English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol – Y ras at sero net

Yn gynnar y mis nesaf bydd cynrychiolwyr o fwy na 200 o wledydd yn ymgynnull yn Glasgow ar gyfer Cynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26.

Mae COP Glasgow yn nodi’r pwynt lle bydd disgwyl i wledydd ddwysáu’r ymrwymiadau a wnaethant i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr ym Mharis yn 2015.

Gyda rhybudd asesiad hinsawdd diweddaraf y Cenhedloedd Unedig yn ‘olau coch i’r ddynolryw’, rydym yn chwarae am arian mawr ac mae amser yn brin. Rhaid i bob gwlad roi ei harian ar y bwrdd a chynhyrchu cynlluniau manwl i leihau eu hallyriadau. Mae hyn yn golygu nid yn unig datgarboneiddio ein cyflenwad ynni ond haneru ein defnydd o ynni.

Gyda chartrefi yn gyfrifol am oddeutu 20 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae’r rhifyn arbennig hwn o WHQ yn canolbwyntio ar dai fel un o rengoedd blaen y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd; mae eisoes yn amlwg y bydd datgarboneiddio yn cael effaith enfawr sy’n ymestyn y tu hwnt i ddeunydd adeiladau i gymdeithas yn ei chrynswth.

Mae gennym gyfweliad gyda’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James, am ei huwch-weinidogaeth newydd, beth yw lle tai yn hyn oll, a’r camau rydyn ni’n debygol o’u gweld gyda chartrefi newydd a rhai presennol. Clywn hefyd gan arbenigwyr blaenllaw am yr hyn fydd yn gorfod digwydd, a phryd. Mae Chris Jofeh, cadeirydd grŵp cynghori annibynnol Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio cartrefi, yn rhoi ei asesiad o’n llwyddiant hyd yn hyn ac mae hefyd yn codi mater allweddol y ffordd orau o fesur perfformiad ein cartrefi.

Dadl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, yw bod ar Gymru angen cynllun buddsoddi gwerth £15 biliwn er mwyn mynd â ni at sero net ond y bydd datgarboneiddio yn sicrhau llu o fuddiannau. Dyma’r degawd tyngedfennol, meddai.

Mae Andy Sutton o Sero yn ystyried un o’r gwersi sy’n deillio o’r Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig, sef bod yn rhaid i ddatgarboneiddio fod ynglŷn ag ymgysylltu â phobl sy’n byw mewn cartrefi yn ogystal â chyllid, technoleg a sgiliau.

Cawn farn o bob rhan o’r sector a chlywn hefyd gan Anna Bullen o’r Ganolfan Technoleg Amgen ar yr atebion sy’n bodoli eisoes, gan Carole-Anne Davies o Gomisiwn Dylunio Cymru am yr angen am adfywio wedi ei arwain gan lefydd, ac Ed Green o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar y potensial i gartrefi newydd gyflawni nodau cenedlaethau’r dyfodol.

Yn ogystal â’n holl erthyglau nodwedd rheolaidd, cadwch lygad yn agored am erthyglau ar yr argyfwng diogelwch adeiladau yng Nghymru, project newydd i ddod o hyd i lety i ymfudwyr amddifad, a’r newyddion diweddaraf am y project cartrefi o bren lleol.

Jules Birch, golygydd, WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »