English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

Y DEYRNAS UNEDIG

Pwysau’n cynyddu parthed lleihau budd-daliadau

Disgwylir y bydd codiadau dros-dro mewn cyfraddau credyd cyffredinol a lwfans tai lleol yn dal i ddod i ben fis Ebrill oni wna Llywodraeth y DU ymrwymo cyllid ychwanegol.

Doedd dim sôn am y mesurau mewn adolygiad gwariant a gyflwynwyd gan y canghellor Rishi Sunak ddiwedd mis Tachwedd, gan esgor ar ofnau y câi cefnogaeth hanfodol ei hatal wrth i’r cynllun ffyrlo ddod i ben.

Cyhoeddodd Mr Sunak y cynnydd o £20 yr wythnos mewn credyd cyffredinol ac adferiad lwfans tai lleol (LTLl) i’r 30ain canradd yn ei Gyllideb fis Mawrth 2020 ar gyfer 2020/21.

Mae’r cynnydd mewn LTLl yn adfer budd-dal tai i denantiaid preifat yn ôl i’w lefel cyn iddo gael ei rewi am bedair blynedd yn 2016.

Fodd bynnag, datgelodd dogfennau cefndir yr Adolygiad Gwariant y caiff LTLl, o dan y cynlluniau cyfredol, ei rewi eto o fis Ebrill.

Mae Llywodraeth y DU eisoes o dan bwysau dwys i ymestyn y cynnydd mewn credyd cyffredinol, gyda’r pêl-droediwr Marcus Rashford yn ymuno ag ymgyrchwyr gwrth-dlodi.

LLOEGR

Rhaid clywed lleisiau preswylwyr, medd San Steffan

Cyhoeddodd llywodraeth San Steffan gynlluniau i atgyfnerthu rheoleiddio a gwneud landlordiaid cymdeithasol yn fwy atebol i denantiaid.

Ddwy flynedd ar ôl papur gwyrdd a oedd yn ymateb i faterion a godwyd gan dân Tŵr Grenfell yn 2017, mae’r Siarter ar gyfer Preswylwyr Tai Cymdeithasol yn cynnwys cynigion i’w gwneud hi’n haws i denantiaid gwyno wrth yr ombwdsmon tai ac yn sefydlu cyfundrefn archwilio landlordiaid annibynnol.

Dywedodd yr ysgrifennydd tai, Robert Jenrick: ‘Rydym yn cyflawni’r ymrwymiad a wnaed i gymuned Grenfell na chaiff lleisiau preswylwyr eu diystyru byth eto. Bydd y papur gwyn hwn yn dod â newid trawsnewidiol i breswylwyr tai cymdeithasol, gan roi llais llawer cryfach iddynt a thrwy hynny ail-ffocysu’r sector ar ei genhadaeth gymdeithasol.’

YR ALBAN

Hwb i gyllid ar gyfer cartrefi fforddiadwy

Ychwanegodd yr ysgrifennydd cymunedau Alieen Campbell £200 miliwn arall at y rhaglen cartrefi fforddiadwy cyn Cyllideb yr Alban ym mis Ionawr.

Mae’r cyllid dros-dro sydd ar gael ar gyfer y Rhaglen Gyflenwi Tai Fforddiadwy yn 2021-22 wedi’i gynyddu o £300 miliwn i £500 miliwn.

Meddai Ms Campbell: ‘Trwy gynyddu’r cyllid y gellir ei ymrwymo nawr yn sylweddol, rydym yn adeiladu ar ein hymrwymiad uchaf erioed o £3.5 biliwn dros y Senedd hon a’n cynlluniau ar gyfer buddsoddi cyfalaf pellach a nodwyd yn ddiweddar yn ein drafft Gynllun Buddsoddi Seilwaith. Bydd hyn yn helpu i adfer yr economi a’r sector adeiladu wedi’r pandemig, tra’n sicrhau ein bod yn cynnal y momentwm wrth ddarparu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy i’r rhai sydd â’u hangen.’

GOGLEDD IWERDDON

Gweinidog yn ôl i gyflwyno’i chynlluniau

Dychwelodd y gweinidog cymunedau Deidre Hargey i’w rôl fel gweinidog cymunedau wedi cyfnod o salwch, gan nodi ei blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2021.

Maent yn cynnwys bwrw ymlaen â datblygiad Casement Park yn Belfast, a ddisgrifiodd fel y diwygiad tai trawsnewidiol mwyaf mewn cenhedlaeth, a sicrhau bod y system nawdd cymdeithasol yn darparu ar gyfer y mwyaf anghenus.

Meddai: ‘Yr un yw fy nodau a’m hymrwymiad i gyflawni ar gyfer pobl a theuluoedd. Bydd fy adran yn parhau i weithio gyda chyfranddeiliaid allweddol, yn cynnwys sefydliadau llawr-gwlad , tuag at gymdeithas deg a chynhwysol trwy drawsnewid cefnogaeth i gymunedau, pobl a lleoedd er mwyn gwella bywydau a sicrhau newid i genhedlaeth gyfan.’

CYHOEDDIADAU: 10 SY’N DAL Y SYLW

Tlodi yng Nghymru 2020

Sefydliad Joseph Rowntree, Tachwedd 2020

https://www.jrf.org.uk/report/poverty-wales-2020 (yn cynnwys papur briffio Cymraeg)

Transforming the valleys: a manifesto for resilience

Sefydliad Bevan, Rhagfyr 2020

bevanfoundation.org/publications/transforming-the-valleys-a-manifesto-for-resillience/

From locking up to locking down – the past, present and future of Welsh living standards

Sefydliad Resolution, Tachwedd 2020

www.resolutionfoundation.org/publications/from-locking-down-to-levelling-up/

Ail-adeiladu yn well? Blaenoriaethau ar gyfer ail-adeiladu ar ôl pandemig coronafeirws

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Tachwedd 2020

www.wcpp.org.uk/cy/cyhoeddi/ail-adeiladu-yn-well-blaenoriaethau-ar-gyfer-ail-adeiladu-ar-ol-pandemig-coronafeirws/

The impact of COVID-19 on people facing homelessness and service provision across Great Britain

Crisis, Tachwedd 2020

www.crisis.org.uk/ending-homelessness/homelessness-knowledge-hub/services-and-interventions/the-impact-of-covid-19-on-people-facing-homelessness-and-service-provision-across-great-britain-2020/

Delivering design value: The housing design quality conundrum

Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai, Rhagfyr 2020

housingevidence.ac.uk/publications/delivering-design-value-the-housing-design-quality-conundrum/

Thinking outside the box – exploring innovations in affordable home ownership

Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai, Tachwedd 2020

Thinking outside the box – Exploring innovations in affordable home ownership

Housing with Pride – A knowledge exchange project to increase LGBTQ+  resident inclusivity in the social housing sector  

Canolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai, Tachwedd 2020

Journeys in the shadow private rented sector

Safer Renting/Cambridge House, Medi 2020

ch1889.org/journeyslaunch

A sector together – the social housing sector and Covid-19

HACT, Rhagfyr 2020

hact.org.uk/sector-together-0

LLYWODRAETH CYMRU

Hwb i dai cymdeithasol yn y Gyllideb Ddrafft

Bydd buddsoddi mewn tai fforddiadwy a chymdeithasol yn tyfu i £200 miliwn y flwyddyn nesaf, gan ysgogi swyddi a hyfforddiant tra’n darparu 3,500 o gartrefi newydd ychwanegol, yn ôl cynlluniau a gyflwynwyd gan y gweinidog cyllid, Rebecca Evans.

Rebecca Evans AM
Minister for Finance and Trefnydd

Mae’r cynlluniau’n rhan o Gyllideb ddrafft y dywed y bydd yn amddiffyn yr economi, yn adeiladu dyfodol mwy gwyrdd a hybu newid i greu dyfodol mwy cyfartal. Dengys y cynlluniau manwl £36.8 miliwn ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol a £40 miliwn ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn 2021/22.

Cefnogir y buddsoddiad mewn tai cymdeithasol trwy gynnydd o 1 y cant yng nghyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir. Dywedodd Ms Evans y byddai hyn, a fydd yn codi £13 miliwn, yn golygu y bydd trethi fymryn yn uwch ar brynu eiddo ychwanegol, fel ail gartrefi a ac eiddo prynu-i-osod, yn cefnogi tai cymdeithasol a swyddi newydd i helpu i adfer Cymru.

Bydd gostyngiad treth wedi’i dargedu yn helpu busnesau sy’n gwella o effeithiau gwaethaf y pandemig hefyd. Nid fydd y mwyafrif o fusnesau sy’n prynu eiddo di-breswyl gwerth llai na £225,000 yn talu unrhyw Dreth Trafodiadau Tir, gan fod y trothwy’n codi o 50 y cant. Bydd y newidiadau hyn yn cynhyrchu tua £13 miliwn y flwyddyn i’w fuddsoddi mewn blaenoriaethau tai cymdeithasol.

Bydd cynnydd o £4 miliwn yn y Grant Atal Digartrefedd, i £21.9 miliwn yn 2021/22, tra eglurir y bydd y cynnydd o £40 miliwn yn y Grant Cymorth Tai yn adeiladu ar sail mesurau dros-dro yn ystod y pandemig i ‘gyflawni newid trawsnewidiol er mwyn cyflenwi ein nod o atal digartrefedd’ .

Ceir arian ychwanegol hefyd ar gyfer diogelwch adeiladau. Dywed Llywodraeth Cymru: ‘Rydym yn parhau i fod yn bendant o’r farn na ddylai prydleswyr unigol orfod talu am namau a diffygion yn ansawdd adeiladau lle bu methiant amlwg i adeiladu i safonau, a byddwn yn parhau i bwyso ar ddatblygwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau moesol a thrwsio’r adeiladau hyn. ‘

Bydd hyn yn dod i £32 miliwn yn 2021/22 (£20 miliwn o gyfalaf cyffredinol a £12 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol) i helpu i fynd i’r afael â phryderon am ddiogelwch adeiladau. Dywed y Gyllideb ddrafft y ‘bydd y buddsoddiad hwn yn darparu sylfaen gadarn trwy adfer diffygion adeiladau, a chefnogi gosod chwistrellwyr a systemau rhybudd-i-adael mewn nifer o adeiladau uchel yr effeithir arnynt.’

Papur gwyn yn amlinellu cynlluniau diogelwch adeiladau

Nododd y Gweinidog Tai, Julie James, ddiwygiadau eang a fyddai, meddai, yn rhoi i Gymru y drefn ddiogelwch adeiladau fwyaf cynhwysfawr yn y DU a chynnig llais cryfach i breswylwyr.

Mae cynigion yn y Papur Gwyn ar Diogelwch Adeiladau yn cwmpasu’r holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth, o dŷ wedi’i addasu’n ddwy fflat, i fflatiau mewn bloc uchel.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi diwygiadau mawr i’r ffordd y byddwn yn dylunio, adeiladu, rheoli a byw mewn eiddo fel y telir sylw i ddiogelwch bob cam o’r ffordd yn ystod bywyd adeilad, tra’n cynnig llinellau atebolrwydd clir ar gyfer perchenogion a rheolwyr adeiladau yn ogystal â system reoleiddio gryfach.

Mae hefyd yn cynnwys:

  • Llinellau atebolrwydd clir, a phenodi deiliaid dyletswyddau â’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol, a fydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol am ddiogelwch a lleihau’r risg o dân ar hyd oes yr adeilad
  • Rhaglen well o wiriadau yn ystod y gwaith adeiladu ynghyd â thystiolaeth o gydymffurfio
  • Creu dau gategori risg, gyda ‘Llinyn Euraid’ o’r wybodaeth ddiweddaraf am ddylunio, adeiladu a’r cynnal a chadw parhaus sy’n ofynnol ar gyfer pob adeilad 18 metr neu fwy o uchder
  • Rhaid i adeilad fod â’r gallu i gyfyngu tân i’w darddle am gyfnod digon hir i ganiatáu iddo gael ei ddiffodd
  • Modd hollol newydd o ganfod a lleihau peryglon tân mewn blociau o fflatiau.Bydd hyn yn haws i landlordiaid ac eraill ei ddeall a’i weithredu, ac yn fwy effeithiol o ran lleihau’r perygl i breswylwyr
  • Proses sy’n galluogi preswylwyr i godi pryderon ynghylch diogelwch adeiladau
  • Un broses unffurf ar gyfer cyfleu pryderon i’r rheolydd

Meddai Julie James:

‘Yn sgil y drasiedi yn Nhŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu i wneud adeiladau’n fwy diogel ar gyfer preswylwyr.

‘Bu’n eglur erioed, fodd bynnag, bod angen newidiadau llawer mwy sylfaenol i wella diogelwch adeiladau yn ei grynswth.

‘Bydd y cynigion hyn, os ânt yn gyfraith yn nhymor nesaf y Senedd, yn creu trefn newydd a llawer gwell sy’n rhoi diogelwch preswylwyr yn gyntaf.’

Cadeirydd newydd i’r Bwrdd Rheoleiddio

Penododd y gweinidog tai, Julie James, Deep Sagar yn gadeirydd annibynnol newydd Bwrdd Rheoleiddio Cymru (BRhC) o ddechrau mis Ionawr.

Mae hyn yn dilyn proses benodi gyhoeddus agored yn unol â’r Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus.

Mae Bwrdd Rheoleiddio Cymru yn cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi a rheoleiddio tai ac yn archwilio perfformiad a gweithgaredd rheoliadol Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Fel y cadeirydd newydd, bydd Deep Sagar yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i’r bwrdd, yn gweithredu fel llefarydd ar ran BRhC ac yn darparu cyngor i’r Gweinidog ar iechyd a pherfformiad y sector cymdeithasau tai.

Papurau ymgynghori

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

Adolygiad o Ran L a Rhan F o’r Rheoliadau Adeiladu – Cam 2A

Ymatebion erbyn Chwefror 17

Llawlyfr y Cyfrif Refeniw Tai

Ymatebion erbyn Chwefror 22

Adeiladau mwy diogel yng Nghymru

Ymatebion erbyn Ebrill 12

Ymgynghoriadau ar gael yn: llyw.cymru/ymgynghoriadau

CYMRU

Galw am ddelio â lloriau mewn eiddo newydd a osodir

Anogir landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i ddelio â’r diffyg darpariaeth ar gyfer lloriau mewn llety newydd-ei-osod, yn sgil ymchwil newydd i’w effaith ar denantiaid.

Ar hyn o bryd, yr arfer cyffredin yw bod landlordiaid yn gosod llety heb ddarparu dodrefn, yn cynnwys carpedi neu orchuddion llawr amgen.

Fodd bynnag, mae ymchwil ar y cyd gan TPAS Cymru a Tai Pawb yn datgelu effaith byw heb orchudd lloriau ar denantiaid.

Mae’r adroddiad ‘FLOORED’ yn mynd i’r afael â materion fel diffyg cynhesrwydd, diogelwch a sŵn yn eu cartrefi, a materion iechyd yn cynnwys anawsterau anadlu ac iselder.

Amlygodd ymatebion tenantiaid â phlant broblemau diogelwch gyda choncrit caled neu loriau pren – yn cynnwys ysgyrion – a thwf mewn unigrwydd ac ynysrwydd am na theimlant y gallant wahodd ffrindiau i ymweld.

Medd Elizabeth Taylor, swyddog polisi ac ymgysylltu yn TPAS Cymru: ‘Nod tai cymdeithasol yw darparu cartrefi diogel a fforddiadwy i bobl ar incwm isel, ac eto, yr arfer safonol yw trosglwyddo cartrefi â lloriau concrit ac estyll noeth. Mae hyn yn aml yn peri i bobl ar incwm isel gael eu gyrru i gymryd benthyciadau ar log uchel i dalu cost rhywbeth mor sylfaenol â gorchudd llawr, rhywbeth y mae’r mwyafrif ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. ’

Partneriaeth yn darparu modd i fyw’n annibynnol

Cyn hir, bydd adfywio adeilad gwag yn Nhreorci yn darparu cyfle mae mawr angen amdano i oedolion ag anableddau dysgu allu byw’n annibynnol.

Bu Trivallis yn gweithio ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf a’r contractwr R&M Williams i greu 12 fflat un-llofft fel rhan o fuddsoddiad £1.5 miliwn Crown Avenue.

Bydd y cyngor, Trivallis a Cartrefi Cymru yn cyd-reoli lleoli unigolion yn y llety ar y cyd trwy broses asesu gadarn a dibynadwy – sy’n ymgysylltu ag unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i sicrhau’r canlyniadau gorau a mwyaf priodol.

Byddant yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan y cyngor a Trivallis, tra bydd Cartrefi Cymru yn darparu’r gofal a’r gefnogaeth a gomisiynir.

Tenantiaid yn symud i gartrefi newydd yn y Barri

Symudodd tenantiaid cyntaf Cymdeithas Tai Newydd i mewn i fflatiau newydd ym mhroject adfywio arobryn Goodsheds yn y Barri ym mis Rhagfyr, gwta 21 mis ar ôl derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Bro Morgannwg.

Adeiladwyd y 24 o fflatiau un- a dwy-lofft ar rent cymdeithasol a’r 18 ar rent marchnad gan Grŵp Jehu fel rhan o broject a ddathlodd lwyddiant deublyg yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2020 eleni, gan ennill prif wobr ‘enillydd yr enillwyr’.

Mae’r datblygiad, a gwblhawyd mewn partneriaeth â DS Properties (Goodsheds) Cyf a Chyngor Bro Morgannwg, yn un o dri o gynlluniau Tai Newydd a dderbyniodd gyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

MHA yn penodi cyfarwyddwyr anweithredol i’r bwrdd

Cyhoeddodd Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) benodiad pedwar cyfarwyddwr anweithredol i’w Bwrdd, gan ddod â phrofiad o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae Hannah Vickers yn Brif Swyddog Gweithredol Grŵp y Gymdeithas Ymgynghori a Pheirianneg (ACE) ac mae’n beiriannydd sifil sy’n canolbwyntio ar seilwaith, prosiectau mawr a’r amgylchedd adeiledig.

Mae Cael Sendell-Price yn gweithio i Gyngor Swydd Buckingham fel pennaeth caffael strategol, gan gefnogi cyllideb flynyddol o dros £460 miliwn.

Mae gyrfa eang John Miller mewn TGCh yn rhychwantu sawl diwydiant, yn cynnwys fferylliaeth, addysg, datblygu meddalwedd, peirianneg ymgynghori ac olew a nwy.

Bu Alan Soper yn dal nifer o swyddi uwch ar draws y sectorau trafnidiaeth, gwastraff, rheoli cyfleusterau a rheoli eiddo. Ei swydd ddiwethaf oedd rheolwr gyfarwyddwr Ian Williams.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »