DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU
Y DU
Dileu’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol
Cadarnhaodd llywodraeth San Steffan y bydd y cynnydd dros-dro o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol yn dod i ben ar yr un pryd â’r cynllun ffyrlo ddiwedd mis Medi.
Daeth y cam er gwaethaf rhybuddion y bydd yn achosi caledi difrifol a thlodi ac er gwaethaf llythyr ar y cyd gan chwe ysgrifennydd gwaith a phensiynau diwethaf y Ceidwadwyr yn erfyn am ailfeddwl.
Dadleua’r gweinidogion na fydd angen y cynnydd mwyach ar ôl i’r cyfyngiadau cloi gael eu dileu yn llwyr a dywedodd y prif weinidog Boris Johnson mai’r ‘ffordd orau ymlaen yw cael pobl i mewn i swyddi â chyflog uwch, â sgiliau uwch’.
Ond nododd ymgyrchwyr fod 2.2m allan o 6m o hawlwyr eisoes mewn gwaith tra nad oes disgwyl i 1.6m arall weithio oherwydd eu bod yn sal neu â phlentyn o dan flwydd oed.
Mae hawlwyr hunangyflogedig hefyd yn wynebu toriad yn eu taliadau o dan gynlluniau i ail-sefydlu’r Llawr Isafswm Incwm o ddechrau mis Awst.
LLOEGR
Rhoi mwy o amser i brydleswyr ddwyn achosion diogelwch tân
Caiff prydleswyr sy’n wynebu biliau enfawr am waith diogelwch tân fwy o amser i erlyn adeiladwyr o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan yr ysgrifennydd tai Robert Jenrick.
Bydd y Mesur Diogelwch Adeiladu yn ymestyn y cyfnod ar gyfer ceisio iawndal am waith is-safonol o chwech i 15 mlynedd.
Bydd y newidiadau hyn yn ôl-weithredol, sy’n golygu y gallai preswylwyr adeilad a gwblhawyd yn 2010 ddwyn achos yn erbyn y datblygwr tan 2025.
Fodd bynnag, dywedodd ymgyrchwyr nad erlyn datblygwyr oedd yr ateb gan nad oes gan brydleswyr yr arian i gymryd camau cyfreithiol ac maent yn wynebu biliau nawr, tra bod llawer o’r problemau wedi codi cyn 2010.
Meddai’r grŵp End Our Cladding Scandal: ‘Mae prydleswyr yn mynd i’r wal nawr o achos mesurau diogelwch tân dros-dro, a’r llu o broblemau eraill heblaw am y cladin. Mae’n boen clywed Robert Jenrick beunydd yn osgoi gwir faint yr argyfwng diogelwch adeiladau.’
Mae’r Bil hefyd yn ceisio sefydlu Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu ar gyfer adeiladau preswyl uchel a symleiddio’r system bresennol fel bod yna ‘edefyn euraid’ o wybodaeth yn cael ei gadw a’i diweddaru ar hyd oes adeilad.
Dywedodd Robert Jenrick: ‘Bydd y drefn diogelu adeiladau newydd yn un gymesur, a fydd yn dod â’r adeiladau hynny sydd ag angen eu trwsio i safon dderbyniol o ddiogelwch mewn byr amser, gan roi sicrwydd i’r mwyafrif helaeth o breswylwyr a phrydleswyr yr adeiladau hynny bod eu cartrefi’n ddiogel.’
YR ALBAN
Cynllun i drwyddedu rhentu am gyfnodau byr
Lansiodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar gynllun trwyddedu gosod eiddo tymor-byr. Cyhoeddodd yr ysgrifennydd cyfiawnder cymdeithasol Shona Robison ddrafft o orchymyn trwyddedu cyn rhoi’r ddeddfwriaeth derfynol ger bron ym mis Medi ac mae gan gyfranddeiliaid tan ganol mis Awst i gynnig sylwadau.
Dywedodd y gweinidog fod rheoleiddio gosod tymor-byr yn hanfodol i gydbwyso anghenion cymunedau â buddiannau economaidd a thwristaidd ehangach, a bod pobl yn ei chael hi’n anos dod o hyd i gartrefi mewn ardaloedd sy’n cynnwys cyrchfannau twristaidd poblogaidd.
Aeth ymlaen: ‘Trwy ganiatáu pwerau rheoleiddio priodol i awdurdodau lleol trwy gynllun trwyddedu, gallwn sicrhau bod rhentu tymor-byr yn ddiogel ac yn mynd i’r afael â phroblemau a wynebir gan drigolion a chymunedau lleol.
‘Bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol ddeall yn llawnach yr hyn sy’n digwydd yn eu hardaloedd a helpu i drin cwynion yn effeithiol.’
GOGLEDD IWERDDON
Mesur i ddiogelu tenantiaid
Caiff rhentwyr preifat eu hamddiffyn yn well o dan Fesur Tenantiaethau Preifat a gynigiwyd yn y Cynulliad.
Mae’r Bil yn arosod gofynion gorfodol ar landlordiaid i ddarparu synwyryddion mwg a charbon monocsid a gwirio systemau trydanol, a bydd yn cyfyngu ar faint symiau blaendal tenantiaeth, yn ymestyn hyd rhybudd i ymadael, ac yn cyfyngu ar gynyddu rhenti.
Dywedodd y gweinidog cymunedau Deirdre Hargey: ‘Anghenion tenantiaid sydd wrth galon fy ffordd o fynd ati. Dylai rhentwyr preifat allu rhentu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da, a chael tawelwch meddwl o ran hyd ac amodau eu cytundeb rhentu. Mae angen gwella mesurau iechyd a diogelwch i gadw pobl a theuluoedd yn ddiogel. Dwi am weld cyfyngu ar gynnydd mewn rhenti ac rwyf am ymestyn hyd rhybudd i ymadael a fydd yn golygu ein bod yn amddiffyn tenantiaid sy’n cael eu troi allan.
‘Rwyf wedi ymrwymo i wneud ein system dai yn well ar gyfer pobl a theuluoedd. Mae’r farchnad dai wedi newid yn ddramatig yn y degawdau diwethaf, felly mae angen i’n deddfwriaeth ymateb i hynny.’
LLYWODRAETH CYMRU
Newid yn yr hinsawdd wrth Graidd y Rhaglen Lywodraethu
Addawodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ‘Gymru gryfach, wyrddach a thecach’ yn y Rhaglen Lywodraethu newydd a lansiwyd ym mis Mehefin.
Gelwir sylw at y bwriad o greu ‘uwch-weinidogaeth’ newydd i ddwyn y meysydd polisi mawr ynghyd i helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiad cyfreithiol i gyrraedd Sero Net erbyn 2050.
Am y tro cyntaf, caiff trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni eu dwyn ynghyd, gyda’r amgylchedd, er mwyn mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a byd natur, a sicrhau bod newid yn yr hinsawdd yn uchel ar agenda pob gwasanaeth cyhoeddus a busnes sector preifat.
Ceir addewidion allweddol parthed tai, yn cynnwys 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel i’w rhentu, a gwella diogelwch adeiladau er mwyn i bobl deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi
Mae hefyd yn cynnwys Cynllun Tai Cymunedol Cymraeg, diwygio gwasanaethau digartref i ganolbwyntio ar atal digartrefedd ac ailgartrefu cyflym, cefnogaeth i fentrau cydweithredol a chymunedol, datgarboneiddio trwy ôl-ffitio, a chreu strategaeth ddiwydiannol wedi’i seilio ar ddefnyddio pren.
Mae addewidion ehangach yn cynnwys talu cyflog byw go iawn i weithwyr gofal, targed o fod â 30 y cant o bobl yn gweithio o bell, Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru 10-mlynedd newydd ar gyfer economi di-garbon, cynllun peilot incwm sylfaenol, diwygio’r dreth gyngor ac, o bosib, cyfraddau Treth Trafodion Tir lleol.
Bydd y weinidogaeth Newid Hinsawdd hefyd yn hyrwyddo deddfwriaeth ar sail argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio’r gyfundrefn brydlesu a ‘datblygu cynllun cenedlaethol sy’n cyfyngu rhenti i lefelau lwfans tai lleol ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref’.
Dywedodd Matt Dicks, cyfarwyddwr cenedlaethol STS Cymru: ‘Rydym yn croesawu’n gynnes iawn ffocws ar amddiffyn yr amgylchedd a gwrthbwyso effaith negyddol newid yn yr hinsawdd ar ein cymunedau a bywydau cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r targed o 20,000 o dai cymdeithasol carbon-isel yn uchelgeisiol a bydd yn brawf ar allu’r sector i gyflawni ar y fath raddfa, ac yn gwneud cynyddu arloesedd, tyfu cadwyni cyflenwi a datblygu’r sgiliau cywir yn y gweithlu hyd yn oed yn bwysicach.’
Meddai Stuart Ropke, prif weithredydd Cymuned Tai Cymru: ‘Pleser yw gweld Llywodraeth Cymru’n adlewyrchu llawer o negeseuon allweddol ein maniffesto ‘Cartref ‘yn eu Rhaglen Lywodraethu am y pum mlynedd nesaf. Maent yn amlwg wedi gwrando ar y cyfraniad pwysig y gall cartrefi fforddiadwy o ansawdd da ei wneud i adferiad cymdeithasol, economaidd a gwyrdd Cymru. Mae’n hanfodol i ni symud ymlaen ar garlam i benderfynu ar y manylion a sut y gallwn gyda’n gilydd gyflawni’r uchelgeisiau hyn, sydd i’w croesawu.’
Addewid i weithredu ar dai haf
Nododd y gweinidog newid yn yr hinsawdd, Julie James, ‘ddull tair-elfen uchelgeisiol’ o fynd i’r afael ag effaith perchnogaeth ail gartrefi ar gymunedau yng Nghymru yn y Senedd.
Daeth hynny yn sgil ymweliad â Thy-ddewi ddydd Llun, lle cyfarfu ag aelodau o’r gymuned leol, Cyngor Sir Benfro a’r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol i glywed sut maen nhw wedi bod yn cydweithio i ddefnyddio arian a godwyd drwy’r ardoll treth gyngor bresennol ar ail gartrefi i adeiladu 18 o dai fforddiadwy newydd ar gyfer pobl leol.
Mae tair rhan y cynllun newydd yn canolbwyntio ar:
- Cefnogaeth – mynd i’r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai
- System reoleiddio – edrych ar y gyfraith gynllunio ac â chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau
- Treth – defnyddio systemau trethu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu’n deg ac yn effeithiol at gymunedau y prynwyd y tai ynddynt
Sefydlir ardal beilot yng Nghymru – penderfynir ble dros yr haf – lle caiff y mesurau newydd hyn eu treialu a’u gwerthuso cyn ystyried eu defnyddio’n ehangach.
Bydd camau cefnogol eraill, yn cynnwys y gwaith ar y cynllun cofrestru ar gyfer yr holl lety gwyliau ac ymgynghoriad ar newidiadau i drethi lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanarlwyo, yn dechrau dros yr haf hefyd.
Cyhoeddir Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg, i ddiogelu buddiannau penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn yr hydref.
Y llynedd, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i roi’r pŵer i awdurdodau lleol godi cynnydd o 100 y cant yn y dreth gyngor ar ail gartrefi.
Cynllun grantiau ar gyfer tenantiaid ag ôl-ddyledion pandemig
Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun grant newydd gwerth £10 miliwn i helpu pobl mewn llety rhent preifat sy’n ei chael hi’n anodd talu eu rhent oherwydd y pandemig.
Mae’r Grant Caledi Tenantiaeth wedi’i chynllunio i gefnogi pobl a oedd fwy nag wyth wythnos ar ei hôl hi gyda’u rhent rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021 a’r bwriad yw helpu pobl i aros yn eu cartrefi a’u hatal rhag colli eu tenantiaethau.
Cymerwyd y cam hwn wrth i’r gwaharddiad ar droi allan yng Nghymru ddod i ben ddiwedd Mehefin. Cafodd y cyfnod chwe-mis o rybudd troi allan ei ymestyn i ddiwedd mis Medi.
Mae’r grant, a weinyddir gan awdurdodau lleol, yn agored i bobl nad ydynt yn derbyn budd-daliadau tai. Mae’n disodli’r Benthyciad Arbed Tenantiaeth, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020. Bydd unrhyw un sydd â benthyciad yn cael y benthyciad hwnnw wedi ei droi’n grant.
Gallai pawb cymwys gofrestru gyda’u hawdurdod lleol ar unwaith ac roedd grantiau’n cael eu prosesu o ganol mis Gorffennaf.
Meddai’r gweinidog newid hinsawdd, Julie James: ‘Trwy gydol y pandemig, cymerwyd camau digynsail i fynd i’r afael â digartrefedd a chefnogi pobl i aros yn eu cartrefi.
‘Y Grant Caledi Tenantiaeth newydd yw’r diweddaraf o’r mesurau hyn a bydd yn helpu pobl mewn cartrefi a rentir yn breifat sydd ar ei hôl hi â’u rhent oherwydd y pandemig.’
CYMRU
Arolwg yn dangos maint yr ‘argyfwng tai’
Effeithiwyd ar un o bob tri o bobl (34 y cant) yng Nghymru gan yr argyfwng tai, meddai ymchwil newydd a wnaed ar ran Shelter Cymru.
Mae’r ymchwil yn dangos bod dros filiwn o blant ac oedolion yng Nghymru yn byw mewn tai anniogel neu anfforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys popeth, o deuluoedd sy’n gorfod dewis rhwng talu rhent neu daliad morgais a phrynu bwyd, i bobl sy’n byw mewn cartrefi sy’n llaith, yn llawn llwydni ac mewn cyflwr gwael.
Dywed Shelter Cymru fod y ffigurau newydd syfrdanol yn dangos maint yr her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, a pham y dylai cartrefi da fod yn ganolbwynt i’w hymrwymiad i adeiladu nôl yn well ac yn decach yn sgil y pandemig.
Yn ôl yr ymchwil:
- Bu’n rhaid i bron 1 o bob 10 (9 y cant) – mwy na chwarter miliwn o bobl, yn ôl yr amcangyfrif – gwtogi ar eu gwariant ar hanfodion yn y cartref fel bwyd neu wres er mwyn gallu fforddio taliadau rhent neu forgais.
- Dywed 1 o bob 6 (16 y cant) – sef rhyw 504, 000 – na allant gynhesu eu cartref yn y gaeaf
- Mae mwy nag 1 o bob 10 (13 y cant) – rhyw 409,000 – yn byw mewn cartrefi nad ydynt yn strwythurol gadarn neu sydd â weirio diffygiol neu beryglon tân
- Mae ychydig dros 1 o bob 4 (26 y cant) – 819,000 – yn byw mewn cartrefi sydd â phroblemau lleithder, llwydni neu anweddu sylweddol.
- Mae 1 o bob 10 – 315,000 – yn dweud bod eu sefyllfa dai bresennol yn niweidio eu hiechyd meddwl, neu iechyd meddwl eu teulu
Ar yr un pryd, dywedodd amcangyfrif o 75,000 (3 y cant) o oedolion eu bod wedi dioddef gwahaniaethu annheg wrth geisio dod o hyd i’w cartref presennol, gan gredu ei fod oherwydd ethnigrwydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, cenedligrwydd, crefydd neu anabledd.
Daw’r ystadegau o arolwg ar-lein o bobl ledled Prydain yn gofyn i ymatebwyr a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno ag wyth datganiad a ddefnyddiwyd i greu mesur o’r argyfwng tai yn ei grynswth. Roedd y rhain yn cynnwys amodau, fforddiadwyedd, ansicrwydd a gwahaniaethu annheg.
Mae Shelter Cymru yn galw ar wleidyddion a phleidiau i gyfuno yn lleol ac yn genedlaethol i gyflawni eu hymrwymiadau yng ngoleuni’r canlyniadeau hyn: adeiladu o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd o ansawdd uchel; helpu’r miloedd a brisiwyd allan o rentu a phrynu; sicrhau nad yw teuluoedd a wnaed yn ddigartref yn cael eu gadael am hydoedd mewn llety dros-dro, ac nad oes neb yng Nghymru’n cael ei g/orfodi i gysgu ar y strydoedd.
Dywedodd Ruth Power, prif weithredydd Shelter Cymru: ‘Dengys ein hymchwil raddfa a difrifoldeb yr argyfwng tai yng Nghymru, a bod angen gweithredu ar frys. I’r teuluoedd sy’n mynd heb fwyd i gadw to dros eu pennau; i’r rhentwyr sydd dan fygythiad cael eu troi allan oherwydd i Covid eu gwneud yn ddiwaith; i’r genhedlaeth o bobl ifanc y mae prynu neu rentu eu cartref eu hunain yn freuddwyd amhosibl – bydd Shelter Cymru bob amser yn ymladd dros gartref i bawb sydd heb un.’
Lansio gwasanaeth newydd yn cynnig dillad cyfweld rhad ac am ddim yn ne Cymru
Mae cymdeithasau tai wedi ymuno ag elusen iechyd meddwl ac asiantaethau recriwtio a dylunio i ddatblygu gwasanaeth newydd sy’n cynnig dillad cyfweld rhad ac am ddim i gefnogi pobl sy’n chwilio am waith. Nod menter y Wardrob Waith yw rhoi hyder i bobl gymryd eu cam cyntaf tuag at yrfa newydd trwy gyfrannu gwisg cyfweliad a dillad gwaith am ddim mewn hybiau ledled Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, a Bro Morgannwg.
Roedd rhyw 228,000 o weithwyr yng Nghymru wedi eu cyflogi mewn sectorau a gaewyd gan y mesurau ymbellhau cymdeithasol i gyfyngu ar ymlediad Covid-19. Erbyn Rhagfyr 2020, Cymru oedd â’r cynnydd uchaf mewn diweithdra yn y DU. I ddileu’r rhwystr i bobl sy’n chwilio am waith ond sydd heb ddillad addas o ansawdd ar gyfer cyfweliadau, crëwyd y Wardrob Waith ar y cyd ag asiantaeth recriwtio tai Moxie People, cymdeithasau tai Newydd, United Welsh a Chymunedol Caerdydd (CCHA); elusen iechyd meddwl Platfform ac asiantaeth ddylunio Bluegg.
Gall pobl sy’n gweithio gyda Newydd, United Welsh, CCHA a Platfform ddefnyddio’r gwasanaeth i gasglu gwisg gwaith a’i chadw, tra’n derbyn cefnogaeth gydag agweddau eraill ar ymgeisio am swydd hefyd. I helpu i ddarparu’r gwasanaeth hwn am ddim, mae Wardrob Waith yn chwilio am gyfraniadau. Gellwch helpu trwy gynnig:
- Dillad gwaith proffesiynol newydd neu heb ôl defnydd arnynt, o ansawdd uchel
- Rhoddion ariannol a fydd yn mynd tuag at brynu eitemau a meintiau pwrpasol
- Offer manwerthu fel rheseli, drychau, offer stemio neu reiliau dillad
Meddai Ryan Hill, rheolydd cyflogaeth cwsmeriaid United Welsh: ‘Mae’r tîm cyflogadwyedd yn gweithio un-i-un gyda thenantiaid United Welsh i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddi a chymorth gyda sgiliau cyflogaeth. Y pleser mwyaf yw clywed y newyddion da bod rhywun wedi cael y swydd roedd yn wirioneddol ei heisiau.’
‘Bydd menter y Wardrob Waith yn cynnig cefnogaeth ychwanegol ffantastig ac rydym mor falch i fod yn rhan ohoni. Edrychwn ymlaen at weithio i helpu pobl ledled de Cymru i deimlo’n hyderus ac yn barod ar gyfer cyfweliadau am swyddi.’
I ddysgu mwy am y Wardrob Waith, yn cynnwys sut i gyfrannu neu elwa ar y gwasanaeth, ymwelwch â moxiepeople.com/working-wardrobe.
Sir Ddinbych yn cyrraedd y nod gyda thai fforddiadwy
Mae Cyngor Sir Dinbych wedi cyrraedd nod uchelgeisiol ar gyfer creu mwy o gartrefi fforddiadwy yn yr ardal. Fel rhan o flaenoriaeth tai ei gynllun corfforaethol, ymrwymodd y cyngor i helpu i greu 260 o dai fforddiadwy newydd yn y sir rhwng 2017 a 2022; hyd yma cafodd 394 o gartrefi eu cwblhau.
Cafodd y cartrefi eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat ac mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda’r cyngor yn rheoli rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol, a’i gwnaeth hi’n bosibl codi’r rhan fwyaf o gartrefi fforddiadwy’r sir.
Mae’r cyngor yn pennu’r blaenoriaethau ar gyfer tai fforddiadwy yn unol â’i gynllun corfforaethol, ei strategaeth tai a digartrefedd, a’r rhestr aros am dai cymdeithasol.
Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, darparwyd 174 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y sir.
Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, aelod o Gyngor Sir Ddinbych sy’n arwain ar dai a chymunedau: ‘Mae cyrraedd y nod yn gynnar a rhagori arni yn orchest wych gan bawb sy’n ymwneud â’r cynllun, ac o fudd gwirioneddol i drigolion yma yn Sir Ddinbych. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled wrth gyrraedd y nod yma.’
Mae’r tai fforddiadwy yn gymysgedd o dai cymdeithasol, rhentu canolraddol, a pherchnogaeth trwy opsiynau ecwiti a rennir a rhentu-i-feddu.
Mae’r unedau eiddo a grëwyd wedi’u gwasgaru ledled y sir ac yn cynnwys cymysgedd o dai newydd traddodiadol, dulliau modern o adeiladu, ac anheddau presennol a adnewyddwyd.
Mae’r cyngor hefyd wedi addo cefnogi datblygu 1,000 o gartrefi newydd yn Sir Ddinbych rhwng 2017 a 2022, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy a 170 fel tai cyngor.
Mae datblygiadau cartrefi fforddiadwy pellach sydd i’w cwblhau yn cynnwys:
- Cyfleuster Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych, datblygwyd gan Grŵp Cynefin, yn cynnig 74 o anheddau ar gyfer pobl fregus a hŷn, cwblhad yn yr hydref
- Safle datblygu fforddiadwy Adra yn Allt Melyd yn darparu 44 cartref â deiliadaeth gymysg, i’w cwblhau ym mis Rhagfyr 2021, gyda’r unedau cyntaf bellach yn cael eu hysbysebu ar Tai Teg, y gofrestr tai fforddiadwy ar gyfer ymgeiswyr
- Safle datblygu Cartrefi Conwy yn y Rhyl yn darparu 18 o fflatiau cymdeithasol, i fod i gael eu cwblhau fis Ionawr 2022
- Safle datblygu Clwyd Alyn yn Rhuthun yn darparu 63 cartref fforddiadwy â deiliadaeth gymysg, i fod i’w cwblhau fis Mai 2023
- Mae Tai Sir Ddinbych yn datblygu safleoedd yn Ffordd Caradog, Prestatyn a Tan Y Sgubor yn Ninbych a fydd yn darparu 26 o gartrefi rhent cymdeithasol yn 2022
Cwblhau Cartrefi o Bren Lleol
Mae Lowfield Timber wedi cwblhau datblygiad o bedwar cartref Passivhaus ardystiedig ym mhentref Sarn ym Mhowys.
Rheolwyd y project datblygu gan Gyngor Sir Powys ac roedd yn dilyn egwyddorion y project Cartrefi o Bren Lleol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, menter â’r bwriad o hyrwyddo defnyddio pren a dyfir yn lleol i adeiladu tai cymdeithasol carbon-isel.
‘Mae’r project Cartrefi o Bren Lleol wedi dod â mwy o amlygrwydd i’r diwydiant ffrâm-bren yng Nghymru, gan helpu i hwyluso mwy o gydweithredu yn y gadwyn gyflenwi’, meddai Darren Jarman o Lowfield Timber Frames, a weithiodd ochr yn ochr â Pave Aways i adeiladu’r cartrefi Passivhaus hyn yn Sarn.
Rhan allweddol o’r fframwaith Cartrefi o Bren Lleol yw rhyddhau cyn lleied â phosib o garbon corfforedig. Hynny yw, y nod oedd lleihau’r holl allyriadau sy’n ymwneud â chodi’r adeilad, megis cyflenwi deunyddiau crai a’u cludo. Trwy ddefnyddio pren o Gymru, roedd y project nid yn unig yn cefnogi diwydiant coed Cymru, ond hefyd yn helpu i wneud y gwaith adeiladu yn ei grynswth yn fwy eco-gyfeillgar
Defnyddiwyd y pren lleol mewn system wal ddeublyg, gan adeiladu wal bostyn-pared ddwbl â cheudod canolog i atal colli gwres. Llenwyd hwn â digonedd o inswleiddio Warmcel, a ddosberthir gan PYC, y Trallwng ac a wneir o bapur-newydd wedi’i ailgylchu gyda halwynau mwynol wedi eu hychwanegu i wrthsefyll tân ac amddiffyn rhag ffyngau a phryfed.
Dim ond un o nifer o gynlluniau Passivhaus y mae Lowfield Timber Frames wedi’u cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf yw hwn. Mae rhai eraill yn cynnwys datblygiadau tai graddfa-lawn ac ysgolion, gan gynnwys ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru yn y Trallwng.
CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW
- State of Wales: Poverty in Wales
Sefydliad Bevan, Mehefin 2021
www.bevanfoundation.org/subscribers-area/state-of-wales-poverty-in-wales/
2. Towards an approach to impact reporting for investments in social and affordable housing
The Good Economy and Big Society Capital, Gorffennaf 2021
3. The right to adequate housing: are we focusing on what matters?
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mehefin 2021
housingevidence.ac.uk/publications/the-right-to-adequate-housing-are-we-focusing-on-what-matters/
4. Renting during the Covid-19 pandemic in Great Britain: the experiences of private tenants
UK Collaborative Centre for Housing Evidence, Mai 2021
5. Past, present and future: housing policy and poor-quality housing
Centre for Ageing Better, CaCHE, The Good Home Inquiry, Mai 2021
www.ageing-better.org.uk/publications/past-present-and-future-housing-policy-and-poor-quality-homes
6. In this together: a guide for housing officers working remotely
Shelter Cymru, Gorffennaf 2021
7. From hospital to home: planning the discharge journey
Tyfu Tai Cymru, Gorffennaf 2021
www.cih.org/media/vdplutxt/from-hospital-to-home-final.pdf
8. Home truths: options for reforming residential property taxes in England
Bright Blue, Mai 2021
www.brightblue.org.uk/wp-content/uploads/2021/05/BB_Property-Taxes-Report-May-2021_prf06b.pdf
9. Closing the digital divide for good
Carnegie UK Trust, UNICEF UK, Mehefin 2021
www.carnegieuktrust.org.uk/publications/Closing-the-Digital-Divide/
10. The Housing Guarantee
Centre for Policy Studies, Ebrill 2021