Bydd WHQ yn ymddangos yn ddigidol yn unig o rifyn mis Gorffennaf. Mae Tom Broadhead a Helen Taylor, cadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd golygyddol, yn esbonio pam ac yn edrych tua’r dyfodol.
Thema’r rhifyn hwn o WHQ yw digideiddio a thechnoleg, yn benodol yng nghyd-destun y pandemig Covid a’r modd mae’r cyfnodau clo wedi gwthio llawer ohonom, a’n swyddi fel gweithwyr tai proffesiynol, yn gyflymach ar hyd llwybr digideiddio a thuag at ffordd sylfaenol wahanol o weithio.
Yn benodol, mae wedi newid ein ffordd o gyfathrebu’n sylfaenol – mae llawer ohonom bellach yn treulio cyfran fawr o’n dyddiau yn sownd wrth sgrin y cyfrifiadur mewn cyfarfodydd Teams neu Zoom, lle byddem cyn Covid wedi teithio’n rheolaidd rhwng cyfarfodydd, weithiau am bellter maith, a fyddai’n caniatáu rhywfaint o ofod meddwl, ac amser am tamaid o ginio.
A yw hefyd wedi peri newid sylfaenol yn ein perthynas â thenantiaid a sut rydym yn cyfathrebu â nhw? A ydym yn gallu gwneud mwy, cyrraedd mwy o bobl yn yr amser sydd ar gael i ni? Neu a fu effaith negyddol ar y gwasanaeth am nad ydym bellach yn rhyngweithio wyneb yn wyneb â’n tenantiaid, ein cwsmeriaid a’n cyfranddalwyr – neu o leiaf dim cymaint ag yr arferem wneud?
Mae sawl erthygl yn rhifyn hwn yn archwilio tirwedd gyfnewidiol rôl y gweithiwr tai proffesiynol wrth inni gefnu ar y cyfnod o ansefydlogrwydd dwys y buom ynddo ers blwyddyn a mwy. Fodd bynnag, nid yw’r cyfryngau, ac yn enwedig y cyfryngau print, wedi gallu osgoi’r newidiadau sylfaenol y mae’r pandemig wedi eu hachosi i’r ffordd y byddwn yn cyfathrebu – yn enwedig y ffaith na fu modd weithiau i chi, fel tanysgrifwyr, gael gafael ar eich copi print o’r cyhoeddiad chwarterol hwn.
Bu’n rhaid i ni addasu a darparu fersiwn PDF digidol llawn o’r cyhoeddiad ar ein gwefan ar eich cyfer, ac mae llawer ohonoch wedi croesawu’r newid hwnnw.
Ond roedd digideiddio’r cyfryngau print yn digwydd ar garlam ymhell cyn i Covid-19 gyrraedd y byd. Cawsai’r hen fodel hysbysebu a thanysgrifio – prif gynheiliad y diwydiant papurau newydd a chylchgronau am y rhan fwyaf o’r 20fed ganrif – ei oddiweddyd gan y ffrwydrad o dechnoleg a chynnwys rhad-ac-am-ddim ar y rhyngrwyd. Yn y bon, dyw hysbysebwyr ddim am hysbysebu mewn print yn yr un modd bellach.
At hynny, fel defnyddwyr cynnwys mae ein chwaeth wedi newid yn ddramatig, ac erbyn hyn mae cynnig fideo aml-gyfrwng yn cael ei ystyried yn norm ar wefannau newyddion a chyfnodolion ledled y byd.
Yn ogystal â chost a chyrhaeddiad, mae’r ddadl gynaliadwyedd o beidio ag argraffu 900 neu fwy o gopïau o gylchgrawn bob chwarter hefyd yn cefnogi’r camau tuag at ddull cwbl ddigidol o gyhoeddi.
Ni all WHQ osgoi effeithiau’r newid sylfaenol hwn yn y ffordd y byddwn yn cyfathrebu ac yn defnyddio cynnwys, felly, fel bwrdd golygyddol, buom yn trafod ers rhai blynyddoedd bellach sut i gymhwyso WHQ i gwrdd â heriau’r cyfryngau a’r amgylchedd cyhoeddi a amlinellir uchod.
Ynghyd â Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi WHQ yn frwd trwy ei grant gyllido, rydym yn rhannu gweledigaeth o ganolbwynt cynnwys aml-gyfrwng sy’n lledaenu’r holl newyddion a’r trafodaethau ynghylch polisi ac arfer tai ac adfywio yng Nghymru.
A allem gyrraedd man lle byddai’r cynnwys ar gael yn rhad ac am ddim?
Mae gwireddu’r weledigaeth honno yn mynd i gymryd amser a buddsoddi – ni chaiff ei gyflawni dros nos. Cam cyntaf y broses fydd symud y cylchgrawn i fod yn ddigidol yn unig o rifyn Gorffennaf eleni (bydd adnewyddu tanysgrifiadau yn digwydd ym mis Ebrill o hyn ymlaen). Ar lawer ystyr, dyna a fu ar gynnig yn ystod y pandemig.
Yn y lle cyntaf, mae hyn yn cael ei yrru gan gost a dirywiad sylweddol mewn refeniw hysbysebu a nawdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy’n ei gwneud hi’n anodd cynnal y model cyllido cyfredol. Ar y dechrau, bydd yn gynnig syml ar-lein, h.y. y cylchgrawn ar ffurf PDF sy’n hygyrch gyda’ch manylion diogelwch trwy ein gwefan.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf honno ni fydd y pris tanysgrifio yn newid, ond ein hymrwymiad i chi yw y byddwn yn siarad â phob un ohonoch, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, ynglŷn â sut y gallwn symud tuag at y dull aml-gyfrwng hwnnw o fynd ati a amlinellwyd gennym.
Bydd y broses honno’n cynnwys edrych ar fodelau cyllido – er enghraifft, p’run ai i symud i ddull mwy cydweithredol o fynd ati. Bydd hefyd yn edrych ar y camau datblygu sy’n ofynnol i’n cael i’r lle y carem fod.
Ond ni allwn wneud hynny heb eich cefnogaeth barhaus chi – ac, yn y bon, tanysgrifiad sydd o leiaf ar yr un lefelau ag sydd gennym nawr.
Mae bwrdd golygyddol WHQ yn mawr obeithio eich bod chi’n rhannu ein gweledigaeth ac fel unigolion, ac fel sector, yn parhau i’n cefnogi wrth i ni dyfu ein cynnig digidol, a chreu cynnyrch gwirioneddol fodern a gafaelgar y bydd gweithwyr tai proffesiynol yn ei werthfawrogi am ddegawdau i ddod.
Tom Broadhead a Helen Taylor yw cadeirydd ac is-gadeirydd bwrdd cynghorol WHQ