English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Gwella’r sector

Dathlodd Rhentu Doeth Cymru ei bum mlwyddiant yn ddiweddar.  Gyda’r broses ailgofrestru bellach ar y gweill, dyma Bethan Jones yn edrych yn ôl ar y profiad o sefydlu’r cyllun, y buddiannau sy’n deillio ohono i landlordiaid, asiantiaid a thenantiaid ledled Cymru, a sut y gall effeithio ymhellach ar y sector wrth i’r gwasanaeth barhau i ddatblygu.

Lansiwyd Rhentu Doeth Cymru ym mis Tachwedd 2015 i godi safonau yn y sector rhentu preifat ac i helpu landlordiaid ac asiantiaid i weithredu mewn modd mwy proffesiynol er eu budd eu hunain a’u tenantiaid. Mae gofyn i bob landlord ag eiddo yng Nghymru gofrestru gyda’r cynllun, tra dylai landlordiaid ac asiantiaid sy’n rheoli eiddo gwblhau cwrs hyfforddi i wneud yn siwr eu bod yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau ac yn sicrhau trwydded.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, gyda mwy na 106,000 o landlordiaid wedi cofrestru (a 48,500 o’r rheini wedi eu trwyddedu i osod a rheoli eiddo hefyd), mwy na 2,100 o asiantiaid trwyddedig a mwy na 214,000 o unedau eiddo cofrestredig, lefel uchel o gydymffurfio ar draws holl awdurdodau lleol Cymru, rydym wedi dod yn bell iawn.

Gyda’r camau breision rydyn ni’n parhau i’w cymryd, mae’n anodd ystyried y cynllun fel unrhyw beth ond llwyddiant, na fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru a’n partneriaid a thîm anhygoel.

Mae’r mwyafrif o landlordiaid ac asiantiaid sy’n rheoli eiddo ac a gwblhaodd yr hyfforddiant angenrheidiol i ennill eu trwydded yn dweud ei fod wedi eu helpu i reoli eu busnesau yn well – cymeradwyaeth gan y sector ei hun parthed y modd mae Rhentu Doeth Cymru yn cefnogi gwella’r sector rhentu preifat ar gyfer pawb.

Erbyn hyn, mae’r cynllun wedi tyfu’n gymaint mwy na menter gofrestru a thrwyddedu yn unig ac rwy’n falch o’r modd y gallasom ddarparu gwerth ychwanegol sylweddol i landlordiaid ac asiantiaid mewn nifer o ffyrdd.

Un o’r rhain yw ein cyrsiau rhad ac am ddim ar-lein sydd ar gael i landlordiaid ac asiantiaid i’w galluogi i barhau i ddysgu a magu sgiliau ac ehangu eu gwybodaeth arbenigol. Cafodd rhai o’r cyrsiau eu datblygu gydag arbenigwyr yn y diwydiant fel Tai Pawb a Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn dod yn fyw trwy enghreifftiau go iawn.

Project pwysig arall yw’r gwaith a wneir i wella perfformiad ynni mewn eiddo ar rent ledled Cymru, yn enwedig eiddo â sgôr F neu G. Mae ymchwil, mapio a chyfathrebu yn helpu i gefnogi ac annog landlordiaid yng Nghymru i fodloni’r gofynion Isafswm Effeithlonrwydd Ynni a bennwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae’r project penodol hwn yn cynnwys cymorth grant i osod gwres canolog am y tro cyntaf mewn eiddo cymwys. Fe’i cyllidir trwy’r Gronfa Cartrefi Cynnes a sicrhawyd trwy gais am gyllid ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru. Mae’r opsiwn ariannol hwn yn ategu’r cymorth ariannol arall sydd ar gael mewn ardaloedd lleol, er enghraifft NEST, ARBED a grantiau lleol. Mae’r bartneriaeth yn cydnabod y defnyddir dulliau gorfodi awdurdodau lleol cyn gynted ag y cwblheir rhan gyfathrebu a chymorth ariannol y cynllun. Mae hyn yn dangos sut y mae Rhentu Doeth Cymru yn dylanwadu ar welliannau i gyflwr eiddo sydd o fudd i landlordiaid a’u tenantiaid hefyd, ac mewn ffordd arbennig o amserol efallai i lawer o aelwydydd incwm-isel sy’n rhentu.

Daw pob trwydded a ganiateir â set o amodau trwyddedu sy’n rhestru’r pethau mae’n rhaid i ddeiliad trwydded gydymffurfio â nhw i gadw’u trwydded a pharhau i weithredu yn y sector. Rydym wedi sefydlu system o archwiliadau cynhwysfawr o asiantiaid masnachol trwyddedig i sicrhau eu bod yn cyflawni amodau eu trwydded ac yn ufuddhau i Gôd Ymarfer Rhentu Doeth Cymru yn ogystal ag unrhyw un arall sy’n gosod gofynion deddfwriaethol arnynt. Archwilir pob asiant yn y categori hwn o fewn cyfnod pum-mlynedd eu trwydded a rhoddir sgôr iddynt yn amrywio o ‘angen camau brys’ i sgôr arfer gorau.

Mae’r archwiliadau hyn yn neilltuol o effeithiol o ran sicrhau gwelliannau a dywed asiantiaid wrthym eu bod yn cael y broses yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol hefyd. Mae’r archwiliadau hyn yn offeryn pwysig gan y rheolir mwy na 50 y cant o’r sector gan asiantiaid, felly mae sicrhau bod asiantiaid gosod eiddo yn gweithredu i safon yn gwneud cryn argraff.

Yn pen draw, rydym am iddi fod yn orfodol i asiantiaid arddangos eu sgôr archwiliad yn yr un modd ag y mae sefydliadau sy’n gweini bwyd yn arddangos eu sgôr hylendid bwyd fel arwydd o sicrwydd i gwsmeriaid ac fel dull o ddylanwadu ar ymddygiad busnes i sicrhau gwelliannau parhaus.

Mae hyn oll wedi hyrwyddo cynnydd mewn cyfnod cymharol fyr. Fodd bynnag, fel y gellid disgwyl gyda sefydlu cynllun newydd sbon, ni fu gweithredu Rhentu Doeth Wales heb ei anawsterau, yn enwedig yr holl weithgaredd a fu yn y cyfnod yn arwain at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ym mis Tachwedd 2016.

Dysgwyd gwersi gwerthfawr bryd hynny ac mae gwerthusiad annibynnol o’r cynllun wedi cynnig awgrymiadau defnyddiol hefyd ar gyfer gwelliannau a chynnydd sylweddol.

Rydym yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o gyfranddeiliaid yn cynnwys sefydliadau sy’n ymwneud â thenantiaid ledled Cymru i sefydlu sylfaen dda ar gyfer gwell ymgysylltu ar ran rhentwyr preifat, tra bod ein perthynas ag awdurdodau lleol Cymru wedi’i gwella fel bod gennym bellach drefniadau cydweithio rhagorol – ffactor sy’n allweddol i lwyddiant ein gweithgaredd gorfodi gyda landlordiaid ac asiantiaid sy’n gwrthod cydymffurfio.

Dylanwadodd gwersi’r pum mlynedd diwethaf ar y ffordd yr aethom ati gyda’r gweithdrefnau cofrestru ac adnewyddu trwyddedau landlordiaid ac asiantiaid pan ddaw eu tymor pum-mlynedd i ben. Ers wythnosau bellach mae’r gweithdrefnau hyn wedi bod yn gweithio’n dda ac nid ydym yn rhagweld cynnwrf arall fel ym mis Tachwedd 2016 i gofrestru a dod yn drwyddedig, diolch i’n mesurau adnewyddu newydd. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiad gweithredu cynnar ar gyfer cofrestru a thrwyddedu landlordiaid a dyddiad adnewyddu blynyddol digyfnewid fel na fydd ymgeiswyr ar eu colled am ymgeisio’n gynnar.

Mae newidiadau eraill yn cynnwys strwythur taliadau gwahaniaethol ar gyfer trwyddedau asiantiaid a fydd yn adlewyrchu maint portffolio asiant yn well; bydd hyn yn golygu y bydd rhai asiantiaid yn talu llai am eu trwydded y tro hwn o’i gymharu â’r tro cynt.

Rydym wedi datblygu amryw o opsiynau hyfforddi wrth adnewyddu trwyddedau gan gynnig mwy o hyblygrwydd i ddysgwyr a chydnabod bod landlordiaid ac asiantiaid sy’n ail-drwyddedu wedi ymgymryd â hyfforddiant o’r blaen ac y dylai unrhyw hyfforddiant pellach adeiladu ar y sylfaen hon. Felly bydd yr opsiynau’n cynnwys cwrs ail-drwyddedu neu gwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) cymeradwy, sy’n caniatáu i landlordiaid ac asiantiaid ddewis hyfforddiant perthnasol wedi’i deilwra i’w hanghenion busnes ac unigol penodol, a dysgu’n llawer mwy manwl am bynciau penodol.

Bydd angen i unrhyw un sy’n dewis cyrsiau DPP gwblhau hyfforddiant craidd gorfodol ar bynciau hanfodol ynghyd â dewis o gyrsiau atodol o’u dewis nhw mewn meysydd fel diogelu data, cydraddoldeb ac amrywiaeth, cynnal cysylltiadau tenantiaid ac ati.

Trwy fynd ati fel hyn, byddwn yn parhau i gefnogi landlordiaid ac asiantiaid â’’r wybodaeth, y sgiliau a’r dulliau priodol o ddarparu gwasanaeth proffesiynol ac uchel ei barch, a thrwy hynny, yn helpu i ddarparu’r gwelliannau parhaus y sefydlwyd Rhentu Doeth Cymru i’w sicrhau ym maes llety rhentu preifat ledled Cymru.

RHENTU DOETH CYMRU MEWN RHIFAU

106,265 o landlordiaid cofrestredig

48,553 o landlordiaid trwyddedig

5,128 o asiantiaid trwyddedig

214,903 o unedau eiddo cofrestredig

808 o Rybuddion Cosb Sefydlog wedi’u cyhoeddi

121 o Euogfarnau (£133,161 o ddirwyon llys)

4 Gorchymyn Ad-dalu Rhent (£37,143)

RHENTU DOETH CYMRU YN YSTOD COVID-19

Mae’r wybodaeth a gedwir gan Rhentu Doeth Cymru am landlordiaid, asiantiaid ac eiddo ledled Cymru yn rhoi dealltwriaeth lawer gwell i ni o’r sector rhentu preifat gan fod gennym, i bob pwrpas, gronfa ddata genedlaethol gynhwysfawr ar flaenau ein bysedd.

Mae’r data hyn nid yn unig o fudd strategol sy’n helpu awdurdodau lleol â’u dyletswyddau tai, ond mae hefyd yn rhoi i ni ffordd syml, effeithiol ac amserol o gyfathrebu â landlordiaid ac asiantiaid i gynghori am newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau a chodi ymwybyddiaeth o faterion allweddol a fyddai, cyn sefydlu’r cynllun hwn, wedi bod yn amhosibl.

Mae hwn wedi bod yn adnodd arbennig o bwysig yn ystod y pandemig COVID-19 gan ein bod wedi gallu cefnogi Llywodraeth Cymru trwy hysbysu ein cysylltiadau am fesurau sector-berthnasol a ddaeth i rym yn ystod y misoedd diwethaf.

Ers dechrau’r argyfwng, rydym wedi cyfathrebu’n rheolaidd â phawb ar ein cronfa ddata â gwybodaeth hanfodol fel y gorchymyn i atal troi tenantiaid allan, y gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid, adnoddau Iechyd Cyhoeddus Cymru i landlordiaid ac asiantiaid eu rhannu gyda myfyrwyr o denantiaid, a mesurau a effeithiai ar y sector yn ystod cyfnod clo byr yn yr hydref.

Gwyddom y croesawyd y cyfathrebu hyn gan landlordiaid ac asiantiaid, gyda chyfradd-agor o bron i 50 y cant yn dangos gwerth y wybodaeth a anfonwn. Mae’r holl ganllawiau a chefnogaeth a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwn ar gael mewn adran adnoddau COVID-19 amlwg ar ein gwefan yn www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/covid19info

Mae Bethan Jones yn rheolwr gweithredol gyda Chyngor Caerdydd – yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Rhentu Doeth Cymru. Roedd y ffigurau a gynhwysir yn yr erthygl hon yn gywir ddiwedd mis Tachwedd 2020. I gael yr ystadegau diweddaraf a mwy o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru, ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/home/

 


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »