English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Golygyddol

Gyda chyfyngiadau clo newydd, ond â brechiadau ar y ffordd, mae’n anodd edrych ymhell y tu hwnt i bandemig Covid-19, ond mae’r rhifyn Gaeaf hwn o WHQ yn rhoi cynnig arni.

Ein thema y tro yma yw’r sector rhentu preifat ac fe nodwn bum mlwyddiant pwysig creu Rhentu Doeth Cymru, y cynllun cofrestru cyntaf o’i fath yn y DU. Mae Bethan Jones yn adrodd hanes y gwersi a ddysgwyd, a sut mae ailgofrestru yn mynd.

Mae’r adran nodwedd hefyd yn adlewyrchu pryderon tenantiaid a landlordiaid, gyda Rob Simkins yn tynnu sylw at dueddiadau brawychus mewn gwaith achos ar droi allan yn anghyfreithlon ac erledigaeth, a Calum Davies yn galw am welliannau i’r ddeddfwriaeth ar ddiwygio meddiant. Rydym yn bwrw rhagolwg hefyd dros gasgliadau adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ar fater dadleuol rheolaeth rhenti gan Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai.

Edrychwn ymlaen hefyd at etholiadau’r Senedd sydd i’w cynnal ym mis Mai (â bod sefyllfa’r pandemig yn caniatáu), ac yn clywed gan y pedair prif blaid beth fydd eu blaenoriaethau ar gyfer tai yn Senedd newydd Cymru.

Efallai nad oes yr un ffocws llethol ar Covid-19 y tro hwn fel yr oedd y llynedd ond mae ei effeithiau parhaus yn edefyn sy’n rhedeg trwy weddill y rhifyn hwn.

Canolbwyntiwn unwaith eto ar ddigartrefedd, gyda Sophie Boobis yn cymharu profiadau gwasanaethau rheng-flaen ac awdurdodau lleol ledled Prydain yn ystod y pandemig a Bill Rowlands yn edrych ar y pwysau sydd ar staff tai. Edrychwn hefyd ar yr effaith ar dai gwarchod a chartrefi ymddeol ac ar waith i fynd i’r afael â chynhwysiant digidol, ynysu cymdeithasol ac unigrwydd.

Covid, wrth reswm, fydd y prif ffocws i bwy bynnag sy’n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ond bydd yn rhaid iddynt hefyd wynebu mater tymor-hwy y berthynas rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae Charles Whitmore yn edrych ar oblygiadau Deddf y Farchnad Fewnol a phryderon y gallai danseilio penderfyniadau a wneir ar dai yng Nghymru.

Blaenoriaeth arall fydd datgarboneiddio tai. Mae Andy Sutton yn esbonio pam fod y Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiedig yn ddull llawer mwy deallus na Grantiau Cartrefi Gwyrdd Lloegr.

Gan droi at gartrefi newydd, clywn gan Gayna Jones am y Rhaglen Tai Arloesol ar drothwy ei phedwaredd blwyddyn, a gan Bonnie Navarra am bosibiliadau Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, y bartneriaeth rhwng grwpiau ffydd a darparwyr tai.

Mae hyn oll ynghyd â’n holl nodweddion rheolaidd yn golygu rhifyn prysur arall o WHQ. Dyma ddymuno 2021 hapus, ddiogel a mwy llewyrchus i bawb, gobeithio.

 

Jules Birch

Golygydd,

WHQ


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »