English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI YN RHANNAU ERAILL Y DU

Hwb Sunak i Gredyd Cynhwysol i barhau am chwe mis arall

Ymestynnodd y Canghellor y cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol am chwe mis arall yn ei Gyllideb ym mis Mawrth.

Fodd bynnag, rhewyd cyfraddau Lwfans Tai Lleol eto ar ôl cael eu hadfer i’r 30ain ganradd yn 2020 wedi pedair blynedd heb gynnydd.

Mae tynghedau cyferbyniol y ddau gynnydd mewn taliadau lles fel rhan o’r ymateb i’r pandemig yn adlewyrchu proffil gwleidyddol amlwg y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol. Yr argraff a roddwyd oedd brwydr wedi ei gohirio tan fis Medi.

Roedd newyddion da hefyd i ymadawyr gofal ifanc a phobl ddigartref, a fydd yn awr yn cael eu heithrio o’r Gyfradd Llety a Rennir o fis Mehefin eleni yn hytrach na 2023.

Gwarant y llywodraeth ar forgeisiau BiW uchel

Nod y cynllun gwarantu morgais newydd yw hybu argaeledd benthyciadau cartref benthyciad-i-werth uwch o Ebrill i Ragfyr 2021.

Fel gwarant morgais Cymorth i Brynu a gychwynwyd yn 2013, amcan y cynllun newydd yw mynd i’r afael â’r prinder morgeisi 91-95 y cant.

Gydag uchafswm o £3.9 biliwn o atebolrwydd wrth gefn, bydd y warant mewn grym i lawr at 80 y cant o werth pwrcas yr eiddo a warantwyd. Bydd benthycwyr yn talu ffi a byddant hefyd yn cymryd cyfran o 5 y cant o golledion net uwchlaw’r trothwy o 80 y cant.

I fod yn gymwys, rhaid i’r benthyciad fod yn forgais preswyl, ac nid un ar gyfer ail gartref neu brynu i osod,  ar eiddo yn y DU sydd â gwerth pwrcas o £600,000 neu lai, ac yn bodloni asesiadau safonol o allu’r benthyciwr i dalu.

 

LLOEGR

Ymestyn y saib treth stamp

Ymestynnodd llywodraeth San Steffan y saib treth stamp yn Lloegr am dri mis arall, a’i leihau yn raddol am dri mis arall wedi hynny am gost o £1.6 biliwn.

Cyhoeddwyd y saib gwreiddiol yn Natganiad Haf mis Gorffennaf 2020 am gost o £3.8 biliwn ac i hynny y priodolir yr ymchwydd mewn trafodion phrisiau tai er gwaethaf y pandemig. Mae’r estyniad yn ymateb i bryderon y byddai llawer o brynwyr wedi colli allan gyda therfyn pendant ar gwblhau trafodion ddechrau mis Ebrill.

Cymerwyd cam cyfatebol yng Nghymru trwy ymestyn y band cyfradd sero ar gyfer Treth Trafodion Tir ar drafodion eiddo preswyl tan ddiwedd mis Mehefin.

£3.5 biliwn ychwanegol ar gyfer tynnu cladin

Cyhoeddodd yr ysgrifennydd tai Robert Jenrick becyn newydd o gymorth i lesddeiliaid a landlordiaid mewn adeiladau â chladin peryglus.

Mae’r pecyn yn cynnwys grant ychwanegol o £3.5 biliwn gan y llywodraeth i dalu am waith adfer ar adeiladau uwch na 18m ynghyd â benthyciadau tymor-hir gydag ad-daliadau wedi eu cyfyngu i £50 y mis ar gyfer adeiladau o dan 18m. Bydd ardoll ar ddatblygwyr adeiladau uchel hefyd a threth eiddo preswyl ychwanegol y disgwylir iddi gyfrannu £2 biliwn at y gost dros y 10 mlynedd nesaf.

Fodd bynnag, dim ond cladin y mae’r cyhoeddiad yn ei gwmpasu ac nid y problemau diogelwch tân sylweddol eraill a ddatgelwyd ers i raddfa’r argyfwng ddod yn amlwg. Amcangyfrifodd grŵp holl-bleidiol o ASau y gallai cyfanswm cost trwsio problemau diogelwch tân fod yn £15 biliwn o’i gymharu â’r cyfanswm o £5.1 biliwn a gyhoeddwyd gan y llywodraeth.

 

YR ALBAN

Holyrood yn gosod nod o 100,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy erbyn 2032

Gobaith strategaeth tai hirdymor newydd ar gyfer yr Alban yw darparu 100,000 o dai fforddiadwy dros y degawd nesaf.

Mae Housing to 2040 yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn credu ddylai fod yn flaenoriaethau ar gyfer tai a chymunedau a’r camau sydd eu hangen i gyrraedd yno.

Ar frig y rhestr mae 100,000 o dai fforddiadwy, y gosodir 70 y cant ohonynt ar rent cymdeithasol, erbyn 2032. Byddai hyn yn gofyn am fuddsoddiad o £16 biliwn.

Blaenoriaethau eraill yw un set o safonau ansawdd a hygyrchedd tai ar draws pob deiliadaeth, strategaeth a deddfwriaeth i fynd i’r afael â rhenti preifat uchel, a datgarboneiddio.

Meddai’r ysgrifennydd cymunedau, Aileen Campbell: ‘Rydym eisoes wedi darparu bron 100,000 o gartrefi fforddiadwy er 2007, a chyn y pandemig roeddem ar y ffordd i gyrraedd ein targed o 50,000 yn ystod y senedd hon. Amharodd y pandemig ar allu’r sector i gyrraedd y nod yma, ond rydym wedi ymrwymo i’w gyrraedd cyn gynted ag y bo hynny’n ddiogel. Oddi yno, byddwn yn cychwyn ar ein huchelgais newydd o ddarparu 100,000 pellach o gartrefi fforddiadwy  erbyn 2032.’

 

GOGLEDD IWERDDON

Y Weithrediaeth yn sicrhau eithriad rhag Treth Gorfforaeth

Croesawodd y gweinidog cymunedau Deirdre Hargey y newyddion y bydd Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon wedi ei heithrio rhag Treth Gorfforaeth.

Bu’r eithriad yn destun dadl ers hydoedd, a daw hyn ag anghysondeb y ffaith mai’r Weithrediaeth Tai oedd yr unig landlord cymdeithasol i orfod talu’r dreth i ben. Dylai olygu miliynau o bunnau y flwyddyn o fuddsoddi ychwanegol.

Dywedodd y gweinidog: ‘Ers 2014, mae’r Weithrediaeth Tai wedi talu bron £58 miliwn mewn Treth Gorfforaeth. Dyma arian y gellid fod wedi’i fuddsoddi yn eu cartrefi er budd eu tenantiaid.

‘Bu sicrhau’r eithriad rhag talu Treth Gorfforaeth yn rhan annatod o’m hagenda adfywio gan y bydd yn darparu incwm ychwanegol y mae mawr angen amdano i’r Weithrediaeth Dai i’w helpu i ymateb i’r her o sicrhau buddsoddi.’

Dathlodd y Weithrediaeth hanner canmlwyddiant ei sefydlu ym mis Chwefror.

 

LLYWODRAETH CYMRU

Y gyllideb yn hybu buddsoddi mewn tai cymdeithasol

Bydd y Grant Tai Cymdeithasol (SHG) yn £50 miliwn yn fwy o dan Gyllideb derfynol Cymru ar gyfer 2021/22.

Bydd cynlluniau a gadarnhawyd gan y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, yn gweld cyfanswm buddsoddi SHG yn codi i £250 miliwn, bron bedair gwaith y swm a bennwyd yng Nghyllideb 2016.

Mae hyn yn rhan o gyllid cyfalaf ychwanegol o £224.5 miliwn i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i ailadeiladu ac ysgogi galw a swyddi. Cadarnhawyd cynlluniau drafft y Gyllideb ar gyfer cynnydd o £40 miliwn yn y Grant Cymorth Tai hefyd.

Dywed dogfennau cefndir i’r Gyllideb y bydd buddsoddi mewn rhaglenni tai cymdeithasol yn codi o gyfanswm o £100 miliwn y flwyddyn nesaf ac yn cefnogi swyddi a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer cwmnïau Cymreig a chadwyni cyflenwi lleol.

Mae hynny’n cynnwys cynyddu’r gwario ar y Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig i £50 miliwn y flwyddyn nesaf er mwyn parhau i ddatblygu sgiliau newydd, cadwyni cyflenwi a fframweithiau caffael.

Mae elfennau eraill o’r Gyllideb yn cynnwys £12 miliwn o Grant Addasu, cyfalaf trafodion ariannol ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer y Cynllun Tir ar gyfer Tai, £15 miliwn ar gyfer y Gronfa Datblygu Eiddo a Chronfa Safleoedd Segur Cymru, a £10 miliwn ar gyfer Cymorth i Brynu Cymru.

Ymestyn Cymorth i Brynu Cymru tan 2023

Bydd Cymorth i Brynu Cymru yn rhedeg am 12 mis arall tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cadarnhau gobeithion a fynegwyd gan y gweinidog tai, Julie James, ym mis Medi pan ymestynnwyd y cynllun o 12 mis o fis Ebrill 2021, yn dilyn cadarnhau’r cyllid. Hyd at ddiwedd mis Rhagfyr, roedd y cynllun wedi darparu 8,503 o gartrefi.

Dywedodd y gweinidog y byddai’n defnyddio Cymorth i Brynu Cymru i ysgogi arfer gorau a bydd cam 3 yn cyfyngu rhenti daear ar gyfer cartrefi a werthir trwy’r cynllun i swm symbolaidd yn unig.

Nododd hefyd ei huchelgais am i gartrefi marchnad y dyfodol fod â’r un safonau gofod ag eiddo tai cymdeithasol, gan egluro: ‘Bydd gosod safonau cydradd  nid yn unig yn sicrhau bod gan bawb le i ffynnu ond hefyd yn agor cyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio rhwng darparwyr tai cymdeithasol ac adeiladwyr marchnad, gan gefnogi datblygiad cymunedau deiliadaeth-gymysg go iawn. ‘

Rheoliadau adeiladu i hybu newid sylweddol mewn effeithlonrwydd ynni

Disgwylir i gartrefi newydd greu gostyngiad o 37 y cant mewn allyriadau carbon o 2022 ymlaen o dan newidiadau i’r rheoliadau adeiladu. Disgwylir i hyn arbed £180 y flwyddyn mewn biliau ynni.

Bydd hyn yn gam ymlaen tuag at y newidiadau nesaf i’r rheolau ar effeithlonrwydd ynni, gyda disgwyl i gartrefi newydd gynhyrchu gostyngiad o 75 y cant o leiaf mewn allyriadau carbon o’i gymharu â lefelau cyfredol erbyn 2025.

Meddai’r gweinidog tai Julie James: ‘Er mwyn i Gymru gyrraedd ei thargedau hinsawdd, dylai’n stoc adeiladu gynhyrchu nemor ddim allyriadau erbyn 2050, sy’n golygu newid sylweddol yn y modd y caiff adeiladau eu gwresogi a’u rhedeg yn y dyfodol. Rhaid i’r galw am ynni i’w ddefnyddio mewn adeiladau fod yn llawer is, gyda’r ynni angenrheidiol yn dod o ffynonellau carbon-isel a rhai adnewyddadwy.’

Y Gweinidog yn amlinellu’r camau nesaf ar ddiwygio’r brydles

Cyhoeddodd y gweinidog tai, Julie James, gyfres o ddiwygiadau i’r brydles ar ôl cyhoeddi ymchwil i Lywodraeth Cymru i ddeiliadaeth sy’n cynnwys 16 y cant o gartrefi yng Nghymru.

Canfu’r ymchwil (yn https://llyw.cymru/ymchwil-i-werthu-defnyddio-prydlesi-yng-nghymru) fod y ddeddfwriaeth ar y brydles yn gymhleth ac nad yw lesddeiliaid yn deall ei goblygiadau yn llawn, a hyd yn oed pan fyddant yn deall y gyfraith, nad yw hyn yn eu paratoi’n llawn ar gyfer y realiti.

Cadarnhaodd y gweinidog ei bwriad i:

  • Cyfyngu rhenti daear yn y dyfodol i sero ar gyfer eiddo prydles yn nhrydydd cam Cymorth i Brynu Cymru (gweler uchod)
  • Symud tuag at gyfyngu ar renti daear yn y dyfodol i sero ar y cyfle deddfwriaethol cynharaf trwy geisio cynnwys Cymru mewn deddfwriaeth sydd i ddod yn San Steffan
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeddfu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio pellach.

Dywedodd: ‘Yn ​​amlwg, nid fy lle i yw llywio penderfyniadau unrhyw Senedd yn y dyfodol, ac felly mater i’r llywodraeth nesaf fydd ystyried rhinweddau bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth rhenti daear yn achos Cymru drwy’r broses caniatâd deddfwriaethol. Yn yr un modd, mater i Lywodraeth  y pryd hwnnw fydd asesu rhinweddau cymharol deddfu ar sail argymhellion Comisiwn y Gyfraith, cyn ystyried cydsyniad deddfwriaethol.

‘Ond bydd y camau hyn yn sicrhau bod y cyfle i fynd ati yn y modd hwn i ymdrin â newidiadau mawr i’r brydles ar y cyd yn parhau yn agored, yn enwedig lle yr ystyrir mai hynny fyddai orau er budd lesddeiliaid yng Nghymru.’

Cynllun yn amlinellu gweledigaeth 20-mlynedd ar gyfer datblygu

Mae strategaeth ofodol genedlaethol newydd (https://llyw.cymru/cymrur-dyfodol-y-cynllun-cenedlaethol-2040-html ) yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer datblygu hyd at 2040.

Mae’r cynllun:

  • Yn canolbwyntio ar dyfu ardaloedd trefol presennol a sicrhau y lleolir cartrefi, swyddi a gwasanaethau yn yr un ardal
  • Yn nodi Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd, a Bae Abertawe a Llanelli fel meysydd twf o bwys cenedlaethol
  • Yn rhoi galluoedd cryfach i gynghorau i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer parciau manwerthu newydd ar gyrion trefi a datblygiadau eraill y byddai’n well eu lleoli yng nghanol trefi
  • Yn nodi meysydd blaenoriaeth newydd ar gyfer datblygu ynni gwynt ac ynni’r haul ar raddfa fawr, sy’n disodli Tan 8.

Meddai’r gweinidog tai a llywodraeth leol, Julie James: ‘Mae’r cynllun hwn yn amlinellu’n blaenoriaethau ar gyfer twf mewn cyflogaeth a thai, yn enwedig tai fforddiadwy. Mae’n cynnig gweledigaeth ar gyfer datblygiad ein pentrefi, trefi a dinasoedd ar raddfa gerddadwy, gyda chartrefi, cyfleusterau lleol, mannau gwyrdd a chludiant cyhoeddus o fewn cyrraedd hawdd.

‘Mae’r gwaith hwn yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19 ond mae byw trwyddo wedi pwysleisio i bawb mor bwysig yw cymunedau hawdd byw ynddynt i’n hiechyd a’n lles.

 

CYMRU

Galw am lenwi bylchau yn rhwyd ddiogelwch y digartref

Anogir pleidiau gwleidyddol Cymru i newid deddfwriaeth digartrefedd sydd, yn ôl Crisis, yn gadael pobl yn sownd mewn cylch o ddigartrefedd am gyfnod hwy, ymhellach oddi wrth gefnogaeth, ac yn debycach o ddioddef sawl math o ddigartrefedd.

Dywed ymchwil newydd gan yr elusen ddigartrefedd bod hyn oherwydd profion cyfreithiol sy’n golygu na chânt fynediad i gymorth hanfodol gan gynghorau lleol.

Er 2015, yn ôl adroddiad No One Left Out, ni allodd un o bob wyth o bobl (9,261) a aeth at eu cyngor lleol am help i ddod â’u digartrefedd i ben sicrhau cymorth pellach. Y llynedd yn unig, golygodd hyn i 1,773 o bobl barhau i fod yn ddigartref.

Gall effaith gwrthod cefnogaeth i bobl gynnwys nid yn unig eu gorfodi i fynd yn ddigartref yn y lle cyntaf cyn ceisio cymorth, ond eu gwthio ymhellach i ffwrdd oddi wrth gefnogaeth, yn sownd mewn cylch o ddigartrefedd, gan ddwysháu problemau gyda dyledion, iechyd meddwl a chamddefnydd sylweddau.

Dywed Crisis bod Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a osododd ddyletswydd cyfreithiol ar gynghorau i atal pobl rhag mynd yn ddigartref y lle cyntaf, ac i helpu pobl sydd eisoes yn ddigartref allan o’r sefyllfa honno. Ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth, bu’n llwyddiant ysgubol gyda 66 y cant o aelwydydd yn cael eu harbed rhag mynd yn ddigartref a 42 y cant yn cael eu helpu allan o ddigartrefedd.

Ond dengys ymchwil newydd nad yw’r Ddeddf yn gweithio i bawb. Lle methodd ymdrechion i atal neu leddfu digartrefedd rhywun, mae’r bobl hynny yn aml yn parhau i fod yn ddigartref am gyfnod hwy oherwydd y profion rhaid iddynt eu bodloni cyn gallu elwa ar gymorth. Mae’r profion hyn yn cynnwys a ydynt o fewn y categori ‘angen blaenoriaeth’, megis a oes ganddynt blant dibynnol, a oes ganddynt gysylltiad â’r ardal leol, ac a allant brofi nad aethant yn ddigartref yn fwriadol.

Dywedodd prif weithredwr Crisis, Jon Sparkes: ‘Torrodd y gyfraith bresennol yng Nghymru dir newydd wrth sicrhau yr ataliwyd miloedd o bobl rhag colli eu cartrefi, ac yr helpwyd eraill yn ôl ar eu traed yn gyflym wedi iddynt fod yn ddigartref. Ond mae cannoedd o bobl ar ôl o hyd yn sownd mewn cylch o ddigartrefedd am fisoedd, blynyddoedd weithiau, oherwydd pwy ydynt, ble maent yn byw neu sut yr aethant yn ddigartref.

‘Tra bo’r profion cyfreithiol hyn yn dal mewn grym, ni allwn atal digartrefedd yng Nghymru yn llwyr. Byddai newid y ddeddfwriaeth yn gam cyntaf beiddgar, cryf tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru i bawb.

Arolygon Ôl-ffitio Optimeiddiedig ar waith

Cynhaliwyd yr arolygon cyntaf mewn project braenaru uchelgeisiol i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol ledled Cymru.

Mae’r project Ôl-ffitio Optimeiddiedig, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bellach ar waith, gyda mwy na 100 o weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn cynnal arolygon cartref-cyfan ledled Cymru.

Trwy gydweithrediad 68 o bartneriaid, yn cynnwys 26 o ddarparwyr tai cymdeithasol, o dan reolaeth Sero, caiff mwy na 1,750 o gartrefi braenaru eu datgarboneiddio fel y gellir creu a mireinio’r offer angenrheidiol ar gyfer datgarboneiddio cartrefi ar raddfa fawr ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r project bellach wedi symud o’r bwrdd llunio tuag at sicrhau canlyniadau, gyda’r arolygon cartref cyfan cyntaf yn cael eu gwneud gan y timau tai cymdeithasol wrth iddynt ddechrau asesu’r cartrefi peilot a fydd yn cael eu hôl-ffitio fel rhan o’r project.

Mae’r project wedi derbyn cyllid o £13 miliwn trwy Raglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol, a sefydlwyd i helpu i leihau ôl-troed carbon tai cymdeithasol presennol Cymru, gwneud biliau ynni yn haws i breswylwyr eu talu, a darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd.

Yn dilyn cyfnod carlamus o ddatblygu’r ap arolwg cartref-cyfan gan Sero, mae fersiwn gyntaf yr offeryn digidol bellach wedi cael ei lansio ac yn cael ei roi ar waith. Cafodd mwy na 100 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r ap i’w galluogi i ddechrau asesu’r cartrefi braenaru.

Mae’r ap yn gweithio trwy nodi amrywiaeth o ffeithiau manwl am yr eiddo ar lechen. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei phrosesu wedyn gan ail offeryn digidol a gaiff ei lansio cyn bo hir, ‘Llwybrau tuag at Sero’, a fydd yn dangos sut i fynd ati fesul cam i leihau ôl-troed carbon yr eiddo i’r lefel isaf bosibl.

MHA yn sicrhau’r buddsoddiad tai uniongyrchol cyntaf gan y Gronfa Diogelu Pensiynau

Tarodd Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) fargen gwerth £85 miliwn i ailgyllido ei holl bortffolio benthyciadau, gan sicrhau £65 miliwn gan y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn ei buddsoddiad uniongyrchol cyntaf yn sector tai cymdeithasol y DU.

Mae cyllid y PPF am 40 mlynedd, ochr yn ochr ag £20 miliwn o gyllid hyblyg a ddarparwyd gan y benthycwr presennol, Barclays.

Mae’r pecyn cyllido, a ddarparwyd gyda chyngor gan Savills Financial Consultants, yn caniatáu i MHA ryddhau gallu ariannol sylweddol, gan roi hwb sylweddol i’w raglen ddatblygu uchelgeisiol.

Mae’r cytundeb – sydd wedi denu un o’r cyfraddau llog isaf trwy leoliad preifat i gymdeithas tai yn y DU yn ystod y 12 mis diwethaf – hefyd yn cefnogi gwireddu amcanion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant [ESG] ehangach MHA. Yn ogystal â chynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, mae wedi ymrwymo i nifer o dargedau ESG – yn cynnwys gostyngiad o 10 y cant pellach mewn carbon erbyn 2024, a helpu 30 o denantiaid i mewn i swyddi bob blwyddyn. Mae’r PPF a Barclays ill dau yn awyddus i gefnogi’r nodau pwysig hyn fel rhan o’u blaenoriaethau buddsoddi cyfrifol eu hunain.

Meddai John Keegan, prif weithredydd MHA: ‘Rydym wrth ein bodd i fod wedi cyflawni’r cytundeb pwysig hwn gyda’n partneriaid cyllido i gefnogi’n darpariaeth ar gyfer tenantiaid. Pleser arbennig yw cael gweithio gyda’r Gronfa Diogelu Pensiynau ar ei lleoliad uniongyrchol cyntaf yn sector tai cymdeithasol y DU. ’

Ymgynghoriadau

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

Pwerau Awdurdodau Lleol i fasnachu – ymatebion erbyn 11 Mehefin

Rheoliadau drafft Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 – ymatebion erbyn 16 Mehefin

Ymgynghoriadau ar gael yn https://llyw.cymru/ymgyngoriadau 

 

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

Working together to end homelessness from social housing

Shelter Cymru, Mawrth 2021

sheltercymru.org.uk/policy_and_research/end-homelessness-from-social-housing/

Resilience in the housing system

Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth am Dai (CaCHE), Mawrth 2021

housingevidence.ac.uk/publications/resilience-in-the-housing-system/

UK Housing Review 2021

Y Sefydliad Tai Siartredig, Prifysgol Glasgow, Mawrth 2021

www.cih.org/bookshop/uk-housing-review-2021

Ymchwil i Werthu a Defnyddio Prydlesi yng Nghymru

Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Mawrth 2021

Click to access ymchwil-i-werthu-a-defnyddio-prydlesi-yng-nghymru.pdf

 A fair housing market for all

Y Grŵp Seneddol Holl-bleidiol ar gyfer y Farchnad Dai a Darparu Tai, Mawrth 2021

appghousing.org.uk/a-fair-housing-market-for-all/

Impact Report 2020

Y Ganolfan ar gyfer Effaith Digartrefedd, Ionawr 2021

www.homelessnessimpact.org/downloads – publications

Helping Generation Rent become Generation Buy 

Y Gyfnewidfa Bolisi, Chwefror 2021

policyexchange.org.uk/publication/helping-generation-rent-become-generation-buy/

Transforming how we build homes

Dulliau Diwydiannol Uwch ar gyfer Adeiladu Cartrefi (AMICH), Mawrth 2021

www.aimch.co.uk/images/docs/AIMCH_Annual_report_3.pdf

The COVID-19 crisis response to homelessness in Great Britain

Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth am Dai (CaCHE), Chwefror 2021

housingevidence.ac.uk/publications/the-covid-19-crisis-response-to-homelessness-in-great-britain/

Older and Wiser – A practical guide for developing, commissioning and operating age-friendly homes

Y Fforwm Tai, Ionawr 2021

housingforum.org.uk/reports/report-housing-supply-and-delivery/older-and-wiser/


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »