English | Cymraeg Tel: 029 2076 5760 Connect: Twitter

Gwerth a gwerthoedd yn ystod pandemig

Tamsin Stirling yn ystyried yr hyn mae’r haint wedi’i ddatgelu am ein cymdeithas a’n sector

Dwi’n sgrifennu hyn o lith ar y 30ain o Fawrth; dyn a ŵyr sut y bydd hi erbyn y cyhoeddir y rhifyn hwn o WHQ.

Yn yr wythnos ddiwethaf, bûm yn fecslyd, yn ofnus, yn wallgo o brysur ar adegau ac yn ddiffrwyth ar adegau eraill. Dwi wedi bwyta llwyth o fisgedi, wedi chwarae gormod o solitaire a llwyddo i ddarllen un llyfr. Fel pawb arall, dwi’n pryderu am deulu a ffrindiau.

Dywedwyd yn fynych yn yr wythnosau diwethaf fod pandemig y coronafirws wedi newid popeth. Do, mewn rhai ffyrdd, ond mewn rhai eraill, yn hytrach, datgelodd yn gliriach rai o nodweddion hirsefydlog ein cymdeithas, fel anghyfartaledd, tlodi, cadwyni cyflenwi munud-olaf a gwasanaethau cyhoeddus a gafodd eu gwanhau (a’u difrïo’n aml) yn gyson.

Mae hefyd wedi gwir danlinellu beth a phwy sydd o werth i ni, a pham. Mae llu o weithwyr a ystyrir bellach yn weithwyr allweddol yn ennill arian pitw mewn swyddi a ystyriwyd yn draddodiadol fel rhai heb sgiliau. Mae gweithwyr gofal, rhai sy’n gweithio ym maes cynhyrchu bwyd ac mewn siopau, casglwyr sbwriel a chludwyr parseli, glanhawyr strydoedd, postmyn, gyrwyr bysys a threnau a llu o rai eraill yn hanfodol i weithrediad cymdeithas dan glo. Swyddi na ellir eu cyflawni gartref, swyddi llawn risg oherwydd eu cyswllt â chymaint o bobl, swyddi sydd, wrth i mi sgrifennu hyn, heb fod o anghenraid â chyflenwad digonol o’r offer diogelu mwyaf sylfaenol er mwyn i bobl allu bod yn sâff.

Mae’r pandemig yn sicr wedi argyfnerthu ein cyd-ddibyniaeth; rhaid i ni i gyd newid ein hymddygiad er mwyn dod â’r pandemig o dan reolaeth. Cyd-ddibyniaeth yw un o’r gwerthoedd a nodir yn y gwaith gan Sefydliad Frameworks sy’n archwilio sut y gallwn gyflwyno problem digartrefedd mewn modd a fydd yn ennyn cefnogaeth y cyhoedd i’r hyn a fydd yn gweithio i atal digartrefedd:

‘Mae’r gwerth hwn, a fantolwyd gan ymchwil FrameWorks, yn galw sylw at sut rydym oll yn gysylltiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ein hatgoffa fel hyn o’n cyd-ddibyniaeth economaidd yn atgyfnerthu’r syniad ein bod i gyd yn aelodau o’r un gymdeithas, a bod mynd i’r afael â digartrefedd yn cryfhau’r gymdeithas gyfan.[1]

Ein cyd-ddibyniaeth o ran iechyd cyhoeddus sydd yn y fantol bellach.

Tra bod y gyd-ddibyniaeth hon yn gwbl glir, dangosodd yr ymateb i’r pandemig hyd yma werthoedd gwahanol iawn yn cael eu gweithredu gan sefydliadau a’u harweinwyr. Ymrwymodd rhai cwmnïau i dalu staff a anfonwyd adref cyn i’r llywodraeth gyhoeddi ei chynllun seibiant o’r gwaith. Diswyddo pobl a wnaeth eraill, tra bod eraill eto yn mynnu fod pobl yn parhau i fynd i’r gwaith mewn amodau nad ydynt yn cydymffurfio â chanllawiau llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol a hunan-ynysu.

Mae rhai wedi llwyr newid eu cynnyrch; mae’r Bathdy’n enghraifft wych, yn creu fisorau diogelwch meddygol bellach, tra bod nifer o ddistyllfeydd yn gwneud glanweithydd dwylo.

Ac enghraifft leol o werthoedd yn y gymuned yw ein siop Co-op leol yn Sblot. Ar ôl rhoi rheolau ar waith ynghylch faint o bobl gaiff fynd i mewn i’r siop ar yr un pryd a sut i ffurfio cwt y tu allan gan sicrhau fod pobl yn cadw pellter cymdeithasol rhyngddynt, systemau ar gyfer dogni eitemau neilltuol a ffyrdd o sganio a thalu am siopa sy’n golygu fod pobl yn cadw pellter rhwng ei gilydd, dywedodd rheolwr y siop ei fod ‘yn falch o wasanaethu’r gymuned hon‘.

Dwi’n aelod o fwrdd/ymddiriedolwr tri sefydliad – Crisis, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd a Sefydliad Bevan. Mae coronafirws wedi esgor ar heriau penodol i bob un, ond hefyd ar yr un her uniongyrchol – cadw pobl yn ddiogel.

Yn y ddwy wythnos ddiwethaf, fe’u gwelais yn newid eu ffordd o weithio yn llwyr, symud llawer o bobl i weithio gartref ac o hirbell, a newid dulliau gwaith pobl sy’n darparu gwasanaethau rheng-flaen. Maent wedi ailflaenoriaethu eu gwaith a’u hadnoddau, wedi gweithredu polisïau newydd, a bod yn rhan o ymgyrch i lobïo’r llywodraeth am bolisïau ac ariannu effeithlon. Mae newidiadau anhygoel wedi bod mewn cyfnod byr iawn o amser oherwydd bod rhaid.

Aeth cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor yn rhithwir, gweithredwyd cynlluniau parhad busnes, ailarchwiliwyd pa awdurdod y gellid ei ddirpwrwyo, ac ati, ac ati. Dysgais mai’r peth gorau y gallwch ei wneud fel ymddiriedolwr/aelod bwrdd yw cadw allan o’r ffordd, peidio ag ymyrryd â’r manylion, bod ar gael i ymgynghori neu i weithredu fel seinfwrdd, ymateb yn gyflym i bob cais, a chynnig cefnogaeth; gall dweud ‘diolch’ a ‘da iawn’ olygu llawer.

Mae’n anorfod y bydd yr wythnosau a’r misoedd nesaf yn brawf ar bob unigolyn a sefydliad. Pa werthoedd a ddaw i’r amlwg yn ein penderfyniadau fel unigolion ac aelodau o’r gymuned, aelodau bwrdd/ymddiriedolwyr a chyflogwyr?

Fel y dywedodd Dr Frances Ryan yn groyw yn ei darn ar gyfer y Guardian ar Fawrth 24, ‘yn yr wythnosau nesaf, gwerthoedd, yn ogystal â’r gyfraith, yw’r hyn a fydd yn ein helpu i ddod drwy hyn’.

Gellir cysylltu â Tamsin Stirling yn tamsin.stirling@outlook.com ac mae ar Trydar @TamsinStirling1

 [1] frameworksinstitute.org/assets/files/crisis_messagememo_2018_reframing_homelessness.pdf


Sign up to our email newsletter

Every two months we'll email you a summary of the latest news & articles on the WHQ website. Better still, if you're a fully paid up magazine subscriber, you'll get access to the latest members-only articles as well.

Sign up for the email newsletter »

Looking to advertise in our magazine?

Advertising and sponsored features are a great way to raise your profile with our readership of housing and regeneration decision makers in Wales.

Find out more »