O ‘rwyt ti ar mud’ i beidio â mynd i’r swyddfa, mae’r pandemig wedi prysuro mabwysiadu technoleg ar draws y sector tai yn ddramatig.
Mae WHQ wedi teimlo effaith tueddiadau cymdeithasol ac economaidd sy’n symud ar-lein ac ar ôl trafodaeth o fewn y bwrdd cynghorol – a gyda chi, ein tanysgrifwyr – rydym wedi dod i’r penderfyniad anodd mai hwn fydd rhifyn print olaf y cylchgrawn.
Ymhell o fod yn ddiwedd ar y cylchgrawn ei hun, rydym yn gweld hyn fel dechrau dyfodol digidol newydd. Dros y 12 mis nesaf byddwn yn cael sgyrsiau gyda darllenwyr ar draws y sector ynglŷn â’r hyn rydych chi am ei weld, gan archwilio dulliau darparu newydd a modelau cyllido newydd.
Fodd bynnag, allwn ni wneud dim o hynny heb i chi barhau i’n cefnogi â syniadau, erthyglau, tanysgrifiadau, hysbysebu a nawdd, felly gobeithio eich bod yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae nodwedd arbennig ar dechnoleg yn gosod y penderfyniad hwnnw yng nghyd-destun newidiadau ehangach mewn technoleg. Mae ein cyfranwyr yn amrywio’n fawr ar draws y sector ac yn rhychwantu’r ffiniau rhwng y rhithwir a’r real, gydag erthyglau ar ymgysylltu â thenantiaid, cynhwysedd digidol, galluogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol, recriwtio a rheolaeth, a gwasanaethau digartrefedd. Bid a fo am gyflymder y newid technolegol, rhaid cofio mai lleiafrif yw’r ‘dosbarth Zoom’ a all ddewis gweithio gartref.
Mewn rhan arall o’r rhifyn hwn, cyn etholiadau’r Senedd ar Fai 6, edrychwn yn fanwl ar faniffestos y prif bleidiau a’r hyn y gallent ei olygu i bolisïau tai ac adfywio Llywodraeth newydd Cymru.
Bydd pwy bynnag fydd mewn grym ym Mae Caerdydd am edrych yn fanwl ar Dyfu Cartrefi Gartref. Mae WHQ wedi olrhain esblygiad y project cyffrous hwn er ei gamau cynharach a dywed Gary Newman ei fod bellach yn barod i chwarae rhan sylweddol gyda thai, yr economi a’r amgylchedd wrth i Gymru anelu at fynd yn ‘genedl coedwig’.
Mae Steve Cranston yn adrodd ar Gynulliad Hinsawdd cyntaf Cymru, am yr hyn y cred dinasyddion Blaenau Gwent ddylai fod yn flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Mewn nodwedd amserol ar gyfer y Gwanwyn, mae Kim Stoddart yn ystyried sut y gall tai gysylltu â mannau gwyrdd ar ôl y pandemig.
Yn y diweddaraf yn ein cyfres ar brojectau o’r Rhaglen Arloesol, mae Joanna Davoile yn adrodd ar ddatblygiad eco-gartrefi Wales & West ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ers 30 mlynedd a mwy bu WHQ yn cynnig llwyfan i’r deunydd gorau ar dai yng Nghymru. Gyda’ch cefnogaeth chi, edrychwn ymlaen at barhau â hynny yn y dyfodol digidol.
Jules Birch, Golygydd