English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DU

Torri credyd cynhwysol o £20 yr wythnos

Gwrthsafodd llywodraeth San Steffan bwysau gan elusennau, yr wrthblaid a chwe chyn-ysgrifennydd gwaith a phensiynau Ceidwadol, gan ddileu’r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol ar Hydref 6.

Daeth y cynnydd i rym ar ddechrau’r pandemig ar yr hyn y dadleuai’r llywodraeth y bwriedid iddo fod yn sail dros-dro, gan honni mai gwaith yw’r llwybr allan o dlodi.

Fodd bynnag, dadleuai beirniaid mai dyma’r toriad mwyaf mewn budd-daliadau ers creu’r wladwriaeth les, yn golygu bod 4.4 miliwn o aelwydydd yn colli £1,000 y flwyddyn. Mae tua 40 y cant o’r rheini sydd ar Gredyd Cynhwysol eisoes mewn gwaith.

Amcangyfrifai’r Sefydliad Legatum asgell-dde fod y cynnydd wedi diogelu 840,000 o bobl rhag tlodi, gan gynnwys 290,000 o blant, tra’r amcangyfrifai Sefydliad Joseph Rowntree y byddai’r toriad yn effeithio ar un o bob tri o deuluoedd â phlant.

Wythnos cyn bod y cynnydd i fod i ddod i ben, cyhoeddodd y llywodraeth Gronfa Cymorth Cartref gwerth £500 miliwn wedi’i bwriadu ar gyfer teuluoedd bregus. Mae dileu’r cynnydd yn arbed £6 biliwn y flwyddyn i’r Trysorlys.

LLOEGR

Gove i’r adwy wrth i’r adran gael ei ‘lefelu i fyny’

Penodwyd Michael Gove yn weinidog cabinet newydd sy’n gyfrifol am dai ar ôl yr  ad-drefnu a welodd ei adran yn cael ei hail-fedyddio i adlewyrchu blaenoriaeth llywodraeth San Steffan o ‘lefelu i fyny’. Ei ddwy flaenoriaeth fawr yn y maes tai fydd diwygio cynllunio a’r argyfwng diogelwch adeiladau.

Mae’r Adran Lefelu i fyny, Tai a Chymunedau (DLUHC) yn disodli’r cyn-Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG). Gyda chefnogaeth is-weinidog newydd, Neil O’Brien, bydd Gove yn gyfrifol am ddiffinio ystyr ‘lefelu i fyny’ ac mae ei bortffolio estynedig hefyd yn cynnwys gwarchod yr undeb. Cafodd y cyn-ysgrifennydd gwladol Robert Jenrick ei ddiswyddo.

O ran diwygio cynllunio, mae’r llywodraeth eisoes wedi dynodi ei bod am gefnu ar gynigion a fyddai wedi arosod targedau adeiladu tai uwch mewn seddi Ceidwadol yn ne-ddwyrain Lloegr a’i gwneud hi’n haws i geisiadau cynllunio unigol fynd rhagddynt

Yn ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, dywedodd cadeirydd y blaid, Oliver Dowden: ‘Mae angen i ni ddeddfu ar fesurau i amddiffyn ein trefi, ein pentrefi a’n cefn gwlad gwerthfawr rhag cael eu difetha gan ddatblygu hyll. Gwyliwch y gofod yma.’

O ran diogelwch adeiladau, dynododd Gove eisoes y bydd cymorth i brydleswyr â biliau yswiriant uchel ond bydd yn rhaid iddo ganfod ateb i’r argyfwng ehangach, lle methodd Jenrick.

YR ALBAN

Cynghorau’r cael £10 i atal troi allan

 Cafodd awdurdodau lleol £10 miliwn i ddarparu grantiau i denantiaid sydd wedi syrthio ar ei hôl hi â’u rhent o ganlyniad i’r pandemig, ac sydd mewn perygl o gael eu troi allan

Bydd y grantiau’n helpu tenantiaid sydd mewn trybini ariannol o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig, gan ganiatáu iddynt leihau neu glirio eu hôl-ddyledion rhent. Byddant ar gael i denantiaid yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol ill dau.

Mae hwn yn rhan o becyn o fesurau sydd ar gael i awdurdodau lleol i atal digartrefedd, ynghyd â Thaliadau Tai Dewisol a chyngor ar gynyddu incwm i’r eithaf. Mae’r grantiau’n ychwanegol at Gronfa Benthyciadau Caledi Tenantiaid £10 miliwn Llywodraeth yr Alban.

Meddai’r ysgrifennydd tai, Shona Robison: ‘Bydd y grantiau hyn yn cefnogi tenantiaid a landlordiaid sy’n barod i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent a chytuno ar gynllun ad-dalu i sicrhau y gall tenantiaid osgoi cael eu troi allan.’

GOGLEDD IWERDDON

Cyllid newydd i ysgafnhau’r pwysau ar y gadwyn gyflenwi

Cyhoeddodd y gweinidog cymunedau Deirdre Hargey gyllid ychwanegol o hyd at £15 miliwn i helpu cymdeithasau tai i ymdopi â chynnydd mewn costau defnyddiau adeiladu.

Pwysleisiodd bod adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol yn flaenoriaeth wrth iddi weithio i ysgafnhau’r pwysau ar dai yn ystod yr hyn a alwai’n ddiwygiad mwyaf tai cymdeithasol mewn 50 mlynedd.

Gwnaeth y gweinidog y penderfyniad i gymeradwyo Grant Cymdeithas Tai ychwanegol i sicrhau y gellid dal i ddarparu tai cymdeithasol newydd. Darperir cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau sydd eisoes ar waith a rhai sydd i fod i gychwyn yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y Weithrediaeth Tai bellach yn gweithio gyda chymdeithasau tai i ganfod effaith gyffredinol y costau hyn a allai fod yn gymain â £15 miliwn.

Meddai: ‘Bydd y mesurau hyn yn helpu gyda’r pryderon a fynegwyd gan y sector mewn perthynas â’r newidiadau sydyn mewn costau adeiladu yn ddiweddar. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau na chaiff y cynnydd mewn costau effeithio’n andwyol ar nifer y cartrefi cymdeithasol newydd a ddarperir eleni.’

  

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

1) Wales’ housing crisis: the role of LHA

Sefydliad Bevan, Medi 2021

www.bevanfoundation.org/resources/wales-housing-crisis-the-role-of-lha/

2) Stepping up: how Covid-19 tested the resilience of Welsh places

Y Sefydliad Materion Cymreig, Hydref 2021

www.iwa.wales/our-work/work/stepping-up-how-covid-19-tested-the-resilience-of-welsh-places/

3) No Place Left Behind – the Commission into Prosperity and Placemaking

Create Streets Foundation, Hydref 2021

www.createstreetsfoundation.org.uk/no-place-left-behind/

4) What is the role of housing associations in providing intermediate and market rented housing?

LSE Housing and Communities, Hydref 2021

sticerd.lse.ac.uk/CASE/_NEW/PUBLICATIONS/abstract/?index=8536

5) Debt in the pandemic

Sefydliad Bevan, Medi 2021

www.bevanfoundation.org/resources/debt-in-the-pandemic/

6) A new way of working: ending rough sleeping together

Kerslake Commission on Homelessness and Rough Sleeping, Medi 2021

www.commissiononroughsleeping.org/

7) What’s causing structural racism in housing?

Sefydliad Joseph Rowntree, Medi 2021

www.jrf.org.uk/report/whats-causing-structural-racism-housing

8) Delivering an equitable net zero transition

Institute for Public Policy Research, Hydref 2021

www.ippr.org/research/publications/delivering-an-equitable-net-zero-transition

9) Rethinking housing supply and design

Women’s Budget Group, Awst 2021

wbg.org.uk/blog/rethinking-housing-supply-and-design/

10) Deploying modular housing in the UK: exploring the benefits and risks for the housebuilding industry

Cambridge Centre for Housing & Planning Research/Places for People,  Awst 2021

www.cchpr.landecon.cam.ac.uk/Research/Start-Year/2019/housing_market_wider_economy/deploying-modular-housing-uk-exploring

 

LLYWODRAETH CYMRU

Gwahardd gwresogi â nwy mewn cartrefi cymdeithasol newydd

Gwaherddir gwresogi cartrefi cymdeithasol newydd â thanwydd ffosil o Hydref 1 ac mae’r Llywodraeth am i ddatblygwyr preifat fabwysiadu’r un safonau adeiladu newydd erbyn 2025.

Mae’r cam hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ynni adnewyddadwy a thechnolegau blaengar yn ei Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 – Creu Cartrefi a Lleoedd Hardd.

Rhaid i gartrefi gyrraedd y safonau effeithlonrwydd ynni uchaf er mwyn lleihau’r carbon a ddefnyddir wrth eu codi a phan fydd pobl yn byw ynddynt. Yn ogystal â’r safonau gofod gorau yn y sector, rhaid i ddatblygwyr ystyried ailgylchu a storio gwastraff bwyd o dan y rheolau newydd. Mae Cymru’n drydydd yn y byd am ailgylchu ond y nod yw dyfodol heb ddim gwastraff.

Heblaw am y targedau carbon isel, mae’r safonau hefyd yn gofyn bod eiddo newydd yn ‘gigabeit barod’, sef â band-eang ffibr-optig neu dechnoleg di-wifr gigabeit ar gael, ynghyd â dewis o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd. Lle nad yw hyn eisoes yn bodoli, rhaid darparu seilwaith i alluogi ei fewnosod yn y dyfodol yn ddidrafferth.

Ystyrir y newidiadau hyn yn arbennig o amserol yn sgil y pandemig, pan fu’n rhaid i lawer o’r boblogaeth ddysgu a gweithio gartref, gan eu bod yn cydnabod dyfodol o weithio’n hyblyg.

Mae’r safonau newydd hefyd yn meithrin dylunio da a gofod hael fel bod pobl yn gallu byw yn dda yn eu cartrefi. Nid dim ond hybu llesiant a chadw cymunedau ynghyd mo’r nod, ond ymateb hefyd i anghenion cyfnewidiol preswylwyr, megis digon o arwynebedd llawr i sicrhau y bydd lle i darparu addasiadau ar gyfer pobl hŷn a rhai anabl.

Mae’r canllawiau newydd hefyd yn hyrwyddo dulliau adeiladu modern, megis defnyddio pren a chartrefi wedi eu rhag-adeiladu.

Meddai’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James: ‘Mae ffrwyno effeithiau gwaetha’r newid yn yr hinsawdd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ond felly hefyd sicrhau bod gan bobl fynediad i’r rhyngrwyd yn eu cartrefi, a digon o le i allu byw bywyd da. Mae’r safonau’n sicrhau y cyrhaeddir yr holl nodau, gan adlewyrchu ein ffyrdd modern o fyw a’n hanghenion cyfnewidiol.

‘Gan ddefnyddio dulliau adeiladu a dylunio arloesol, mae gen i bob ffydd y bydd y sector tai cymdeithasol yn arwain y ffordd o ran safonau uchelgeisiol, wrth i ni gyflawni ein haddewid i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon-isel i’w rhentu dros y pum mlynedd nesaf.’

Gweinidog yn ceryddu San Steffan am oedi gyda’r dreth tir gwag

Mae pwerau treth newydd i gymell datblygwyr i gwblhau safleoedd sydd ar stop ac adeiladu mwy o gartrefi wedi eu hoedi gan San Steffan, meddai’r gweinidog cyllid, Rebecca Evans.

Cynigiwyd treth ar dir gwag gyntaf yn 2017 fel ffordd o atal tirfeddianwyr rhag dal gafael ar dir datblygu, ond er gwaethaf dwy flynedd o waith ar y manylion mae Llywodraeth y DU yn dal i ofyn am ragor o wybodaeth.

Dywedodd y gweinidog wrth y Senedd fod hyn yn dangos nad yw’r system ar gyfer datganoli trethi ‘yn addas at ei diben’ ac mae hi’n galw ar Lywodraeth y DU i adolygu’r broses o gytuno ar bwerau treth datganoledig.

Meddai: ‘Dechreusom drafodaeth genedlaethol yn 2017 ynglŷn â sut y gallai pwerau treth newydd ein helpu i wireddu ein huchelgais ar gyfer Cymru. Fwy na phedair blynedd yn ddiweddarach dydy’r cyfleoedd hynny ddim ar gael i ni o hyd. Dydy’r broses ddim yn addas at y diben a rhaid ei gwella.’

Mae’r gweinidog wedi sgrifennu at ysgrifennydd ariannol newydd y Trysorlys i dynnu sylw at bwysigrwydd symud ymlaen gyda’r cais am bwerau ar gyfer treth tir gwag.

Ychwanegodd: ‘Nid treth tir gwag yn unig yw’r ateb i’r argyfwng tai, wrth gwrs, ond gallai helpu i symud datblygu amserol yn ei flaen. Fel y mae, mae gallu tirfeddiannwr i ddal tir a nodwyd ar gyfer ei ddatblygu yn arwain at enillion preifat a chost i’r cyhoedd. Byddai treth tir gwag yn cymell datblygu ac yn creu cartrefi i bobl.’

 

Ymgynghoriadau

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

Dileu atebolrwydd unigolion cymwys sy’n gadael gofal am dalu’r dreth gyngor – ymatebion erbyn 12 Tachwedd

Ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar – ymatebion erbyn 17 Tachwedd

 

CYMRU

Ombwdsmon yn cael ‘camweinyddu systematig’ mewn arolygon digartrefedd

Canfu ymchwiliad i’r broses adolygu digartrefedd yng Nghymru dystiolaeth o ‘gamweinyddu systemig’ gan awdurdodau lleol sy’n gadael pobl ddiymgeledd sy’n wynebu digartrefedd mewn perygl o ddioddef anghyfiawnder difrifol.

Dywed adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, er gwaethaf rhai enghreifftiau o arfer da, bod gormod o bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn dioddef anghyfiawnder oherwydd oedi annerbyniol, prosesau annigonol, cyfathrebu gwael a llety anaddas.

Mae’r ombwdsmon yn argymell swydd newydd Rheoleiddiwr Tai i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn gyson.

Dyma’r ymchwiliad cyntaf erioed ‘ar ei gymhelliad ei hun’ gan yr ombwdsmon ac mae’n canolbwyntio ar weinyddaeth y broses adolygu digartrefedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Canolbwyntiai’r ymchwiliad ar dri awdurdod lleol – Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam – gan ystyried tystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau trydydd sector fel Shelter Cymru. Amlygodd adolygiad o achosion digartrefedd gan yr awdurdodau lleol dan sylw nad yw ffactorau, yn cynnwys dyletswyddau o dan Ddeddf Hawliau Dynol a Chydraddoldeb 2010, bob amser yn cael eu hystyried mewn asesiadau ac adolygiadau; bod oedi trwy gydol y Broses Asesu ac Adolygu a materion o bwys yn cael eu methu weithiau; methiant i ystyried addasrwydd llety yn briodol; a methu darparu cefnogaeth i gleientiaid diymgeledd a’r rheini ag anghenion cymhleth.

Canfu’r ymchwiliad hefyd fod pob awdurdod yr ymchwiliwyd iddo wedi ymgymryd â’r broses adolygu digartrefedd trwy ddull gwahanol. Mewn ymateb, mae’r Ombwdsmon yn dadlau achos cryf o blaid creu swydd rheoleiddiwr tai yng Nghymru, i ychwanegu gwerth at ddatblygiad prosesau digartrefedd a gweithredu i gefnogi awdurdodau lleol. Mae hefyd yn argymell y dylai rheoleiddiwr ddarparu arweiniad clir i sicrhau cysondeb ac ymateb i’r pryderon a godir gan ei adroddiad.

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

‘Dengys y dystiolaeth fod cyfran uchel o benderfyniadau asesu digartrefedd yn cael eu gwrthdroi wedi adolygiad, ac mewn rhai awdurdodau lleol, dyna sy’n digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Awgrymai hyn gamweinyddu systemig a methiant i nodi a dysgu gwersi, a chanfu fy ymchwiliad fod hyn yn wir.’

‘Roedd y gwaith a wnaed gan Dimau Digartrefedd yng Nghymru yn ystod y pandemig yn rhagorol. Fodd bynnag, wrth i ni edrych tuag at ddyfodol ôl-bandemig, dylai unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref allu disgwyl gwasanaeth cyson gan eu hawdurdod lleol, lle bynnag y bônt yng Nghymru.’

Gwnewch y stwff sylfaenol yn iawn medd tenantiaid wrth landlordiaid

Mae tenantiaid o’r farn y dylai eu landlordiaid ganolbwyntio ar drwsio pethau’n iawn a gwella cartrefi presennol, yn ôl arolwg barn a wnaed gan TPAS Cymru.

Canfu’r arolwg chwarterol ar gyfer Pwls Tenantiaid fod llu o denantiaid yn teimlo’n anfodlon, wedi ymddieithrio, ac am i’r pethau sylfaenol gael eu gwneud yn iawn. Dywed llawer o’r cyfranogwyr dienw, yn y sectorau rhentu preifat a thai cymdeithasol ill dau, fod ganddynt broblemau cynnal a chadw ac atgyweirio, a’u bod yn credu nad yw eu cartrefi’n fforddiadwy, ac nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed.

Cymerodd tua 800 o denantiaid ran, o amrywiaeth o oedrannau, cefndiroedd ac awdurdodau lleol. O blith tenantiaid tai cymdeithasol, dywedai 37 y cant mai Credyd Cynhwysol yw eu prif incwm, gan danlinellu’r angen am gadw’r cynnydd o £20.

Er bod 66 y cant o’r rhai a holwyd yn dweud eu bod yn teimlo’n falch o fyw mewn tai cymdeithasol, un testun pryder mawr oedd ymddygiad gwrth-gymdeithasol a diffyg cyfleusterau mewn cymunedau lleol.

Cred tua hanner y tenantiaid preifat a chymdeithasol bod eu cartrefi’n anfforddiadwy. Er bod 16 y cant o denantiaid preifat (o’i gymharu â 2 y cant mewn tai cymdeithasol) yn dweud eu bod am rentu dros dro cyn ceisio prynu, llai na hanner sy’n bwriadu aros yn eu cartref am amser hir. Nid oedd hyn bob amser o ddewis, gan fod llawer yn nodi ansicrwydd tenantiaeth, yn enwedig am fod landlordiaid preifat yn gwerthu eu heiddo. Achosodd ffactorau fel atgyweirio a chynnal a chadw diffygiol i rai tenantiaid ddweud eu bod yn teimlo’n ‘sefydlog, ond ddim yn ddiogel’.

Dim ond 7 y cant o’r ymatebwyr a gredai fod eu cartref yn ynni-effeithlon. Mae bron i hanner y tenantiaid yn dioddef lleithder a llwydni, yn ogystal â chartrefi oer. Mae hyn yn bryder neilltuol i TPAS Cymru gyda chymaint o newyddion diweddar yn tanlinellu’r cynnydd ym mhris tanwydd y gaeaf hwn.

Roedd lefel amlwg uwch o geisiadau am atgyweirio a chynnal a chadw gan denantiaid BAME, ond dim ond chwarter a nododd unrhyw gyfathrebu o gwbl â’u landlord.

Meddai Prif Swyddog Gweithredol TPAS Cymru, David Wilton: ‘Mae awydd ar draws y sector tai i roi’r flaenoriaeth i dryloywder, atebolrwydd, ymbweru a gwrando ar denantiaid, ond rhaid i’r sector weithredu, nid dim ond gwrando.’

Prif gontractwr wedi’i benodi ar gyfer cynllun ynni Penderi

Mae cynllun ôl-ffitio ynni, y mwyaf o’i fath yn y DU erioed, mae’n debyg, wedi symud gam yn nes at gael ei wireddu ar ôl penodi prif gontractwr i arwain y project.

Bydd Everwarm yn goruchwylio mewnosod y dechnoleg gynhyrchu, storio a rheoli ynni adnewyddadwy ddiweddaraf mewn bron i 650 o gartrefi yng nghymuned Penderi yn Abertawe.

Rhagwelir y bydd y gymuned yn cynhyrchu cymaint â 60 y cant o gyfanswm eu gofynion trydan, gan eu hamddiffyn yn erbyn effaith cynnydd mewn prisiau ynni yn y dyfodol, gwella cysur a llesiant y preswylwyr, ynghyd â lleihau allyriadau carbon o gymaint â 350 tunnell y pen y flwyddyn.

Grŵp Pobl sy’n berchen ar y cartrefi ac sy’n eu rheoli, gan weithio mewn partneriaeth â’r cyflenwr technoleg a gwasanaethau ynni adnewyddadwy, Sero.

Cefnogir y cynllun arloesol gan £3.5 miliwn o gyllid gan yr UE o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru, ac fe’i hystyrir yn gam tuag at fuddsoddi ehangach yn ardal Penderi a fydd ag effaith adeiladol ar draws yr holl gymuned.

Lwfans Tai yn gadael tenantiaid yn brin iawn

Dim ond ar 4.8 y cant o eiddo yng Nghymru y mae’r Lwfans Tai Lleol (LHA) yn talu’r rhent llawn a hysbysebir, yn ôl ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan.

Bwriedir i LHA ganiatáu i denantiaid rentu’r 30 y cant rhataf o eiddo ar osod mewn ardal ddynodedig. Fodd bynnag, canfu’r ymchwil fod bwlch o £133.53 y mis ar gyfartaledd rhwng yr LHA a’r 30ain ganradd hon. Mae’r diffyg yn fwy ar gyfer tai mwy ac mae’n codi i £308.71 y mis ar gyfer cartrefi pedair-llofft.

Dywed Sefydliad Bevan, â chyn lleied o ddewis ar y farchnad, bod aelwydydd incwm-isel yn wynebu dewis o symud i mewn i lety y cânt hi’n anodd ei fforddio, symud i lety o ansawdd isel neu fentro mynd yn ddigartref. Gwaethygir y broblem gan rai landlordiaid sy’n mynnu sawl geirda neu adneuon gormodol ac sy’n pennu lleiafswm incwm ar gyfer darpar-denantiaid.

Mae pryderon hefyd y gallai’r sefyllfa ddirywio ymhellach oherwydd bod cyfraddau LHA wedi’u rhewi ar lefelau 2020/21.

Datgelu enillwyr Gwobrau Tai Cymru

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Tai Cymreig y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) am ragoriaeth mewn tai mewn seremoni rithwir ddiwedd mis Medi.

Mae Gwobrau Tai Cymru yn cydnabod creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru. Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd yn y pandemig, derbyniodd gwobrau eleni 73 o gynigion ar draws 12 categori. Roedd yr enillwyr fel a ganlyn:

Stori dai orau – noddir gan United Welsh
Tai Wales & West a David Cooksey – project parseli bwyd Twyncarmel.

Cyfathrebu mewn argyfwng
Cyfathrebu Grŵp Cynefin.

Rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid – noddir gan Solar Windows
Adra – project rhagoriaeth cwsmeriaid

Rhagoriaeth mewn iechyd a lles
Grŵp Cynefin – HWB Celfyddydau Dinbych am broject rhagnodi iechyd cymdeithasol

Rhagoriaeth mewn arloesi tai – noddir gan Tai Wales & WestGwaith ôl-ffitio tŷ cyfan ar raddfa gymunedol Cyngor Abertawe ar gyfer dyfodol carbon-isel

Gweithio mewn partneriaeth – noddir gan Lovell
Y Wallich – Tŷ Tom Jones: o ddim byd i gwblhau project tai â chymorth mewn chwe wythnos.

Cefnogi cenedlaethau’r dyfodol – noddir gan ClwydAlyn
Timau Cartrefi Gwag – Ynys Môn a Gwynedd

Cefnogi cymunedau
Tŷ Matthew, Abertawe – Abertawe Gyda’n Gilydd – yn bwydo pobl mewn cartrefi bregus yn ystod pandemig COVID-19.

Rhagoriaeth wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
Erosh – LGBTQ+ older people and sheltered and retirement housing: a good practice guide.

Darparu cartrefi o ansawdd uchel – noddir gan Blake Morgan
Tai Wales & West – Ffordd Yr Haearn.

Tîm Tai y Flwyddyn
Cyngor Caerdydd – Tai yn Gyntaf

Arweinyddiaeth
Gavin Harvey – cydlynydd cynaliadwyedd a sgyrsiau, Tai Arfordirol

Cynhwysir yr holl gynigion ar restr fer Gwobrau Tai Cymru yng Nghompendiwm Arfer Da 2021 CIH Cymru – dogfen ddysgu craidd sy’n llawn ysbrydoliaeth, syniadau ac arloesedd i helpu pawb ar draws y sector i greu dyfodol lle mae gan bawb le y gallant ei alw’n gartref.

Meddai cyfarwyddwr CIH Cymru, Matthew Dicks: ‘Ar ôl blwyddyn o fwlch oherwydd y pandemig, mae’n wych gweld cymaint o enghreifftiau cadarnhaol o arloesi gan y sector yng Nghymru. Wrth gwrs bod gennym enillwyr, a charwn eu llongyfarch yn wresog, ond hoffwn hefyd ddweud da iawn chi wrth bawb a gyflwynodd gynigion ar gyfer y gwobrau. Roedd ein holl gynigion yn meddu ar safon anhygoel o uchel o arloesedd a darpariaeth y dylem oll ymfalcho ynddynt.’

Penodi Rheolwr Gyfarwyddwr i Celtic Offsite

Mae United Welsh wedi penodi rheolwr gyfarwyddwr a fydd yn arwain menter gymdeithasol weithgynhyrchu newydd all-safle yn y grŵp.

Bydd Celtic Offsite yn cynhyrchu cartrefi ffrâm-bren carbon-isel o ffatri newydd 28,000 tr. sg. yng Nghaerffili. Penodwyd Neil Robins i arwain y tîm, gan ddod â 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu a gweithredu busnesau ffrâmau-pren.

Bydd Celtic Offsite yn darparu tai fforddiadwy, gan adeiladu cymunedau mewn partneriaeth â chontractwyr a datblygwyr sy’n defnyddio cadwyn gyflenwi Gymreig gan gynnwys pren o Gymru lle bo modd, a phartneriaid lleol. Bydd ffatri Caerffili hefyd yn cynnwys cyfleuster hyfforddi i ddatblygu sgiliau a darparu prentisiaethau ar gyfer swyddi adeiladu gwyrdd, gan hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i ddarparu cartrefi mwy ynni-effeithlon.

Meddai Lynda Sagona, prif weithredydd Grŵp United Welsh: ‘Rydym yn falch iawn o groesawu Neil i Grŵp United Welsh. Mae ganddo gyfoeth o brofiad mewn cynhyrchu fframiau pren ac, yn arwyddocaol, mae hefyd wedi ei symbylu’n fawr iawn gan ein diben cymdeithasol o wneud gwahaniaeth i bobl a’r cymunedau maent yn byw ynddynt. Mae’n wych cael croesawu Neil i’n plith.’


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »