English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Diweddariad polisi

DATBLYGIADAU POLISI MEWN RHANNAU ERAILL O’R DU

Y cap budd-daliadau’n taro miloedd yn rhagor

Mae twf enbyd yn nifer y teuluoedd a fydd yn dioddef o’r cap ar fudd-daliadau yn arwydd o effaith Coronafirws ar rentwyr.

Dangosai ffigyrau a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Awst fod nifer yr aelwydydd wedi’u capio bron â dyblu rhwng mis Chwefror a mis Mai, i 154,000.

Ond cynyddodd nifer y teuluoedd a gapiwyd am y tro cyntaf o ganran anhygoel o 500 y cant, sef o 14,000 i 84,000.

Hyd yn hyn mae San Steffan yn gwrthod y galw am gynyddu’r cap.

YMRU  A LLOEGR

Estyniad o bedair wythnos i’r gwaharddiad ar droi allan

Estynwyd y gwaharddiad ar droi allan yng Nghymru a Lloegr o bedair wythnos tan Fedi 20 wedi trafodaethau rhwng ysgrifennydd tai San Steffan, Robert Jenrick, a’r farnwriaeth.

Gwnaed y cyhoeddiad ddeuddydd cyn dyddiad dileu’r gwaharddiad, sef Awst 23, ac fe gynhwysai hefyd, yn Lloegr yn unig, gyfnod rhybudd o chwe mis cyn troi allan ac eithrio lle bu ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig a mwy na chwe mis o ôl-ddyledion, tan ddiwedd mis Mawrth o leiaf.

LLOEGR

Papur gwyn yn cynnig newid sylfaenol mewn cynllunio

Caiff system gynllunio ‘hen-ffasiwn’ Lloegr ei hailwampio i ddarparu mwy o gartrefi newydd tra’n cynnig ‘llwybr buan at harddwch’.

Cred llywodraeth San Steffan bod y system gynllunio yn rhy araf ac yn rhy gymhleth i ddarparu’r cartrefi sydd eu hangen ar Loegr.

Mae papur gwyn a gyhoeddwyd ym mis Awst yn cynnig system newydd o wahanol gylchfaoedd lle dynodir tir ar gyfer twf neu adnewyddu, i ganiatáu datblygu yn gyflymach, neu fesurau i ddiogelu ardaloedd fel y Llain Las.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys Cronfa Seilwaith newydd a fyddai’n cyfuno cyfraniadau Adran 106 at dai fforddiadwy a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Ac, mewn cyhoeddiad ar wahân, bydd Cartrefi Cyntaf ar gael i’w gwerthu i weithwyr allweddol a phrynwyr tro cyntaf ar ostyngiad o 30 y cant. Telir am hyn o gyfraniadau cynllunio gyda’r gostyngiad yn parhau am byth.

Sunak yn canfod biliynau ar gyfer perchentywyr

Defnyddiodd y Canghellor Rishi Sunak ei Ddatganiad Haf i ostwng y dreth stamp a chyhoeddi grant newydd ar gyfer gwaith ar effeithlonrwydd ynni i roi hwb i’r farchnad dai a’r diwydiant adeiladu.

Cynyddwyd y trothwy treth stamp cychwynol o £125,000 i £500,000, am gost o £ 3.8 biliwn, mewn cam y dywed y Trysorlys y bydd yn ysgogi mwy o wario gan brynwyr.

Bydd y Grant Cartrefi Gwyrdd gwerth £2 biliwn yn talu am ddwy ran o dair cost gwaith ar effeithlonrwydd ynni hyd at £5,000 i’r mwyafrif o berchentywyr a landlordiaid, a’r holl gost hyd at uchafswm o £10,000 i berchnogion ar incwm isel.

YR ALBAN

Holyrood yn gweithredu ar droi allan a’r farchnad dai

Roedd y mesurau coronafirws a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn cynnwys estyniadau i’r gwaharddiad ar droi allan, a Help i Brynu a gostyngiad yn y Dreth Trafodion Tir ac Adeiladau (LBTT).

Roedd y gwaharddiad ar droi rhentwyr preifat a chymdeithasol allan i fod i ddod i ben ym mis Medi ond, mewn cam a groesawyd gan ymgyrchwyr tai, bydd yn para nawr tan fis Mawrth 2021.

Bydd benthyciadau ecwiti trwy Help i Brynu (Yr Alban) ar gael am 12 mis arall, gyda’r cynllun yn para tan fis Mawrth 2022.

Dilynai lleihau’r LBTT y gostyngiad i’r dreth stamp yn Lloegr ond caiff y cyllid sy’n deillio o hynny ei ddefnyddio’n wahanol yn yr Alban.

Cododd y trothwy ar gyfer talu LBTT o £145,000 i £250,000 o fis Gorffennaf a bydd hyn mewn grym tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

Ar yr un pryd chwistrellodd Llywodraeth yr Alban £50m ychwanegol i mewn i’w Chronfa Cartrefi Cyntaf, sy’n darparu hyd at £25,000 i brynwyr tro-cyntaf i brynu eiddo.

GOGLEDD IWERDDON

Ymestyn y gwaharddiad ar droi allan

Dilynodd Stormont arweiniad yr Alban ac ymestyn y gwaharddiad ar droi allan o chwe mis, tan ddiwedd Mawrth 2021.

Mae’r Ddeddf Tenantiaethau Preifat (Addasiadau Coronafirws) yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid roi rhybudd ymadael o 12 wythnos i denantiaid cyn ceisio gorchymyn llys ar gyfer achos troi allan, gan leihau’r posibilrwydd o wneud tenantiaid rhentu preifat yn ddigartref.

LLYWODRAETH CYMRU

£40m ar gyfer cyfnod 2 o’r gwaith ar ddigartrefedd

Cadarnhaodd y gweinidog tai, Julie James, gyllid o hyd at £50 miliwn i gefnogi projectau i gadw pobl yn eu cartrefi yn ystod y pandemig ac atal digartrefedd.

Mewn datganiad ym mis Awst, dyrannodd £40 miliwn ar gyfer cyfnod 2 o’r gwaith, i ddilyn y £10 miliwn ar gyfer cyfnod 1 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.

Mae Cyfnod 2 yn canolbwyntio ar ddull tymor-hwy o drawsnewid gwasanaethau, arloesi ac adeiladu llety, gyda’r uchelgais o sicrhau bod gan bawb a gafodd lety brys yn ystod y pandemig lwybr clir tuag at dai parhaol, a darparu llety o ansawdd uchel ar gyfer rhai sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref yn y dyfodol.

Mae elfennau eraill o’r pecyn cymorth yn cynnwys £1.4 miliwn ar gyfer cyngor ar ddyledion a Chynllun Cynilo a Benthyg newydd i denantiaid sy’n cynnig help i denantiaid nad oeddent mewn ôl-ddyledion rhent sylweddol cyn mis Mawrth.

  • Gweler cyfweliad Julie James, tt. 14-17

Gostwng y dreth ar brynu cartref ynghyd â chyllid ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol

Cyhoeddodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, ostyngiad yn y Dreth Trafodion Tir a chynnydd mewn cyllid ar gyfer tai cymdeithasol yn fersiwn Cymru o’r toriad i’r dreth stamp yn Lloegr.

Bydd y trothwy cychwynnol ar gyfer treth trafodion tir yn cynyddu o £180,000 i £250,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl o ddydd Llun 27 Gorffennaf tan 31 Mawrth 2021.

Yn wahanol i Loegr, ni fydd y gostyngiad treth yn berthnasol i brynu eiddo ychwanegol, yn cynnwys prynu-i-osod ac ail gartrefi. Bydd arbedion a wneir trwy’r gwahaniaethau hyn yn rhyddhau £30m o gyllid ychwanegol i gefnogi adeiladu tai cymdeithasol newydd.

Cronfa newydd i ddadgarboneiddio cartrefi cymdeithasol

Bydd rhaglen newydd gwerth hyd at £9.5 miliwn yn talu am fesurau effeithlonrwydd ynni ar hyd at 1,000 o gartrefi presennol sy’n eiddo i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol.

Mae’r Rhaglen Ôl-ffitio Optimeiddiol yn rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol a bydd yn profi gwahanol ddulliau o gyrraedd y nod o fod yn garbon-niwtral.

Cyhoeddwyd y cynllun gan y gweinidog tai, Julie James, ar ymweliad â Chraig-cefn-parc ger Abertawe, lle mae’r cyngor wrthi’n gwella chwe byngalo o’r 1970au.

Gweinidog yn cefnogi cynllun i fynd i’r afael ag amddifadedd ceiswyr lloches

Argymhellir gan astudiaeth ddichonoldeb i Lywodraeth Cymru y dylai’r Cynllun Cenedl Noddfa gael ei hyrwyddo ar draws y sectorau tai a digartrefedd i wella cefnogaeth i bobl heb Hawl Cyrchu Cronfeydd Cyhoeddus.

Lansiwyd y cynllun ym mis Ionawr 2019 i liniaru amddifadedd ymhlith ceiswyr lloches. Ystyr bod heb Hawl Cyrchu Cronfeydd Cyhoeddus yw pobl sy’n methu hawlio llety neu fudd-daliadau prif-ffrwd oherwydd eu statws mewnfudo.

Mae’r cynllun yn darparu fframwaith a galwad i weithredu yng Nghymru, medd yr adroddiad , ond nid yw’n hysbys i lawer y tu allan i asiantaethau lloches a ffoaduriaid. Fodd bynnag, mynegodd cymdeithasau tai a rhwydweithiau eglwysi ymrwymiad i gefnogi ei amcanion.

Mae’n galw am gynllun dwy-flynedd yn cychwyn yn 2020/21 i greu mwy o leoedd gwely, gan ddatblygu’r ddarpariaeth bresennol yng Nghaerdydd ac Abertawe a darpariaeth newydd yng Nghasnewydd a Wrecsam.

Dylai fod cefnogaeth hefyd i’r ddarpariaeth bresennol o dai a rennir ac i ddatblygu darpariaeth newydd ar gyfer ceiswyr lloches a wrthodwyd. Dylai hyn fod ar gyfer ceiswyr lloches a wrthodwyd a ffoaduriaid sy’n gallu talu rhent.

Dylai’r ddarpariaeth gynnwys trefniadau diogelu cadarn a chysylltiadau effeithiol â chyngor a chynrychiolaeth ar fewnfudo.

Wrth geisio dylanwadu ar bolisïau’r Swyddfa Gartref, dylai Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau gwaith partneriaeth traws-sector effeithiol ac atebolrwydd ar y cyd am gydlynu a defnyddio adnoddau’n effeithiol i gynyddu nifer y lleoedd gwely.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt yr amlygwyd cyflwr pobl heb Hawl Cyrchu Cronfeydd Cyhoeddus ymhellach yn ystod y pandemig Covid-19 a bod Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau lleol i ddarparu llety i unrhyw un oedd ei angen, ni waeth beth fo’u statws mewnfudo.

Meddai: ‘Rydym yn bwriadu gweithredu pob un o’r argymhellion hyn, i barhau i weithio tuag at y nod o fod yn Genedl Noddfa.’

Mae ‘Darparu Llety Ar Gyfer Ceiswyr Lloches A Wrthodwyd Yng Nghymru’ gan Heather Petch a Tamsin Stirling ar gael yn https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-08/astudiaeth-ddichonoldeb.pdf

Papurau ymgynghori

Mae ymgynghoriadau agored o ddiddordeb i ddarllenwyr WHQ yn cynnwys:

Safonau ansawdd gorfodol ar gyfer cartrefi newydd  – ymatebion erbyn Tachwedd 1

CYMRU

Cyntaf i Tai yn Gyntaf

Cynllun yng Nghonwy a Sir Ddinbych oedd y cyntaf i ennill achrediad Tai yn Gyntaf Cymru.

Mae Tai yn Gyntaf Conwy a Sir Ddinbych yn gweithio ar draws y ddwy sir mewn partneriaeth gref i ddarparu’r gefnogaeth iawn i bobl sydd ei hangen, ble bynnag y maent yn digwydd bod.

Aeth y model Tai yn Gyntaf, sydd wedi ennill bri rhyngwladol a chanmoliaeth am ei effeithiolrwydd, yn ganolbwynt i bolisi digartrefedd Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyllid arloesi yn arwain at sefydlu cynlluniau Tai yn Gyntaf ledled Cymru.

Mae Tai yn Gyntaf yn ddull sy’n canolbwyntio ar adfer sefyllfa, gan symud pobl sy’n dioddef digartrefedd i mewn i gartrefi annibynnol, parhaol cyn gynted â phosibl – yn hytrach nag aros iddynt fod yn ‘barod i’w cartrefu’.

Yr elfen ganolog i lwyddiant y model yw glynu’n ffyddlon wrth egwyddorion Tai yn Gyntaf, a ddatblygwyd yn rhyngwladol ac a addaswyd yn benodol ar gyfer cyd-destun Cymru.

O ganlyniad, mae Cymorth Cymru, sy’n rhedeg y Rhwydwaith Tai yn Gyntaf yng Nghymru, wedi datblygu proses achredu gyntaf y DU. Gydag arian gan Lywodraeth Cymru, mae hon yn cynnwys proses gadarn, fanwl, gan gynnwys adolygiad trylwyr o bolisïau’r cynllun, a chyfweliadau gyda staff, tenantiaid Tai yn Gyntaf, a budd-ddeiliaid eraill. Ystyrir y casgliadau gan banel o arbenigwyr annibynnol sy’n penderfynu a ddylid dyfarnu’r achrediad.

John Puzey yn ymddeol

Bydd John Puzey yn rhoi’r gorau iddi fel cyfarwyddwr Shelter Cymru yr Hydref hwn ar ôl 30 mlynedd wrth y llyw gyda’r elusen tai a digartrefedd.

Daeth John i’r hyn a oedd ar y pryd yn Gymorth Tai Cymru â gweledigaeth o sicrhau y gallai pawb yng Nghymru gael cyngor ar dai. O’r camau ddechreuol cynnar yn yr 80au gyda chymorthfeydd cynghori mewn pum ardal awdurdod lleol, bydd yn gadael Shelter Cymru yn fudiad sy’n darparu cyngor tai i Gymru gyfan, gan gynghori a chefnogi tua 20,000 o bobl y flwyddyn.

Gan arwain y teyrngedau, dywedodd Shayne Hembrow, cadeirydd Shelter Cymru: ‘Mae angerdd John dros leihau digartrefedd, dros hawl pobl  i gartref gweddus, fforddiadwy a diogel, ac am wthio tai i frig yr agenda wleidyddol heb ei ail. Gwnaeth ei arweinyddiaeth a’i ymrwymiad Shelter Cymru yn chwaraewr hollbwysig yn y sector tai. Mae’n gadael etifeddiaeth eithriadol’.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: ‘Dwi’n adnabod John ers deng mlynedd ar hugain, ac yn yr holl amser hwnnw bu’n ymgyrchydd diflino dros hawl pobl i lety teilwng. O dan ei arweinyddiaeth aeth Shelter Cymru yn sefydliad hynod o fawr ei barch ac effeithiol iawn. Braint oedd cael gweithio gydag ef. ’

Mae tenantiaid cyntaf Cymoedd i’r Arfordir wedi symud i mewn i bedwar cartref carbon-isel newydd sbon yr enillodd eu dyluniad arloesol gystadleuaeth ‘Self-Build on a Shoestring’ Grand Designs.

Gweithiodd Cymoedd i’r Arfordir mewn partneriaeth â phenseiri Pentan, a ddyluniodd y cysyniad, i gwblhau’r unedau ‘Barnhaus’ newydd yng Ngogledd Corneli ger Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl derbyn cyllid i helpu i’w hadeiladu fel rhan o’r Rhaglen Tai Arloesol.

Mae’r unedau newydd ‘arddull caban-sgïo’, a adeiladwyd â chyfuniad o fframiau dur a phren y gellir eu codi mewn diwrnod, hefyd yn defnyddio byrnau gwellt a deunyddiau eilgylch ar gyfer inswleiddio, gyda phaneli solar ar y to i leihau eu defnydd o drydan.


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »