ystyr hyn? Mae’n golygu dileu, allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU cyn belled â phosib erbyn 2050, gydag unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu hamsugno, yn ôl pob tebyg trwy blannu mwy o goed.

Er mwyn lleihau ein hallyriadau yn sylweddol mae angen i ni wneud dau beth. Y cyntaf yw defnyddio llai o ynni, o leiaf 50 y cant yn llai yn ôl pob tebyg; yr ail yw datgarboneiddio ein cyflenwad ynni, sy’n golygu troi oddi wrth nwy at drydan carbon-isel. Mae’r DU eisoes wedi cymryd camau breision o ran datgarboneiddio’i chyflenwad trydan, a disgwylir gweld cynnydd pellach.

Ffigur 1: Amrywiad yn nwyster carbon grid trydan ar gyfartaledd dros amser

 

Ffynonellau:: DEFRA ar gyfer 2014 i 2016; rhagamcanion tan 2035 wedi eu cyhoeddi gan BEIS ym mis Ionawr 2018

Rhaid i ni leihau ein defnydd o ynni yn sylweddol i fod ag unrhyw obaith o gynhyrchu digon o drydan carbon-isel i ateb ein hanghenion. Tybir y bydd angen gostyngiad o ryw 50 y cant yn ein defnydd o ynni.

Pa ran mae cartrefi ei chwarae?

Mae cartrefi yn y DU yn gyfrifol am fwy nag 20 y cant o holl allyriadau nwyon tŷ-gwydr y DU. Felly mae’n hanfodol gweithredu i leihau allyriadau o’n cartrefi. Gwresogi gofod a gwresogi dŵr sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r ynni a ddefnyddir yn y mwyafrif o gartrefi, a daw’r rhan fwyaf o wres o losgi tanwydd ffosil fel nwy, sy’n allyrru nwyon tŷ gwydr.

 Ffigur 2 Cyfran yr allyriadau tŷ gwydr yn sectorau defnyddwyr-terfynol y DU yn 2019

Ffynhonnell: Tabl 5.1, Ystadegau allyriadau nwyon tŷ gwydr terfynol y DU 1990-2019, tablau data Excel, BEIS

Beth ydyn ni’n ei wneud yng Nghymru?

Prawf maes mawr yw’r Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig (ORP) a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a mwy na hanner landlordiaid cymdeithasol Cymru, lle mae dros 2,000 o gartrefi cymdeithasol yn cychwyn ar eu taith tuag at sero net. Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi ei bod yn cynyddu cyllid eleni o £20 miliwn i £35 miliwn, fel y gellir cynnwys hyd yn oed mwy o gartrefi a mewnosod hyd yn oed mwy o fesurau.

Mae’r Ganolfan Adeiladu Gweithredol (ABC) yn Abertawe yn gyfrifol am hel, storio a gwerthuso data nid yn  unig am ganlyniadau technegol ORP ond am ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd y rhaglen hefyd. Mae dull strwythuredig cyson ABC o hel a gwerthuso data ar y blaen i bobman arall yn y DU, a bydd y mewnwelediadau a’r wybodaeth a fydd yn deillio o hyn o werth aruthrol i Lywodraeth Cymru ac i bawb arall sy’n ymwneud â gwaith datgarboneiddio preswyl.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £35 miliwn arall ar gyfer cam nesaf ORP, lle bydd landlordiaid cymdeithasol yn uwchraddio nid yn unig eu cartrefi eu hunain ond cartrefi sy’n perthyn i landlordiaid preifat hefyd. Gwneir gwaith i fraenaru’r tir ar gyfer perchentywyr hefyd.

Yn ogystal â chreu gwybodaeth y gellir gweithredu arni, mae ORP yn dechrau creu cadwyni cyflenwi a fydd yn gallu ôl-ffitio ar y raddfa y bydd ei hangen ar Gymru.

Bydd y buddion a ddaw yn sgil datgarboneiddio preswyl i Gymru yn eang ac yn sylweddol. Cyn y cyfnod clo, comisiynodd Llywodraeth Cymru’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy (SCE) i baratoi adroddiad ar yr achos o ran gwerth o blaid datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru. Archwiliodd yr adroddiad dystiolaeth ar fuddion datgarboneiddio cartrefi sy’n berthnasol i nodau’r Ddeddf Llesiant. Canfu dystiolaeth gadarn y byddai datgarboneiddio cartrefi yn cyfrannu at gyflawni pump o’r saith nod. Y pump hynny yw Cymru llewyrchus, Cymru wydn, Cymru fwy cyfartal, Cymru iachach a Chymru gyfrifol ar lefel fyd-eang. Ar gyfer y ddwy nod arall roedd y dystiolaeth yn gymysg neu’n wan. Dydy pump allan o saith ddim yn wael, ac mae’n anodd meddwl am unrhyw un polisi arall sydd â’r potensial i gyflawni cymaint o nodau Llesiant.

Cawn ateb tebyg os ystyrir nodau datblygu cynaliadwy’r CU: mae’n amlwg bod datgarboneiddio preswyl yn ticio llawer o flychau

Mae adroddiad diweddar, gan y New Economics Foundation ar gyfer Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn amcangyfrif y byddai rhaglen ddatgarboneiddio tai yng Nghymru yn creu mwy na £19 biliwn o CMC ychwanegol, £3.5 biliwn o fudd treth net a 26,500 o swyddi newydd erbyn 2030. Dywed yr adroddiad hefyd y byddai’r rhaglen yn arbed £8.3 biliwn ar filiau ynni ac yn creu £4.4 biliwn mewn buddion iechyd ac amgylcheddol erbyn 2040, gan helpu i roi mwy o arian yn ôl i mewn i economïau lleol ledled Cymru a lleihau’r straen ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

A yw Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn dal yn addas at y diben?

Sut y gwyddom ni pa mor effeithlon yw defnydd ynni ein cartrefi? Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPA) yn rhoi sgôr effeithlonrwydd ynni i eiddo o A (mwyaf effeithlon) i G (lleiaf effeithlon) a nhw yw dewis offeryn polisi Llywodraeth y DU i ysgogi gwelliannau i effeithlonrwydd ynni adeiladau, rhai preswyl ac rhai eraill. Maent yn darparu gwybodaeth am ddefnydd ynni eiddo a chostau ynni nodweddiadol ac maent yn gwneud argymhellion ynghylch sut i leihau’r defnydd o ynni ac arbed arian.

Mae adroddiad Better Homes, Better Wales, Better World[1] yn argymell bod pob cartref presennol yng Nghymru yn sicrhau EPC gradd A, neu mor agos at hynny ag y gall yn rhesymol ei gyrraedd. Adleisir hyn yng Ngofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR21),[2] a ddaeth i rym ar Hydref 1. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gartrefi cymdeithasol newydd gyrraedd EPC gradd A a pheidio â defnyddio bwyleri tanwydd ffosil i gynhesu dŵr a gwresogi gofod yn y cartref.

Mae cyfarwyddeb WDQR21 ar fwyleri tanwydd ffosil yn arwydd cryf nad yw EPCau bellach yn gwneud y gwaith angenrheidiol. Mae’r rheswm pam nad ydynt yn gwneud y gwaith sydd ei angen yn syml – ein nod ni yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ond mae a wnelo EPCau â defnyddio ynni, nid allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Y casgliad anochel yw bod angen i ni osod targed newydd ar gyfer ein cartrefi, un sy’n cyfrif allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae angen i ni hefyd allu rhagweld a mesur allyriadau cartref. Nid yw hynny’n hawdd, nid yn unig oherwydd bod y grid trydan yn datgarboneiddio dros amser, ond am fod dwyster carbon trydan yn amrywio o le i le yn ystod y dydd a’r nos.

Ffigur 3 – Enghraifft o amrywiad beunyddiol dwyster carbon y grid trydan


Ffynonnell: www.earth.org.uk/note-on-UK-grid-CO2-intensity-variations.html#code

Dengys Ffigur 3 sut y mae trydan a gynhyrchir ychydig wedi hanner nos yn gyfrifol am allyriadau carbon llawer is na’r trydan a gynhyrchir ychydig wedi hanner dydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r grŵp cynghori annibynnol rwyf yn ei gadeirio i wneud argymhellion ar gyfer targed gwell nag EPC A. Yr heriau a wynebir gennym yw:

  1. a) gosod targed neu dargedau y gellir eu cyrraedd, ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol
  2. b) dangos sut y gellir modelu (rhagweld) perfformiad yn erbyn targedau o’r fath ar gyfer cartrefi unigol, ar gyfer y stoc tai yn ei grynswth ac, o bosib, ar gyfer grwpiau o gartrefi, er enghraifft, yr holl gartrefi sy’n eiddo i gymdeithas tai, neu’r holl gartrefi o fewn awdurdod lleol
  3. c) arddangos sut y gellir monitro perfformiad cartrefi a dwyster carbon y grid trydan fel y gwyddom sut mae cartrefi’n perfformio, yn unigol ac yn eu crynswth.

Mae perfformiad cartrefi yn eu crynswth yn ystyriaeth bwysig, oherwydd nid pob cartref a all gyrraedd y safon uchaf, am amryw resymau. Yr hyn sydd ei angen yw i bob cartref gyrraedd ei botensial, ac i gyfanswm yr allyriadau o stoc presennol Cymru ostwng yn sylweddol

Mewn cyd-destun arall, dadleuodd Matt Golden, Prif Swyddog Gweithredol cwmni Open Energy Efficiency ac uwch-ymgynghorydd cyllid ynni i’r Project Hyder Buddsoddwyr,[3] bod angen i ni symud tuag at farchnadoedd sy’n mesur ac yn gwerthfawrogi effeithlonrwydd ynni fel adnodd fasnachol:

‘Er mwyn gwireddu potensial effeithlonrwydd ynni, rhaid inni symud o gyfyngiadau rhaglenni brig-i-lawr heddiw i system a all ysgogi marchnadoedd, cefnogi arloesedd, a denu cyfalaf preifat. Nid ceisio perffeithrwydd ar brojectau unigol yw’r ateb ar gyfer effeithlonrwydd ynni, ond rheoli risg ar lefel y portffolio i sicrhau effeithlonrwydd ynni digon da i ddenu buddsoddiad.’

Roedd Matt yn sôn am gyllid, ond mae’r ail baragraff yr un mor wir am allyriadau nwyon tŷ gwydr: mae angen i ni fynd i’r afael â nhw mewn ffordd sy’n cyflawni ein nod cyffredinol o leihau cyfanswm allyriadau’r stoc tai gyfan yn sylweddol.

Chris Jofeh yw cadeirydd grŵp cynghori annibynnol Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru

[1] gov.wales/sites/default/files/publications/2019-07/independent-review-on-decarbonising-welsh-homes-report.pdf

[2] gov.wales/development-quality-requirements-housing-associations-and-local-authorities-2021

[3] www.greentechmedia.com/articles/read/moving-efficiency-into-project-finance-by-paying-for-metered-performance


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »