English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Tai cymunedol ar groesffordd

Tom Archer yn olrhain penllanw a thrai’r mudiad tai dan arweiniad y gymuned yn y DU.

‘Angen yw mam pob dyfais’ medd yr hen air, ac mae argyfyngau tai diweddar y DU wedi esgor ar fathau newydd o ddatblygiadau tai a phatrymau perchnogaeth. Gwelodd mentrau tai dan arweiniad y gymuned – gyda grwpiau o breswylwyr a chyfranddeiliaid yn ceisio datrys materion tai lleol eu hunain – adfywiad yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae i’r ymdrechion hyn hanes maith yn y DU, gyda sawl penllanw. Ar ddechrau’r 20fed ganrif, cyfunwyd egwyddorion cydweithredol ag arferion datblygu confensiynol i greu gardd-ddinasoedd newydd, gyda thenantiaid â chyfranddaliad ariannol yn eu tir a’u tai. Achosodd nifer o newidiadau cyllidol a rheoliadol ymchwydd mewn cydberchnogaeth yn y 1960au-70au, gan greu dros 40,000 o gartrefi newydd. Yn ddiweddarach, amlygwyd yr awydd am berchnogaeth gymunedol a/neu reolaeth ar dai mewn modelau ar gyfer rheoli tenantiaid, rheolaeth tenantiaid ar gymdeithasau tai a dulliau cyfunol o adeiladu tai. Mae’r gwahanol fathau hyn o dai cymunedol eu sail wedi dod i’r amlwg ac yna encilio dros ddegawdau o’u cymharu â modelau datblygu tai prif-ffrwd.

Yn ddiweddar, cafodd gwerthoedd cydweithredol a chyfunolaidd eu hail-lunio wrth i weithredwyr chwilio am atebion i heriau tai yr 21ain ganrif. Aeth problemau fel diffyg tai fforddiadwy, ansawdd tai, adfeiledd ac amodau amgylcheddol gwael, arafwch y datblygu neu fethiant i godi tai o gwbl, ynghyd ag eithrio pobl rhag perchentyaeth, yn sail i ddiddordeb o’r newydd mewn atebion cymunedol.

Gwelwyd cynnydd yn y modelau ‘amgen’ hyn. Yn Lloegr dros y 15 mlynedd diwethaf, gwelsom dwf cyflym mewn ymddiriedolaethau tir cymunedol. Dan arweiniad preswylwyr a chyfranddeiliaid eraill, mae’r sefydliadau hyn yn berchen ar dir a thai ac yn eu rheoli er budd y gymuned. Bu mwy o ddiddordeb hefyd mewn cyd-gartrefi, sy’n pwysleisio pwysigrwydd rhannu gofod a rhyngweithio cymdeithasol, yn aml ar sail ffactorau moesegol neu amgylcheddol eraill. Yn sail i lawer o hyn ceir egwyddorion cydweithredol a’u strwythurau cyfreithiol cysylltiedig.

Mae syniadau ynghylch tai hunangymorth neu hunanreoledig, hunan-adeiladu cyfunol a chyd-berchentyaeth yn cael eu mynegi hefyd. Mae data ar grwpiau a phrojectau newydd yn awgrymu bod y sector amrywiol hwn yn ehangu ar garlam. Mae asesiad diweddar o gartrefi dan arweiniad cymunedol sydd yn yr arfaeth yn Lloegr yn amcangyfrif bod 10,000-23,000 o gartrefi o’r fath ar y gweill.

Yn yr Alban, ysgogodd pwerau newydd i alluogi cymunedau i brynu tiroedd ac ystadau ddatblygiadau i wahanol gyfeiriadau gyda chronfeydd i gefnogi tai a thiroedd gwledig yn darparu cyllid ar gyfer gwireddu cynlluniau cymunedol. Yng nghanol a gogledd yr Alban datblygodd mwy na 100 o brojectau dan arweiniad cymunedau gwledig fwy na 1,000 o gartrefi fforddiadwy ac amwynderau eraill yn yr 20 mlynedd diwethaf.

Yng Nghymru, fel y trafodir mewn man arall yn y rhifyn hwn, daeth cwmnïau tai cydweithredol a mathau eraill o dai o dan arweiniad cymunedol i’r amlwg fel ffocws i gefnogaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Nationwide, trwy gyfrwng project Creu Cartrefi Canolfan Cydweithredol Cymru. Mae’r modelau hyn o ddiddordeb sylweddol i gymunedau a’r Llywodraeth, gyda’r Rhaglen Lywodraethu ddiweddar yn datgan awydd i gefnogi tai cydweithredol, mentrau cymunedol ac ymddiriedolaethai tir cymunedol. Yn ddiweddar, mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cronfa o fenthyciadau a ailgylchir i helpu grwpiau i oresgyn rhai o’r rhwystrau a wynebir ac ehangu’r mudiad.

Mae trywydd y sector hwn yng Ngogledd Iwerddon yn llai eglur, er bod ymdrechion ar y gweill i ddod â’r grwpiau sy’n bodoli ynghyd, ac adeiladu rhwydweithiau cefnogi. Yr hyn sy’n rhwymo’r projectau tai cymunedol ynghyd – ar draws ein cenhedloedd – yw eu bod yn aml yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr sy’n poeni am eu hardal leol, ond sydd heb y wybodaeth benodol a’r profiad i gynllunio a rheoli datblygiadau tai. Yr ysgogiad yw problemau lleol, fel anghenion tai heb eu diwallu, ond mae’n rhaid iddynt yrru projectau ymlaen yn aml heb staff na’r arbenigedd technegol gofynnol.

Felly mae ystyried camau eraill ymlaen yn hanfodol er mwyn deall twf tai cymunedol yn y DU. Ledled Cymru, Lloegr a’r Alban datblygodd seilwaith galluogi sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i grwpiau.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn ganolog i hyn yng Nghymru, gan gefnogi grwpiau i ddatblygu cynlluniau tai ac yna eu rheoli. Yn yr Alban, mae’r Ymddiriedolaeth Tai Cymunedau a Thai Cymunedol De’r Alban yn cynghori ac yn galluogi grwpiau, o’r syniad cychwynnol hyd at y gwaith o adeiladu a rheoli tai. Ledled Lloegr mae clytwaith o ryw 30 o ganolfannau galluogi gyda modelau gweithredu a llywodraethiant amrywiol, gyda rhai’n gweithio’n glòs gyda phartneriaid o gymdeithasau tai, ac eraill yn fwy annibynnol. Roedd sicrhau buddsoddiad yn y seilwaith hwn yn sylfaenol, a daeth o Gronfa Tai Cymunedol llywodraeth y DU, a phartneriaid eraill fel Power to Change a Sefydliad Nationwide.

Ond hyd yn oed gyda chyngor a chefnogaeth, dydy llawer o brojectau byth yn dwyn ffrwyth oherwydd realiti ariannol caled cynllunio projectau, caffael tir a chostau adeiladu. Felly, daeth mathau newydd o ariannu a chyllid i’r amlwg i ddiwallu anghenion penodol grwpiau tai cymunedol. Mae hyn yn cynnwys grantiau refeniw i helpu grwpiau yn y dyddiau cynnar hanfodol hynny, benthyciadau risg cyn-ddatblygiad ar gyfer grwpiau na fydd yn gorfod eu had-dalu oni roddir caniatâd cynllunio, a benthyciadau anwarantedig eraill a chyllid cyfunol (hanner-grant, hanner-benthyciad).

Mae llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig wedi cynnig grantiau cyfalaf a refeniw i gefnogi projectau tai dan arweiniad cymunedau yn y blynyddoedd diwethaf, ac bu hyn yn hanfodol i wireddu projectau. Ond mae cyfyngiadau ac amodau ar ariannu a rhaglenni tymor-byr wedi eu gwneud yn llai effeithiol ac wedi creu cyfyng-gyngor i lawer o grwpiau. Gall grantiau cyfalaf a luniwyd i hyrwyddo deiliadaethau safonol (er enghraifft, rhent cymdeithasol a fforddiadwy) fynd yn groes i amcanion grwpiau sydd am gynnig mathau amgen o berchnogaeth neu eiddo mwy fforddiadwy.

Gwelsom hefyd newidiadau pwysig mewn polisi dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar lefel leol. Nod rhai awdurdodau lleol yw trosglwyddo asedau cyhoeddus i grwpiau cymunedil, er enghraifft, trwy bolisïau gwaredu tir. Mae awdurdodau lleol eraill wedi mabwysiadu canllawiau cynllunio atodol sy’n cynnwys rhagdybiaeth o blaid projectau tai fforddiadwy cymunedol. Mae’r newidiadau hyn – mewn rhai ardaloedd – yn pwyso’r fantol o blaid cynlluniau dan arweiniad y gymuned.

Mae’r cynnydd a fu yn ddyledus iawn i ymdrechion trefnwyr ac eiriolwyr cymunedol, a’r cyrff cenedlaethol hynny fu’n ceisio dylanwadu ar bolisi. Mae rhaglenni cyllido newydd, newidiadau mewn deddfwriaeth, ac eithriadau allweddol (er enghraifft, i’r rheolau ar renti daear) yn dyst i’r eiriolaeth hon. Ac mae’r ymgyrch o blaid tai cymunedol wedi elwa ar gysylltiadau â chymaint o ymdrechion ac agendâu eraill, sy’n ymddangos yn fwy perthnasol byth mewn byd o anghydraddoldeb tai cynyddol, lle mae perchnogaeth tir yn cael ei gydgrynhoi’n fwyfwy, tai yn mynd yn llai fforddiadwy beunydd, a thai a darparu tai yn mynd yn fater o wneud arian yn unig.

Er hynny, mae’r sector tai cymuned ar groesffordd ar hyn o bryd. Mae cyllid y llywodraeth yn Lloegr yn lleihau, mae ansicrwydd ynghylch cyllid presennol y cenhedloedd eraill, ac mae cyllidwyr elusennol yn canolbwyntio’u hadnoddau fwyfwy ar ‘adfer wedi Covid-19’. Efallai na chaiff llawer o’r tai sydd yn yr arfaeth eu hadeiladu oni ellir sicrhau mynediad at gyllid. Mae hi’n bryd gweithredu, i sicrhau bod y sector bychan ond pwysig hwn yn parhau i dyfu a chreu cartrefi gwerthfawr, fforddiadwy.

O edrych yn ôl at dros y degawdau, gwelwn bod llawer gennym i’w ddysgu am y pethau sy’n helpu ac yn rhwystro tai dan arweiniad y gymuned. Mae’n hollbwysig cynnal y seilwaith cymorth ar gyfer grwpiau tai cymunedol, ynghyd â sicrhau amryw o ffynonellau cyllid ac ariannu i ymdopi â chyfundrefnau grant cyfnewidiol. Os gellir gwneud hyn, ac os pery’r diddordeb ymhlith cymunedau a llunwyr polisi, efallai y gwelwn benllanw eto yn hytrach na threio pellach.

Mae Dr Tom Archer yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ranbarthol ym Mhrifysgol Sheffield Hallam


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »